Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Michelle
Blakeley-Walker a Terry Mendies. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad
personol yn eitem rhif 5 gan ei fod yn adnabod y siaradwr cyhoeddus. Datganodd y Cynghorydd James Elson gysylltiad personol yn
eitem rhif 5 gan ei fod yn adnabod y siaradwr cyhoeddus. Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol yn
eitem rhif 6 gan ei fod yn adnabod teulu’r ymgeisydd. Datganodd y Cynghorydd Chris Evans gysylltiad personol yn
eitem rhif 6 gan fod yr ymgeisydd yn ffrind. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025. Felly: PENDERFYNWYD: derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025 fel
cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau. |
|
CAIS RHIF 47/2023/0708 - HEN GLWB RYGBI’R RHYL, FFORDD WAEN, RHUDDLAN Ystyried cais i
newid defnydd tir ac adeilad clwb presennol i ffurfio safle glampio, gan
gynnwys gosod 9 pod glampio, adleoli’r fynedfa bresennol, ffurfio ffyrdd a
llwybrau mewnol, gosod 2 uned trin carthion, a gwaith cysylltiedig (copi
ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir ac
adeilad clwb presennol i ffurfio safle glampio gan gynnwys gosod 9 pod glampio,
adleoli’r fynedfa bresennol, ffurfio ffyrdd a llwybrau mewnol, gosod 2 uned
trin carthion a gwaith cysylltiol. Siaradwr Cyhoeddus – Gethin Jones
(Asiant) - (O blaid) – Gofynnodd yr ymgeisydd am ganiatâd ar gyfer 9 Pod
gwyliau moethus ar dir hen Glwb Rygbi'r Rhyl. Fel busnes lleol, y nod oedd arallgyfeirio
arlwy o fewn yr ardal a chynnig rhywbeth arbennig i’r gymuned chwaraeon. Y
weledigaeth oedd creu cyrchfan gwyliau unigryw mewn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) tra'n adfer y Clwb Rygbi segur ynghyd â chreu swyddi rhan
amser a llawn amser. Fel yr amlinellwyd mewn dogfennau blaenorol,
roedd y safle wedi wynebu problemau gyda mynediad heb awdurdod a thipio
anghyfreithlon yn ddiweddar. Yn flaenorol roedd Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych
(CSDd) wedi cefnogi cais am 46 uned ar y safle. Roedd y cynllun newydd wedi'i
gwtogi'n sylweddol. Ffocws allweddol y cynnig oedd gwella’r clwb
presennol, gan roi cyfle i fusnesau lleol ac entrepreneuriaid ddefnyddio’r
adeilad fel swyddfeydd am brisiau gostyngol. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru
eisoes wedi cymeradwyo’r cynllun draenio ar gyfer y safle ac, yn ddiweddar,
roedd timau pêl-droed lleol wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio’r caeau
pêl-droed. Roedd y cynnig yn wahanol iawn i
ddatblygiadau eraill yn yr ardal a'i nod oedd rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio'r
dirwedd leol. Roedd y cynllun busnes yn amlinellu'r buddion i’r gymuned leol a
ddeuai yn sgil y datblygiad. Anghytunwyd yn gryf y byddai llawer o
ymwelwyr â'r safle yn dibynnu ar ddefnyddio ceir i deithio o amgylch yr ardal
leol. O ystyried pa mor agos yw’r safle at lwybrau troed Clawdd Offa,
rhagwelwyd y byddai llawer o ymwelwyr â’r safle yn gerddwyr sy’n teithio i
bentrefi a threfi lleol ar droed gan ddilyn arwyddbyst o fewn yr ardal. Roedd
yn bwysig nodi y byddai'r cais blaenorol a gyflwynwyd wedi arwain at lawer mwy
o deithio mewn car, heb unrhyw wrthwynebiad gan y Gwasanaethau Priffyrdd. Siaradwr Cyhoeddus - Deirdre
Williams (Trigolyn) - (Yn Erbyn) - Ystyriwyd y Podiau yn garafanau sefydlog ac
felly nid oeddent yn cael eu cefnogi gan Bolisi Cynllunio. Roedd y safle mewn
cefn gwlad agored ac wedi'i amgylchynu gan dir amaethyddol BMV. Nid oedd y safle mewn lleoliad cynaliadwy gan
nad oedd yn hawdd ei gyrraedd heblaw mewn car. Nid oedd y cysylltiadau i
gerddwyr ag aneddiadau yn addas a byddai'n annog pobl i beidio â cherdded
oherwydd natur amodau'r priffyrdd. Roedd Gweinidog Cymru wedi gwrthod caniatâd
yn flaenorol ar gyfer datblygiad caban mwy (40 uned). Fodd bynnag, roedd
egwyddor y penderfyniad hwn yn dal i fod yn berthnasol i'r cais llai hwn. Byddai'r cynnig yn golygu bod mwy o geir yn
defnyddio'r ffyrdd o amgylch y safle ac mae’n bosib na fyddai ymwelwyr yn gyrru
yn unol ag amodau'r ffordd. Roedd arlwy gwyliau presennol o fewn y
cyffiniau lleol ac nid oedd tystiolaeth o'r angen am y podiau arfaethedig. Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd y Cadeirydd fod cyfarfod safle
wedi'i gynnal a chroesawodd yr aelodau a oedd yn bresennol i roi adborth i'r
Pwyllgor. Dywedodd y Cynghorydd Chris Evans fod
presenoldeb da yn y cyfarfod safle. Roedd y cynlluniau ar gyfer y safle wedi
newid yn aruthrol ac roedd pryderon gan drigolion ynglŷn â'r ffyrdd o
amgylch y safle. Aeth y Cynghorydd Merfyn Parry i’r cyfarfod
ar y safle a mynegodd ei dristwch gyda chyflwr presennol y safle. Roedd yn
amlwg bod llosgi wedi digwydd ar y safle ac wedi ei adael. Roedd yn ddiddorol
cerdded o amgylch y safle a gweld y cynlluniau. Dywedodd y Cynghorydd Ellie Chard ei ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 47/2024/1288 - TIR RHWNG BARN HALL RHUALLT A MILL COTTAGE, RHUALLT Ystyried cais ar
gyfer codi annedd i weithwyr amaethyddol, a’r gwaith cysylltiedig (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi annedd dros dro i
weithwyr amaethyddol a gwaith cysylltiedig. Siaradwr Cyhoeddus – Sion Roberts
(Asiant) – (O blaid) - Cais oedd hwn i godi tŷ dros dro ar gyfer gweithwyr
amaethyddol ar safle amaethyddol. Nid oedd annedd ar y tir ar hyn o bryd ac
roedd yr ymgeisydd yn rhentu eiddo 10 milltir i ffwrdd, oddi ar y safle, sy'n
golygu bod angen teithio i’r safle ac oddi yno bob dydd i ofalu am dda byw ar y
tir. Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, byddai'r
gweithwyr amaethyddol ar y safle'n barhaus, gan eu galluogi i ymdrin ag unrhyw
argyfyngau wrth iddynt godi. Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Cynllunio oherwydd gwrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r
Waen, oherwydd yr effaith ar yr AHNE. Fodd bynnag, roedd Nodyn Cyngor Technegol
6 (TAN 6) sef canllawiau allweddol Llywodraeth Cymru yn caniatáu ar gyfer codi
anheddau amaethyddol, cyn belled y cydymffurfir â’r canllawiau. Darparwyd
gwybodaeth yn y cais a oedd yn cadarnhau sut roedd y cynnig yn cydymffurfio â
TAN 6. Cynllun oedd hwn ar gyfer lleoli carafán dros
dro i alluogi busnes y fferm i dyfu. Pe bai'n tyfu'n ddigonol ymhen 3 blynedd i
gyfiawnhau annedd barhaol ar y safle, byddai angen cyflwyno cais cynllunio
pellach. Trafodaeth Gyffredinol – Ategodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Chris
Evans, mai cais am annedd dros dro yn unig oedd hwn. Gofynnwyd am eglurhad
ynghylch pwysigrwydd TAN 6 gan Swyddogion. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod TAN 6
yn ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ymwneud â’r rheol ar gyfer
caniatáu annedd newydd yng nghefn gwlad agored i weithiwr amaethyddol fyw
ynddi. Defnyddiwyd profion llym yn y ddogfen ac roeddent yn ymwneud â'r
gofynion i fod ar y safle, nifer y da byw a maint y tir. Rhoddwyd ystyriaeth
hefyd o ran a ellid defnyddio adeilad arall ar y safle i breswylio ynddo. Roedd
yr ymgeisydd yn ceisio caniatâd i godi annedd dros dro gan fod y busnes yn
tyfu. Gellir gwneud cais am annedd barhaol bosibl yn y dyfodol yn dibynnu ar
lwyddiant y busnes. Byddai'r annedd dros dro yn sefyll am 3 blynedd, a manylwyd
ar yr amodau ar gyfer diwedd y cyfnod 3 blynedd yn yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry ei bod yn
bwysig bod cynlluniau ar waith ar gyfer diwedd y cyfnod 3 blynedd i sicrhau y
cedwir at amodau'r cais arfaethedig. Amlygodd y Cynghorydd Andrea Tomlin yr
adroddiad a oedd yn dweud y rhagwelwyd y byddai nifer y da byw yn dyblu.
Gofynnodd beth fyddai'n digwydd pe na bai hyn yn digwydd. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai cais
ydoedd i'r annedd fod ar y safle am 3 blynedd. Ar ddiwedd y cyfnod o 3 blynedd,
byddai angen cyflwyno gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn dangos bod niferoedd y da
byw yn cyd-fynd â chanllawiau cenedlaethol. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Karen Edwards y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhellion y
swyddog, ac fe’i HEILIWYD gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Pleidlais – O blaid – 18 Yn erbyn – 0 Ymatal – 1 PENDERFYNWYD: y dylid
CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog. |
|
CAIS RHIF 47/2024/1557 - GWEITHFEYDD GWAREDU CARTHION, TREMEIRCHION, LLANELWY Ystyried cais ar
gyfer newid defnydd tir ac adeiladu Triniaeth Gwlyptir Adeiledig Integredig
(ICTW), gan gynnwys adeiladu 2 tanc septig o dan y ddaear, creu 3 cell gwlyptir
gyda pheiriannau, cyfleuster lles, ffyrdd mewnol newydd, ffensio, tirlunio a
gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir ac
adeiladu Triniaeth Gwlyptir Adeiledig Integredig, gan gynnwys gosod 2 danc
septig tanddaearol, creu 3 cell gwlypdir a phlannu coed, cyfleuster lles,
ffyrdd mynediad mewnol newydd, ffensys, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig. Siaradwr Cyhoeddus – Jenny Coxon
– (Asiant) - (O blaid) – Ar hyn o bryd byddai dŵr wedi’i drin o waith trin
dŵr gwastraff Tremeirchion yn llifo i’r afon gyfagos Roedd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys
adeiladu tair cell gwlypdir ac isadeiledd cysylltiedig gerllaw'r gwaith
presennol. Cyn i'r dŵr gwastraff gyrraedd y celloedd byddai'n mynd drwy
danciau septig i gael gwared ar unrhyw falurion mawr. Byddai’r dŵr wedyn
yn mynd yn araf drwy’r celloedd, gyda’r planhigion yn y gwlypdir yn glanhau’r
dŵr ar bob cam, gan ddelio ag unrhyw ddŵr yn gollwng. Roedd y datblygiad arfaethedig wedi’i
ddylunio i gyflawni targedau ffosffad llymach a osodwyd gan Cyfoeth Naturiol
Cymru, ynghyd â chynyddu bioamrywiaeth ar y safle. Roedd y datblygiad arfaethedig yn arbrawf i
Dŵr Cymru a'r cyntaf yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, profwyd y dechnoleg
a ddefnyddiwyd ac roedd sawl cynllun llwyddiannus yn y DU. Byddai'r gwaith presennol yn aros yn ei le am
3 blynedd ac unwaith y byddai'r gwlypdir yn gweithredu'n llwyddiannus a'r
gwaith yn dod i ben yn barhaol, byddai’n cael ei dynnu oddi yno. Bu pryderon ynglŷn â'r potensial i arogl
ddod o'r safle, a gwnaed yn glir na fyddai'r newid yn y gwaith trin yn
cynyddu'r risg o unrhyw arogl. Byddai'r dŵr yn y gwlypdiroedd yn rhedeg yn
gyson ac unwaith y byddai'r planhigion wedi ymsefydlu'n llawn, llai nag 20% o’r
gwlypdir fyddai’n ddŵr agored, gan gyfyngu ar yr arogleuon posibl. Ni fyddai'r cynnig yn arwain at fwy o risg o
sŵn ac roedd y cynllun wedi'i ddylunio i sicrhau nad oedd unrhyw risg o
lifogydd i'r ardal gyfagos. Byddai'r ymgeisydd yn cyflwyno mwy o fanylion
mewn cynllun datblygu amgylcheddol adeiladu diwygiedig yn mynd i'r afael â'r
pryderon a godwyd gan ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r ymgynghoriad. Oherwydd lefel uchel y sgrinio i'r coetir i'r
gogledd a natur graddfa fechan y cynnig, byddai'r effaith ar y dirwedd
amgylchynol yn fach iawn. Roedd y cais yn unol ag egwyddorion allweddol
Polisi Cynllunio Cymru yn ogystal â pholisïau mabwysiedig megis y Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl). Trafodaeth Gyffredinol – Anerchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Chris
Evans, bryderon ynghylch traffig gwaith adeiladu o amgylch yr ardal ac i'r
safle, a gofynnodd am eglurder ar y cynllun o ran cerbydau yn cael mynediad i'r
safle. Nodwyd hefyd bod problemau dŵr eisoes yn Nhremeirchion. Dywedodd yr Uwch Beiriannydd fod y cais yn
cynnwys cynllun rheoli traffig adeiladu. Mae'r fynedfa i'r safle eisoes yn cael
ei defnyddio ac ni chafodd unrhyw broblemau eu hadrodd yn flaenorol. O ran y pryderon ynghylch y posibilrwydd y
byddai arogl yn dod o'r safle, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y system
newydd a gynigiwyd yn system well na'r system sydd eisoes ar waith, ac felly ni
ragwelir unrhyw broblemau’n ymwneud ag arogleuon. Pe bai problemau arogl yn
codi, byddai Tîm Diogelu'r Cyhoedd yn ymchwilio ac yn delio â'r mater. Croesawodd y Cynghorydd Merfyn Parry y cais
cadarnhaol a gofynnodd am berthynas waith agos gyda Dŵr Cymru ar y cynllun
newydd i roi gwybod am unrhyw geisiadau posibl yn y dyfodol. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Jon Harland y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y
Swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Alan James. Pleidlais – O blaid – 18 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS RHIF 40/2024/1079 - TIR GER MAES OWEN, BODELWYDDAN Ystyried cais ar
gyfer codi 49 annedd fforddiadwy a gwaith isadeiledd cysylltiedig, gan gynnwys
ffyrdd a llwybrau troed, gofod cyhoeddus agored, tirlunio a draenio, gan
gynnwys gorsaf bwmpio newydd (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 49 o anheddau
fforddiadwy a gwaith isadeiledd cysylltiedig, gan gynnwys ffyrdd a llwybrau
troed, mannau agored cyhoeddus, gwaith tirlunio a draenio gan gynnwys gorsaf
bwmpio newydd. Siaradwr Cyhoeddus – Steve
Grimster (Asiant) - (O blaid) – Cais oedd hwn i godi 49 o anheddau fforddiadwy,
ynni-effeithlon yr oedd mawr eu hangen ym Modelwyddan. Byddai'r tai yn cael eu rheoli gan Adra
Housing a byddent ar gael ar gyfer Cynllun Rhent Canolradd a Thai Cymdeithasol
i drigolion lleol. Byddai'r anheddau yn cynnwys 4 fflat a 3 byngalo a fyddai'n
gallu bodloni anghenion canran uchel o'r boblogaeth leol. Byddai'r anheddau
wedi'u gosod o fewn y Fframwaith Isadeiledd Gwyrdd gan ddarparu mynediad i
fannau agored cyhoeddus defnyddiadwy a llwybrau i gerddwyr er mwyn sicrhau
diogelwch. Drwy gydol y broses gynllunio, addaswyd y
cynllun i fynd i’r afael â chymaint o ymgynghoreion a sylwadau trigolion â
phosibl. Roedd gofynion polisi gan gynnwys materion yn ymwneud â dylunio,
mannau agored, ecoleg a draenio a oedd wedi llywio dyluniad y cynllun. Roedd y
cais yn ateb cytbwys i bob un o'r materion uchod ac ni chafwyd unrhyw
wrthwynebiadau gan unrhyw ymgynghorai statudol. Codwyd pryderon ynghylch priffyrdd,
llifogydd, draenio ac addysg ac ystyriwyd y rhain oll er mwyn sicrhau bod y
datblygiad yn ddiogel, yn hunan-effeithiol ac yn gynaliadwy heb achosi niwed i
drigolion cyfagos a'r amgylchedd. Roedd hyn yn cynnwys cyfraniadau ariannol i
addysg a mannau chwarae oddi ar y safle. Byddai Adra yn cyflawni'r cynllun ymhen 24
mis a byddai'r anheddau yn mynd i'r afael ar unwaith â'r prinder tai
fforddiadwy ym Modelwyddan. Trafodaeth Gyffredinol – Tynnodd y Cadeirydd sylw at y pryderon a
godwyd ynghylch priffyrdd yn yr ardal a gofynnodd am eglurhad gan Swyddogion. Dywedodd y Prif
Swyddog Cynllunio bod trafodaethau wedi'u cynnal ynghylch materion priffyrdd ar
ddatblygiadau ym Modelwyddan, nad oeddent bellach yn mynd ymlaen. Cyn hynny,
cynigiwyd y safle strategol allweddol ar gyfer 1700 o anheddau, a daeth y
ceisiadau dan sylw yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf i gyfanswm o 187 yn
unig. Roedd y trafodaethau ynghylch ffyrdd cyswllt yr oedd eu hangen yn
flaenorol yn ymwneud â chynnig llawer mwy. Roedd capasiti gwaith carthffosiaeth
ar geisiadau blaenorol hefyd yn bryder ac, ar y cais hwn, byddai carthion yn
cael eu cludo i waith trin Rhuddlan lle'r oedd capasiti ac roedd hyn wedi'i
gadarnhau gan Dŵr Cymru. Croesawodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Raj
Metri y cais gan ddweud ei fod yn un ar gyfer tai y mae mawr angen amdanynt yn
yr ardal. Byddai 49 o gartrefi ynni effeithlon yn cael eu creu ac ychydig iawn
o drigolion oedd wedi codi unrhyw bryderon ynghylch y cais. Roedd rhai pryderon
ynglŷn â chapasiti amwynderau lleol megis ysgolion a meddygfeydd, fodd
bynnag, roedd Swyddogion wedi mynd i'r afael â'r rhain. Amlygodd y Cynghorydd Andrea Tomlin ymhellach
y pryderon ynghylch capasiti ysgolion a meddygfeydd yn yr ardal, a gofynnodd a
oedd y Cyngor yn gohebu â'r Bwrdd Iechyd i ofyn am eu barn ar geisiadau o fewn
yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Datblygu bod rhai polisïau yn y CDLl yn gofyn am gyfraniadau isadeiledd. Byddai'r rhain fel arfer yn ymwneud â darparu tai fforddiadwy a mannau agored ac, mewn rhai achosion, darpariaeth addysg. Pe bai datblygiad yn creu problem o ran ei effaith ar wasanaethau, byddai'n ofynnol i'r datblygwr wneud cyfraniadau ariannol i geisio gwella'r capasiti, er enghraifft mewn ysgolion. Byddai’n rhaid cysylltu â'r Bwrdd Iechyd drwy'r broses gynllunio o dan y CDLl. Byddai proses ymgynghori wedi ei chynnal gyda'r cyrff iechyd perthnasol a fyddai wedi rhoi'r cyfle iddynt gyfrannu at unrhyw drafodaethau a fyddai'n digwydd ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CAIS RHIF 40/2024/1141 - YSBYTY GLAN CLWYD, BODELWYDDAN Ystyried cais ar
gyfer codi is-orsaf newydd, ystafell beiriannau newydd gyda chyflenwad trydan,
compownd allanol ar gyfer generaduron, maes parcio newydd a’r holl addasiadau
cysylltiedig i’r tirlun (copi ynghlwm). RHAN 2 – EITEMAU CYFRINACHOL GWAHARDD Y WASG A'R
CYHOEDD Argymhellir, yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bydd yr eitem fusnes ganlynol yn cael ei thrafod oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y'i diffinnir ym mharagraff 16, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi is-orsaf
newydd, ystafell beiriannau newydd gyda chyflenwad trydan, compownd allanol ar
gyfer generaduron, maes parcio newydd a’r holl addasiadau cysylltiedig i’r
tirlun. Siaradwr Cyhoeddus – Ruth Stiles – (Ymgeisydd
BIPBC) (O blaid) – Roedd y cynnig ar gyfer is-orsaf drydanol newydd a oedd yn
cynnwys llefydd parcio i wneud iawn am yr adeilad sy’n cael ei adeiladu ar ran
o’r maes parcio presennol. Roedd Ysbyty Glan Clwyd wedi cyrraedd ei
gapasiti trydanol ar hyn o bryd. Cafodd ei gynyddu'n ddiweddar gan Scottish
Power ac nid oedd opsiwn i gynyddu'r capasiti ymhellach heb y datblygiad hwn. Roedd gwasanaethau bywyd hanfodol mewn perygl
ar y safle. Roedd gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu ar y safle ar
gyfer Gogledd Cymru gyfan, gan gynnwys Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru a
Gwasanaethau Fasgwlaidd. Roedd y cais wedi ei ddiwygio yn dilyn
ymgynghoriad gyda'r Swyddog Ecoleg. Argymhellwyd symud y maes parcio i ran
arall o'r safle a fyddai'n ystyried y pryderon a godwyd yn flaenorol. Darparwyd
adroddiadau acwstig ychwanegol i roi sicrwydd. Roedd diogelwch ar gyfer y dyfodol wedi’i
ddarparu yn y cais i ganiatáu datgarboneiddio’r safle, a fyddai’n cyfrannu at
dargedau Llywodraeth Cymru a osodwyd ar gyfer 2030. Trafodaeth Gyffredinol – Cynigiodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Raj
Metri, bod y cais yn cael ei ganiatáu. Croesawyd y cais gan drigolion a staff
ger y safle ac roedd y Swyddogion wedi mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn
yr adroddiad. Amlygodd y Cadeirydd bryderon ynghylch bywyd
gwyllt a pheryglon iechyd posibl, a gofynnodd am eglurder gan Swyddogion.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod amod tirlunio wedi'i osod ar y cais a
byddai'r Swyddogion yn dweud yn uniongyrchol wrth yr ymgeiswyr y dylai gynnwys
gwaith plannu ychwanegol ar hyd y ffin. Gan gyfeirio at unrhyw beryglon iechyd
sy'n gysylltiedig â'r cais, nododd gwybodaeth a gyhoeddwyd gan Uned Maes
Magnetig Trydan (EMF) y Diwydiant Trydan fod y diwydiant yn cael ei
reoleiddio'n dynn a bod polisïau cydymffurfio llym ar waith a oedd yn
berthnasol i bob datblygiad yn y rhwydweithiau trydan, er budd diogelu iechyd y
cyhoedd. Anerchodd y Cynghorydd Merfyn Parry y
pryderon a godwyd ynghylch y sŵn posibl o’r gwaith adeiladu. Dywedodd y
Prif Swyddog Cynllunio bod asesiad sŵn wedi ei gynnal a bod y lefelau
sŵn yn dderbyniol. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Raj Metri y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y
Swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Pleidlais – O blaid – 18 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD: y dylid
CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y Swyddog. GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Penderfynwyd: gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail ei bod yn debygol y byddent yn datgelu gwybodaeth
eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
CAIS RHIF 01/2022/0523 - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM CHWAREL GRAIG, DINBYCH, APÊL CYNLLUNIO Derbyn adroddiad
cyfrinachol gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Apêl Cynllunio ar gyfer Chwarel
Graig, Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu adroddiad
cyfrinachol ac argymhellion yn ymwneud ag Apêl Cynllunio Chwarel Dinbych. Bu'r Aelodau'n trafod y dull a awgrymwyd. Yn dilyn trafodaeth fanwl fe arweiniodd y
Rheolwr Datblygu’r Aelodau drwy’r argymhellion, gan ofyn i Aelodau bleidleisio
‘O blaid’ neu ‘Yn erbyn’ yr argymhellion. Pleidlais – O blaid – 18 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor
Cynllunio yn CEFNOGI argymhellion y Swyddog a rhoddwyd cyfarwyddyd i'r Cyngor
symud ymlaen i amddiffyn Apêl Cynllunio Chwarel Dinbych ar sail y rheswm dros
wrthod 3 yn unig a thrwy weithredu'r dull a awgrymwyd yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10pm |