Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 357 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Materion cywirdeb Dim

 

Materion yn Codi – Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod ef a’r Swyddog Cyfreithiol newydd yn ymdrin â’r mater yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CAIS RHIF 01/2022/0982/PS - TIR WRTH YMYL YSGOL PENDREF, FFORDD GWAENYNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried cais am amrywiad  i amodau 2, 6 a 8 o ganiatâd cynllunio 01/2022/0690 i newid gosodiad, cynllun rheoli tirlunio a mesurau lliniaru ecolegol, iawndal a gwelliant ar dir yn ymyl Ysgol Pendref, Ffordd Gwaenynog, Dinbych (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am amrywiad i amodau 2, 6 a 8 o ganiatâd cynllunio 01/2022/0690 i newid gosodiad, cynllun rheoli tirlunio a mesurau lliniaru ecolegol, iawndal a gwelliant ar dir yn ymyl Ysgol Pendref, Ffordd Gwaenynog, Dinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Siaradwyr Cyhoeddus –

 

Heidi Ridder-Jones (yn erbyn) – dywedodd fod y Swyddog Cyfreithiol wedi datgan yn y Cyfarfod Cynllunio ym mis Tachwedd 2022 bod yr ugain y cant o dai fforddiadwy a nodwyd ar gyfer datblygiad y safle wedi ei rwymo mewn cyfraith. Aeth y siaradwr cyhoeddus yn ei blaen drwy ddweud wrth y Pwyllgor bod y pwynt wedi ei amlygu ar sawl achlysur yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd, a theimlai fod y mater wedi dylanwadu ar benderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo. Fodd bynnag, dywedodd y siaradwr cyhoeddus fod y cais newydd yn nodi y bydd deg y cant o dai fforddiadwy, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; nodwyd na ellid newid y deg y cant; os mai dyma’r achos, pam na ddywedwyd hynny cyn cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2022? Gofynnodd Mrs Ridder-Jones am arweiniad ar y mater gan syrfëwr siartredig, a theimlai fod gan y rhai a oedd yn erbyn y cais berffaith hawl i bryderu am y newid yn y ganran o dai fforddiadwy.

 

Byddai’r cais newydd yn dylanwadu ar y cytundeb gwreiddiol i leihau’r ganran o dai fforddiadwy o 20% i 10%. I ddechrau, ni ddylai gweithred amrywio Adran 106 newid y ganran o dai fforddiadwy a oedd wrth wraidd y penderfyniad a wnaed yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio. Dylai gweithred amrywio A106 fod wedi ei chyflwyno ar yr un pryd â chais Adran 73, ynghyd â’r contract gydag Adra ac asesiad tai fforddiadwy diwygiedig yn dangos sut fyddai’r newid yn cyd-fynd ag ystadegau Sir Ddinbych parthed yr angen am dai. Byddai’r Pwyllgor angen cadarnhad y byddai’r anheddau’n parhau i fod yn fforddiadwy am byth.

 

Teimlai’r siaradwr cyhoeddus fod y cyfarfod ym mis Tachwedd wedi bod yn unochrog wrth gymeradwyo’r cais. Dylai strategaeth ecolegol Sir Ddinbych fod wrth wraidd pob penderfyniad; fodd bynnag, cafwyd addewidion gwag, diystyrwyd sylwadau’r swyddog ecolegol, a dylid cadw’r coed lle mae’n bosibl yn unig. Byddai hyn yn galluogi’r ymgeiswyr i gael gwared â’r coed lle dymunent. Yr oedd ecoleg gyfoethog yn perthyn i’r coed ar y safle, ac wrth ganiatáu’r cais byddai Cynghorwyr yn mynd yn erbyn Adran 6.4 Polisi Cynllunio Cymru sy’n datgan na ddylai datblygiad gael effaith ar gynefinoedd na bioamrywiaeth.

 

Mr Stuart Andrews (o blaid) – diolchodd i’r Pwyllgor am gael siarad, ac atgoffodd y Pwyllgor mai ef oedd Rheolwr Dylunio a Chynllunio Castle Green Homes. Siaradodd â’r Pwyllgor ynglŷn â diwygiadau i ddisodli’r caniatâd cynllunio gydag un â chynnydd yn nifer y tai fforddiadwy.

 

Amlygodd Mr Andrews fod y safle, a brynwyd yn 2022, wedi ei ddyrannu ar gyfer tai; ym mis Tachwedd, sicrhawyd caniatâd cynllunio i adeiladu 110 o gartrefi gydag ugain y cant yn ddarpariaeth tai fforddiadwy, ac yr oedd yr holl amodau cynllunio cyn cychwyn wedi eu cyflawni parthed y cynllun hwnnw, a gellid bod wedi dechrau arno eisoes. Dywedodd Mr Andrews yn ystod y cyfarfod diwethaf ei fod wedi siarad â swyddogion y Cyngor ynglŷn â chynnydd ar y contract, a fyddai wedi darparu’r holl safle drwy ADRA. Trafodwyd y cais hwn heddiw. Byddai’r cais newydd yn dal i adeiladu 110 o dai ar y safle. Fodd bynnag, byddai saith deg tri y cant o’r tai yn rhai fforddiadwy, a byddai’r gweddill ar gael ar rent y farchnad. Ni fyddai’r cais newydd a gynigiwyd yn cael effaith ar y cyfraniadau ariannol o dros £63,000  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 23/2022/0344/PF – TIR YN LLWYN AFON, LLANRHAEADR, DINBYCH pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried cais i godi 3 tŷ yn cynnwys gosod offer trin carthffosiaeth, creu mynediadau i gerbydau a gwaith cysylltiol ar dir yn Llwyn Afon, Llanrhaeadr, Dinbych (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 3 annedd yn cynnwys gosod offer trin carthffosiaeth, creu mynediadau i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir yn Llwyn Afon, Llanrhaeadr, Dinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Diolchodd y Cynghorydd Elfed Williams (aelod lleol) i’r Cadeirydd am y cyfle i siarad. Yr oedd yn anghytuno â datganiad y swyddog bod y safle yng nghefn gwlad agored gan fod tai o boptu i’r ardal a gynigiwyd, ac yr oedd y safle’n safle tir llwyd. Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Williams fod angen y datblygiad ar gyfer yr ardal leol, a byddai o fudd i bentref Llanrhaeadr.

 

Cynigodd y Cynghorydd Melvyn Parry y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y swyddogion. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Elfed Williams.

 

Eglurodd y swyddogion y nodwyd bod y datblygiad yng nghefn gwlad agored gan ei fod y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref. Felly, ystyrid ei fod yng nghefn gwlad agored. Arweiniwyd y swyddogion yn eu hargymhelliad gan Bolisi CCC 9 y CDLl (tai fforddiadwy ar gyfer cysylltiadau lleol mewn grwpiau neu glystyrau bychain); yr oedd y cais yn nodi mai un o’r tair annedd fyddai’n fforddiadwy. Dywedodd y swyddog fod caniatâd amlinellol yn bodoli lle mae angen cytuno ar faterion a gadwyd yn ôl erbyn mis Mawrth 2023. Eglurodd y swyddogion hefyd y byddai’n rhaid cael Cytundeb Adran 106 yn ymwneud â’r annedd fforddiadwy pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, a swm gohiriedig posibl ar gyfer man agored.

 

Holodd y Pwyllgor a fyddai ffynonellau ynni adnewyddadwy’n rhan o ddatblygiad y safle, megis gwres o’r ddaear a phaneli solar. Atebodd y swyddogion y byddai raid i’r safle gydymffurfio â chanllawiau cynllunio ond ni fyddai angen cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gan mai datblygiad preifat ydoedd. Cyfeiriodd y Pwyllgor at deimlad y cyhoedd yn lleol am y cais; cadarnhaodd yr aelod lleol fod y Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID 16

YN ERBYN 1

YMATAL 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhellion y swyddogion a nodir yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 45/2022/0730/PF - 188 COAST ROAD, Y RHYL pdf eicon PDF 157 KB

Ystyried cais i godi estyniad a chreu to newydd i ddarparu llety ychwanegol ar lefel llawr cyntaf (ail gyflwyno cais) yn 188 Coast Road, Y Rhyl (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniad a chreu to newydd i ddarparu llety ychwanegol ar lefel llawr cyntaf (ail gyflwyno) yn 188 Ffordd yr Arfordir, y Rhyl (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Galwodd y Cadeirydd ar y rheiny a oedd wedi bod ar ymweliad safle i rannu eu barn am y cais. Y consensws ymhlith pawb a ymwelodd â’r safle oedd bod lleoliad yr adeilad yn ôl o’r ffordd. Yr oedd amrywiad o adeiladau mwy o gwmpas yr ardal, a fyddai’n lliniaru unrhyw bryderon a godwyd gan swyddogion ynglŷn â’r estyniad yn edrych dros eiddo eraill. Dywedodd yr aelodau hefyd y byddai’r Clwb Golff yn cael ei ailadeiladu i fod yn adeilad deulawr pan fydd y gwaith amddiffyn rhag llifogydd wedi ei gwblhau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alan James y dylid cymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott, am y rhesymau a nodwyd uchod, yn groes i argymhellion y swyddogion.

 

Atgoffwyd yr aelodau gan swyddogion cynllunio bod yr ymgeiswyr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais cynllunio, a bod Arolygydd Cynllunio wedi gwrthod y penderfyniad. Fodd bynnag, yr oedd y cais newydd ar raddfa lai na’r hyn yr ymgeisiwyd amdano’n flaenorol, a dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau y dylent ystyried yn unigol a oedd y lleihad ym maint yr estyniad yn ddigonol ar gyfer goresgyn y penderfyniad blaenorol i wrthod. Ailddywedodd y swyddogion nad oedd yn ddigonol yn eu tyb hwy, ond derbyniasant ei fod yn benderfyniad wedi ei gydbwyso. 

 

PLEIDLAIS:

O BLAID 18

YN ERBYN 0

YMATAL 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhellion y swyddogion a nodir yn yr adroddiad.