Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Alan Hughes, Melvyn Mile a Bob Murray

 

Roedd y Cynghorydd Tony Thomas wedi dweud y byddai arno angen gadael y cyfarfod yn gynnar i fynd i ddigwyddiad arall ond ei fod yn gobeithio dychwelyd i’r cyfarfod yn nes ymlaen.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol yn eitem 6 ar y rhaglen - Tir gerllaw Fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych oherwydd bod yr ymgeisydd yn gwsmer i’r cwmni y mae’n gweithio iddo.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 456 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021.

                          

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021 fel rhai cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.  Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 22/2020/0735/PF - TIR GERLLAW FFERM HENDRERWYDD, HENDRERWYDD, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i adeiladu annedd menter wledig, gosod gwaith trin preifat a gwaith cysylltiedig ar dir gerllaw fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu annedd menter wledig, gosod gwaith trin preifat a gwaith cysylltiedig ar dir gerllaw fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Ian Jones (O blaid) - rhoddodd hanes cefndirol gan ddweud bod ei deulu wedi byw ar y fferm ers blynyddoedd yn ffermio gwartheg godro. Enillodd y busnes statws organig yn 2006 yn cynnig safonau uchel a chynaliadwyedd, a thynnodd sylw at y ffaith bod nifer y ffermydd llaeth wedi lleihau oherwydd meini prawf llym.   Gofynnwyd am ganiatâd cynllunio ar gyfer llety o ansawdd ar y safle i Reolwr Buches Odro gan fod y bwthyn gwyliau 2 ystafell wely yn anaddas i’r diben hwn.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Roedd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) wedi gofyn am i’r cais gael ei atgyfeirio at y Pwyllgor  i drafod egwyddor y cynnig a’r angen am annedd ychwanegol i gefnogi menter y fferm.   Soniodd am lwyddiant y busnes a’i bwysigrwydd o ran cynaliadwyedd i’r dyfodol a’r rhaglen amgylcheddol y dylid ei chefnogi, a byddai hefyd yn darparu annedd i fodloni’r anghenion hynny a byddai o fudd i’r gymuned. Roedd mwyafrif y profion TAN 6 wedi cael eu bodloni ac roedd safle arfaethedig yr annedd wedi cael ei egluro oherwydd cyfyngiadau yn ardaloedd eraill cyfadeiladau’r fferm. Anogodd yr aelodau i roi caniatâd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Merfyn Parry fwy o gyd-destun gan ddweud ei bod yn fferm flaengar oedd wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddod yn organig a soniodd am y gwaith oedd ynghlwm â gweithredu’r busnes a sicrhau lles anifeiliaid.  Roedd profion cynllunio wedi cyfiawnhau’r angen am annedd ychwanegol i weithiwr fferm. O ran pryderon am bellter yr annedd arfaethedig o gyfadeiladau’r fferm, roedd y rhesymu y tu ôl i’r lleoliad wedi cael ei gyfiawnhau o ran cyfyngiadau tir nad oedd yn eiddo i’r Ymgeisydd; lleoliad y piblinellau nwy a’r perygl o lifogydd.  Nid oedd y Cynghorydd Parry yn ystyried bod maint yr annedd yn rhy fawr ac mewn ymateb i awgrym y swyddogion y dylid defnyddio’r bwthyn gwyliau, soniodd am y trefniadau a gynigiwyd gan yr Ymgeisydd o ran tai, gyda’r bwriad o ddenu ymgeisydd o safon uchel i’r rôl a oedd angen byw ar y safle ac a oedd yn rhan o’r pecyn recriwtio. Ni fyddai’r bwthyn gwyliau 2 ystafell wely yn denu teulu modern i weithio, a’r bwriad oedd ei ddefnyddio fel bwthyn gwyliau neu ar gyfer gweithlu dros dro os oedd angen - nid oedd eiddo arall addas yn yr ardal. O ganlyniad, roedd yn credu bod y cais yn pasio’r meini prawf ar gyfer TAN 6 a chynigiodd y dylid caniatáu’r  cais, a eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.  Gofynnodd y Cynghorydd Young a oedd yn arferol yn yr amgylchiadau hyn, o gofio y gellid bodloni anghenion lles yr anifeiliaid yn well ar y safle, i weithiwr fferm fyw filltir i ffwrdd fel y cyfeiriwyd yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd anghydfod o ran yr angen am ail annedd i weithiwr fferm a’r mater oedd, a oedd yr holl ddewisiadau wedi cael eu hystyried o ran llety arall cyn rhoi caniatâd i adeiladu annedd newydd yng nghefn gwlad agored.  Roedd swyddogion yn ystyried bod y bwthyn gwyliau presennol oedd yn atodiad i’r ffermdy yn addas ac ar gael i’r diben hwn - os nad yn ei ffurf bresennol yna drwy ei addasu.  Roedd Ymgynghorwyr y Cyngor wedi awgrymu anheddau addas posibl o fewn milltir i’r safle ond efallai y bydd gan yr aelodau farn wahanol, ac nid oedd enghreifftiau penodol oedd yn adlewyrchu’r cais presennol i gyfeirio atynt. Ymatebodd y Cynghorydd Mark Young ei bod yn arferol i weithwyr amaethyddol fyw ar y safle  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 45/2021/0187/PF - COLEG LLANDRILLO, FFORDD CEFNDY, Y RHYL pdf eicon PDF 169 KB

Ystyried cais i newid defnydd y tir ac adeiladu Canolfan Addysg Bellach mewn Peirianneg, creu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu lôn fynediad o fewn ffiniau’r safle a maes parcio, ynghyd â thirlunio a gwaith cysylltiedig yng Ngholeg Llandrillo, Ffordd Cefndy, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd y tir ac adeiladu Canolfan Addysg Bellach mewn Peirianneg, creu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu lôn fynediad o fewn ffiniau’r safle a maes parcio, ynghyd â thirlunio a gwaith cysylltiedig yng Ngholeg Llandrillo, Ffordd Cefndy, y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Lawrence Wood (o blaid) - adroddodd ar y cynnig i ddatblygu Campws y Rhyl ymhellach drwy drosglwyddo darpariaeth peirianneg Coleg Llandrillo i ganolfan ragoriaeth arfaethedig ar y safle, fyddai’n cynnig y sgiliau diweddaraf mewn peirianneg adnewyddadwy ac egni a sgiliau gweithgynhyrchu uwch, a thynnodd sylw at y manteision economaidd-gymdeithasol, cysylltiadau partneriaeth â chyflogwyr a chyfleoedd i ddysgwyr ar bob lefel. Roedd cynllun cymeradwy gwagio mewn llifogydd wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i bryderon perygl llifogydd ac roedd mesurau atgyfnerthu wedi cael eu cynnwys yn yr adeilad. Gofynnwyd i aelodau gydbwyso’r pryder hwn yn erbyn manteision cefnogi dysgwyr, twf economaidd a buddsoddiad ac i ganiatáu’r cais.

 

Trafodaeth Gyffredinol -  Cynigiodd y Cynghorydd Ellie Chard (Aelod Lleol) ac eiliodd y Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid caniatáu’r cais gan ddweud ei bod yn llwyr gefnogi’r cais, fyddai’n gaffaeliad i’r dref yn darparu sgiliau a chyflogaeth a thwf economaidd. Roedd wedi cael ei sicrhau gan y mesurau i ymdrin â’r perygl llifogydd a nododd y cyfleusterau presennol yn y safle a’r ardal o amgylch. Anogodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones (Aelod Lleol) yr aelodau i ganiatáu’r cais hefyd, gan dynnu sylw at y manteision i ddysgwyr a chyfleoedd cyflogaeth. Wrth ychwanegu ei gefnogaeth, rhoddodd y Cynghorydd Brian Jones deyrnged i’r gwaith caled a wnaed i ddatblygu’r prosiect hwn, ac er bod perygl llifogydd, roedd llawer o waith yn mynd ymlaen gyda phartneriaid er mwyn lliniaru’r perygl llifogydd yn yr ardal benodol hon. Adleisiodd y Cynghorwyr Pete Prendergast a Joan Butterfield deimladau’r rhai oedd o blaid y cynnig, gan bwysleisio’r cyfleoedd sgiliau i bobl ifanc a’r rhagolygon o ran gyrfaoedd i’r dyfodol, ynghyd â’r effaith bositif ar y mynegai amddifadedd yn y Rhyl o ganlyniad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu deyrnged i waith caled y swyddogion yn enwedig Sarah Stubbs oedd wedi gweithio’n ddiflino gyda’r Coleg, eu hasiantwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru ar y prosiect ac i liniaru’r perygl llifogydd.   Amlygwyd yr angen i gydbwyso’r ffactor perygl llifogydd a’r gwrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru â manteision clir caniatáu’r datblygiad, fyddai’n darparu budd addysgol ac economaidd arwyddocaol mewn ardal o amddifadedd lluosog cydnabyddedig. Wedi pwyso a mesur, roedd y swyddogion wedi dod i’r casgliad bod manteision sylweddol y cynnig yn gorbwyso pryderon am y goblygiadau llifogydd (yn amodol ar osod amodau) ac roeddent wedi argymell cymeradwyo’r cais.

 

Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard, ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

                

PLEIDLAIS:

O BLAID – 14

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

[Ar y pwynt hwn (10.40 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer]

 

 

7.

CAIS RHIF 14/2019/1009/PR - TIR GERLLAW LLYS HEULOG, CYFFYLLIOG, RHUTHUN pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried cais am fanylion ynglŷn â golwg saith o anheddau, tirlunio, graddfa a chynllun a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol rhif  14/2019/0233 (Cais materion a gadwyd yn ôl) ar dir gerllaw Llys Heulog, Cyffylliog, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am fanylion ynglŷn â golwg saith o anheddau, tirlunio, graddfa a chynllun a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd  amlinellol rhif cod  14/2019/0233 (Cais materion a gadwyd yn ôl) ar dir gerllaw Llys Heulog, Cyffylliog, Rhuthun.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Dywedodd y Cadeirydd (Aelod Lleol) ei fod yn gais materion a gadwyd yn ôl oedd wedi cael ei adrodd i’r Pwyllgor oherwydd gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan Gyngor Cymuned Cyffylliog a gofynnodd i’r swyddogion ymateb i’r pwyntiau a godwyd.   Canolbwyntiodd y swyddogion ar y prif wrthwynebiadau gan ymateb bod y caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd ar gyfer adeiladu 5 – 7 o anheddau ar y safle ac felly roedd effaith 7 annedd ar draffig eisoes wedi cael ei ystyried a’i asesu’n dderbyniol. Nid oedd angen darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle ar gyfer datblygiadau â llai na 10 annedd, yn hytrach gwnaed cyfraniad ariannol drwy daliad symiau gohiriedig tuag at ddarparu tai fforddiadwy yn y gymuned; roedd y swm gohiriedig hwn yn cael ei gyfrifo ar hyn o bryd ac roedd cytundeb cyfreithiol yn cael ei lunio fel rhan o broses ar wahân. O ran y cymysgedd o dai, i ddechrau roedd y cais materion a gadwyd yn ôl wedi’i gyflwyno ar gyfer anheddau 4/5 ystafell wely a thynnodd y swyddogion sylw ar yr angen am gymysgedd gwell yn y gymuned yn seiliedig ar yr asesiad o’r farchnad dai leol.  O ganlyniad, cafodd y cais ei ddiwygio i ddarparu cymysgedd mwy cyfartal o eiddo ar gyfer y safle.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Christine Marston y dylid derbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – 16

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0                                         

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

CAIS RHIF 46/2021/0727/PF - TIR (RHAN O’R ARDD) YN THE CROFT, FFORDD DINBYCH UCHAF, LLANELWY pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais i godi un annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn The Croft, Ffordd Dinbych Uchaf, Llanelwy (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi un annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn The Croft, Ffordd Dinbych Uchaf, Llanelwy.  Cyfeiriwyd at gywiriad i amod 4 ar y taflenni glas.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Scott at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan Gyngor Dinas Llanelwy, yn enwedig o ran gorddwysau ac edrych dros eiddo eraill.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y swyddogion gydbwysedd o ystyriaethau yn yr achos hwn gan gydnabod pryderon y Cyngor Dinas. Wedi asesu’r cais, gwelwyd ei fod yn bodloni’r safonau o ran pellteroedd gwahanu a digon o le o gwmpas y safle, ac roedd digon o fannau parcio ar y safle ar gyfer yr uned.  Gan ystyried cymeriad yr ardal a’r adeiladau o’i gwmpas, ni ystyriwyd ei fod yn arbennig o ddwys o ran defnydd ac ychydig o effaith weledol fyddai’n ei gael ar olygfa’r stryd yn ehangach.  Am y rhesymau hyn, ystyriodd swyddogion y byddai’n anodd gwrthod y cais ac argymhellwyd y dylid ei ganiatáu. 

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Peter Scott y dylid derbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – 13

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

9.

ADRODDIAD AR AMODAU CYNLLUNIO - CAIS RHIF 40/2021/0309 – LLAIN C7, PARC BUSNES LLANELWY, LLANELWY pdf eicon PDF 314 KB

Ystyried yr amodau cynllunio i’w gosod ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ar 6 Hydref 2021 ar gyfer adeiladu Cartref Gofal Preswyl â 198 o welyau (dosbarth defnydd C2), tirlunio, mannau parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Llanelwy (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr amodau cynllunio i’w gosod ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ar 6 Hydref 2021 ar gyfer adeiladu Cartref Gofal Preswyl â 198 o welyau (dosbarth defnydd C2), tirlunio, mannau parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Llanelwy.  Cyfeiriwyd at gywiriad i amod 1 ar y taflenni glas.

 

Atgoffodd y Cadeirydd  yr aelodau bod caniatâd cynllunio wedi’i roi yn groes i argymhellion y swyddogion, ar yr amod bod yr amodau cynllunio yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor  i’w cymeradwyo yn seiliedig ar y drafodaeth honno, ac roedd gosod yr amodau hynny ar y caniatâd cynllunio yn cynrychioli parhad o’r broses honno.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Mynegodd y Cynghorydd Merfyn Parry bryderon, gyda chefnogaeth y Cynghorwyr Peter Scott a Brian Jones am y bwriad i osod amod sŵn rhif 9 - “Bydd ffenestri nad ydynt yn agor yn cael eu gosod ym mhob ystafell gyfanheddol yn y datblygiad a gymeradwywyd a byddant yn cael eu cadw felly bob amser, heblaw am pan fydd angen gwagio’r adeilad ar frys.”  Cyflwynwyd y ddadl y dylid gallu agor rhywfaint ar y ffenestri er lles trigolion i adael i awyr iach gylchredeg.   Cymharodd y Cynghorydd Scott y cais hwn ag ardal breswyl Pant Glas, Llanelwy, ger yr A55. Penderfynodd Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru na fyddai angen cynllun lleihau sŵn yn yr achos hwn ac eto, byddai’r lefelau sŵn yn uwch na’r safle cartrefi gofal.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru fel yr arbenigwyr ar sŵn o’r lôn gerbydau a dywedodd fod y Cyngor ei hun yn cadw preswylwyr mewn cartrefi gofal preifat heb system awyru mecanyddol a ble nad oedd ffenestri wedi’u selio.   Ar y sail honno, cynigiodd y dylid dileu amod sŵn arfaethedig rhif 9  o’r amodau a awgrymwyd, ac fe eiliodd y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

Atgoffodd y Swyddogion  yr aelodau o gefndir y cais, gan nodi nad oedd pob aelod yn bresennol pan roddwyd y caniatâd cynllunio.  Roedd yr adroddiad asesiad sŵn a gyflwynwyd gyda’r cais yn derbyn y gellid bod sŵn annerbyniol o’r A55 a defnydd diwydiannol o’i chwmpas ac roedd y swyddogion wedi argymell y dylid gwrthod y cais.   Roedd y Pwyllgor wedi caniatáu’r cais ar y sail y gellid lliniaru’r sŵn drwy amodau cynllunio ac roedd ffenestri nad oedd yn agor wedi cael eu trafod yn helaeth fel ffordd o leihau sŵn. O ganlyniad, roedd disgwyliad cyfreithiol dilys y byddai amod o’r fath yn cael ei osod o gofio’r hyn a gytunwyd yn flaenorol.

 

Yn ystod trafodaeth bellach, ystyriodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’n briodol ail edrych a dileu’r amod arfaethedig am ffenestri nad oedd yn agor yng ngoleuni gwybodaeth newydd ar y mater, a thynnodd sylw hefyd at ffyrdd eraill o liniaru sŵn yn cynnwys rhwystrau lladd/atal sŵn yn lle ffenestri nad oedd yn agor. Atgoffodd y swyddogion y Pwyllgor  am ymatebion i'r ymgynghoriadau ar y cais, yn enwedig ymateb Llywodraeth Cymru fel awdurdod priffyrdd cefnffordd yr A55, ynddo dynododd fater â sŵn ac roedd wedi dweud y dylai unrhyw ganiatâd gynnwys mesurau lliniaru sŵn digonol oherwydd agosrwydd y safle at yr A55.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn awgrymiadau lliniaru sŵn yr ymgeisydd ar gyfer awyru drwy ffyrdd mecanyddol ac felly roedd wedi cyfarwyddo y byddai ffenestri nad oedd yn agor yn cael eu gosod. O ganlyniad, byddai peidio â gosod yr amod hwn yn groes i gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fyddai angen cael gwybod cyn symud ymlaen â’r amodau ar gyfer caniatâd. Pwysleisiodd y swyddogion fod caniatâd cynllunio wedi’i  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

‘CYNLLUNIO AR GYFER AWYR DYWYLL Y NOS’ - CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL AR GYFER GOLAU YN AHNE BRYNIAU CLWYD A DYFFRYN DYFRDWY - ADRODDIAD YNGHYLCH YR YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS pdf eicon PDF 291 KB

Ystyried adroddiad ynglŷn â chanlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer golau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ynghyd ag argymhellion ynghylch newidiadau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft a’i fabwysiadu yn ffurfiol (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ynglŷn â chanlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer golau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ynghyd ag argymhellion ynghylch newidiadau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft a’i fabwysiadu yn ffurfiol.

 

Rhoddodd yr Aelodau Arweiniol, y Cynghorwyr Mark Young a Tony Thomas (Cadeirydd y Cyd-bwyllgor AHNE) deyrnged i’r gwaith rhagorol a wnaed yn cynnwys gwaith caled y swyddogion a’r Grŵp Cynllunio Strategol, a diolchwyd hefyd i’r rhai oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas hefyd at ymddeoliad y Swyddog Cynllunio AHNE, Tony Hughes cyn bo hir a diolchodd yn ffurfiol iddo am ei wasanaeth ymroddedig gan ddymuno’n dda iddo i’r dyfodol.

 

Tynnodd y Swyddog Cynllunio AHNE sylw at yr ymateb positif oedd y prosiect wedi’i gael gyda llawer o gefnogaeth o bob ardal, ac roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn wedi dangos cefnogaeth sylweddol i gynnal a gwella awyr dywyll y nos, yr oedd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn ceisio’i gyflawni. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y newidiadau arfaethedig i’r Canllawiau Cynllunio Atodol mewn  ymateb i’r ymgynghoriad ynghyd â sylwadau’r swyddogion.  Byddai angen i’r tri Awdurdod Lleol yn yr AHNE gymeradwyo’r prosiect a nodwyd y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn ystyried y mater ym mis Rhagfyr ac Ionawr, oedd o fewn amserlenni’r cais i’r Gymdeithas Genedlaethol Awyr Dywyll ar gyfer Statws Cymuned Awyr Dywyll.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Mark Young y dylid cytuno ar Argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad ac y dylid mabwysiadu’n ffurfiol y ‘Cynllunio ar Gyfer Awyr Dywyll y Nos’ - Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Golau yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac eiliodd y Cynghorydd Ellie Chard.

 

PENDERFYNWYD cytuno â’r newidiadau arfaethedig i’r CCA a mabwysiadu ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll’ - Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer golau yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’.

 

 

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GAIS RHIF 43/2020/0521 – TIR GERLLAW ALEXANDRA DRIVE, PRESTATYN

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddiweddariad hwyr oedd wedi cael ei gynnwys yn y dogfennau atodol (taflenni glas) er gwybodaeth aelodau ynglŷn â’r cais i godi 102 annedd fforddiadwy, ffyrdd cysylltiedig, mannau agored, tirlunio ac isadeiledd (ail gyflwyno cais 44/2019/0629) ar dir gerllaw Alexandra Drive, Prestatyn.

 

Roedd y Pwyllgor  wedi rhoi caniatâd cynllunio i’r cais uchod ar 16 Mehefin 2021, ac yn dilyn hynny rhoddodd Llywodraeth Cymru ‘Gyfarwyddyd Atal’ yn ei le i atal y Cyngor rhag cyhoeddi’r penderfyniad nes oedd wedi ystyried a ddylid galw’r cais i mewn am benderfyniad gan Weinidogion.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â galw’r cais i mewn i benderfynu arno gan Weinidogion ac yn awr gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol barhau i brosesu’r cais gyda’r bwriad o gyhoeddi’r penderfyniad cynllunio pan fydd y cytundeb cyfreithiol Adran 106 wedi’i lofnodi. Nid oedd bellach angen y gofyniad blaenorol ar gyfer arian tuag at welliannau i briffyrdd fel rhan o’r cytundeb gan fod y gwaith eisoes wedi’i wneud - ond roedd angen yr holl delerau cytundeb eraill. Ar ôl cwblhau’r cytundeb cyfreithiol Adran 106, byddai Tystysgrif y Penderfyniad yn cael ei rhyddhau.

 

Nododd yr Aelodau’r sefyllfa.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol: