Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorwyr Bill Cowie, Dewi Owens a Julian Thompson-Hill.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Pete Prendergast i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Cynllunio.  Roedd y Cynghorydd Prendergast yn disodli'r diweddar Gynghorydd McCarroll ar y pwyllgor ar ôl cwblhau'r hyfforddiant angenrheidiol.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan.

 

Holodd y Cynghorydd Cefyn Williams am yr arfer o gyhoeddi ffurflenni datgan cysylltiad ym mhob cyfarfod a chytunodd y Cadeirydd i godi'r mater gyda swyddogion.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 179 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2015 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2015.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2015 fel cofnod cywir.

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 a 6)

Cyflwynwyd ceisiadau oedd angen penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol.   Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud ag adroddiadau penodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 01/2014/0063/PF - 3A, 3, 5 PWLL Y GRAWYS, DINBYCH pdf eicon PDF 7 KB

Ystyried cais i drosi a newid anheddau presennol ac uned fasnachol yn Gartref Gofal Preswyl Dosbarth C2 yn 3A, 3 a 5 Pwll y Grawys, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i drosi a newid anheddau presennol ac uned fasnachol i Gartref Gofal Preswyl Dosbarth C2 yn 3A, 3 a 5 Pwll y Grawys, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus-

 

Mr. D. Lewis (O blaid) – yn siarad o blaid y cais gan nodi manteision cadarnhaol i anghenion iechyd meddwl trigolion unigol ac annog byw'n annibynnol.

 

Trafodaeth gyffredinol – Nododd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Lleol) yn cefnogi argymhelliad y swyddogion i roi caniatâd.    Ymatebodd swyddogion i gwestiynau yn cynghori mai’r defnydd presennol oedd dwy uned annedd Dosbarth C3 ac un uned manwerthu A1.  Nid oedd y cynllun wedi’i gofrestru eto ond roedd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ystyried y nifer o fflatiau a gyflwynwyd yn dderbyniol ar y cyfan.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Win Mullen-James argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Richard Davies.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 25

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

6.

CAIS RHIF 10/2014/1168/PFT - HAFOTTY WEN, CORWEN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried a chymeradwyo amodau cynllunio ynghlwm wrth Dystysgrif Penderfyniad ar gyfer cynllunio mewn perthynas â chodi un tyrbin gwynt gydag allbwn o hyd at  250 cilowat, uchafswm uchder blaen llafn 48m, a datblygiad cysylltiedig yn cynnwys adeiladu trac mynediad, llawr caled, twll cloddio, cysylltiad grid ac ystafell switsys yn Hafotty Wen, Corwen (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i amodau cynllunio ynghlwm wrth Dystysgrif Penderfyniad ar gyfer cynllunio mewn perthynas â chodi un tyrbin gwynt gydag allbwn o hyd at  250 cilowat, uchafswm uchder blaen llafn 48m, a datblygiad cysylltiedig yn cynnwys adeiladu trac mynediad, llawr caled, twll cloddio, cysylltiad grid ac ystafell switsys yn Hafotty Wen, Corwen.  Roedd y Pwyllgor wedi rhoi caniatâd cynllunio amodol ym mis Mawrth 2015.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y swyddogion cynllunio yn credu bod yr amodau drafft fel y manylir yn yr adroddiad yn rhesymol ac yn angenrheidiol o ran y cais ac yn cynnwys materion safonol sy'n berthnasol i geisiadau tyrbinau gwynt.  Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn cyfeirio at y ceblau rheolaeth trydan a holodd am y pellter i’r is-orsaf.  Dywedodd swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw fanylion am yr elfen cysylltiad grid a fyddai'n destun caniatâd ar wahân.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 25

YN ERBYN – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r amodau a nodiadau i'r ymgeisydd fel y nodir yn adran 3 yr adroddiad ar gyfer eu cynnwys ar y Dystysgrif Penderfyniad ar gyfer cais cynllunio 10/2014/1168.

 

 

7.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL HYSBYSEBION - MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol terfynol ar Hysbysebion i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar Hysbysebion i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.  Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i'r adroddiad ac esboniodd y gwahanol gamau yn y broses cyn mabwysiadu dogfennau CCA yn derfynol gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr adroddiad wedi cael ei ohirio gan y pwyllgor ym mis Mawrth 2015 tra'n aros am adborth gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau.  Roedd yr ymarfer ymgynghori wedi arwain at newidiadau mân fel yr amlygwyd yn y ddogfen CCA terfynol a oedd yn cynnwys cyfeiriad at waith yr adran Priffyrdd a gwella’r gosodiad.  Roedd argymhellion gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau hefyd wedi arwain at fân ddiwygiadau, gan gynnwys dileu Atodiad C er mwyn osgoi dryswch rhwng canllawiau cynllunio a phriffyrdd ar arwyddion anawdurdodedig ar dir priffordd.

 

Trafododd yr Aelodau reoleiddio gweithgareddau penodol gyda swyddogion a p'un a oeddent yn cynnwys materion cynllunio neu briffyrdd sydd angen caniatâd neu orfodi gan gynnwys problemau sy'n gysylltiedig â lleoliad byrddau 'A', ysbwriel a masnachu blaen gwrt.  Tynnwyd sylw hefyd at yr angen am ymagwedd gyson at y materion hynny.  Pwysleisiodd swyddogion diben y ddogfen CCA i roi arweiniad ar y mathau o hysbysebion sy'n gofyn am ganiatâd.  Byddai materion o bryder a godwyd gan aelodau gan gynnwys rhwystro, diogelwch i gerddwyr/priffyrdd ac arddangos nwyddau angen ymdrin â hwy ar wahân a chytunodd y swyddogion i gysylltu â chydweithwyr priffyrdd a chynllunio ar faterion penodol yn hynny o beth.  Byddai angen asesu pob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun ac roedd swyddogion yn awyddus i weithio gyda busnesau dan sylw i gyrraedd canlyniad cadarnhaol.  Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau fod y polisi sy’n ymwneud â symud yr arwyddion anawdurdodedig oddi ar dir priffordd yn destun archwilio.  Roedd canlyniadau’n cynnwys newid i'r canllawiau polisi i ymgorffori cynnwys aelodau lleol yn y broses ynghyd â siart llif gorfodi a ddyluniwyd i wella cysondeb.  Ar ôl ei gwblhau gall y siart llif gael ei rannu gydag aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies i air mwy priodol ar gyfer y cyfieithiad Cymraeg o 'ffasgia’ gael ei ddefnyddio yn y ddogfen CCA Cymraeg.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies argymhelliad y swyddog fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cefyn Williams. 

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 25

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau’n mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol terfynol ar Hysbysebion i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad).

 

 

8.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL SIOPAU BWYD PAROD POETH - MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol terfynol ar Siopau Bwyd Parod Poeth i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Rheolwr Polisi Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wedi cyflwyno adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar Siopau Bwyd Tecawê Poeth i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.  Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Cefyn Williams cytunodd swyddogion y byddai gair mwy priodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfieithiad Cymraeg 'tecawê' yn y ddogfen CCA Cymraeg.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad deuddeg wythnos ac roedd crynodeb o'r pedwar sylw a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad.  Ni chynigiwyd gwneud unrhyw newidiadau i’r CCA drafft o ganlyniad i'r ymatebion a gafwyd.  Eglurwyd y byddai ceisiadau ar gyfer bwytai/caffis gydag elfen prydau bwyd parod angen eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain gan gymryd i ystyriaeth y rhaniad gweithredol rhwng 'bwyta i mewn' a 'mynd allan'.

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr adroddiad a rhinweddau’r ddogfen CCA drafft.  Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r cynnig i gyflwyno cyfyngiad 400 metr ar siopau bwyd parod poeth ger ysgolion, yn enwedig gan fod nifer o ysgolion yn agos at ganol trefi, a chydnabuwyd fod gan yr ysgolion eu polisïau eu hunain yn nodi a ddylid caniatáu’r disgyblion i adael tir yr ysgol yn ystod amser cinio.    Nid oedd y Cynghorwyr Rhys Hughes a Stuart Davies yn cefnogi'r elfen honno o’r cynnig yng ngoleuni'r effaith niweidiol bosibl ar Langollen a'r economi busnes lleol a rhannwyd y pryderon hynny gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ynglŷn â Rhuthun.  Eglurodd swyddogion nad oedd y CCA yn ddogfen bolisi ond roedd yn darparu canllawiau a dywedwyd y byddai pob achos yn cael ei drin yn ôl ei deilyngdod ei hun a gall fod amgylchiadau lle nad oedd y mesur hwn yn briodol.  Cadarnhawyd hefyd y rhesymeg y tu ôl i'r cyfyngiad arfaethedig i helpu i fynd i'r afael â phroblem gordewdra ymhlith plant.  Fodd bynnag, teimlai aelodau bod y cynnig yn rhy gyfyngol ar fusnesau presennol a rhai newydd sy'n dymuno arallgyfeirio ac yn groes i’r neges bod Sir Ddinbych yn agored ar gyfer busnes.  Roeddent hefyd o'r farn y byddai'r cynnig yn atal cystadleuaeth iach rhwng busnesau ac yn dileu'r hawl i unigolion ddewis.  Yn ystod trafodaeth bellach cafwyd consensws cyffredinol y dylid dileu'r cyfyngiad arfaethedig ar siopau prydau bwyd parod poeth newydd o'r ddogfen CCA.

 

Cynnig - Cynghorydd Win Mullen-James yn cynnig, eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes, bod paragraff 5.2 sy'n ymwneud â chyfyngiad 400 metr ger ysgolion yn cael ei dynnu o'r ddogfen CCA.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID (TYNNU) - 25

YN ERBYN (TYNNU) - 1

YMATAL - 0

 

Yna pleidleisiodd y pwyllgor ar argymhelliad y swyddogion i fabwysiadu’r ddogfen CCA, ar ôl dileu paragraff 5.2.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 26

YN ERBYN – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD ar ôl tynnu paragraff 5.2, bod yr aelodau’n mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol terfynol ar Siopau Bwyd Parod Poeth i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (fel y manylir yn Atodiad 1 gyda’r adroddiad).

 

 

9.

BRIFF DATBLYGU SAFLE 'TRIONGL RHUDDLAN’ – MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Briff Safle Datblygu drafft ar gyfer 'Triongl Rhuddlan', gan gynnwys diwygiadau arfaethedig i’r ddogfen, ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer 'Triongl Rhuddlan', gan gynnwys newidiadau arfaethedig i’r ddogfen, ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.  Roedd y pwyllgor wedi cymeradwyo’r BDS drafft ar gyfer ymgynghori ym mis Tachwedd 2014.

 

Roedd y broses ymgynghori’n cynnwys dau sesiwn galw heibio gyda nifer dda yn bresennol yn Llyfrgell Rhuddlan gyda phobl leol yn gefnogol i raddau helaeth.  Roedd crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad.  Wrth ymateb i'r sylwadau hynny cynigiwyd nifer o newidiadau a amlygwyd yn y ddogfen derfynol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) i’r swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y BDS fel ffordd o wella ymddangosiad gweledol y dref a denu busnesau newydd i'r ardal.  Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) hefyd yn siarad o blaid y BDS ond yn tynnu sylw at y perygl o lifogydd sy'n gysylltiedig â’r ardal a'r angen i reoli traffig os oedd y safle i gael ei ddatblygu gan gynnwys lliniaru tagfeydd, gwelliannau i ffyrdd a mynediad i'r safle.  Ychwanegodd y Cynghorydd Alice Jones y dylid cymryd i ystyriaeth yr effaith ar y diwydiant amaethyddol yn sgîl y cynnydd mewn traffig a cherbydau nwyddau trwm hefyd.  Cadarnhaodd Rheolwr Polisi Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd newidiadau i'r BDS drafft i adlewyrchu'r canllawiau diweddaraf ar risg llifogydd a oedd wedi'i wneud yn glir o fewn y ddogfen.  Dywedodd am y problemau traffig a godwyd yn ystod y broses ymgynghori a'r mesurau lliniaru sy’n cael eu hystyried.  Roedd y traffig a gynhyrchir yn dibynnu ar y defnydd arfaethedig ar y safle a gellir ceisio cael cyfraniadau ariannol i liniaru unrhyw effaith.  Byddai asesiad trafnidiaeth yn ofynnol hefyd i gyd-fynd ag unrhyw gynigion.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ann Davies argymhelliad y swyddog i fabwysiadu’r ddogfen, gyda’r Cynghorydd Peter Owen yn eilio.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 26

YN ERBYN – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod aelodau’n mabwysiadu'r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer 'Triongl Rhuddlan, ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad, gan gynnwys newidiadau arfaethedig i’r ddogfen, ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.

 

 

10.

HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH - ADRODDIAD GWYBODAETH pdf eicon PDF 56 KB

Derbyn adroddiad gwybodaeth yn diweddaru'r aelodau ar y datblygiadau ar safle Ysbyty Gogledd Cymru (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad gwybodaeth ei gyflwyno, yn unol â chais y pwyllgor ym mis Mawrth 2015, yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiadau ar safle Ysbyty Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Cadeirydd eu bod yn dal i aros am benderfyniad yr Arolygydd ar yr ymchwiliad i wrthwynebiad i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol a gofynnodd i’r pwyllgor dderbyn yr adroddiad heb wneud sylw.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gwybodaeth.

 

 

11.

ADRODDIAD DIWEDDARU A106 – SAFLE POOL PARK, RHUTHUN pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau mewn perthynas â chynnydd Cytundeb Adran 106 ar gyfer Safle Pool Park, Rhuthun.  Darparwyd lluniau diweddar o’r safle hefyd fel y gofynnwyd gan aelodau.

 

Roedd y pwyllgor wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu ym mis Medi 2013. Cytunwyd ar delerau drafft cytundeb A106 gyda mesurau diogelwch i sicrhau y cynhaliwyd gwaith ar yr adeiladau rhestredig ar y cyfle cynharaf yn unol â chamau’r datblygiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Meirick Davies i’r swyddogion am y diweddariad.  Teimlai y dylai'r pwyllgor adolygu cynnydd o bryd i'w gilydd mewn achosion o'r fath er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen.  Cytunodd y Swyddog Cynllunio efallai fod gwerth mewn adrodd yn ôl i'r aelodau ar achosion er gwybodaeth neu ar gyfer adolygiad. Amlygodd y Cynghorydd Alice Jones bwysigrwydd cofnodi pensaernïaeth yr adeiladau a hanes ar gyfer y dyfodol a rhoddwyd sicrwydd bod angen cofnod ffotograffig fel rhan o'r cynllun adfer ac addasu.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n holi Archifau Ysbyty Gogledd Cymru ynglŷn â chofnodion eraill y safle.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gwybodaeth.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.45am.