Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Chris Evans, Jon Harland, Terry Mendies, Pete Prendergast ac Elfed Williams. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n
rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Ystyried cais
i Newid defnydd o dir amaethyddol i ffurfio tir amwynder cymunedol,
ffurfio mynediad newydd i gerbyd a pharcio a gwaith cysylltiol yn Tir gyferbyn
â Phorth y Waen, Aberchwiler, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023. Materion cywirdeb -
·
Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith fod y cofnodion
yn nodi bod rhai o’r Aelodau yn bresennol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ymatebodd
y Cadeirydd gan ddweud y tynnwyd sylw’r swyddogion at y mater ac na fyddai
cofnodion cyfarfodydd y dyfodol yn gwahaniaethu rhwng yr Aelodau sy’n bresennol
wyneb yn wyneb a’r rhai sy’n bresennol ar-lein. ·
Sylwodd y Cynghorydd Andrea Tomlin fod eitem 5 ar y
rhaglen yn nodi ei bod wedi bod yn byw ym Mhrestatyn ar hyd ei hoes yn hytrach
nag “ers blynyddoedd lawer”. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, y byddai cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 yn cael eu
cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF 09/2022/1080 - TIR GYFERBYN Â PHORTH Y WAEN, ABERCHWILER, DINBYCH PDF 383 KB Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir amaethyddol i lunio
tir amwynder cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau a maes parcio, ynghyd â
gwaith cysylltiedig, ar y Tir gyferbyn â Phorth y Waen, Aberchwiler, Dinbych
(rhannwyd ymlaen llaw). Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod lleol)
y dylid gohirio’r eitem gan fod gwybodaeth wedi dod i law yn hwyr nad oedd y
pwyllgor wedi’i gweld. Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd Parry am gael trefnu
ymweliad â’r safle a dod â’r cais ger bron y cyfarfod nesaf, i sicrhau na
fyddai’r oedi’n cael effaith ar benderfynu ar y cais. Eiliodd y Cynghorydd
Peter Scott y cynnig. PLEIDLAIS – O Blaid Gohirio – 14 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD GOHIRIO’R
cais cynllunio. |
|
ADOLYGU’R PROTOCOL HYFFORDDIANT AELODAU PDF 272 KB Derbyn adroddiad yn amlinellu newidiadau a awgrymwyd i’r aelodau
i’r Protocol Hyfforddi Aelodau (Cynllunio) (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu adroddiad a oedd yn amlinellu’r
newidiadau a awgrymwyd i’r Protocol Hyfforddiant Aelodau (Cynllunio). Os bydd y
Pwyllgor Cynllunio yn cytuno ar y rhain, bydd fersiwn newydd y Protocol
Hyfforddiant Aelodau (Cynllunio) yn cael ei roi ar waith ar unwaith (rhannwyd
ymlaen llaw). Y Protocol Hyfforddiant Aelodau (Cynllunio) yw’r ddogfen
sy’n nodi’r angen i Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosesau a’r
gweithdrefnau a ddefnyddir o fewn y system Gynllunio, ac i roi gwybod i’r
Aelodau am unrhyw newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth. Mae’r Protocol yn amlinellu’r lefel o
hyfforddiant sy’n angenrheidiol, beth a ystyrir yn hyfforddiant a sut y bydd yr
hyfforddiant yn cael ei gofnodi. Mae
hyfforddiant yn sicrhau bod Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor yn gwneud
penderfyniadau cadarn y gellir eu hamddiffyn am gynigion datblygu a materion
eraill. Mae risgiau’n codi pan fydd yr Aelodau’n
gwneud penderfyniadau mewn Pwyllgor Cynllunio – megis y rhai sy’n cynnwys
apeliadau cynllunio a heriau cyfreithiol – heb y lefel angenrheidiol o wybodaeth. Heb lefel ddigonol
a phriodol o hyfforddiant, ni fydd Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio yn gallu
pleidleisio ar faterion cynllunio yn y pwyllgor. Tynnodd y swyddogion sylw at y newid yn y Protocol
(Paragraff V3 2); byddai’r newid yn cydnabod elfennau o hyfforddiant Cynllunio
nad oeddent yn cael eu harwain gan y swyddogion Cynllunio, gan y byddent wedi’u
cysylltu â Chynllunio mewn rhyw ffordd, ac o fudd i’r Aelodau. Byddai’r newid
hwn yn gofyn am ymddiriedaeth rhwng yr Aelodau a’r Swyddogion. Soniodd yr Aelodau am y dull o gynnal yr hyfforddiant, a
p’un a ellid cynnal y sesiynau’n hybrid. Dywedodd y swyddogion fod hwn yn ddull
a fyddai’n cael ei ystyried, ond eu bod yn teimlo y byddai’n fwy buddiol cynnal
sesiynau hyfforddi mwy dwys wyneb yn wyneb, gan eu bod o’r farn y byddai
hynny’n fwy ymgysylltiol. Anghytunodd y Cynghorydd Julie Matthews â’r farn bod
cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn fwy ymgysylltiol; byddai cynnal pob sesiwn ar
ffurf hybrid yn galluogi mwy o aelodau i gymryd rhan yn yr hyfforddiant. Roedd yr aelodau yn cefnogi derbyn unrhyw hyfforddiant a
oedd ar gael iddynt; roeddent yn teimlo y byddai hyn yn eu helpu i wneud
penderfyniadau mwy cytbwys a fyddai, yn ei dro, yn eu hamddiffyn pe bai’r
penderfyniadau hynny’n cael eu herio. Cyflwynodd y pwyllgor eu pryderon gyda natur gymhleth
cynllunio i'r swyddogion, gan holi a allent gael hyfforddiant ar agweddau mwy
arbenigol cynllunio. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai gwybodaeth am y materion
hyn o fudd i’r aelodau. Fodd bynnag, bu iddynt awgrymu mai nodiadau briffio ar
y materion fyddai’n fwyaf tebygol o helpu, yn hytrach na sesiynau hyfforddi,
gan fod yna nifer o elfennau o’r broses gynllunio y gellid eu trafod. PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau
yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn mabwysiadu’r newidiadau a awgrymwyd i’r
Protocol Hyfforddi Aelodau (Cynllunio). |