Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Ian
Armstrong, Joan Butterfield, Jeanette Chamberlain-Jones, Bill Cowie, Richard
Davies, Rhys Hughes, Margaret McCarroll, Barry Mellor, Peter Owen a Paul
Penlington |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Huw
Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Cefyn Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Merfyn Parry – Cysylltiad Personol a Rhagfarnol – Eitem rhif 8 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 12 Tachwedd 2014
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2014. Cywirdeb –
Sylwodd y Cynghorydd Cheryl Williams nad oedd ei ymddiheuriadau am absenoldeb
wedi’u cofnodi yn y cofnodion. PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2014 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 18) - Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni
glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r ceisiadau
penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i
gyflwyno sylwadau ar lafar cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau
fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHIF CAIS: 08/2014/1139/PF - TIR GER TRELARS IFOR WILLIAMS CYF, CYNWYD, CORWEN PDF 6 KB Ystyried cais i
ddymchwel yr annedd bresennol ac adeiladu maes parcio i wasanaethu ffatri
gyfagos, sy'n cynnwys gwneud newidiadau i'r fynedfa bresennol, newidiadau i
lefelau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Trelars Ifor Williams Cyf,
Cynwyd, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad
personol gan ei fod yn gwneud busnes gyda'r cwmni. Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams
gysylltiad personol gan ei fod yn arfer gweithio i’r cwmni.] Cyflwynwyd cais i ddymchwel yr annedd bresennol ac
adeiladu maes parcio i wasanaethu ffatri gyfagos, gan gynnwys gwneud newidiadau
i'r fynedfa bresennol, newidiadau i lefelau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar
dir ger Trelars Ifor Williams Cyf, Cynwyd, Corwen. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. Berwyn Owen (O blaid) – esboniodd y rhesymeg y tu ôl i’r cais i ddarparu parcio
diogel i weithwyr ac ymwelwyr yn amlygu buddion hir dymor y cais a'i fuddion
wrth fynd i’r afael a’r problemau parcio presennol. Dadl Gyffredinol – Sylwodd y Cynghorydd Cefyn Williams (Aelod
Lleol) bod y rhan fwyaf o bryderon yn
ymwneud â materion traffig ac adroddodd yn ôl ar gynllun peilot i'w weithredu y
byddai'n cyflwyno uchafswm cyflymder o 20mya yn yr ardal y byddai’n lliniaru’r
pryderon hyn. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Cefyn Williams yr
argymhelliad i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick
Davies. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 20 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd
yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
RHIF CAIS: 31/2013/1079/PFHY - TIR YN ELWY MEADOWS, FFORDD ISAF DINBYCH, LLANELWY PDF 5 KB Ystyried cais i
osod cynllun hydro-drydan micro ar dir yn Elwy Meadows, Ffordd Isaf Dinbych,
Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
osod cynllun trydan dŵr micro ar dir yn Elwy Meadows, Ffordd Isaf Dinbych, Llanelwy. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. Ian McDonald (Yn Erbyn) – ailadroddodd ei wrthwynebiad i’r cais fel y manylwyd
yn y cyflwyniadau ysgrifenedig gan ddod i’r casgliad y byddai’r cynllun yn
cynhyrchu ychydig iawn o drydan ar gost fawr a niwed i’r afon a’r cynefin. Mr. Richard Rees, Ymgeisydd (O blaid) – amlygodd y diffyg gwrthwynebiad ymysg ymgyngoreion
statudol, adrannau cyngor a chynghorau dinas/cymunedol, gwrthbrofodd
gyflwyniadau’r clwb pysgota lleol, a chadarnhaodd bod Cyfoeth Naturiol Cymru
wedi rhoi pob cydsyniad angenrheidiol. Dadl Gyffredinol – Rhoddodd y Swyddog Cynllunio rywfaint o wybodaeth
gefndirol a chyd-destun i’r cais.
Eglurodd rolau gwahanol
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Cyngor fel awdurdod cynllunio o fewn y broses
awdurdodi. Roedd y rhan fwyaf o bryderon a godwyd yn ymwneud
â materion o dan reolaeth CNC a gofynnwyd i aelodau ffocysu eu sylw ar yr
ystyriaethau cynllunio materol yn yr achos hwn. Roedd
y Cynghorydd Meirick Davies (Aelod Lleol) yn fodlon fod ystyriaeth lawn wedi’i
roi i bob mater a godwyd a chynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo, eiliwyd
hyn gan y Cynghorydd Huw Williams.
Gofynnodd y Cynghorydd Dewi
Owens i osod yr amodau arfaethedig a gyflwynwyd gan Gyngor Dinas Llanelwy ond
cynghorodd swyddogion bod y materion hynny i’w hystyried gan CNC ac nad oeddynt
wedi gofyn i’r fath amodau gael eu gosod. Yn
ystod y ddadl codwyd yr angen i ystyried pryderon ynghylch llifogydd a
phryderon ynghylch mudo pysgod - o ganlyniad teimlodd rai aelodau y byddai hi
wedi bod yn fuddiol petai cynrychiolwyr CNC wedi mynychu’r cyfarfod er mwyn
rhoi sicrwydd ynghylch pryderon. Cynghorodd swyddogion bod CNC wedi dod i’r
casgliad nad oedd yna berygl ychwanegol o lifogydd o ganlyniad i’r cynllun ac
roeddynt hefyd yn fodlon â'r
manylion ysgol bysgod a gymeradwywyd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies yr
argymhelliad i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw
Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
Ystyried cais ar
gyfer parhad yn nefnydd tir ac adeiladau i dderbyn, storio a dosbarthu
deunyddiau, offer a cherbydau ysgafn sy’n ymwneud â gwifrau pŵer trydanol
(cais ôl-weithredol) yn CIET (UK) LTD., Yr Hen Waith
Dŵr, Ffordd Abergele, Rhuddlan, y Rhyl. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer parhad yn nefnydd
tir ac adeiladau i dderbyn, storio a dosbarthu deunyddiau, offer a cherbydau
ysgafn sy’n ymwneud â gwifrau pŵer trydanol (cais ôl-weithredol) yn CIET
(UK) LTD., Yr Hen Waith Dŵr, Ffordd Abergele, Rhuddlan, y Rhyl. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. Hughes (O
blaid) – ymddiheurodd i breswylwyr lleol os oedd trallod wedi’i achosi dros
y flwyddyn ddiwethaf a manylodd ar gynlluniau i fynd i’r afael â phryderon a
godwyd. Dadl Gyffredinol – Sylwodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod
Lleol) bod CIET (UK) Ltd wedi bod yn gweithredu heb ganiatâd cynllunio a bod
amwynder preswyl wedi’i effeithio yn ystod y cyfnod. Teimlai bod yr amodau arfaethedig yn
annigonol a gofynnodd am nifer o amodau ychwanegol i amddiffyn preswylwyr lleol
ymhellach. Cyfeiriodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) at hanes y safle a’r
cyd-destun presennol wrth amlygu anhawster cydbwyso’r angen am fusnes a diogelu
amwynder preswyl. Gofynnodd o ganlyniad y dylai’r safle dderbyn nwyddau rhwng 09.00 ac 17.00
Dydd Llun i Ddydd Gwener yn unig. Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio bod swyddogion
wedi cynnig amodau i reoli defnydd y busnes a lleihau’r effaith ar breswylwyr
lleol. Teimlodd bod modd cryfhau’r amodau i gymryd i ystyriaeth safbwyntiau
aelodau lleol. Ystyriodd bod yr amseroedd gweithredu y manylwyd amdanynt yn amod 2 yn
rhesymol ac yr eir i’r afael â gweithredu swnllyd fel rhan o amod 1. Darparodd
yr Uwch Beiriannydd safbwynt ar fater y priffyrdd gan gadarnhau nad oedd gan
swyddogion sail i wrthwynebu. Yn nhermau’r posibilrwydd o reoli cyflymder cerbydau, awgrymodd y gallai
bod rhinwedd mewn defnyddio arwyddion terfynau cyflymder cynghorol. Yng ngolau’r materion a godwyd gan aelodau
lleol teimlodd y pwyllgor y dylai amodau ychwanegol gael eu gosod er mwyn mynd
i’r afael â phryderon preswylwyr lleol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Win
Mullen-James, yn amodol ar newid yn yr amseroedd yn amod 2 a chytuno manylion
yr amodau ynghylch sŵn a phriffyrdd
ag aelodau lleol. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO yn unol ag argymhellion swyddogion fel y manylwyd yn yr
adroddiad, yn amodol ar amrywiad yn amod 2 yn newid yr amser gweithredu i fod
rhwng 09.00 ac 17.00 Dydd Llun i Ddydd Gwener, a dylid dirprwyo pŵer i
swyddogion ac aelodau lleol i osod amodau cynllunio i’r cydsyniad er mwyn ateb
pryderon preswylwyr lleol. |
|
RHIF CAIS: 45/2014/0388/PF - SAFLE’R GRANGE HOTEL, 41-42 EAST PARADE, Y RHYL PDF 37 KB Ystyried cais i
ddymchwel y fila ddwyreiniol ac ailddatblygu’r tir drwy adeiladu 44 o fflatiau
sydd i gynnwys 21 o fannau parcio ar y safle, adfer a newid y waliau terfyn
presennol a gwneud gwaith cysylltiedig ar Safle’r
Grange Hotel 41-42 East Parade, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddymchwel y fila ddwyreiniol ac
ailddatblygu’r tir drwy adeiladu 44 o fflatiau sydd i gynnwys 21 o fannau
parcio ar y safle, adfer a newid y waliau terfyn presennol a gwneud gwaith
cysylltiedig ar Safle’r Grange Hotel 41-42 East Parade, y Rhyl. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. Robert Blount (O blaid) – cyfeiriodd at hanes y safle a natur y datblygiad
arfaethedig y byddai’n creu cytbwysedd rhwng adnewyddiad a hyfywdra’r safle. Dadl Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd David Simmons (Aelod
Lleol) yn fodlon cynnig yr argymhelliad i gymeradwyo ond cododd pryderon
ynghylch parcio ceir a gofynnodd i osod amod bod preswylwyr yn y dyfodol yn
prynu trwydded parcio. Gofynnodd hefyd i derfyniad caniatâd cynllunio gael ei ymestyn o ddwy i
dair blynedd oherwydd oedi posib wrth i CADW cytuno â’r dymchwel. Amlygodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr
angen i gyfyngu mynediad/ymadawiad cerbydau adeiladu trwm o’r safle er mwyn
rhoi mynediad at Gartref Nyrsio Bradshaw i gerbydau’r gwasanaethau brys. Ystyriodd y pwyllgor hanes y safle, ei
gyflwr adfeiliedig a safbwyntiau’r Prisiwr Dosbarth yn nhermau hyfywdra
ariannol y safle yn y dyfodol. Codwyd pryderon ynghylch colli treftadaeth o ganlyniad i’r datblygiad a’r
cyferbyniad â'r adeilad modern a ddyluniwyd, cydbwyswyd hyn yn erbyn
tebygoliaeth sicrhau datblygiad y safle yn y dyfodol petai caniatâd yn cael ei
wrthod. Ymatebodd swyddogion i’r materion a godwyd, drwy fanylu ar
ddarganfyddiadau’r asesiad priffyrdd a chynghori y byddai unrhyw angen i brynu
trwydded parcio’n fater rhwng y datblygydd a’r prynwr arfaethedig. Esboniwyd a derbyniwyd y rhesymeg tu ôl
i’r amserlen o ddwy flynedd i'r datblygiad yn dilyn cydsyniad adeilad
rhestredig. Gofynnodd y Cynghorydd Alice Jones bod ystyriaeth yn cael ei roi i roi enw
Cymraeg ar y datblygiad. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Win Mullen-James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
RHIF CAIS: 45/2014/0389/LB - SAFLE’R GRANGE HOTEL, 41-42 EAST PARADE, Y RHYL PDF 38 KB Ystyried cais
adeilad rhestredig i ddymchwel y fila
ddwyreiniol a'r anecs orllewinol ac ailddatblygu’r tir drwy adeiladu 44 o
fflatiau sydd i gynnwys 21 o fannau parcio ar y safle, adfer a newid y waliau
terfyn presennol a gwneud gwaith cysylltiedig ar Safle’r Grange Hotel 41-42
East Parade, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais adeilad rhestredig i ddymchwel y fila ddwyreiniol a'r anecs
orllewinol ac ailddatblygu’r tir drwy adeiladu 44 o fflatiau sydd i gynnwys 21
o fannau parcio ar y safle, adfer a newid y waliau terfyn presennol a gwneud
gwaith cysylltiedig ar Safle’r Grange Hotel 41-42 East Parade, y Rhyl. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. Robert Blount (O blaid) – manylodd ar hanes y safle, cyflwr adfeiliedig y fila
ddwyreiniol a’r rhesymeg y tu ôl i’r dymchwel arfaethedig er mwyn sicrhau
datblygiad hyfyw. Dadl Gyffredinol – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons (Aelod
Lleol) yr argymhelliad i gymeradwyo, drwy amlygu statws yr adeilad fel dolur
llygad sy'n destun fandaliaeth reolaidd fyddai’n elwa o’r datblygiad. Nodwyd y byddai angen awdurdodiad gan CADW
cyn cael cydsyniad adeilad rhestredig i’r dymchwel ac y gallai hyn oedi’r
broses. Siomwyd y Cynghorydd Meirick Davies i nodi cyflwr
adfeiliedig y presennol yr adeilad a gofynnodd a oedd digon wedi’i wneud i
sicrhau ei ddyfodol. Amlygodd swyddogion hanes brith y safle cyn y cais cyfredol a’r rhesymeg y
tu ôl i’r diffyg gweithredu gorfodi oherwydd cyflwr ariannol y perchennog. Awgrymwyd bod modd ystyried unrhyw bryderon
ynghylch hynny gan y pwyllgor craffu priodol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Win Mullen-James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
RHIF CAIS: 45/2014/0908/PF – LLE CHWARAE ODDI AR FFORDD CILGANT/GORDON AVENUE, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i newid defnydd yr hen MUGA i brosiect tyfu bwyd cymunedol
sy'n cynnwys rhandiroedd gwlâu blodau wedi’u codi yn y Lle Chwarae oddi Ffordd
Cilgant/Gordon Avenue, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid hen Lecyn Gemau
Amlddefnydd yn brosiect tyfu bwyd cymunedol wedi’i wneud o randiroedd wedi'u
codi ar y Maes Chwarae oddi ar Ffordd Cilgant / Gordon Avenue, y Rhyl. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. Paul Gallagher (O blaid) – amlygodd fuddion y cyfleuster arfaethedig fel
canolbwynt fyddai’n dod â’r gymuned at ei gilydd, cyfeiriodd at y problemau
oedd ynghlwm a’r safle fel Llecyn Gemau Amlddefnydd, ac ymatebodd i’r
gwrthwynebiadau a godwyd. Dadl Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd David Simmonds ar
ran aelodau lleol i gefnogi’r prosiect fel defnydd ardderchog ar gyfer y safle,
lle’r oedd gofyn am gyfleuster o’r fath. Ychwanegodd bod yr hen Lecyn Gemau Amlddefnydd
wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd yn ddolur llygaid. Roedd aelodau o blaid y cynllun ond
cyfeiriwyd at yr angen i ystyried y potensial ar gyfer ymddygiad
gwrthgymdeithasol yn y cyfleuster newydd. Nodwyd bod problemau gwrthgymdeithasol wedi eu
lleihau oherwydd adleoli teuluoedd yng Ngorllewin y Rhyl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Pat Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. Ar y pwynt hwn
(11.20 a.m.) cafwyd egwyl yn y cyfarfod ar gyfer lluniaeth. |
|
RHIF CAIS: 44/2014/0953/PF - 6, GROVE TERRACE, FFORDD Y TYWYSOG, RHUDDLAN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer creu mynedfa newydd i gerbydau yn cynnwys cael gwared ar wal derfyn ym
mlaen yr eiddo i greu gofod parcio ar gyfer un cerbyd yn 6, Grove Terrace, Ffordd y Tywysog, Rhuddlan, y Rhyl (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer creu mynedfa newydd i
gerbydau yn cynnwys cael gwared ar wal derfyn ym mlaen yr eiddo i greu gofod
parcio ar gyfer un cerbyd yn 6, Grove Terrace, Ffordd y Tywysog, Rhuddlan. Ystyriodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol)
nad oedd yr adroddiad wedi ystyried yn llawn ceisiadau mynediad tebyg yn yr
ardal yn ystod misoedd diweddar, ac awgrymodd bod y cais yn cael ei ohirio hyd
nes ceir gwybodaeth bellach ynghylch hyn. Awgrymodd y Swyddog Cynllunio nad oedd yn
ymwybodol o unrhyw geisiadau eraill oni bai am y rhai o fewn yr adroddiad a phapurau
atodol ond roedd yn hapus i gytuno a’r cais i ohirio ac i geisio darparu mwy o
fanylion. Cynghorodd y Cynghorydd Arwel Roberts nad oedd wedi bod yn bresennol yn yr
ymweliad safle diweddar a bod ei bresenoldeb wedi’i gofnodi’n anghywir yn y
papurau atodol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ann Davies, a
eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts, bod y cais yn cael ei ohirio. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO – 16 YN ERBYN GORHIRIO – 1 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO’R cais er mwyn caniatáu i fwy o wybodaeth gael ei darparu
ynghylch ceisiadau mynediad blaenorol yn yr ardal. |
|
RHIF CAIS: 01/2013/1599/PF – THE FORUM, 27-29 STRYD FAWR, DINBYCH PDF 5 KB Ystyried cais i
drosi llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad i greu dau fflat hunangynhwysol yn
The Forum, 27-29 Stryd Fawr, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i drosi llawr cyntaf ac ail lawr
yr adeilad i greu dau fflat hunangynhwysol yn The Forum, 27-29 Stryd Fawr,
Dinbych. Cadarnhaodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler (Aelod
Lleol) bod ganddi bryderon ynghylch y cais. Teimlodd y Cynghorydd Meirick Davies bod y
cynlluniau a ddarparwyd gyda’r cais yn annigonol a chynigodd bod y cais yn cael
ei ohirio i alluogi i fwy o wybodaeth gael ei darparu. Gofynnodd hefyd bod ymweliad i’r safle’n
cael ei drefnu. Cynghorodd y Swyddog Cynllunio bod mwyafrif y gwaith arfaethedig yn fewnol. Ystyriodd swyddogion bod digon o fanylion
wedi’u darparu o fewn yr adroddiad ond fe barchwyd y safbwynt ganddynt fod angen
mwy o wybodaeth. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies,
wedi’i eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts, bod y cais yn cael ei ohirio. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO – 17 YN ERBYN GORHIRIO – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO’R cais er mwyn i
gynlluniau manwl pellach gael eu darparu. |
|
RHIF CAIS: 01/2013/1601/PF – THE FORUM, 27-29 STRYD FAWR, DINBYCH PDF 5 KB Ystyried cais
adeilad rhestredig i drosi llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad i greu dau fflat
hunangynhwysol yn The Forum, 27-29 Stryd Fawr, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais adeilad rhestredig i drosi llawr
cyntaf ac ail lawr yr adeilad i greu dau fflat hunangynhwysol yn The Forum,
27-29 Stryd Fawr, Dinbych. Cynnig – Ailadroddodd y Cynghorydd Meirick Davies ei
safbwynt (o dan yr eitem flaenorol) bod cynlluniau annigonol wedi’u darparu
gyda’r cais a chynigodd, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts, bod y
cais yn cael ei ohirio. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO – 17 YN ERBYN GORHIRIO – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO’R cais er mwyn i gynlluniau manwl pellach gael eu darparu. |
|
RHIF CAIS: 18/2014/1133/PS - TIR Y TU ÔL I’R GOLDEN LION INN, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 36 KB Ystyried cais i ddileu
amodau 6, 7 ac 8 caniatâd cynllunio amlinellol rhif 18/2010/1503 yn ymwneud â chod ar gyfer gofynion cartrefi
cynaliadwy ar dir y tu cefn i’r Golden Lion Inn, Llandyrnog, Dinbych (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry, fel
Ymgeisydd, gysylltiad personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod wrth i’r
eitem hon gael ei thrafod.] Cyflwynwyd cais i ddileu amodau 6, 7 ac 8 Caniatâd
Cynllunio Amlinellol rhif 18/2010/1503 yn ymwneud â gofynion y Cod
Cartrefi Cynaliadwy ar dir y tu ôl i’r Golden Lion Inn, Llandyrnog, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y cynghorydd Meirick Davies yr
argymhelliad i gymeradwyo, fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog. |
|
RHIF CAIS: 41/2014/0757/PF - YEW TREE, BODFARI, DINBYCH PDF 36 KB Ystyried cais ar
gyfer codi annedd ddeulawr a garej (diwygio’r cynllun a gymeradwywyd yn
flaenorol dan gais rhif 41/2013/1498/PF -
Yew Tree, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi annedd ddeulawr
newydd a garej (diwygiad i gynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan gais rhif 41/2013/1498/PF) yn Yew Tree, Bodfari, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Arwel Roberts. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
RHIF CAIS: 43/2014/0905/PF - ICELAND FOODS A BEVANS HOMEWARES, FFORDD LLYS NANT, PRESTATYN PDF 39 KB Ystyried cais ar gyfer dymchwel unedau manwerthu presennol, adeiladu teras
o 4 uned manwerthu newydd, ail-gyflunio’r maes parcio presennol i gwsmeriaid,
gwneud estyniad i'r maes parcio presennol i staff i’r gogledd-ddwyrain o’r
safle a gwneud gwaith tirweddu cysylltiedig a gwaith i ganiatáu mynediad i
gerddwyr / seiclwyr / cerbydau (Cam 2 Parc Siopa Prestatyn) yn Iceland Foods a
Bevans Homewares, Ffordd Llys Nant, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddymchwel unedau manwerthu
presennol, adeiladu teras o 4 uned manwerthu newydd, ail-gyflunio’r maes parcio
presennol i gwsmeriaid, gwneud estyniad i'r maes parcio presennol i staff i’r
gogledd-ddwyrain o’r safle a gwneud gwaith tirweddu cysylltiedig a gwaith i
ganiatáu mynediad i gerddwyr / seiclwyr / cerbydau (Cam 2 Parc Siopa Prestatyn)
yn Iceland Foods a Bevans Homewares, Ffordd Llys Nant, Prestatyn. Dadl Gyffredinol – Rhoddodd y Swyddog Cynllunio rhywfaint o
wybodaeth gefndirol a chyd-destun i’r cais a manylodd ar y rhesymau y tu ôl i’r
argymhelliad i ganiatáu. Mynegodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
(Aelod Lleol) bryderon ynghylch agweddau neilltuol o’r cynllun ond derbyniodd y
gwaith lliniaru a gyflawnwyd o ystyried y cyfyngiadau ar isadeiledd. Wrth
gymryd i ystyriaeth effaith bositif y cynllun ar gyflogadwyedd a’r economi,
cynigiodd yr argymhelliad i gymeradwyo, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Stuart
Davies. Nid oedd y Cynghorydd Bob Murray yn gwrthwynebu’r
cais ond manylodd pryderon ynghylch effaith gweledol, amwynder preswyl a
materion ynghylch priffyrdd ac ymgeisiodd sicrwydd pellach ynghylch y rhain. Yn
ystod y ddadl ganlynol ystyriwyd buddion y cynllun gan aelodau a thrafodwyd
pryderon â swyddogion a adroddodd ar ddarganfyddiadau’r asesiad priffyrdd a’r
archwiliad diogelwch annibynnol ynghyd â mesurau i liniaru pryderon ynghylch
priffyrdd. Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r datblygiad yn cael ei
fonitro am gyfnod o chwe mis yn dilyn ei agor â golwg ar fynd i'r afael ag
unrhyw bryderon pellach yn codi ohono.
Ystyriwyd bod modd mynd i’r
afael yn ddigonol â phryderon cynllunio eraill drwy amodau ac fe drafododd
aelodau’r potensial am amodau pellach i liniaru’r pryderon a godwyd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
yr argymhelliad i gymeradwyo, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Stuart Davies,
yn amodol ar amodau ychwanegol yn gofyn am osod wal sgrin ar hyd Ffordd Llys
Nant ac arwyddion cynghorol ar gyfer cerbydau’n defnyddio’r safle er mwyn
lliniaru problemau traffig. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion swyddogion fel y nodwyd
yn yr adroddiad a’r papur atodol, a bod pŵer yn cael ei dirprwyo i
swyddogion, yn cydweithio â’r Aelod Lleol, i osod amodau cynllunio ychwanegol
ar y cymeradwyaeth ynghylch gosod wal sgrin ar hyd Ffordd Llys Nant ac
arwyddion cynghorol ar gyfer cerbydau ar y safle. |
|
RHIF CAIS: 45/2014/0875/PF - 56 ST. MARGARETS DRIVE, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
godi ystafell haul ar ochr yr annedd yn 6 St. Margarets Drive, y Rhyl (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i adeiladu ystafell haul wrth ochr
annedd yn 56 St. Margaret’s Drive, Y Rhyl. Dadl Gyffredinol – Awgrymodd y Cynghorydd David Simmons nad
oedd gan yr Aelod Lleol y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones unrhyw
wrthwynebiad i'r cais. Cynnig – Ni chododd y Cynghorydd Cheryl Williams
(Aelod Lleol) unrhyw wrthwynebiad a chynigodd yr argymhelliad i gymeradwyo, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
RHIF CAIS: 45/2014/1132/PF - 11-33 ABBEY STREET, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
ddymchwel rhifau 11-25 Abbey Street a chodi 7 annedd gyda gerddi, parcio a
thirlunio cysylltiedig; ac ailwampio 4 fflat a 2 uned siop llawr gwaelod yn
27-33 Abbey Street (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddymchwel rhif 11 – 25 Abbey Street ac adeiladu 7 annedd â gerddi, parcio a thirlunio
cysylltiol; ac ailwampio 4 fflat a 2 uned manwerthu llawr gwaelod yn 27 – 33
Abbey Street. Dadl Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd David Simmons o
blaid y cais ar ran yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr Ian Armstrong a Joan
Butterfield. Cynghorodd bod y gwaith yn ffurfio rhan o ailddatblygu Gorllewin y Rhyl ac
roedd yn cynnig llety gwell o lawer na’r anheddau presennol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons yr
argymhelliad i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Pat Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 16 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
Ystyried adroddiad (copi
ynghlwm) sy’n gofyn am farn aelodau ynghylch a ddylai'r Cyngor gymryd rhan yn y
broses gynllunio mewn perthynas â Phrosiect Isadeiledd Mawr Cysylltiadau
Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CCyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn ceisio safbwyntiau aelodau ar os ddylai’r
Cyngor gymryd rhan yn y broses gynllunio’n ymwneud â Phrosiect Isadeiledd Mawr
Cysylltiadau Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru. Atgoffwyd aelodau gan swyddogion o gefndir yr
adroddiad a’r ffaith bod y cyngor wedi mabwysiadu gwrthwynebiad mewn egwyddor
i’r prosiect llinell uwchben o blaid cysylltiad tanddaearol. Er gwaetha’r safbwynt hynny roedd Scottish
Power Manweb wedi cadarnhau eu bwriad i symud ymlaen â chynigion i osod
llinellau uwchben a manylodd swyddogion ar ddewisiadau ymgysylltu'r Cyngor yn y
dyfodol o ran y broses cynllunio ynghyd â'r goblygiadau sy'n codi ohonynt. Yn ystod dadl fanwl ystyriodd aelodau buddion bob
dewis er mwyn bodloni eu hunain ynghylch y ffordd orau o symud ymlaen i alluogi’r
cyngor i weithredu’r dylanwad fwyaf dros y prosiect fferm wynt a darparu’r
gynrychiolaeth orau posib ar ran preswylwyr. WWrth gydnabod gwrthwynebiad y Cyngor i
linellau uwchben, nodwyd y gall gwrthod ymwneud â’r broses achosi diffyg cyfle
i'r Cyngor awgrymu cynigion lliniaru pe bai angen. Ystyriodd aelodau hefyd yng ngolau
cyfyngiadau ariannol presennol y gallai fod yn amhriodol ariannu’r ymwneud â’r
broses pan fo hi’n bosib adennill y costau hyn gan y datblygwr. Cadarnhaodd swyddogion y byddai cyngor ac
arweiniad yn cael ei roi i aelodau fel rhan o’r broses fel gydag apeliadau
cynllunio. Amlygwyd hefyd y perygl y gall ymwneud â’r broses arwain at ymgynghorwyr
annibynnol yn anghytuno â safbwynt y Cyngor ynghylch llinellau uwchben a
thanseilio’r gwrthwynebiad hynny. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry
Ddewis C fel y manylwyd o fewn yr adroddiad, fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Peter Evans. Yng ngolwg yr amnewidiadau posib yn codi o’r bleidlais fe’i hystyriwyd hi’n
ymarferol i bleidleisio ar y dewis cyntaf fel y manylwyd o fewn yr adroddiad ar
y dechrau. O ganlyniad cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Ddewis A, fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James. PLEIDLAIS: O BLAID – 15 YN ERBYN – 0 YMATAL – 1 PENDERFYNWYD mewn cydlyniad a Dewis A fel y manylwyd o
fewn yr adroddiad, bod y Cyngor yn arwyddo Cytundeb Perfformiad Cynllunio ac yn
ymwneud â’r broses. |
|
PROTOCOL AR GYFER PANELI ARCHWILIO SAFLE PDF 58 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno protocol diwygiedig i’w mabwysiadu ar
gyfer llwyfannu Paneli Archwilio Safle. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd yn cyflwyno protocol diwygiedig ar gyfer llwyfannu Paneli
Arolygu Safle i’w mabwysiadu gan y pwyllgor. Yng ngolau adolygiad cyfredol gan Lywodraeth Cymru
i mewn i agweddau ar swyddogaeth gynllunio Awdurdodau Lleol argymhellwyd gan swyddogion bod y
canllawiau diwygiedig yn cael eu mabwysiadu am gyfnod prawf pellach o chwe mis,
yn disgwyl datblygiadau. Tynnwyd sylw aelodau at y cynydd mewn aelodaeth i
gynnwys cynrychiolydd o bob grŵp gwleidyddol. Yn anffodus ni fu llawer yn mynychu
ymweliadau safle a gofynnwyd i Arweinwyr Grŵp annog i’w haelodau fynychu a
sicrhau gwell gynrychiolaeth yn y cyfarfodydd hynny. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies iddi
gael ei wneud yn gliriach yn y protocol bod aelodaeth yn cynnwys cynrychiolydd
o bob grŵp gwleidyddol yn ogystal â’r aelodaeth bresennol. PENDERFYNWYD bod y Protocol Panel Arolygu Safle
diwygiedig, fel yr atodwyd i’r brif adroddiad, yn cael ei mabwysiadu am gyfnod
pellach o chwe mis. Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 p.m. |