Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Alice Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen.

Y Cynghorydd Dewi Owens – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen.

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - Cysylltiad Personol - Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 227 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 10 Rhagfyr 2014 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2014.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i rif yr eitem ar y Rhaglen gael ei nodi er hwylustod wrth gyfeirio at eitem flaenorol ar y Rhaglen o fewn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2014  fel cofnod cywir.

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-14)

 

Cyflwynwyd ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y Pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol.   Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â cheisiadau penodol.   Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol.

 

5.

CAIS RHIF 40/2013/1585/PO - TIR I'R DWYRAIN O FODELWYDDAN, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu 1,715 o anheddau gan gynnwys tai fforddiadwy, cartref gofal hyd at 80 ystafell wely a 50 o fflatiau gofal (Dosbarth Defnydd C2), Gwesty hyd at 100 ystafell wely (Dosbarth Defnydd C1), Ysgol Gynradd Newydd, 2 Ganolfan Leol (gan gynnwys Dosbarth Defnydd A1, A2, A3, C3, D1 a D2), 26 hectar o dir cyflogaeth (yn cynnwys cymysgedd defnydd B1, B2 a B8), isadeiledd priffyrdd newydd gan gynnwys ffurfio mynediad newydd a chyswllt rhwng A55 Cyffordd 26 a Ffordd Sarn, llwybrau cerdded a beicio, ardaloedd agored ffurfiol ac anffurfiol, mannau gwyrdd a thirweddu strwythurol ac isadeiledd draenio Tir i’r Dwyrain o Fodelwyddan, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Alice Jones gysylltiad personol gan ei bod yn berchen ar dir gerllaw safle’r ymgeisydd ac mae hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredu Datblygu Bodelwyddan].

 

[Datganodd y Cynghorydd Dewi Owens gysylltiad personol oherwydd ei fod yn adnabod perchnogion y tir a amlygwyd ar gyfer datblygu].

 

Roedd cais wedi’i gyflwyno ar gyfer cais cynllunio amlinellol ar dir i’r dwyrain o Fodelwyddan ar gyfer datblygu 1,715 o anheddau, gan gynnwys anheddau fforddiadwy,  cartref gofal hyd at 80 gwely a 50 fflat gofal agos (dosbarth defnydd C2), gwesty hyd at 100 ystafell wely (dosbarth defnydd C1), ysgol gynradd newydd, 2 ganolfan leol (gan gynnwys Dosbarth defnydd A1, A2, A3, C3, D1 a D2), 26 hectar o dir cyflogaeth (sy'n cynnwys cymysgedd o ddefnydd B1, B2 a B8), seilwaith priffyrdd newydd gan gynnwys ffurfio mynedfa newydd a chyswllt rhwng yr A55 Cyffordd 26 a Ffordd Sarn, llwybrau cerdded a beicio, mannau ffurfiol ac anffurfiol, mannau gwyrdd a thirlunio strwythurol a seilwaith draenio.

 

Siaradwyr Cyhoeddus-

 

Ailadroddodd y Parchedig Andrew Miller (Yn erbyn) –sail ei wrthwynebiad a dywedodd fod y datblygiad yn rhy fawr ar gyfer lleoliad y pentref.   Dywedodd y Parchedig Miller hefyd ei fod wedi cyflwyno cwyn ffurfiol yn erbyn Cyngor Sir Ddinbych gan honni achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus gan Swyddogion Cynllunio.

 

 

 Mr John Hutchinson, Grŵp Gweithredu Datblygu Bodelwyddan (Yn erbyn) - eglurodd nad oedd gan Grŵp Gweithredu Datblygu Bodelwyddan unrhyw gysylltiad â'r Parchedig Miller. Dywedodd Mr Hutchinson fod y datblygiad yn seiliedig ar wybodaeth wedi dyddio ar dwf yn y boblogaeth.  Byddai'r datblygiad yn rhy fawr ar gyfer anghenion tai go iawn i bobl leol.  Byddai'n difetha tir amaethyddol.  Byddai’r perygl o lifogydd hefyd yn bryder mawr.

 

Mr Owen Jones, Cynllunio Boyer (Asiant) (O blaid) - eglurodd bod y CDLl wedi ei fabwysiadu yn 2013. Bu gwaith sylweddol ar y cynllun hwn ers dros 5 mlynedd. Mae'r cynlluniau a gyflwynwyd yn dilyn Polisi a'r briff datblygu. 

 

Trafodaeth Gyffredinol - Mewn ymateb i faterion a godwyd yn y drafodaeth, rhoddodd y Swyddog Cynllunio rywfaint o wybodaeth gefndir a chyd-destun y cais.  Eglurodd y Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer Caniatâd Cynllunio Amlinellol.  Felly, byddai'r datblygiad yn digwydd dros nifer o gamau.  Byddai pob cam yn cael ei gyflwyno yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i weithio drwy faterion a gadwyd yn ôl ac amodau manwl.  Roedd Swyddogion Cynllunio yn gweithio gyda Chyfreithwyr ar hyn o bryd i sicrhau y byddai'r holl elfennau o fewn y cynllun yn cael eu cyflawni.  Mae'r CDLl a fabwysiadwyd yn gofyn am nifer o elfennau manwl i'w darparu fel rhan o'r cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys o leiaf 10% o dai fforddiadwy, tir cyflogaeth, ysgol gynradd a gofynion eraill. Mae'r prif Bolisi CCC5 yn nodi hyn i gyd ac yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.    Mae materion llifogydd a draenio wedi cael sylw yn y dogfennau a gyflwynwyd ac maent wedi cael eu hasesu'n llawn gan Uwch Beiriannydd Perygl Llifogydd y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nid oedd gan unrhyw un o'r arbenigwyr unrhyw bryderon o ran risgiau llifogydd ar y tir.  Byddai system draenio trefol cynaliadwy yn cael ei gosod yn y datblygiad. 

 

Byddai'r caniatâd cynllunio amlinellol yn amodol ar Gytundeb Adran 106.  Roedd Swyddogion Cynllunio wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o ran pa gyfleusterau iechyd y dylid eu darparu ar y safle.  Bydd yr elfen hon ymhlith eraill yn cael ei thrin mewn ceisiadau cynllunio pellach fydd yn cael eu cyflwyno nôl i'r Pwyllgor.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Dave Smith wrth y Pwyllgor ei fod yn cytuno  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 16/2014/1020/PF – NEUADD LLANBEDR, LLANBEDR DC, RHUTHUN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i ddymchwel Neuadd Llanbedr a chodi 9 tŷ tri llawr, a gwaith cysylltiedig yn Neuadd Llanbedr, Llanbedr DC, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel Neuadd Llanbedr a chodi 9 tŷ tri llawr, a gwaith cysylltiedig.

 

Siaradwyr Cyhoeddus-

 

Mr Guy Alford (Yn erbyn) - eglurodd fod Neuadd Llanbedr wedi’i brynu yn 2003 ond ers hynny roedd yr adeilad wedi’i esgeuluso ac nid oedd yn ddichonadwy i'w osod.  Ni fyddai'r datblygiad yn cyflawni angen lleol.  Mae'r datblygiad arfaethedig mewn AHNE yn groes i'r Polisi Cynllunio ac roedd Neuadd Llanbedr o ddiddordeb lleol.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Eglurodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) fod yna hanes cynllunio helaeth i Neuadd Llanbedr. Roedd lleoliad y bloc o anheddau wedi cael ei adolygu.  Ni fyddai’r eiddo sy’n cael ei adeiladu ar gyfer pobl leol.  Roedd datblygiad 80 o dai eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer Llanbedr.  Byddai mynediad yn broblem gan fod y ffordd o'r Neuadd i Lôn Cae Glas wedi bod ar gau am y 12 mis diwethaf oherwydd llithriant. Nid oedd unrhyw dai fforddiadwy wedi’u cynnwys o fewn y datblygiad.

 

Roedd adroddiad dichonoldeb wedi’i wneud ac roedd yr arolygydd adeiladu wedi cytuno bod y tu mewn a’r adeilad mewn cyflwr mor wael na ellid ei achub.   Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd o ran y traffig adeiladu, byddai'r cynllun rheoli’n cael ei gymeradwyo cyn dechrau ar unrhyw waith.   Nid oedd yna ddigon o le i basio ac felly, byddai mynediad drwy'r tai cyngor yn ddewis a ffafrir.    Gallai mannau parcio ychwanegol gael eu cynnwys fel amod ychwanegol yn y cais cynllunio. Roedd y polisi CDLl yn nodi os oedd llai o unedau preswyl yn cael eu hadeiladu nag oedd wedi eu dymchwel yn wreiddiol yna nid oedd angen cynnwys tai fforddiadwy.  Gallai Aelodau osod amod pellach i dai fforddiadwy gael eu darparu.  Nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer Cytundeb Adran 106. Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio y gallai amodau ychwanegol gael eu cynnwys ar gyfer y cais cynllunio i gynnwys y pryderon a godwyd.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Dewi Owens i wrthod yr argymhelliad (yn groes i argymhellion y Swyddogion Cynllunio), eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Dave Simmons i roi caniatâd yn amodol ar amodau cynllunio ychwanegol a/neu Gytundeb Adran 106, i gynnwys:

(a)  Tai Fforddiadwy

(b)  Mannau parcio ychwanegol, a

(c)  Mannau pasio ar ffordd fynediad

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU (gydag amodau ychwanegol) - 16

YMATAL - 0

GWRTHOD - 8

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad yn amodol ar amodau cynllunio ychwanegol.

 

7.

CAIS RHIF 20/2014/0965/PF - ADEILADAU ALLANOL YM MRYN COCH, LLANFAIR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i addasu adeiladau allanol yn 1 annedd yn Adeiladau Allanol Bryn Coch, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol gan ei fod yn byw ym Mhentrecelyn].

 

Cafodd cais ei gyflwyno i addasu adeiladau allanol yn 1 annedd ym Mryn Coch, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr Owen Evans (O blaid) - yn manylu ar y rhesymau dros drawsnewid yr adeilad allanol yn un annedd.

 

Trafodaeth Gyffredinol – anerchodd y Cynghorydd Bobby Feeley y Pwyllgor ar ran yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Hugh Evans, nad oedd yn gallu bod yn bresennol.  Ailadroddodd y Cynghorydd Feeley resymau’r Cynghorydd Evans dros ganiatáu’r cais.  Dim gwrthwynebiadau wedi dod i law gan gymdogion, Cyngor Cymuned, Priffyrdd, nac unrhyw un arall.  Roedd yr ymgeiswyr yn gwpl ifanc sy'n siarad Cymraeg gyda dau o blant sydd, ar ôl 15 mlynedd i ffwrdd o Rhuthun, wedi dychwelyd i'r ardal i fagu eu plant.  Roedd Pentrecelyn angen teuluoedd ifanc sy'n siarad Cymraeg i gadw ei ysgolion, busnesau a gwerthoedd.

 

Tynnodd y Swyddog Cynllunio sylw'r aelodau yn ôl at y Polisi.  Roedd egwyddor yr addasiad yn annerbyniol, gan fod y cais wedi methu dangos sut mae gofynion Polisi PSE4 Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig yng Nghefn Gwlad Agored yn cael eu bodloni, gan nad oedd wedi dangos nad yw defnydd cyflogaeth yn ymarferol neu bod yr annedd yn fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, ac nid oedd unrhyw ystyriaeth gynllunio berthnasol i gyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi cynllunio mabwysiedig.  Nododd nifer o Aelodau eu cefnogaeth i'r cais trwy gydol y cyfarfod.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies i ganiatáu'r cais, yn erbyn argymhelliad Swyddogion Cynllunio i wrthod, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU (yn groes i argymhelliad y Swyddog) -       20

YMATAL - 0  

GWRTHOD - 3

 

PENDERFYNWYD rhoi caniatâd, yn groes i argymhelliad y swyddog, i drawsnewid adeiladau allanol yn 1 annedd ym Mryn Coch, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

8.

CAIS RHIF 01/2013/1599/PF – THE FORUM, 27-29 STRYD FAWR, DINBYCH pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i drosi llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad i greu dau fflat hunangynhwysol yn The Forum, 27-29 Stryd Fawr, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i drosi llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad i greu dau fflat hunangynhwysol yn The Forum, 27-29 Stryd Fawr, Dinbych.

 

Trafodaeth gyffredinol - anerchodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y Pwyllgor ar ran yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

Cynnig – roedd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn cynnig caniatáu'r cais i drawsnewid llawr cyntaf ac ail lawr "The Forum", 27-29 Stryd Fawr, Dinbych ar gyfer 2 fflat hunangynhwysol.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Davies.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 20

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

9.

CAIS RHIF 01/2013/1601/LB – THE FORUM, 27-29 STRYD FAWR, DINBYCH pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais adeilad rhestredig i drosi llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad i greu dau fflat hunangynhwysol yn The Forum, 27-29 Stryd Fawr, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais Adeilad Rhestredig i drosi llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad i greu dau fflat hunangynhwysol yn The Forum, 27-29 Stryd Fawr, Dinbych.

 

Cynnig – roedd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn cynnig caniatáu'r cais Adeilad Rhestredig i drawsnewid llawr cyntaf ac ail lawr "The Forum", 27-29 Stryd Fawr, Dinbych ar gyfer 2 fflat hunangynhwysol, eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen James.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 20

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

10.

CAIS RHIF 03/2014/1067/PO TIR YN (RHAN O ARDD) ADENHURST, FFORDD YR ABATY, LLANGOLLEN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i ddatblygu 0.06 hectar o dir drwy godi annedd (cais amlinellol – yn cynnwys mynediad) ar dir yn (rhan o ardd) Adenhurst, Ffordd yr Abaty, Llangollen (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno (cais amlinellol – yn cynnwys mynediad) i ddatblygu 0.06 hectar o dir  yn (rhan o ardd) Adenhurst, Ffordd yr Abaty, Llangollen, drwy godi annedd.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies i ganiatáu'r cais amlinellol ac roedd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn eilio.

 

PLEIDLAIS - 

CANIATÁU - 19

YMATAL - 0  

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

11.

CAIS RHIF 24/2014/1246/PF CYFADEILAD HYFFORDDIANT GYNNAU, CHWAREL CRAIG Y DDYWART, RHEWL, RHUTHUN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 3 caniatâd cynllunio cod 24/2007/0694 (a roddwyd dan apêl) i ganiatáu i sefydliadau eraill fel yr awdurdodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru i gael caniatâd i ddefnyddio safle Cyfadeilad Hyfforddiant Gynnau, Chwarel Craig y Ddywart, Rhewl, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cais wedi’i gyflwyno i amrywio amod rhif. 3 caniatâd cynllunio rhif cod 24/2007/0694 (a roddwyd dan apêl) i ganiatáu i sefydliadau eraill fel yr awdurdodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru i gael caniatâd i ddefnyddio'r safle yn y Cyfadeilad Hyfforddiant Gynnau, Chwarel Craig y Ddywart, Rhewl, Rhuthun.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) bod trigolion lleol wedi mynegi pryder ynghylch Amod 3. (i) Byddai'r fynedfa i'r safle yn cael ei ystyried yn rhy beryglus ar dro’r briffordd oherwydd y traffig ychwanegol. (ii) na fyddai'r llygredd sŵn ychwanegol a grëwyd gan y saethu ychwanegol ar y safle yn dderbyniol (iii) ni fyddai'r llogwyr yn cael eu goruchwylio. 

 

Eglurodd y Swyddog Cynllunio bod materion sŵn wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.  Roedd y fynedfa i'r safle wedi cael ei derbyn yn ddigonol ac nid oedd gan yr Awdurdod Lleol unrhyw reolaeth dros ddwysedd y defnydd yn ystod oriau gweithredu a ganiateir.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry bod y cais ar gyfer amrywio amod 3 o'r caniatâd cynllunio cod rhif. 24/2007/0694 yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y swyddog.  Nodwyd y sail dros wrthod fel pryder ynghylch (i) rheoli defnyddwyr ar y safle a (ii) chynnydd mewn troseddu lleol ac yn genedlaethol gan rai sy'n hyfforddi ar gyfer defnyddio gynnau.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies amod ychwanegol i gael ei ychwanegu i Oruchwyliwr fod ar y safle bob amser pan fo cyrff allanol yn bresennol ar y safle.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dewi Owens.

 

Yn gyntaf cynhaliwyd pleidlais i gytuno ar y newid a gynigiwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies

 

PLEIDLAIS:

Cytuno i’r newid- 15

Na i’r newid -            5

 

Derbyniwyd y newid.

 

Yna pleidleisiwyd a ddylid caniatáu'r cais, gan gynnwys y newid i'r amod

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 8

YMATAL - 9

GWRTHOD - 12

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

12.

CAIS RHIF 44/2014/0953/PF - 6, GROVE TERRACE, FFORDD Y TYWYSOG, RHUDDLAN, Y RHYL pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais ar gyfer creu mynedfa newydd i gerbydau yn cynnwys cael gwared ar wal derfyn ym mlaen yr eiddo i greu gofod parcio ar gyfer un cerbyd yn 6, Grove Terrace, Ffordd y Tywysog, Rhuddlan, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y cais wedi cael ei dynnu'n ôl cyn y cyfarfod.

 

13.

CAIS RHIF 45/2014/1125/PF - 20 MARINE DRIVE, Y RHYL pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i newid defnydd annedd a fflat i lety gwyliau hunanarlwyo yn 20 Marine Drive, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cais wedi’i gyflwyno i newid y defnydd o annedd a fflat i lety gwyliau hunanarlwyo yn 20 Marine Drive, Y Rhyl.

 

Cynigiwyd - gan y Cynghorydd Barry Mellor i ganiatáu'r cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen James.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 20

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

14.

CAIS RHIF 45/2014/1202/PF - 47 HIGHFIELD PARC, Y RHYL pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i godi ffens bren uchel 2m ger priffordd yn 47 Highfield Park, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cais wedi’i gyflwyno i godi ffens bren uchel 2m ger y briffordd yn 47 Highfield Park, Y Rhyl.

 

Trafodaeth gyffredinol - cytunwyd gan yr aelodau fod y ffens yn cael ei lledu ym mhwynt mynedfa’r eiddo a’r amod hwn i gael ei ychwanegu at y cais.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor i ganiatáu codi ffens bren 2m o uchder, ond i gynnwys yr amod ychwanegol bod y ffens yn cael ei lledu ym mhwynt mynedfa’r eiddo.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 20

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD, ond, fel y nodwyd uchod, i gynnwys yr amod ychwanegol bod y ffens yn cael ei lledu ym mhwynt mynedfa’r eiddo.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm.