Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Ian Armstrong, Jeanette Chamberlain-Jones, Richard Davies, Stuart Davies, Alice Jones, Peter Owen, Merfyn Parry, Pete Prendergast, Bill Tasker a Cheryl Williams

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu anfanteisiol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Ym marn y Cadeirydd, dylid ystyried hysbysiad o eitemau yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

I gadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2015 (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2015.

 

Tudalen 16 – Rhif Cais 05/2015/0040/PF tir oddi ar Lôn Werdd, Corwen – mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meirick Davies, dywedodd y swyddog cynllunio ei fod yn aros am ragor o fanylion ar y mesurau lliniaru llifogydd cyn cysylltu â’r aelodau lleol ynghylch yr amodau cynllunio i'w gosod.

 

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2015 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 9) -

Cyflwynwyd ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol.  Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r ceisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 05/2015/0353/PF - PEN Y GRAIG (DE-ORLLEWIN I BLAS TIRION) GLYNDYFRDWY, CORWEN pdf eicon PDF 6 KB

I ystyried cais i ailddechrau defnydd preswyl o annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a chodi estyniad ym Mhen y Graig (de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen (amgaeir copi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ailddechrau defnydd preswyl o annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a chodi estyniad ym Mhen y Graig (de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. B. Dewey (o blaid) – Esboniodd gysylltiadau’r teulu gyda’r ardal, eu cymhwysedd ar gyfer tai fforddiadwy, diffyg tai fforddiadwy yn yr ardal a manylion am yr adeilad arfaethedig i’w adfer.  Cyfeiriodd at ymdrechion i farchnata’r eiddo yn unol â pholisi a thynnodd sylw at ei anaddasrwydd ar gyfer defnydd masnachol.

 

Trafodaeth gyffredinol – Crynhodd y swyddog cynllunio (PM) yr adroddiad a materion polisi perthnasol a arweiniodd at yr argymhelliad i wrthod y cais.  Roedd swyddogion wedi ystyried bod defnydd preswyl o’r eiddo wedi cael ei roi o’r neilltu ac yn groes i brofion polisi HEG 4 o'r Cynllun Datblygu Lleol, ni fu unrhyw dystiolaeth bod yr eiddo wedi cael ei farchnata ar gyfer defnydd masnachol ac nad oedd unrhyw wybodaeth ariannol wedi cael ei ddarparu i asesu a fyddai’r annedd yn fforddiadwy ar gyfer angen lleol.  Roedd Aelodau wedi clywed gan y siaradwr cyhoeddus bod rhyw ymgais wedi’i wneud i farchnata'r eiddo ac o ystyried ei leoliad derbyniwyd y byddai'n anodd ailddefnyddio’r adeilad at ddibenion masnachol.  Fodd bynnag, y brif sail dros wrthod oedd y mater o angen lleol am dai fforddiadwy.  Pe bai Aelodau o blaid rhoi caniatâd i’r cais dylid ystyried  sut y gellid rheoli’r eiddo yn y dyfodol ar gyfer angen lleol am dai fforddiadwy yn hytrach na’i werthu ar y farchnad agored i rywun o du allan i'r ardal.  Cadarnhaodd swyddogion na chodwyd unrhyw bryderon penodol ynghylch yr estyniad a’r elfennau dylunio.

 

Siaradodd y Cynghorydd Huw Jones (Aelod lleol) o blaid y cais a darparodd sicrwydd bod yr ymgeisydd yn fodlon derbyn amod i sicrhau dyfodol fforddiadwy yr eiddo ar gyfer angen lleol.  Cyfeiriodd at amgylchiadau’r teulu a’u cysylltiadau â'r ardal, gan dynnu sylw at y diffyg tai fforddiadwy presennol a rhinweddau adfer yr adeilad adfeiliedig ar gyfer defnydd preswyl.

 

Yn ystod y ddadl roedd yr Aelodau'n cydymdeimlo â'r cais yn amlygu pwysigrwydd tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol.  Tynnwyd sylw hefyd at y manteision o adfer yr eiddo o ran estheteg ac effaith weledol ac ar gyfer defnydd gwerth chweil yn hytrach na gadael iddo ddirywio ymhellach.  Cyfeiriwyd at geisiadau blaenorol wrth ystyried materion cynllunio tebyg a'r angen i ddefnyddio ymagwedd gyson a synnwyr cyffredin.  Roedd llawer o drafodaeth yn canolbwyntio ar yr elfen tai fforddiadwy a rhoddodd y swyddogion eglurhad ar faterion penodol fel a ganlyn –

 

·         Roedd y cais ar gyfer meddiannaeth anghenion lleol ac ni ellid rhoi caniatâd cynllunio drwy ddileu’r elfen honno

·         Cyfeiriwyd at gymhwysedd â’r broses asesu ar gyfer tai fforddiadwy lleol ynghyd â pholisi a chanllawiau cysylltiad lleol

·         Cadarnhawyd yn absenoldeb amod i sicrhau dyfodol yr eiddo i ddiwallu angen lleol am dai fforddiadwy, gellid gwerthu’r eiddo ar y farchnad agored i brynwr o du allan i'r ardal

·         Pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu gyda chymal tai fforddiadwy, ni fyddai’n atal yr ymgeisydd rhag gwneud cais i gael yr amod honno wedi’i dileu yn y dyfodol pe dangoswyd nad oedd bellach angen lleol am dai fforddiadwy.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at y sylwadau  hwyr a dderbyniwyd oddi wrth y Cydbwyllgor AHNE a chynigwyd, pe bai’n cael ei ganiatáu, bod amod yn cael ei rhoi yn unol â’r argymhellion ynglŷn â’r grisiau y credai a fyddai’n cyd-fynd yn well â’r amgylchoedd.  Nid oedd dim eilydd ar gyfer y cynnig hwnnw.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Cefyn Williams,  bod y cais yn cael ei ganiatáu gydag amod i sicrhau dyfodol yr eiddo ar gyfer angen lleol am dai fforddiadwy,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 18/2014/1164/PS – PARK HIGHFIELD, LLANGWYFAN, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

I ystyried cais i amrywio amod rhif 12 o god caniatâd cynllunio rhif 18/2012/1595 i ganiatáu 2 bwynt mynediad i aros ar agor ym Mharc Highfield, Llangwyfan, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer amrywio amod rhif 12 o god caniatâd cynllunio rhif 18/2012/1595 i ganiatáu 2 bwynt mynediad i aros ar agor ym Mharc Highfield, Llangwyfan, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Ms. G. Butler (yn erbyn) – siaradodd Ms Butler ar ran trigolion lleol gan ddweud bod eu hofnau diogelwch ffyrdd dros y defnydd o fynedfeydd dros dro wedi eu cyfiawnhau ac adroddodd am y peryglon a achosir gan symudiadau traffig yn y ddau bwynt mynediad.

 

Mr. A. Armstrong (o blaid) - soniodd am gynllun y ffordd a’r rhesymu dros gadw'r ddau bwynt mynediad mân sydd ddim ond yn cyfrif am tua 3 - 4% o symudiadau traffig gydag uchafswm o wyth lle parcio er mwyn gwasanaethu dau adeilad a chaniatáu mynediad brys.

 

Trafodaeth gyffredinol – yn absenoldeb y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod lleol), siaradodd y Cynghorydd Joe Welch ar ei ran a chyfeirio at e-bost a anfonwyd at Aelodau'r Pwyllgor yn rhoi manylion am ei bryderon.  Er y cydnabuwyd y gwaith a'r buddsoddi a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd, gwireddwyd yr ofnau diogelwch a fynegwyd ar adeg y cais gwreiddiol, ac roedd y ddwy fynedfa dros dro wedi cael eu camddefnyddio yn ystod y gwaith adeiladu.  Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr Parc Highfield, ond nid yw'r sefyllfa wedi gwella.  Roedd yr ymgeisydd wedi dweud y dylid cadw mynediad D  oherwydd roedd yn dir dan glo – gellid bod wedi osgoi hyn yn y datblygiad – a gallai’r safle weithredu'n dda heb gadw'r mynedfeydd dros dro.  O ganlyniad, cynigiodd Joe Welch y dylid gwrthod y cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Dewi Owens.

 

Amlygwyd safleoedd mynedfeydd A, B, C a D ar y cynlluniau a ddarparwyd ac eglurodd yr Uwch Beiriannydd, Traffig a Chludiant sut y rheolwyd y llif traffig ledled y safle.  Adroddodd bod Mynediad C i'w ddefnyddio ar gyfer Pine  Cottage a Rose House yn unig gyda gwell gwelededd, arwyddion priodol a rheolaeth traffig ar waith.  Roedd cysylltiad drwodd i’r prif safle o Fynedfa C ac er iddo awgrymu gosod rhwystr codi ar gyfer mwy o reolaeth, nid oedd hyn wedi'i dderbyn gan yr ymgeisydd.  Fodd bynnag ystyriwyd nad oedd yn ddigon o reswm dros wrthod o ystyried y mesurau rheoli traffig eraill.  Byddai'r mynediad D yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cerbydau cynnal a chadw yn unig heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol i’r prif safle ar gyfer staff.  Roedd swyddogion yn ystyried y mynedfeydd hynny yn dderbyniol o ran polisïau a chanllawiau perthnasol.

 

Ystyriodd yr aelodau’r pryderon diogelwch ffordd  ynghyd â’r mesurau rheoli a oedd ar waith i ymateb i'r pryderon hynny.  Mynegwyd amheuon ynghylch effeithiolrwydd y mesurau rheoli a’u gorfodaeth, yn enwedig o gofio nad oedd y mynedfeydd dros dro eisoes yn cael eu camddefnyddio, mae'n debyg heb gosbau, ac o glywed bod pryderon cychwynnol trigolion lleol wedi’u gwireddu, er gwaethaf sicrwydd i'r gwrthwyneb.  Dywedodd yr Uwch Beiriannydd bod traffig wedi bod yn hynod brysur yn ystod y cyfnod adeiladu a chadarnhawyd na fu unrhyw ddamweiniau wedi’u cofnodi.  Tynnodd sylw at y diffyg tystiolaeth i gyfiawnhau gwrthod yn yr achos hwn o gofio'r mesurau lliniaru a'r cynllun rheoli traffig. 

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Joe Welch wrthod y cais ar sail diogelwch ffyrdd a threfoli tir gwledig, a chafodd hyn ei eilio gan Dewi Owens.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 6

GWRTHOD - 12

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail diogelwch ffyrdd a threfoli lonydd gwledig.

 

 

7.

CAIS RHIF 40/2014/1445/PF - TIR YN NHŶ FRY INN, LÔN TŶ FRY, BODELWYDDAN pdf eicon PDF 36 KB

I ystyried cais am siop gyfleus dosbarth A1 gyda pheiriant ATM, maes parcio cysylltiedig, trefniadau mynediad a thirlunio ar dir Tŷ Fry Inn, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan (amgaeir copi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu siop gyfleus dosbarth A1 gyda pheiriant ATM, maes parcio cysylltiedig, trefniadau mynediad a thirlunio ar dir Tŷ Fry Inn, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan.

 

Mr. T. Hallet (o blaid) – tynnodd sylw at fanteision economaidd a chymunedol y datblygiad a’r cydweithredu gyda’r swyddogion cynllunio a phriffyrdd i ddiwygio'r cynllun er mwyn mynd i'r afael â’r materion a godwyd.

 

Trafodaeth gyffredinol – yn absenoldeb y Cynghorydd Alice Jones (Aelod lleol), siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar ei rhan a chyfeiriwyd at e-bost a anfonwyd at aelodau'r Pwyllgor yn rhoi manylion am ei phryder dros y defnydd o Ffordd Ronaldway gan ddarparu cerbydau.  Roedd y Cynghorydd Jones yn hapus i gefnogi’r datblygiad yn amodol ar roi amod ychwanegol yn cyfyngu cerbydau danfon rhag mynd i mewn i Ronaldsway o Groesffordd Borth o blaid llwybrau mwy diogel o gyfeiriad Ffordd Abergele.  Ar ymadael y safle dylai cerbydau danfon droi i’r dde yn ôl ar Ffordd Abergele.  Roedd yr Aelodau yn cefnogi'r cynnig er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd ar Ronaldsway a chytunodd y swyddogion y gellid cadw rheolaeth resymol dros gyfeiriad y traffig yn y modd drwy amod; byddai’r cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i gynghori sut byddai'n sicrhau cydymffurfiaeth.  Rhoddodd y swyddogion sicrwydd bod rheolaethau priodol ar waith i orfodi amodau o'r fath.

 

Siaradodd yr Uwch Beiriannydd, Traffig a Chludiant am gynnwys yr Adran Priffyrdd.  Roedd y cynlluniau wedi'u diwygio yn dilyn archwiliad diogelwch ffyrdd annibynnol ac roedd swyddogion yn fodlon bod y trefniadau mynediad arfaethedig yn dderbyniol ac roedd digon o le ar y safle ar gyfer danfon, parcio a throi.  Nodwyd y pryderon a godwyd gan Gyngor Tref Bodelwyddan ond roedd swyddogion o'r farn na fyddai’r cynigion yn cael effaith annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol.  Eglurwyd, er gwaethaf y cyfyngiad pwysau, yn gyfreithiol gallai unrhyw gerbyd masnachol ddefnyddio’r ffordd i gyrraedd unrhyw safle.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog yn amodol ar amod ychwanegol yn cyfyngu ar symudiadau traffig cerbydau danfon yn mynd i mewn ac allan o’r safle drwy Ronaldsway i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Meirick Davies.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 18

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y manylir yn yr adroddiad yn amodol ar amod ychwanegol yn cyfyngu ar symudiadau traffig cerbydau danfon yn mynd i mewn ac allan o’r safle drwy Ronaldsway i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd.

 

 

8.

CAIS RHIF 15/2015/0629/PF - GLAN LLYN, ERYRYS, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 6 KB

I ystyried cais ar gyfer codi garej ar wahân yn lle’r garej presennol yng Nglan Llyn, Eryrys, yr Wyddgrug (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer codi garej ar wahân yn lle’r garej presennol yng Nglan Llyn, Eryrys, yr Wyddgrug.

 

Trafodaeth gyffredinol - Doedd gan y Cynghorydd Martyn Holland (Aelod lleol) ddim gwrthwynebiad i'r cais ond cyfeiriodd at bryderon Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl ynglŷn â maint y garej a’i botensial i gael ei droi'n annedd yn y dyfodol.  Roedd Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn argymell dylid adfer y wal ffin ffryntiad carreg naturiol fel rhan o'r datblygiad.  Wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd y Swyddog Cynllunio y byddai unrhyw newid i ddefnydd y garej yn y dyfodol yn destun cais cynllunio arall ac felly ni fyddai'n briodol i roi amod ar ei ddefnydd.  Roedd y defnydd o garreg a awgrymwyd gan y bartneriaeth AHNE eisoes wedi nodi ar y cynlluniau.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 17

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

9.

CAIS RHIF 43/2015/0112 /PF – CARTREF GOFAL PRESWYL HIGHCROFT, 49 RHODFA HIGHBURY, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

I ystyried cais i newid defnydd o hen Gartref Gofal Preswyl/Nyrsio i 5 o anheddau hunangynhwysol yng Nghartref Gofal Preswyl Highcroft, 49 Rhodfa Highbury, Prestatyn (amgaeir copi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd o hen Gartref Gofal Preswyl/Nyrsio i 5 o anheddau hunangynhwysol yng Nghartref Gofal Preswyl Highcroft, 49 Rhodfa Highbury, Prestatyn.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Soniodd y Cynghorydd Anton Sampson (Aelod Lleol) am ei ymweliad i’r safle ac nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais.  Adroddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod lleol) mai parcio oedd prif wrthwynebiad y trigolion, ond nid oedd yn ystyried y byddai’r sefyllfa barcio’n waeth nag oedd pan oedd y safle’n cael ei ddefnyddio fel cartref nyrsio.  Mewn ymateb i gwestiynau darparodd swyddogion cynllunio eglurhad ar y polisi tai fforddiadwy ar gyfer datblygiad o lai na 10 o uned breswyl drwy daliad swm gohiriedig.  Derbyniwyd bod angen am y math o dai a gynigwyd ym Mhrestatyn ac roedd swyddogion yn awyddus i sicrhau bod safonau mannau preswyl yn cael eu bodloni.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 17

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (11.10 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

10.

BRIFF DATBLYGU SAFLE: TŶ NANT, PRESTATYN - MABWYSIADU DOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 123 KB

I ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Briff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer Tŷ Nant, Prestatyn, gyda newidiadau a argymhellir, ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, adroddiad yn cyflwyno’r Briff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer Tŷ Nant, Prestatyn i’w fabwysiadu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.  Rhoddodd y Cynghorydd Smith rywfaint o gyd-destun i'r adroddiad ac esboniodd y gwahanol gamau yn y broses cyn mabwysiadu dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol yn derfynol gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

Roedd crynodeb o'r ymgynghoriad cyhoeddus a’r sylwadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad.  Wrth ymateb i'r sylwadau hynny cynigiwyd nifer o newidiadau a amlygwyd yn y ddogfen derfynol.  Roedd yr Aelodau yn falch o nodi ymateb da i'r ymgynghoriad eang a diolchwyd i'r swyddogion am eu gwaith caled yn hynny o beth.  Mewn ymateb i gwestiynau, eglurwyd bod y briff yn hyblyg ynglŷn â 6 – 8 Ffordd Plas Nant a oedd yn caniatáu dymchwel neu gadw ar yr amod y dylid cadw'r ffryntiad a Siambr y Cyngor os oes modd.  O ran mynediad o Rodfa’r Glyn roedd byffer tirwedd wedi’i  awgrymu yng nghefn yr eiddo hynny a fyddai'n caniatáu ar gyfer cadw’r mynedfeydd cefn hynny – roedd swyddogion eiddo edrych ymhellach ar y mater.

 

Cynnig – Cyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at astudiaeth gynhwysfawr a wnaed ac roedd yn ystyried bod yr adroddiad yn adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd yn deg.  O ganlyniad, cynigiodd y dylid mynd ag argymhelliad y swyddog i fabwysiadu’r ddogfen, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 18

YN ERBYN - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n mabwysiadu’r Briff Datblygu Drafft ar gyfer Tŷ Nant, Prestatyn, ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad, gyda newidiadau a argymhellwyd, i benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.

 

 

11.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL YNNI ADNEWYDDADWY – DRAFFT YMGYNGHORI pdf eicon PDF 156 KB

I ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r drafft Canllawiau Cynllunio Atodol ar ynni adnewyddadwy fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar ynni adnewyddadwy fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd y drafft CCA yn amlinellu'r cyd-destun polisi cenedlaethol a lleol ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy, gwarchod tirwedd a gwarchod tir amaethyddol. 

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies i fynd ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 17

YN ERBYN - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn cytuno ar y Canllaw Cynllunio Atodol drafft ar ynni adnewyddadwy fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

12.

DRAFFT YMGYNGHORI: BRÎFF DATBLYGU SAFLE - TIR GER HEN YSBYTY HM STANLEY, LLANELWY pdf eicon PDF 100 KB

I ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r drafft Brîff Datblygu Safle ar gyfer y safle tai gyfagos a neilltuwyd  ger hen Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a’r Rheolwr Cynllunio a Thai Strategol adroddiad yn argymell cymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer y safle tai a ddyrannwyd gerllaw’r hen Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy a’r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Yn ystod y drafodaeth cafodd y safle datblygu ei egluro fel y tir i'r de a'r tu cefn i’r hen safle ysbyty a thynnwyd sylw at y cynllun safle.  Roedd ymateb Swyddogion i ymholiadau’r Aelodau fel a ganlyn:-

 

·         Cadarnhawyd bod adeilad rhestredig yn agos at y safle a nododd y briff y byddai angen i unrhyw gynigion i gymryd hynny i ystyriaeth

·         Mae'r briff hefyd yn cynghori y dylai cynigion datblygu geisio defnyddio enwau Cymraeg lleol perthnasol ar gyfer strydoedd a’r datblygiad yn gyffredinol a byddai angen Asesiad Effaith Cymunedol ac Ieithyddol ynghyd ag unrhyw gais cynllunio

·         Amlinellwyd yn y briff nad oedd y safle mewn ardal perygl llifogydd.

 

Fel mater ar wahân, mynegodd aelodau lleol bryderon ynghylch yr enw 'Livingstone Place' a roddwyd gan ddatblygwyr i safle arall yn Llanelwy a chafwyd trafodaeth ynghylch cyfreithlondeb y broses.  Cytunodd swyddogion cynllunio i ddwyn y mater i sylw'r adran berthnasol i’w drafod gyda’r datblygwr.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies y dylid mynd ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 18

YN ERBYN - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle ar gyfer y safle a ddyrannwyd ar gyfer tai gerllaw hen Ysbyty HM Stanley, Llanelwy a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig (fel ynghlwm wrth yr adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

13.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH (CDLL) 2006-2021: DRAFFT ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2015 pdf eicon PDF 80 KB

I nodi cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol CDLL cyntaf (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol ar gyfer Parth y Cyhoedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol CDLl cyntaf yn asesu’r perfformiad polisi am y cyfnod 1 Ebrill 2014 – 31 Mawrth 2015. Roedd angen i’r Cyngor lunio AMB i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn a’i gyhoeddi ar ei wefan.  Byddai angen i’r Cabinet gymeradwyo’r AMB i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd yr Aelodau'n falch o nodi cynnydd ymysg y trigolion yn Sir Ddinbych sy’n siarad Cymraeg ers 2006 ac mewn ymateb i gwestiynau cyfeiriodd y swyddogion at y polisi yn y CDLl sy'n ymwneud â’r iaith Gymraeg a’r angen i ddatblygiadau newydd lunio Asesiad Effaith Cymunedol ac Ieithyddol.  Dywedodd y Swyddogion hefyd bod cyfeiriad at y Gymraeg yn y Ddeddf Cynllunio newydd ar gyfer Cymru a chytunwyd i ddarparu diweddariad amserol ar ddatblygiadau deddfwriaethol i’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

ADRODDIAD GWYBODAETH – NEWIDIADAU I REOLIADAU FFIOEDD CENEDLAETHOL A CHYFLWYNO NEWIDIADAU CYNGOR CYN-YMGEISIO

Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn darparu aelodau gyda nodyn byr mewn perthynas â newidiadau sydd ar fin digwydd i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015. Roedd cyflwyniad diweddar ffioedd cyn-ymgeisio sy’n benodol i Wasanaeth Cynllunio Sir Ddinbych hefyd wedi cael ei gynnwys.

 

Ymhelaethodd swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, ac atebwyd cwestiynau arnynt.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm.

 

 

Dogfennau ychwanegol: