Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Melvyn Mile a Peter Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd yr Arweinydd Tîm - Tîm Lleoedd y pwyllgor bod rhai aelodau wedi chwarae rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau blaenorol mewn perthynas â’r tîr yn eitem 5 ar y rhaglen - Tir gyferbyn ag Ysgol Pendref, Dinbych. Dywedodd bod angen i’r aelodau hynny fod yn fodlon y gallant drin y cais hwnnw gyda meddwl agored. 

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen - Tir yn (rhan o ardd) Llys Gwyn, Bryn Goodman, Rhuthun oherwydd ei fod yn adnabod rhai o wrthwynebwyr i’r cais.

 

Datganodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 5 ar y rhaglen - Tir gyferbyn ag Ysgol Pendref, Dinbych, oherwydd mai fo oedd Aelod Arweiniol Tai, ac roedd wedi cynnig i’r tir gael ei werthu ar gyfer tai yn flaenorol.

 

Gwnaeth Brian Jones gais am ganllawiau pellach yn ymwneud ag eitem 5 ar y rhaglen - Tir gyferbyn ag Ysgol Pendref, Dinbych, gan ei fod wedi bod yn rhan o drafodaeth y Cabinet. Yn dilyn canllawiau gan yr Arweinydd Tîm, yn ei farn o, roedd yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth gyda meddwl agored.

Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol gydag eitem 9 ar y rhaglen - Kynsal House, Vale Road, y Rhyl, oherwydd ei fod wedi cael ei gysylltu gan breswylwyr yn ymwneud â phryderon ar y safle.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Mark Young ei fod wedi bod yn rhan o’r drafodaeth honno yn y Cabinet hefyd yn ymwneud ag eitem 5 ar y rhaglen - Tir gyferbyn ag Ysgol Pendref, Dinbych, ond roedd o’r farn y byddai’n gwneud penderfyniad heddiw gyda meddwl agored.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.  

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 442 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Chwefror, 2022 i’w cymeradwyo.

 

CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022 fel cofnod cywir.

 

Diolchodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y Clercod am wneud diwygiadau i’r cofnodion blaenorol.

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 9) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 01/2021/0950/ PF – TIR GER YSGOL PENDREF, FFORDD GWAENYNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 166 KB

Ystyried cais ar gyfer adeiladu 110 annedd, adeiladu mynediad newydd i gerbydau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ysgol Pendref, Ffordd Gwaenynog, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cais i godi 110 o anheddau, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ysgol Pendref, Ffordd Gwaenynog, Dinbych.

 

Gadawodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon ar y rhaglen gan ei fod wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu. 

 

Siaradwyr Cyhoeddus – Dywedodd Helga Viswanathan (Yn erbyn) wrth y pwyllgor fod y cae yn rhan o fferm weithiol. Roedd map dosbarthiad tir amaethyddol Llywodraeth Cymru yn dangos bod y cae gradd 3a yn cael ei ystyried yn dir gorau a mwyaf amlbwrpas. Dywedodd Polisi Cynllunio Cymru fod tir o'r fath yn adnodd cyfyngedig ac y dylid ei warchod ar gyfer y dyfodol, a’i ddatblygu dim ond pe byddai gwir angen.  Pwysleisiwyd na ellid ystyried datblygu'r cae ar gyfer 110 o dai arall fel gwir angen, gyda 550 a mwy o dai wedi eu cymeradwyo yn Ninbych yn unig, sy'n gyfran fawr o'r cyfanswm a argymhellir ar gyfer y sir gyfan. Mae’r argyfwng hinsawdd, Brexit a rhyfel yn Ewrop i gyd yn dod ag ansicrwydd cyflenwadau bwyd o dramor, felly pwysleisiwyd pwysigrwydd gwarchod tir fferm. Dywedwyd yn 2019 bod Cyngor Sir Ddinbych wedi datgan argyfwng hinsawdd, roedd polisi gwyrdd yr awdurdod yn datgan bod yn rhaid gwneud pob penderfyniad gydag argyfwng hinsawdd a’r amgylchedd mewn golwg. Byddai datblygu safleoedd fel y cynnig hwn yn rhyddhau tunelli o garbon wedi'i storio'n ddwfn, gyda'r pridd yn cyfrannu'n uniongyrchol at newid hinsawdd, yn gwbl groes i'r datganiad a wnaed gan Gyngor Sir Ddinbych. Adroddwyd yn ddiweddar mai dim ond 52% o’i bioamrywiaeth oedd ar ôl yn y DU, gyda dinistr caeau a gwrychoedd yn ychwanegu at ei ddirywiad. Mae Deddf yr Amgylchedd 2016 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth, a hybu cadernid ecosystemau drwy hynny. Pwysleisiwyd na fyddai’r mesur a nodir yng nghynnig y datblygwr i ddarparu blychau adar ac ystlumod a phlannu coed ifanc yn lliniaru colled y cynefin bywyd gwyllt sefydledig a bioamrywiaeth ar y safle 7 erw hwn mewn unrhyw ffordd.

Dywedwyd y byddai diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei effeithio gan y byddai'r fynedfa i'r datblygiad wedi ei lleoli ar droad sydyn sydd â 2 gyffordd yn barod. Teimlwyd y byddai ffyrdd cyfagos yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r traffig ychwanegol.  Dywedwyd y byddai'r 110 o dai arfaethedig yn cyfateb i hyd at 300 o gerbydau ychwanegol. Gyda chyfuniad o’r cynllunio y cytunwyd arno ar safle Ysbyty Gogledd Cymru, mae’n bosibl y byddai’n cynyddu’r ceir yn Ninbych o dros 1000 o gerbydau ychwanegol. Byddai hyn yn creu’r potensial ar gyfer tagfeydd ychwanegol ym Mhwll y Grawys. Byddai'r traffig ychwanegol yn arwain at gynnydd mewn sŵn a llygredd aer ac yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles y trigolion presennol ac yn arbennig yr ysgol sydd union gyfagos i'r safle. Byddai’r holl ddatblygiadau arfaethedig gyda’i gilydd yn cynyddu poblogaeth Dinbych o filoedd ac yn rhoi straen ychwanegol ar feddygon, deintyddion a gwasanaethau eraill sydd eisoes â chapasiti cyfyngedig, a chyfleoedd gwaith hefyd yn gyfyngedig. Byddai mwyafrif y tai arfaethedig ar gyfer Dinbych, gan gynnwys y datblygiad arfaethedig, i gyd yn yr un ward ac un o'r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Teimlwyd hefyd na fyddai trigolion lleol yr oedd angen tai arnynt yn elwa gan fod cost yr eiddo yn fwy na’r fforddiadwyedd ar gyfer llawer o drigolion. Pwysleisiwyd gwrthwynebiadau pellach, sef cael gwared ar wrychoedd, perygl llifogydd, colli preifatrwydd, colli amwynder a'r effaith negyddol ar yr Iaith Gymraeg.

 

Cadarnhaodd Mr Stuart Andrew (Asiant) (O blaid) mai ef oedd cyfarwyddwr dylunio a chynllunio Castle Green Homes. Cadarnhaodd fod y safle  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Ar y pwynt hwn, 11.20 am, cymerodd y pwyllgor egwyl deng munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.30 am.

 

 

 

6.

CAIS RHIF 02/2021/1179/PF - TIR YN (RHAN O ARDD) LLYS GWYN, BRYN GOODMAN, RHUTHUN LL15 1EL pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried cais i godi dwy annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn Llys Gwyn, Bryn Goodman, Rhuthun, LL15 1EL (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais i godi 2 annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir yn (rhan o ardd) Llys Gwyn, Bryn Goodman, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus – Dywedodd Mr Robert Jones (Asiant) (O BLAID), wrth y pwyllgor ei fod yn bensaer cymwys wedi’i gofrestru gyda’r ARB ac yn aelod o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain gyda dros 16 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Cadarnhaodd ei fod wedi arwain datblygiad dyluniad y cais. Dywedodd yn 2021 fod cais wedi’i gyflwyno i’r ACLl ar gyfer codi 2 eiddo preswyl y tu ôl i Lys Gwyn, Bryn Goodman yn dilyn ymgynghoriad cyn ymgeisio cadarnhaol yn 2019. Roedd y cynnig yn dilyn cymeradwyo dau eiddo preswyl y tu ôl i Pennant ym mis Ionawr 2020. Dywedodd fod y cynnig hwn a oedd hefyd wedi cynnwys cais dilynol am estyniad bron yn union yr un fath â'r ceisiadau blaenorol o ran lleoliad, gosodiad, graddfa, dyluniad, cymeriad, deunyddiau a golygfa. Roedd y cais a gyflwynwyd wedi'i baratoi yn unol â'r polisi cynllunio lleol a chanllawiau atodol. Roedd yr ACLl wedi cefnogi'r cais gyda'r argymhelliad i’w ganiatáu. Pwysleisiwyd y rhagorwyd ar bellteroedd rhyng-wynebu eiddo cyfagos er mwyn peidio ag effeithio ar fwynderau gweledol trigolion lleol. Byddai eiddo sy'n union i'r gorllewin i'r safle yn fwy na 32 metr, y byddai’n sylweddol uwch na'r gofyniad lleiaf a nodir yn y CCA. Roedd yr amod hwn yn nodweddiadol ar gyfer 12 o'r 14 eiddo sy'n ffinio â'r gefnffordd i'r Gorllewin o'r safle. Ym mhob un o'r lleoliadau byddai'r rhan fwyaf o eiddo dwyreiniol yn uwch na'r eiddo gorllewinol, gan ddilyn teipograffeg leol yr ardal. Nododd y siaradwr fod swyddogion o'r farn bod y cynllun yn dderbyniol ac na fyddai'n arwain at or-edrych annerbyniol nac effaith ormesol ar eiddo cyfagos. Nodwyd hefyd na chafwyd unrhyw wrthwynebiad o'r broses ymgynghori fewnol. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston wrth yr aelodau eu bod wedi adolygu daearyddiaeth a thopograffeg y safle, yr effaith ar y cymdogion cyfagos a'r mynediad i Bryn Goodman yn ystod yr ymweliad safle. Archwiliwyd y safle gan fynychwyr a chawsant fynediad i eiddo cymydog i ganfod unrhyw effaith weledol. Teimlai'r Cynghorydd Marston fod yr ymweliad safle yn fuddiol iawn i'r rhai a oedd yn bresennol. Roedd y Cynghorydd Peter Scott hefyd yn bresennol ar yr ymweliad safle ac roedd yn cytuno â barn y Cynghorydd Marston.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) ei fod hefyd yn yr ymweliad safle. Dywedodd ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig i'r aelodau weld y safle. Dywedodd wrth yr aelodau mai un cwestiwn a gododd yn ystod yr ymweliad oedd statws y wal gynhaliol y tu cefn i'r tir.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Wynne at y caniatâd cynllunio a roddwyd i'r eiddo cyfagos gan ddweud mai'r prif wahaniaeth oedd nad oedd datblygiad yn edrych dros unrhyw eiddo cyfagos. Gofynnodd yr aelodau yn ystod yr ymweliad safle am gadarnhad ynghylch cywirdeb y lefelau eiddo yn yr adroddiad. Dywedodd wrth yr aelodau bod nifer o goed eisoes wedi'u tynnu o'r ardal, cyn i'r cais gael ei gyflwyno i'r aelodau. Cadarnhaodd y byddai'r adeiladau newydd arfaethedig yn uwch na'r eiddo presennol ac yn sicr yn effeithio'n weledol ar y cymdogion. Byddai nifer o ffenestri yn edrych dros eiddo cyfagos ac yn amharu ar breifatrwydd y cymdogion. Mynegodd bryder y byddai'r nenlinell yn cael ei newid o goed i dai ac y byddai'n llai deniadol yn weledol. Gofynnodd y Cynghorydd Wynne, os oedd yr aelodau o blaid y cais, fod amod yn cael ei osod i gynnwys ffensys er mwyn cael rhywfaint o breifatrwydd. Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne wrthod y cais yn erbyn argymhellion swyddogion  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF 45/2021/0516/ PF - KYNSAL HOUSE, VALE ROAD, Y RHYL, LL18 2PG pdf eicon PDF 249 KB

Ystyried cais ar gyfer newid defnydd tir ac adeiladau ategol i ffurfio safle teithwyr preswyl ar gyfer 6 carafán, gydag annedd bresennol Kynsal House yn cael ei gadw ar gyfer llety perchnogion / rheolwyr; gan gynnwys ffurfio llwybrau a pharcio mewnol, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Kynsal House, Vale Road, y Rhyl, LL18 2PG (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir ac adeiladau atodol i ffurfio safle preswyl Teithwyr. Mae hyn ar gyfer 6 carafán, gyda thŷ presennol Kynsal House yn cael ei gadw ar gyfer llety perchnogion / rheolwyr; yn ogystal â ffurfio llwybrau mewnol a llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Kynsal House, Vale Road, Y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

Cadarnhaodd Mr Scott Drummond (Yn erbyn) fod y pryderon yr oedd am eu cyflwyno yn ymwneud â defnydd y safle. Cyflwynodd wrthwynebiadau ar ran rhai trigolion lleol i'r safle, gan gynnwys nad oedd y cynllun arfaethedig yn cynnig man troi addas ar gyfer cerbydau mawr. Roedd y cynllun yn or-ddwysau'r safle. Byddai mynediad i'r safle o Vale Road ac oddi yno yn beryglus i fusnesau presennol ac i gerddwyr.  Pwysleisiodd yn ei farn y byddai newid defnydd y tir i greu safle preswyl i sipsiwn a theithwyr, yn agos at eiddo preswyl presennol, yn creu'r potensial ar gyfer mwy o weithgarwch ar y safle. Roedd hynny’n gwrthdaro â'r meini prawf ym mholisi BSC10 y Cynllun Datblygu Lleol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gynigion am safleoedd beidio â bod yn andwyol i amwynder deiliaid eiddo cyfagos. Ei farn ef oedd y byddai maint a lleoliad y safle arfaethedig, maint y carafanau arfaethedig, meysydd parcio ac adeiladau cyfagos, yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles y preswylwyr. Dyma’r un ystyriaethau y disgwylir eu hystyried petai ymgeisydd yn cyflwyno cais ar gyfer codi adeilad ar y llain. Dywedodd wrth yr aelodau y dylai'r cais fod yn gais ôl-weithredol gan fod dwy garafán sefydlog wedi bod ar y safle ers 2019, heb ganiatâd cynllunio. Soniodd hefyd am y gwaith o gael gwared ar goed, llwyni a gwrychoedd a gosod cyrbau is, i gyd heb ganiatâd cynllunio. Ers 2019 pan sefydlwyd y datblygiad am y tro cyntaf, ni fu unrhyw ymdrech i ymgysylltu â’r gymuned gyfagos, ac anwybyddwyd neu heriwyd unrhyw bryderon neu ymgysylltiad gan drigolion lleol gan y preswylwyr. Dywedodd wrth yr aelodau bod rhai trigolion lleol wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys llygredd sŵn a golau. Teimlwyd bod y nifer fawr o gerbydau a sŵn a gynhyrchir ar y safle yn deillio o weithgareddau busnes ac nid preswyl yn unig.    

 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau bod ymweliad safle wedi'i gynnal ar y safle ddydd Gwener, 4 Mawrth. Roedd y Cynghorydd Christine Marston wedi bod yn bresennol yn yr ymweliad safle. Daeth y Cynghorydd Marston i'r casgliad mai bwriad yr ymweliad oedd sefydlu gosodiad a chymeriad yr ardal, agosrwydd y cymdogion a'r fynedfa i'r safle ac eiddo cyfagos.

Anogodd y Cynghorydd Pete Prendergast (Aelod Lleol) aelodau’r pwyllgor cynllunio i wrthwynebu’r cais cynllunio. Dywedodd ers 2019 bod yr holl wrychoedd a llwyni wedi’u tynnu a bod cyrbau is wedi’u gosod i gael mynediad i’r safle. Roedd dwy garafán sefydlog wedi’u gosod ar y tir a phopeth wedi’i wneud heb unrhyw ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod. Cadarnhaodd fod y mynediad i gerbydau oddi ar Knowsley Avenue wedi'i rwystro gan ffensys ond bod y cyrb is yn dal i fod yno.  Dywedodd wrth y pwyllgor fod yr holl fusnesau a thrigolion lleol hyd yma wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi codi pryderon ynghylch llygredd golau a sŵn. Cynigiodd y Cynghorydd Pete Prendergast bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes i argymhellion swyddogion, am y rhesymau a ganlyn: byddai gosod chwe charafan sefydlog a'r tŷ a feddiannir ar y safle yn gor-ddwysau'r safle. Nid oedd cynllun arfaethedig y safle yn cydymffurfio â safonau model 2008 ar gyfer digon o le troi i gerbydau mawr megis ambiwlansys ac  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CAIS RHIF 15/2021/0681/ PF - GRAIANRHYD FARM HOUSE, LLANARMON YN IAL, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 166 KB

Ystyried cais ar gyfer codi estyniad arfaethedig er mwyn darparu llety ychwanegol yn Graianrhyd Farm House, Llanarmon yn Ial, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais i godi estyniad arfaethedig i ddarparu llety anecs yn Ffermdy Graianrhyd, Llanarmon-yn-Iâl, yr Wyddgrug.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd yr Aelodau at y wybodaeth bellach oedd wedi’i chynnwys yn y dogfennau ategol.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Martyn Holland (Aelod Lleol) yn annog aelodau i gefnogi’r cais. Esboniodd bod y cais ar gyfer caniatáu teulu i letya perthnasau hŷn. Roedd y cais gwreiddiol wedi cael ei ddiwygio yn dilyn canllawiau swyddog cynllunio. Nid oedd safle’r cynnig yn edrych dros unrhyw eiddo arall, a heb gymdogion agos, ac nid oedd wedi’i leoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Emrys Wynne fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhellion y swyddog  nodwyd yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Christine Marston. 

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – 15

YN ERBYN – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

9.

CAIS RHIF 43/2021/1279/ PF - LLWYN MESEN, GALLT MELYD, PRESTATYN pdf eicon PDF 169 KB

Ystyried cais ar gyfer addasiadau ac estyniad i adeilad allanol presennol i ffurfio llety ychwanegol ategol i annedd bresennol a gwaith cysylltiedig yn 1 Llwyn Mesen, Gallt Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer diwygiadau ac estyniad i adeilad allan sydd eisoes yn bodoli, i ffurfio llety anecs ategol i annedd presennol, a gwaith cysylltiedig yn 1 Llwyn Mesen, Meliden, Prestatyn.

 

Esboniodd y Cadeirydd mai’r rheswm dros gyflwyno’r cais i’r pwyllgor oedd oherwydd mai’r Cynghorydd Peter Evans yw’r ymgeisydd.

 

Cynnig – Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry bod y cais a gyflwynwyd yn un syml a chynigodd y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, fel y nodwyd yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – 15

YN ERBYN – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cynigodd y Cadeirydd ei ddiolch a’i ddymuniadau da ar ran y pwyllgor i’r Swyddog Cyfreithiol  - Tim Dillon. Esboniodd mai dyma oedd cyfarfod pwyllgor olaf Tîm cyn gadael yr awdurdod. Dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd a diolch iddo am ei waith yn ystod ei gyfnod gyda Chyngor Sir Ddinbych.

 

 

10.

YMATEB I’R YMGYNGHORIAD CYN YMGEISIO STATUDOL pdf eicon PDF 481 KB

Ystyried adroddiad yn ceisio ymateb aelodau i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol ar Biblinellau Carbon Deuocsid HyNet North West (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad piblinellau carbon deuocsid Hynet North West - Prosiect Seilwaith Cenedlaethol ei Arwyddocâd (dosbarthwyd ymlaen llaw). Esboniodd i’r aelodau bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor er cytundeb yr aelodau i beidio cyflwyno sylwadau ffurfiol mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Arweiniodd y Cadeirydd yr Aelodau drwy’r rhesymau ar gyfer yr argymhelliad hwn.

 

Hysbysodd y Cynghorydd Brian Jones yr aelodau ei fod wedi bod yn rhan o drafodaethau yn ymwneud â’r prosiect hwn. Anogodd aelodau i fonitro proses y prosiect.

 

Cynigodd y Cynghorydd Mark Young bod argymhelliad yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad;

Nad yw Cyngor Sir Ddinbych, fel awdurdod cyfagos yn dymuno gwneud sylwadau ar y piblinellau carbon deuocsid arfaethedig PEIR ar hyn o bryd, serch hynny, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wneud sylwadau ar y cynnig yn ystod y cam ymgeisio, ac i wneud sylwadau ar gydrannau Prosiect HyNet North West.

Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Peter Scott. 

 

Roedd pob aelod yn cytuno â’r argymhelliad a gynhigiwyd.

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor cynllunio yn cytuno ar gymeradwyo’r geiriad uchod i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.10.

Dogfennau ychwanegol: