Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorwyr Ian Armstrong, Bill Cowie, Rhys Hughes, Barri Mellor a Merfyn Parry

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Ray Bartley – Cysylltiad Personol – Eitemau 5 ac 17 ar y Rhaglen.

Y Cynghorydd Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 9 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Jason McLellan – Cysylltiad Personol a Rhagfarnol – Eitem rhif 11 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 176 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2015 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2015.

 

Tudalen 17 – Rhif Cais 40/2015/0319 – Dywedodd y Cynghorydd Meirick Davies nad oedd y cofnodion wedi cofnodi bod y Cynghorydd Alice Jones wedi dychwelyd i’r cyfarfod ar ôl i eitem busnes, yn ymwneud â Fferm Pengwern, Bodelwyddan ddod i ben.

 

PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2015 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 14) -

Cyflwynwyd ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r ceisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 01/2015/0347/PR - TIR WRTH YMYL FRON DEG, FFORDD RHUTHUN, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ar gyfer manylion edrychiad, gosodiad a maint yr 14 o anheddau a thirlunio a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio amlinellol 01/2014/0072 (Cais Materion a Gadwyd yn ôl) ar dir ger Fron Deg, Ffordd Rhuthun, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Bartley gysylltiad personol â’r eitem hon gan ei fod yn Aelod Lleol].

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer manylion ymddangosiad, gosodiad a maint 14 o anheddau a chyflwynwyd thirluniad safle yn unol ag amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio amlinellol 01/2014/0072 (Cais Materion a Gadwyd yn Ôl) ar dir wrth ymyl Fron Deg, Ffordd Rhuthun, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr. S. Evans (Yn erbyn) - mynegodd bryderon am ddwysedd y datblygiad a llygredd golau.

 

Trafodaeth Cyffredinol – Roedd Y Cynghorydd Richard Davies (Aelod Lleol) yn rhannu'r pryderon a fynegwyd gan Mr. Evans ynghylch gor-ddwysau’r safle gan ei fod yn credu na fyddai'n gweddu i'r ardal.  Cyfeiriodd at hanes cynllunio yn ymwneud â 6 annedd ac roedd y cais presennol yn dangos cynnydd sylweddol i 14 o anheddau.  Mynegwyd pryderon pellach ynglŷn â ffens derfyn a materion perchenogaeth a threfniadau mynediad i Glwb Criced Dinbych.  Gan ystyried amgylchiadau lleol, roedd y Cynghorydd Davies o’r farn y byddai llai o dai yn fwy buddiol ar y safle.  Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ray Bartley (Aelod Lleol) hefyd yn rhannu'r pryderon a godwyd a gofynnodd lle byddai'r swm cymudol yn cael ei wario.

 

Crynhodd y Swyddog Cynllunio (DR) y rhesymau y tu ôl i'r argymhelliad i ganiatáu'r cais.  Roedd y Polisi RD1 Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn ceisio sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon o dir, drwy gyflawni dwysedd isafswm o 35 annedd i bob hectar, oni bai bod amgylchiadau lleol yn pennu dwysedd is.  Byddai'r cais yn darparu 28 annedd i bob hectar ac roedd swyddogion yn ystyried hyn yn briodol o ystyried yr ardal leol. Fe gyfeiriwyd hefyd at gyd-destun safle Llywodraeth Cymru o ran cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai – fe eglurwyd, er bod Sir Ddinbych wedi clustnodi digon o dir ar gyfer tai, roedd cyflymder y datblygu yn araf ac felly roedd Sir Ddinbych yn disgyn yn is na'r targed 5 mlynedd. Yn yr achos hwn nid yw'r safle yn safle a glustnodwyd yn y CDLl, ond roedd wedi cael ei ystyried tra’n cyfrifo lefel y tir oedd ei angen ar gyfer tai.  Ymatebodd swyddogion hefyd i bryderon yr aelodau lleol, a chodwyd cwestiynau yn ystod trafodaeth gyffredinol gan aelodau eraill fel a ganlyn -

 

·         nid yw anghydfodau ynghylch ffiniau yn faterion cynllunio ond yn hytrach yn faterion sifil

·         nid oedd y cais yn cynnwys mynediad i'r Clwb Criced ac felly nid oedd wedi bod yn fater i’r swyddogion ei asesu

·         gellid rheoli goleuadau yn hawdd drwy amod i sicrhau na fydd unrhyw effaith andwyol, er y cydnabuwyd nad oedd unrhyw ystyriaethau arbennig yn y lleoliad hwn a fyddai'n gwarantu hynny

·         byddai unrhyw ofod agored a grëwyd ar y safle yn fach iawn, felly roedd swyddogion yn argymell gwario swm cymudol ar wella darpariaeth bresennol yn ward isaf Dinbych – roedd y cae chwarae agosaf tua hanner milltir i ffwrdd

·         roedd darpariaeth mannau agored ar gyfer datblygiadau tai yn cael eu hasesu ar sail achos wrth achos, ac nid oedd gosod amodau  yn yr achos hwn yn ystod y cyfnod cynllunio amlinellol yn ddewis priodol

·         roedd dwysedd y datblygiad wedi cael ei asesu yn erbyn polisi cynllunio cyfredol, ac roedd nifer yr anheddau yn llai na’r trothwy presennol, roedd swyddogion yn credu na fyddai’r dwysedd arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal, ac felly ni ystyriwyd hwy yn rhesymau dros wrthod.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 21

GWRTHOD - 2

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 05/2015/0040/PF - TIR ODDI AR LÔN WERDD, CORWEN pdf eicon PDF 33 KB

Ystyried cais i godi tŷ unllawr a gwneud newidiadau i'r fynedfa bresennol i gerbydau ar dir oddi ar Lôn Werdd, Corwen (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi annedd un llawr newydd ac addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ar dir oddi ar Lôn Werdd, Corwen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mrs. K. James (O Blaid) – Tynnodd sylw at y perygl llifogydd fel yr unig fater sy'n peri pryder a bu’n dadlau mai arweiniad yn unig oedd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 (Map Cyngor Datblygu a Pherygl Llifogydd) a gallai mesurau lliniaru gael eu cyflwyno i ymdrin ag unrhyw effaith bosibl a diwallu  prawf cyfiawnhad TAN 15.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Huw Jones (Aelod Lleol) o blaid y cais ac amlygodd yr angen am farn gytbwys ar deilyngdod y cais.  Dywedodd fod y gwrthwynebiad cychwynnol gan y Cyngor Tref o ran mynediad wedi cael ei ddatrys a bod angen penderfynu ar y cais ar sail yr elfen risg llifogydd.  O ganlyniad, tynnwyd sylw’r Aelodau at y canlynol -

 

·         TAN 15 Adran 6: Cyfiawnhau Lleoliad Datblygiad – cyfeiriwyd at yr angen i gael rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn mynd i'r afael â'r perygl llifogydd.

·         TAN 15 Adran 11: 'Rheoli Datblygu' - dywedodd yn nhermau mân ddatblygiadau byddai'n fater i'r awdurdod cynllunio i farnu p'un ai i wneud defnydd o Adran 6 (uchod) lle mae safle yn disgyn yn rhannol o fewn parth C

·         Rhoddwyd rhywfaint o gyd-destun o ran lleoliad y safle a'i leoliad mewn perthynas â pherygl llifogydd a gafodd ei ddangos ar y cynlluniau a ddangoswyd i'r pwyllgor - dadleuwyd bod y safle yn eistedd ar derfyn eithaf y parth llifogydd, ac mae'n ddigon posibl y tu allan iddo, ac mae’r pwynt agosaf at lifogydd rhyw 405 metr i ffwrdd

·         Nid oedd Cyfoeth Adnoddau Naturiol Cymru (NRW) wedi gwrthwynebu'r cais ond roedd wedi cyflwyno nifer o argymhellion ac amodau petai’r cais yn cael ei ganiatáu - roedd hyn yn cynnwys codi lefel yr adeilad i liniaru perygl llifogydd

·         Fe gadarnhaodd CNC bod 3 achos o lifogydd wedi bod yng Nghorwen ers 1964 ac nid oedd y safle dan sylw wedi bod dan ddŵr

·         Cynllun Datblygu Lleol - cyfeiriwyd at ddyhead y Cyngor i ddatblygu safleoedd tir llwyd yng Nghorwen i ddiwallu anghenion a buddsoddiad lleol.

 

Ar y cyfan, roedd yr aelodau’n credu bod yr Aelod Lleol wedi gwneud achos cryf dros ganiatáu'r cais.  Cadarnhaodd y Swyddogion Cynllunio eu hargymhelliad i wrthod y cais yn seiliedig ar leoliad y safle o fewn parth llifogydd C2 fel y nodwyd gan fapiau Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor TAN 15 na ddylid caniatáu datblygiadau preswyl o fewn parth C2.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts, i gymeradwyo’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail y gallai’r perygl llifogydd gael ei liniaru yn yr achos hwn, drwy roi amodau ynghlwm â’r caniatâd cynllunio, ac y dylid dirprwyo’r pŵer i swyddogion ac aelodau lleol i roi amodau cynllunio ar y caniatâd.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 22

GWRTHOD - 2

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid ei GYMERADWYO yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail y gallai’r perygl llifogydd gael ei liniaru yn yr achos hwn, ac y gellir dirprwyo pŵer i swyddogion ac aelodau lleol i roi amodau cynllunio ar y caniatâd fel y bo’n briodol.

 

 

7.

CAIS RHIF 23/2014/1440/PF – COED CLOCAENOG, SARON, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig yng Nghoed Clocaenog, Saron, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol â’r eitem hon gan ei fod yn aelod o Grŵp ‘Pylon the Pressure’]

 

Cyflwynwyd cais i godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig yng Nghoedwig Clocaenog, Saron, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. M. Barlow (Yn erbyn) – roedd yn amheus am yr angen am is-orsaf ar hyn o bryd a mynegodd bryderon dros y tirwedd a’r effaith weledol.

 

Ms. C. Duffy, SP Manweb (O Blaid) - eglurodd y maint yr ymgynghori a wnaed ynghyd â mesurau lliniaru i ymdrin â materion a godwyd.  Mae hi'n cytuno â chasgliadau'r adroddiad cynllunio ac yn derbyn yr amodau arfaethedig.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) yn gwrthwynebu'r cais a mynegodd bryderon ynghylch -

 

·         ymagwedd dameidiog a gymerwyd ar gyfer Prosiect Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru ac effeithiau cronnol yr is-orsaf ynghyd ag elfennau eraill o'r prosiect

·         dadleuodd yn erbyn yr angen am is-orsaf yn ystod y cam yma o ystyried fod y cais ar gyfer y prosiect llinellau uwchben eto i'w cymeradwyo; y ffaith fod Fferm Wynt Clocaenog yn destun adolygiad barnwrol; a ffermydd gwynt eraill oedd heb gael eu hadeiladu – yn sgil hynny oll, ystyrir y cais yn gynamserol

·         diffyg ymgynghori cyhoeddus a dogfennau'n cael eu darparu yn Gymraeg a gwybodaeth gamarweiniol oedd yn tynnu oddi ar wir effaith yr is-orsaf

·         digonolrwydd yr Adroddiad Amgylcheddol a'r asesiad sŵn cronnus

·         effeithiau ar amwynder, twristiaeth, iechyd preswylwyr a sŵn.

 

Ymatebodd y Swyddog Cynllunio (DS) i'r materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·         nid yw natur y broses cais cynllunio yng Nghymru yn caniatáu i bob elfen o’r prosiect fferm wynt gael ei thrin dan un cais

·         roedd yr ymgeisydd wedi dweud nad oedd yr is-orsaf yn ddibynnol ar ganlyniad naill ai her gyfreithiol Fferm Wynt Clocaenog, na phrosiect llinellau uwch ben arfaethedig, a byddai dal angen yr is-orsaf petai’r cysylltiad grid yn digwydd drwy geblau danddaear.

·         roedd Cymraeg yn cael ei annog i’w ddefnyddio mewn ymgynghoriadau, ond nid oedd yn ofyniad cyfreithiol

·         ystyriodd y swyddogion y cais yn dderbyniol mewn egwyddor ar ôl asesu effaith yr is-orsaf ar yr ardal leol ac ystyried fod y safle o fewn Ardal Chwilio Strategol Coedwig Clocaenog (SSA) [roedd y polisi cynllunio yn nodi bod newid tirwedd o ddatblygiad fferm wynt yn dderbyniol o dan Ardaloedd Chwilio Strategol]

·         ar y cyfan roedd swyddogion yn cytuno â chasgliadau’r adroddiad amgylcheddol gan greu y gallai’r materion gael eu lliniaru

·         er nad yw'r Swyddog Gwarchod y Cyhoedd wedi cytuno gyda'r holl gyfrifiadau yn yr asesiad sŵn cronnol nad oedd wedi herio ei gadernid ac wedi derbyn ei gasgliadau; gallai lefelau sŵn gael eu rheoli drwy amodau er mwyn diogelu amwynder trigolion lleol.

 

Yn ystod trafodaeth fanwl ystyriodd yr aelodau rinweddau'r cais a mynegi amheuon ynghylch dilysrwydd casgliadau'r asesiad sŵn cronnus o ystyried bod cwestiynau wedi codi ynghylch y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r lefelau sŵn.  Mynegwyd pryderon hefyd dros harddwch ac effaith ar y dirwedd, yn enwedig y gantri 9 metr o uchder arfaethedig a fyddai'n debygol o fod yn weladwy iawn, a'r effeithiau dilynol ar y gymuned a thwristiaeth.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Joe Welch, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams, bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail yr effaith sŵn cronnol posibl ac effaith weledol bosibl ar y dirwedd o'r is-orsaf.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 3

GWRTHOD - 20

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cynnig, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail yr effaith sŵn cronnol posibl ac effaith weledol bosibl ar y dirwedd o'r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CAIS RHIF 43/2015/0159/PF - HEN YSBYTY CYMUNEDOL PRESTATYN, 49 THE AVENUE, WOODLAND PARK, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ailddatblygu safle’r hen ysbyty cymunedol drwy godi 24 o anheddau a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn 49 The Avenue, Woodland Park, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad personol sy’n rhagfarnu â’r eitem hon oherwydd ei fod yn byw yn agos iawn at y datblygiad.  Byddai'n siarad ar yr eitem hon fel aelod o'r cyhoedd a byddai'n gadael y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei ystyried ac ni fyddai’n cymryd unrhyw ran bellach yn yr achos.]

 

Cyflwynwyd cais i ailddatblygu safle'r hen ysbyty cymuned drwy godi 24 o anheddau ac adeiladu mynediad newydd i gerbydau yn 49, The Avenue, Woodland Park, Prestatyn.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Y Cynghorydd Jason McLellan (Yn erbyn) – mynegodd bryderon dros or-ddwysau’r safle ac eiddo nad oedd yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal, ynghyd â materion priffyrdd. [Ar yr adeg hon, gadawodd y Cynghorydd McLellan y cyfarfod.]

 

Trafodaeth Gyffredinol - Crynhodd y Swyddog Cynllunio (PM) yr adroddiad a’r rhesymau dros argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo.  O ystyried dwysedd y datblygiad arfaethedig a'r math o anheddau yn yr ardal ni ystyriwyd y byddai effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal.  O ran priffyrdd, o ystyried y defnydd blaenorol y safle fel ysbyty cymuned, nid yw’n debygol y byddai unrhyw gynnydd sylweddol mewn traffig ac ystyriwyd nad oedd y cais yn codi unrhyw bryderon sylweddol o ran priffyrdd neu hygyrchedd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Hugh Irving (Aelod Lleol) rhywfaint o hanes cefndir y safle a dywedodd ei fod wedi cysylltu â thrigolion oedd yn gwrthwynebu’r cynigion.  Mynegwyd pryderon ynghylch maint a graddfa'r datblygiad nad oedd yn cyd-fynd â chymeriad cyffredinol yr ardal a materion parcio a diogelwch y ffyrdd yn deillio o draffig a fyddai’n cael ei greu.  Gofynnodd i'r aelodau ystyried gwrthod y cais i gael ailddatblygiad a fyddai’n cydweddu’n well â’r ardal.  Ychwanegodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, er bod lefelau dwysedd yn dod o fewn trothwy’r polisi, roedd y cynigion yn cynrychioli gor-ddwysau o ran yr amgylchedd lleol.  Roedd yn derbyn cymysgedd cyffredinol yr anheddau yn yr ardal ond teimlai nad oedd yr arddull tri llawr yn gydnaws â'r ardal o amgylch.

 

Adroddodd y Cynghorydd Win Mullen-James ar yr ymweliad safle diweddar ac arsylwadau a wnaed o ran y cyd-destun lleol (roedd manylion yr ymweliad safle wedi cael ei ddarparu o fewn y papurau atodol hwyr).

 

Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at y pwyntiau a godwyd ac ymateb fel a ganlyn -

 

·         roedd dwysedd y datblygiad yn is na'r gofynion Cynllun Datblygu Lleol ac yn debyg i ddatblygiad presennol yn yr ardal

·         roedd agosrwydd yr eiddo presennol wedi cael eu mesur ac roeddynt yn cwrdd â'r safonau sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer pellter rhwng anheddau

·         er y byddai yna effaith ar amwynder preswyl, ni fyddai'n arwyddocaol

·         ni fyddai'r annedd arfaethedig talaf ar flaen y safle yn uwch nag adeilad presennol yr adeilad, ac oherwydd yr amrywiaeth o anheddau yn yr ardal, ni ystyrir y byddai'r datblygiad yn niweidiol i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal leol

·         byddai sylw gofalus i fanylion tirlunio a byddai amodau’n cael eu rhoi

·         ynghylch draenio dŵr wyneb, roedd swyddogion yn trafod â Dŵr Cymru ac nid oeddynt wedi codi unrhyw bryderon hyd yn hyn.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 12

YMATAL - 0

GWRTHOD - 11

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

9.

CAIS RHIF 44/2015/0364/PF - 6, GROVE TERRACE, FFORDD Y TYWYSOG, RHUDDLAN, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i symud piler brics a gosod giatiau pren yn 6 Teras Grove, Ffordd y Tywysog, Rhuddlan (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i symud piler o frics a gosod giatiau pren yn 6 Grove Terrace, Ffordd y Tywysog, Rhuddlan.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Ms S. King (O Blaid) - dadlau dros gydraddoldeb ag eiddo cyfagos gan ddweud bod strwythurau tebyg wedi cael eu tynnu ac yn amheus ynghylch unrhyw niwed i gymeriad/ymddangosiad yr ardal leol.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) o blaid y cais gan ddweud y byddai symud ac ail-leoli’r postyn yn gwella effaith weledol ac yn gydnaws ag eiddo eraill yn yr ardal. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cais a derbyniwyd cefnogaeth gan Gyngor Tref Rhuddlan a thrigolion eraill.  Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) hefyd o blaid y cais a theimlai cynsail eisoes wedi ei osod yn yr ardal.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, fod y cais yn cael ei ganiatáu, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail na fyddai unrhyw effaith andwyol ar yr ardal o ganlyniad i'r datblygiad a fyddai'n gydnaws ag eiddo eraill yn yr ardal.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

YMATAL - 0

GWRTHOD - 2

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail na fyddai unrhyw effaith andwyol ar yr ardal o ganlyniad i'r datblygiad a fyddai'n gydnaws ag eiddo eraill yn yr ardal.

 

 

10.

CAIS RHIF 18/2015/0501/PF - BRYN EGWALLT, LLANDYRNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i godi estyniad un llawr ac estyniad deulawr ym Mryn Egwallt, Llandyrnog, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniadau un llawr a deulawr yn ym Mryn Egwallt, Llandyrnog, Dinbych.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Yn absenoldeb y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) dywedodd y Cadeirydd nad oedd gan y Cynghorydd Parry unrhyw wrthwynebiad i'r cais.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James, i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 21

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

11.

CAIS RHIF 21/2015/0562/PF - BRYN HYFRYD, MAESHAFN, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi estyniadau i ochr a chefn yr annedd presennol ym Mryn Hyfryd, Maeshafn, yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniadau i ochr a chefn yr annedd bresennol ym Mryn Hyfryd, Maeshafn, Yr Wyddgrug.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James, bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

12.

CAIS RHIF 20/2015/0199/PF - TIR YNG NGHASTELL BODELWYDDAN, ENGINE HILL, BODELWYDDAN, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i greu ffosydd Rhyfel Byd Cyntaf ar dir yng Nghastell Bodelwyddan, Engine Hill, Bodelwyddan, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu atgynhyrchiad o ffosydd Rhyfel Byd Cyntaf ar dir yng Nghastell Bodelwyddan, Engine Hill, Bodelwyddan, Y Rhyl.

 

Argymhellodd y swyddogion gohirio’r cais i roi amser i Ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth archeolegol bellach i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cheryl Williams, bod y cais yn cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID GOHIRIO - 20

YN ERBYN GOHIRIO - 2

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO'R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog er mwyn rhoi cyfle i wybodaeth archeolegol bellach gael ei ddarparu.

 

 

13.

CAIS RHIF 45/2015/0451/PF - CLWB BINGO APOLLO, STRYD FAWR, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi to ar un ongl i ddarparu ardal ysmygu dan do ym mlaen yr adeilad, a newidiadau allanol yng Nghlwb Bingo Apollo, Stryd Fawr, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi to ar oleddf unigol i ddarparu ardal ysmygu dan do i flaen yr adeilad, a newidiadau allanol yng Nghlwb Bingo Apollo, Stryd Fawr, Y Rhyl.

 

Cynnig – Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield (Aelod Lleol) na fyddai unrhyw effaith niweidiol yn sgil y datblygiad a chynigiodd bod y swyddog yn argymell caniatáu’r cais, ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Cheryl Williams.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 18

YMATAL - 1

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

14.

CAIS RHIF 45/2015/0452/PF - CLWB BINGO APOLLO, STRYD FAWR, Y RHYL pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais adeilad rhestredig ar gyfer gwaith adnewyddu mewnol ac allanol, darparu man ysmygu dan do ym mlaen yr adeilad a gosod arwyddion wedi eu goleuo’n fewnol, gosod llythrennu ffasgia newydd a goleuadau ffasâd yng Nghlwb Bingo Apollo, Stryd Fawr, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais adeilad rhestredig i ailwampio mewnol ac allanol, darparu man ysmygu â chysgod iddo i flaen yr adeilad a gosod arwyddion mewnol â goleuadau, llythrennu ffasgia a goleuadau ffasâd newydd yng Nghlwb Bingo Apollo, Stryd Fawr, Y Rhyl.

 

Cynnig - Doedd gan y Cynghorydd Joan Butterfield (Aelod Lleol) ddim unrhyw wrthwynebiad i'r cais a chynigiodd bod y swyddog yn ei ganiatáu, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

YMATAL - 1

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

15.

PROSIECT ISADEILEDD MAWR CYSYLLTIADAU FFERMYDD GWYNT GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 160 KB

Ystyried ymateb i'r cais am ganiatâd datblygu a gyflwynwyd i'r Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â Phrosiect Isadeiledd Mawr Cysylltiadau Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn gofyn i'r aelodau ystyried ymateb i'r cais am ganiatâd datblygu a gyflwynwyd i'r Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â'r Prosiect Isadeiledd Mawr Cysylltiadau Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru.

 

Mae Scottish Power Manweb yn symud ymlaen â’r cynigion ar gyfer llinellau uwchben er gwaethaf ffaith bod y Cyngor, mewn egwyddor, o blaid cysylltiad dan y ddaear.  Heb ragfarnu sefyllfa’r Cyngor, mae’r pwyllgor bellach wedi cytuno y dylai’r Cyngor gytuno ar Gytundeb Perfformiad Cynllunio a chymryd rhan yn y broses Archwilio.  Cafwyd diweddariad am y sefyllfa ddiweddaraf ac amserlenni.

 

Ystyriodd yr Aelodau yr Adroddiad Effaith Leol (ynghlwm wrth yr adroddiad) ac o ystyried yr amserlenni tynn dan sylw, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei lenwi’n llawn drwy ymgynghori ag aelodau ward perthnasol a’i gyflwyno ar yr adeg briodol. O ran cynrychiolaeth y Cyngor, cytunwyd bod y Cyngor yn gwrthwynebu yn ffurfiol i'r prosiect llinell uwchben ar sail yr effaith weledol; colli tir amaethyddol a'r effeithiau posibl ar iechyd, twristiaeth a bioamrywiaeth.  Yn olaf, ystyriodd yr aelodau enwebu aelodau i gynrychioli'r Cyngor mewn Gwrandawiadau Archwiliad dilynol, a mynegodd y Cynghorwyr Meirick Davies, Alice Jones a Joe Welch ddiddordeb yn hynny o beth.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor yn-

 

·         cytuno ar fformat yr Adroddiad Effaith Leol drafft ynghlwm fel Atodiad D i'r adroddiad ac am Adroddiad Effaith Leol derfynol i'w gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio, mewn ymgynghoriad ag Aelodau Wardiau perthnasol

·         cytuno bod y Cyngor, cytunwyd bod y Cyngor yn gwrthwynebu yn ffurfiol i'r cynnig datblygu ar sail yr effaith weledol; colli tir amaethyddol, a'r effeithiau posibl ar iechyd, twristiaeth a bioamrywiaeth, ac

·         enwebu Cynghorwyr Meirick Davies, Alice Jones a Joe Welch i gynrychioli'r Cyngor mewn Gwrandawiadau Archwiliad.

 

 

16.

BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: CAE FFYDDION, DYSERTH pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safle Cae Ffyddion yn Nyserth a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a’r Rheolwr Cynllunio a Thai Strategol (AL) adroddiad ar y cyd yn argymell bod aelodau yn cytuno ar Friff Datblygu Safle (BDS) ar gyfer clustnodi safle tai Cae Ffyddion, Dyserth a’r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Smith rhywfaint o gyd-destun i'r adroddiad ac eglurodd y gwahanol gamau yn y broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu'r Briff Datblygu Safle a'u pwysigrwydd wrth ddatblygu meini prawf i fodloni gofynion lleol.  Dywedwyd wrth yr aelodau hefyd bod y safle wedi ei ddyrannu ar gyfer datblygu tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai proses ymgynghori yn cael ei chynnal ar y cyd ag aelodau lleol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Owen (Aelod Lleol) at sylwadau a dderbyniwyd oddi wrth Ann Jones AC ynghylch yr ymgynghoriad a chadarnhaodd y swyddogion y cytunwyd i ymestyn y cyfnod ymgynghori i 13 wythnos ac y byddai o leiaf pedwar digwyddiad cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw; byddai'r holl drigolion yn cael eu hysbysu o'r ymgynghoriad. Teimlai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts dylid rhoi mwy o bwys ar safleoedd clustnodi tai yn y CDLl tra’n ymgymryd ag adolygiadau ysgol o ran yr effaith ar ddarpariaeth addysgol a llwybrau mwy diogel. Cadarnhaodd swyddogion bod cydweithwyr addysg yn derbyn manylion am safleoedd oedd yn cael eu clustnodi a datblygiadau sydd ar y gweill yn ystod y broses honno.  Petai datblygiadau yn creu rhagor o alw ar ysgolion, byddai angen cyfraniad datblygwr i gynyddu'r capasiti.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Peter Owen argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 19

YN ERBYN - 2

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle ar gyfer y safle a glustnodwyd ar gyfer tai Cae Ffyddion, Dyserth a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig (fel ynghlwm wrth yr adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

17.

BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: Y BRWCWS DINBYCH, SAFLEOEDD TAI A DDYRANNWYD YN Y CDLL pdf eicon PDF 99 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd datblygu tai ‘Y Brwcws’ yn Ninbych a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Bartley gysylltiad personol â’r eitem hon gan ei fod yn Aelod Lleol].

 

Cyflwynwyd adroddiad yn argymell i’r aelodau gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd tai ‘Brookhouse’ yn Ninbych a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) amgaeedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Mae'r egwyddor ar gyfer datblygu tai wedi cael ei sefydlu yn y CDLl a nod y Briff Datblygu Safle oedd rhoi arweiniad cadarn ar gyfer datblygiad arfaethedig.  Trafododd yr Aelodau'r broses ymgynghori a dulliau gwahanol o ymgysylltu â'r cyhoedd.  Cytunwyd i ddefnyddio dull cyson o ymgynghori o ran amserlen a nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus gan ystyried barn yr aelodau lleol o ran lleoliadau ac amseroedd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bill Tasker argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd David Simmons.

 

PLEIDLAIS: 

O BLAID - 17

YN ERBYN - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle ar gyfer y safleoedd a glustnodwyd ar gyfer tai yn ‘Brookhouse’, Dinbych a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig (fel ynghlwm wrth yr adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

18.

BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: FFORDD HENDRE A MAES MEURIG, GALLT MELYD. pdf eicon PDF 99 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd datblygu tai Ffordd Hendre a Maes Meurig yng Ngallt Melyd a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yn argymell yr aelodau i  gytuno ar y Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd tai Ffordd Hendre a Maes Meurig yng Ngallt Melyd a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) amgaeedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dywedodd y swyddogion fod y ddau safle wedi eu dyrannu yn y CDLl ar gyfer tai, ond maent yn parhau i fod yn safleoedd dadleuol yn lleol ac fe ymdrinnir â phryderon yn y briff. Roedd y Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol) yn fodlon bod y materion sy'n peri pryder wedi eu cynnwys o fewn y briff drafft a byddai’n agored i ymgynghoriad cyhoeddus. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai'r safleoedd yn cael eu nodi'n glir ar y cynllun lleoliad cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd yr Aelodau ar ymagwedd gyson gan ddefnyddio’r ddwy eitem flaenorol o ran ymgynghori gyda’r bwriad o wneud y mwyaf o ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 20

YN ERBYN - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylai aelodau gytuno ar y Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd tai Ffordd Hendre a Maes Meurig yng Ngallt Melyd a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol (fel sydd ynghlwm â'r adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.05pm.