Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O WYBODAETH

Dywedwyd wrth y pwyllgor, oherwydd materion technegol, ni fyddai'n bosibl gweddarlledu’r cyfarfod.  Roedd y system bleidleisio electronig a’r sgriniau arddangos tu mewn i'r siambr dal yn gweithio.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Ian Armstrong, Jeanette Chamberlain-Jones, Meirick Davies, Peter Evans, Rhys Hughes, Alice Jones, Dewi Owens a Merfyn Parry.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 89 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 201 KB

I gadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2015 (amgaeir copi).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Medi 2015 i’w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2015 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 a 6)

Cyflwynwyd ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol.  Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r ceisiadau penodol.

 

 

5.

CAIS RHIF 23/2015/0463/PFT-TIR YN CEFN YFED, CYFFYLLIOG, RHUTHUN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i osod un tyrbin gwynt 500 kw gyda both uchder o 48m a diamedr rotor o 45m a gwaith cysylltiedig ar Dir yn Cefn Yfed, Cyffylliog, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i osod un tyrbin gwynt 500 kw gyda both uchder o 48m a diamedr rotor o 45m a gwaith cysylltiedig ar Dir yn Cern Yfed, Cyffylliog, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mrs. J. Williamson (Yn erbyn) – Roedd yn gwrthwynebu'r cais ar sail mwynderau gweledol ac effaith sŵn ac yn siarad ar ran nifer o drigolion lleol yn y cyffiniau a fyddai'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y datblygiad, gan amlinellu eu pryderon.

 

Mr. M. Jones (o blaid) – manylodd am gysylltiadau ei deulu i'r fferm a phwysleisiodd bwysigrwydd y datblygiad ar gyfer cynaliadwyedd y busnes fferm yn y dyfodol sydd hefyd yn darparu cyflogaeth yn lleol.  Dadleuodd na fyddai'r tyrbin yn amharu ar y gorwel; roedd yn sylweddol dawelach na thyrbinau eraill, ac o ran effaith gronnus, cwestiynodd ​​a fyddai cynlluniau eraill yn cael eu caniatáu i’w hadeiladu.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais yn un o saith o geisiadau heb eu penderfynu ar hyn o bryd yn ymwneud â datblygiadau tyrbinau sengl ac roedd yn bwysig ystyried pob un yn ôl ei rinweddau ei hun.  Roedd y rhesymau tu ôl i argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais yn yr achos hwn wedi cael eu nodi yn yr adroddiad yn seiliedig ar effeithiau ar y dirwedd/ gweledol a sŵn.

 

Roedd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) wedi ystyried manteision prosiect arallgyfeirio’r fferm ac effaith andwyol ar y dirwedd a sŵn.  Ar ôl ystyried maint a lleoliad y datblygiad, barn  Ymgynghorydd Tirwedd y Cyngor, ac o ystyried pryderon y Swyddog Rheoli Llygredd bod y lefelau sŵn yn rhy uchel ac ni ellid eu rheoli'n briodol, cynigiodd y Cynghorydd Welch bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhellion y swyddogion ar sail effaith ar y dirwedd/ amwynder gweledol ac effaith sŵn.

 

Yn ystod y drafodaeth roedd rhywfaint o gydymdeimlad â'r cais ac ystyriodd yr aelodau a oedd y manteision o arallgyfeirio’r fferm yn gorbwyso'r pryderon o ran effaith gweledol a sŵn.  Roedd yr Aelodau yn arbennig o bryderus ynghylch yr effaith sŵn posibl a gofynnwyd am eglurhad a thystiolaeth bellach i gefnogi rhesymau’r swyddogion y byddai lefelau sŵn yn rhy uchel ac ni ellid eu rheoli'n ddigonol.  Cyfeiriwyd hefyd at y sylwadau hwyr a gyflwynwyd gan y Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (fel y manylwyd yn y taflenni glas) a chwestiynodd yr aelodau eu rôl o fewn y broses ac ailadroddodd pryderon blaenorol eu bod yn gweithredu y tu allan i'w cylch gorchwyl.  Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y swyddogion yn rhoi sylw i hyn ac eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr argymhelliad yn yr achos hwn wedi cael ei wneud cyn derbyn sylwadau’r Cyd-bwyllgor AHNE.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Llygredd i gwestiynau ynghylch effaith sŵn a dywedodd, ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, na allai gefnogi'r cais.  Esboniodd y prosesau a ddefnyddiwyd wrth asesu lefelau sŵn gan roi gwybod bod y lefelau sŵn wedi cael eu tanamcangyfrif yn yr achos hwn, heb unrhyw lwfans ar gyfer ansicrwydd, ac felly roedd yn debygol o dorri'r terfyn 35dB ar gyfer tyrbinau sengl.  Roedd y tanamcangyfrif hwnnw hefyd wedi cael ei ddwyn ymlaen fel rhan o'r asesiad sŵn cronnus nad oedd wedi cymryd i ystyriaeth lefelau a ganiateir, a thrwy hynny’n cynyddu’r tanamcangyfrif.  Roedd cwynion am sŵn sy'n deillio o dyrbinau yn brin yn gyffredinol oherwydd ei fod yn arferol i swyddogion fod yn fodlon ynghylch lefelau sŵn yn ystod y broses sgrinio gychwynnol ar gyfer ceisiadau.  Fodd bynnag, roedd y cais hwn wedi methu  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 47/2015/0741/PS – GWESTY WHITE HOUSE HOTEL, FFORDD TREFFYNNON, RHUALLT, LLANELWY pdf eicon PDF 38 KB

I ystyried cais i gael gwared ar amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio cod rhif 47/2011/0527 sy’n ymwneud ag amod defnydd tymhorol sy’n cyfyngu defnydd y safle ar gyfer carafannau teithiol rhwng 31 Hydref a 1 Mawrth yng Ngwesty White House Hotel, Ffordd Treffynnon, Rhuallt, Llanelwy (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer cael gwared ar amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio cod rhif 47/2011/0527 sy’n ymwneud ag amod defnydd tymhorol sy’n cyfyngu defnydd y safle ar gyfer carafannau teithiol rhwng 31 Hydref a 1 Mawrth yng Ngwesty’r White House Hotel, Ffordd Treffynnon, Rhuallt, Llanelwy.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. P. Jones-Hughes (o blaid) – soniodd am lwyddiant y busnes a'r rhesymeg y tu ôl i'r cais er mwyn darparu ar gyfer ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn ac ateb y galw ar gyfer carafannau teithiol na ddiwallir ar hyn o bryd.  Ymatebodd hefyd i sylwadau a godwyd yn ystod y broses ymgeisio fel y manylwyd yn y papurau atodol hwyr (taflenni glas).

 

Trafodaeth gyffredinol - Yn absenoldeb y Cynghorydd Barbara Smith (Aelod Lleol), siaradodd y Cadeirydd ar ei rhan gan ddweud ei bod yn gefnogol o safbwynt Cyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen, ond nad oedd digon o resymau cynllunio dros wrthod.  Roedd hi wedi nodi'r amod ychwanegol a gynigwyd o ran tirlunio pellach ac yn cefnogi ei osod pe caniateid y cais.

 

Mynegwyd peth pryder y gellid gosod cynsail ar gyfer meddiannaeth drwy gydol y flwyddyn ar safleoedd carafannau gan arwain at ddefnydd preswyl heb awdurdod a fyddai'n profi’n faich ar wasanaethau'r cyngor.  Eglurodd swyddogion y gwahaniaeth rhwng y defnydd o safleoedd carafannau sefydlog a safleoedd carafannau teithiol a chadarnhaodd bod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau yn cadw llygad manwl ar reoleiddio safleoedd carafannau.  Roedd y cais yn yr achos hwn yn ymwneud â'r defnydd penodol o'r safle ar gyfer carafannau teithiol yr oedd y swyddogion yn ystyried i fod yn hollol resymol ac yn briodol.  O ystyried yr amod bresennol o ran rheolaeth dros ddefnydd gwyliau, roedd swyddogion yn fodlon bod y rheolaethau angenrheidiol ar waith i gyfyngu ar y defnydd i ddibenion gwyliau yn unig ac nid fel man unig neu brif breswylfa.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bill Cowie, ac eiliwyd gan Julian Thompson-Hill, bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 19

GWRTHOD - 2

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.20 a.m.