Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Michelle
Blakeley-Walker a Terry Mendies. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd
2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2024. Felly: PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2024 fel cofnod gwir a chywir
o’r gweithrediadau. |
|
CAIS RHIF 22/2024/0045 - TIR GER PENIARTH, GELLIFOR, RHUTHUN Ystyried cais i
godi 14 annedd ac un garej ar wahân, gan gynnwys ffurfio mynedfeydd i gerbydau
a gofodau parcio, ffurfio maes parcio i ymwelwyr, tirlunio a gwaith
cysylltiol (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei gyflwyno i godi 14 annedd ac
un garej ar wahân, gan gynnwys ffurfio mynedfa i gerbydau a gofodau parcio,
ffurfio maes parcio i ymwelwyr, tirlunio a gwaith cysylltiedig. Siaradwr Cyhoeddus – Robert Jones (Asiant) (O
blaid) – Roedd y cais ar gyfer 14 annedd yn darparu ymateb
cytbwys i’r angen am dai yn lleol tra’n mynd i’r afael ag ystyriaethau
cymunedol ac amgylcheddol allweddol. Roedd y datblygwr yn un y gellid ymddiried
ynddo gyda hanes cryf o ddarparu tai o ansawdd uchel yn Sir Ddinbych. Roedd y safle wedi ei neilltuo ar gyfer tai
yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych ac roedd wedi ei leoli o fewn
ffin anheddiad lleol Gellifor. Roedd y cais yn parchu cymeriad y pentref tra’n
creu cartrefi effeithlon o ran ynni gyda chymysgedd o dai a ystyriwyd yn ofalus
gan gynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely a oedd yn cyd-fynd â’r asesiad tai
lleol. Roedd y dyluniad yn cyfuno elfennau pensaernïol traddodiadol a chyfoes i
greu strydlun cydlynol tra’n cynnal cymeriad Gellifor. Roedd cynaliadwyedd amgylcheddol yn
flaenoriaeth gan gynnwys Strategaeth Dirlunio gyda gwrych, blodau a choed yn
cael eu plannu gyda blychau ystlumod ac adar yn cael eu hymgorffori i annog
bywyd gwyllt. Roedd y cais hefyd yn cynnwys un tŷ
fforddiadwy 3 ystafell wely. Roedd
gwelliannau i seilwaith yn cynnwys lledu’r ffordd ym mlaen y safle ac ychwanegu
llwybr newydd i gerddwyr i hybu diogelwch a chysylltedd. Nodwedd arwyddocaol
o’r datblygiad oedd gofod parcio cymunedol gyda 11 o ofodau a fyddai’n
lliniaru’r pwysau o ran parcio sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal. Er mwyn
sicrhau fod y newidiadau o ran parcio yn cael eu cymeradwyo gan y Gwasanaethau
Priffyrdd byddai’r gwrych presennol yn cael ei symud fel mater o ddiogelwch. Roedd y cais cynllunio wedi ei ddatblygu gan
weithio’n agos gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gydbwyso pryderon
budd-ddeiliaid tra’n bodloni gofynion polisi. Roedd yn darparu cartrefi a
fyddai’n effeithlon o ran ynni, yn gwella isadeiledd ac yn darparu manteision
cymunedol ystyrlon. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Roberts am siarad
gerbron y Pwyllgor Cynllunio ac agorwyd y drafodaeth i Aelodau. Trafodaeth gyffredinol – Cefnogodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Huw
Williams, y cais cynllunio. Amlygodd y Cadeirydd y pryder lleol gan
breswylwyr yn ymwneud â pharcio yn yr ardal a gofynnodd i Swyddogion egluro sut
y byddai’r maes parcio newydd yn cael ei reoli yn y cynlluniau arfaethedig. Nododd y Prif Swyddog Cynllunio fod ardal i’r
Gorllewin o’r safle wedi ei neilltuo ar gyfer parcio ac roedd wedi ei gynnig i
liniaru’r broblem barcio bresennol yn yr ardal. Cyfeiriwyd Aelodau at amod 14 y
cais cynllunio a oedd yn nodi na chaniateir yr un datblygiad i gychwyn ar
ddarpariaeth maes parcio’r ysgol hyd nes y bydd manylion llawn yn ymwneud â’r
canlynol wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac wedi ei gytuno’n
ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw. A) Roedd angen
manylion am gynllun, mynediad, gatiau, arwyneb, ymdrin â’r ffin, tirlunio ac
arwyddion. B) Cytundeb rheoli
maes parcio i gynnwys sut y bydd y maes parcio yn cael ei weithredu, ei reoli
a’i ddiogelu. Nododd y Cynghorydd Jon Harland fod y cais yn cyfeirio at Ddatblygu Cynaliadwy fodd bynnag ni chrybwyllwyd paneli solar o gwbl na phympiau gwres ar ddyluniadau’r anheddau. Aeth ymlaen i holi a ellid rhoi amod ar y cais i sicrhau fod y datblygwr yn cynnwys y rhain. Nododd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd yna unrhyw bolisïau mewn grym a oedd yn golygu fod angen i’r datblygwr gynnwys paneli solar neu bympiau gwres er y byddai’n cael trafodaeth gyda’r datblygwr i’w hannog i ystyried ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 01/2022/0523 - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM CHWAREL GRAIG, DINBYCH, APÊL CYNLLUNIO Yr Aelodau i
ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio ynghyd â’r cyngor cyfreithiol a gafwyd o ran y dewisiadau sydd ar
gael ar gyfer yr Awdurdod Cynllunio Lleol wrth ymdrin â’r Ymchwiliad Cyhoeddus
Apêl Cynllunio yn sgil gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer ymestyn cloddio a
gweithio gyda chalchfaen, mewnforio deunydd gwastraff anadweithiol ac adfer tir
amwynder (cais cynllunio rhif 01/2022/0523) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu adroddiad
cyfrinachol ac argymhellion yn ymwneud ag Apêl Cynllunio Chwarel Dinbych. Roedd
yr adroddiad yn cynnwys cyngor cyfreithiol a gafwyd gan y Cyngor. Fe fu’r Aelodau’n trafod y materion a’r
cyngor cyfreithiol gan holi’r Swyddogion yn helaeth. Yn dilyn trafodaeth fanwl fe arweiniodd y
Rheolwr Datblygu’r Aelodau drwy’r argymhellion, gan ofyn i Aelodau bleidleisio
‘O blaid’ neu ‘Yn erbyn’ yr argymhellion. Gofynnodd yr Aelodau am bleidlais wedi’i
chofnodi a phleidleisiwyd o blaid a chytunwyd ar hynny. Pleidlais– O blaid – Y Cynghorwyr Ellie Chard, James Elson,
Justine Evans, Alan James, Julie Matthews, Arwel Roberts, Gareth Sandilands,
Cheryl Williams ac Anton Sampson. Yn erbyn – Y Cynghorwyr Karen Edwards, Chris Evans, Jon
Harland, Huw Hilditch-Roberts, Delyth Jones, Merfyn Parry, Andrea Tomlin, Elfed
Williams a Mark Young. Ymatal – 0 O ganlyniad i bleidlais gyfartal, o blaid ac
yn erbyn yr argymhellion, roedd gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Mark Young y
bleidlais derfynol a phleidleisiodd yn erbyn argymhellion y swyddog. PENDERFYNWYD: fod y Pwyllgor Cynllunio yn
GWRTHOD argymhellion y Swyddog ac yn rhoi cyfarwyddyd i’r Cyngor fynd ymlaen i
amddiffyn Apêl Cynllunio Chwarel Dinbych am y tri rheswm dros wrthod a roddwyd
eisoes. Daeth y cyfarfod i ben am 11.35am. |