Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Julian Thompson-Hill a Peter Scott.

 

Anfonodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Rhys Thomas ei ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o gysylltiad oddi wrth:

 

Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Dywedodd ei fod yn byw yn agos at y cais hefyd. Datganodd gysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen hefyd, oherwydd bod ei ferch yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Datganodd y Cynghorydd Joan Butterfield gysylltiad personol yn eitem rhif 9 ar y rhaglen, oherwydd ei bod ar Fwrdd Marchnad y Frenhines.

 

Datganodd y Cynghorydd Pete Prendergast gysylltiad personol yn eitem rhif 10 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych.

 

Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) gysylltiad personol yn eitem rhif 6 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn adnabod y ddau o bobl gysylltiedig. Datganodd hefyd gysylltiad personol yn eitem rhif 10 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych.

 

Datganodd y Cynghorydd Hugh Evans (Arweinydd) gysylltiad personol yn eitem rhif 5 a 9 ar y rhaglen.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 459 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021 (copi i ddilyn).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorfennaf 2021 eu cyflwyno.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorfennaf 2021 fel cofnod cywir.

 

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 10) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF. 02/2021/0327/ PF - PENDORLAN, FFORDD LLANFAIR RHUTHUN pdf eicon PDF 167 KB

Ystyried ceisiadau i godi estyniadau ac i wneud addasiadau i annedd yn cynnwys adeiladu waliau cynnal, wal flociau flaen a gwaith cloddio i greu lle parcio gwastad yn y ffrynt yn cynnwys tynnu gwrych (rhannol ôl weithredol) (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Emrys Wynne y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon ar y rhaglen gan ei fod wedi datgan cysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

Cyflwynwyd cais i godi estyniadau ac i wneud addasiadau i annedd yn cynnwys adeiladu waliau cynnal, wal flociau flaen a gwaith cloddio i greu lle parcio gwastad yn y ffrynt yn cynnwys tynnu gwrych (rhannol ôl-weithredol) ym Mhendorlan, Ffordd Llanfair, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr Alun Jones (Yn erbyn) - Hysbysodd y pwyllgor ei fod yn byw drws nesaf i safle'r eiddo. Dywedodd fod ganddo dri phrif bryder gyda'r cais cynllunio.

1-    Colli golau a gor-gysgodi - oherwydd ei fod yn agos at y ffin a rennir a'r eiddo. Byddai tafluniad yr estyniad unllawr yn y cefn yn cysgodi'r byngalo a ffenestr y brif ystafell wely.

2-    Eiddo yn ymwthio allan yn y ffrynt - Cynigiwyd y byddai'r estyniad deulawr yn cyrraedd 1.7m ymhellach na'r eiddo presennol. Dywedodd fod canllawiau cynllunio Sir Ddinbych wedi cynghori na ddylai estyniadau o'r fath ymwthio’n ormodol o flaen yr adeilad oni bai eu bod yn unol â datblygiadau eraill. Teimlwyd y byddai ffenestr yr estyniad yn edrych dros ein gardd ac yn cael effaith ormesol ar yr eiddo a'r brif ardd breifat.

3-    Colli preifatrwydd - roedd yr estyniad mor agos at yr eiddo cyfagos a byddai'n cael effaith ar breifatrwydd yr eiddo. Byddai drychiad y ffenestr flaen yn edrych dros ein gardd. Byddai'r ffenestr llawr cyntaf newydd arfaethedig 4m o'r ffin a dim ond yn arwain at golli preifatrwydd fy eiddo.

 

Dywedodd Mr Jones mai dau newid a fyddai'n dderbyniol iddo fyddai symud yr estyniad deulawr 2m arall i ffwrdd o'r ffin. Byddai hyn yn lleihau'r effaith ormesol y byddai'r estyniad yn ei gael ar ei eiddo cyfagos. Yr ail newid fyddai symud blaen yr estyniad deulawr yn ôl, er mwyn mwyn bod yn unol â'r eiddo presennol gan sicrhau preifatrwydd yn ein gardd. Mae angen mynd i'r afael â dyluniad y ffenestr uchel yn yr estyniad er mwyn lleihau colli preifatrwydd. 

 

Catrin Thomas (O blaid) - Mae fy ngŵr a minnau wedi cael ein geni a'n magu yn Rhuthun ynghyd â'n plant. Fe wnaethon ni brynu'r eiddo yn gynnar eleni, i aros yn lleol i dref Rhuthun, busnesau lleol ac ysgol y plant. Ar hyn o bryd rydym yn byw rhwng tai teuluoedd a charafán, tra bo’r datblygiadau i Bendorlan wedi'u cwblhau. Cyn cyflwyno'r cais cynllunio, ymwelais â pherchnogion Bryn Celyn i drafod y cais a chefais wybod nad oedd ganddynt unrhyw broblemau. Roeddwn yn drist iawn o weld y gwrthwynebiadau ar-lein, credwn ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda'n cymdogion. Mae'r dioddefaint wedi creu straen a gofid i'n teulu cyfan. Byddai ein cynllun ar gyfer datblygu'r tŷ i gartref mwy ynni effeithlon ac eang i'n teulu yn gwella'r strydlun ac yn dwyn apêl i balmentydd Ffordd Llanfair.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda swyddogion cynllunio a hefyd wedi gweithio i ddiwygio'r cynlluniau gwreiddiol gyda'r cymdogion sy'n gwrthwynebu. Mae cynllun byw'r tŷ presennol yn hen iawn ac nid yw'n cynnig byw mewn cynllun agored. Mae cynllun y plot hefyd y tu ôl ymlaen gyda pharcio yn y cefn a'r ardd yn y tu blaen, ger y briffordd brysur, na fyddai’n addas ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc fel ni.

Mae gan bob un heblaw am ein heiddo ni ac un arall ddreif yn y ffrynt a gerddi cefn, ein nod oedd creu dreif flaen gyda lle parcio gwastad a gardd gefn ddiogel i'n plant gael chwarae.

Gofynnodd y swyddog cynllunio inni ddiwygio'r cynlluniau cychwynnol yn dilyn pryderon a godwyd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF. 45/2020/0844/PF - SANDY LODGE, 83 FFORDD DYSERTH, Y RHYL pdf eicon PDF 249 KB

Ystyried cais i newid ac addasu cartref nyrsio i gynnwys estyniad gyda dwy ystafell wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau set o risiau wedi’u hamgáu a fydd yn allanfeydd tân, a chanopi mynediad (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i addasu ac ymaddasu Cartref Nyrsio presennol i gynnwys estyniad ar gyfer dwy ystafell wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau set o risiau wedi’u hamgáu a fydd yn allanfeydd tân, a chanopi mynediad yn Sandy Lodge, 83 Ffordd Dyserth, Y Rhyl.

 

Cynigodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid gohirio’r cais nes bod ymweliad safle wedi’i gynnal i eiddo’r preswylydd lleol. Gofynnodd y Cynghorydd Jones am ymweliad safle i eiddo’r preswylydd a'r eiddo cymdogol i weld effaith y gwaith addasu yn Sandy Lodge.

Eiliodd y Cynghorydd Ann Davies y cynnig i ohirio ar y sail y gofynnwyd am ymweliad safle.

 

Pleidlais -

Gohirio - 8

Ymatal - 1

Yn erbyn – 9

 

PENDERFYNWYD NA roddwyd y cais am ohirio a bod y Pwyllgor yn clywed y cais am newid ac addasu'r Cartref Nyrsio presennol yn Sandy Lodge, y Rhyl.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau nad oedd y Siaradwyr Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon ar y rhaglen wedi gallu mynychu, ond eu bod wedi darparu datganiadau a byddai’r Rheolwr Rheoli Datblygu yn eu hadrodd i aelodau.

 

Datganiad ysgrifenedig a ddarparwyd gan Tim Carty (yn erbyn) – Roedd y cais manwl yn cyfeirio at ddefnydd arfaethedig y cyfleuster fel ysbyty seiciatrig preifat, roedd gwefan Medirose yn cyfeirio at dderbyn atgyfeiriadau gan y rhai hynny a oedd yn cael eu cadw o dan y ddeddf iechyd meddwl a’r rhai hynny a oedd yn destun gorchmynion derbyn i’r ysbyty.  Roedd y rhai a oedd yn gwrthwynebu’r cais wedi cael eu cyhuddo o fod â phroblem gyda darpariaeth iechyd meddwl, ond mewn gwirionedd roeddem yn gwrthwynebu’r lleoliad yma oherwydd ein bod yn malio am ddarpariaeth briodol i unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl. Nid oedd yr ymgeisydd yn gallu nodi y byddai’r uned yn cael ei hystyried yn ddiogel gan y byddai hynny’n awgrymu cais newid defnydd felly nid oes sicrwydd y byddai’r cyfleuster yn ddiogel.

Gor-ddatblygu – Mae’r safle wedi cael ei ddatblygu ddwywaith o’r blaen, gan ehangu ôl-troed yr adeilad a lleihau’r mannau agored ar y safle, a bydd y rhan fwyaf ohonynt nawr yn ofodau parcio. Bu’r adeilad yn fethiant fel cartref gofal oherwydd ei anaddasrwydd. A fyddech chi’n dewis anfon anwylyd yno? Os na fyddech, pam felly fyddech chi’n ei hystyried yn briodol i anfon unigolion â heriau iechyd meddwl yno? Onid ydynt yn haeddu gwell? Mae’r adeilad yn hen, yn dywyll ac yn anaddas fel lle i gael seibiant ac i adsefydlu. Mae wedi’i leoli yng nghanol ardal breswyl, heb unrhyw fannau gwyrdd i gynorthwyo â gwella. Gadewch i ni ddefnyddio carchardai fel enghraifft, erbyn hyn mae hen adeiladau yn cael eu hystyried yn amhriodol a chyfleusterau modern yw’r ffordd ymlaen. Pam ddylen ni dderbyn llai ar gyfer yr unigolion hynny â phroblemau iechyd meddwl? 

Traffig – Mae’r arolwg traffig yn ymwneud â defnydd blaenorol yr adeilad pan oedd yn gartref gofal 4 blynedd yn ôl, cyn y datblygiad a oedd wedi cynyddu llif y traffig. Bu i hyn roi pwysau ar y cyffyrdd â Ffordd Dyserth yn Rhodfa Pen Y Maes, Ystâd Park View, Lôn Ystrad a Heol Y Llys.  Roedd cyflymder y traffig wedi cynyddu ar y ffordd honno gyda llif y traffig. Roedd y cais cynllunio wedi dynodi gofodau parcio, ond pe na bai’r rheiny’n ddigonol, byddai’n demtasiwn i barcio ar y briffordd. Fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad safle.

Angen – Bydd gwaith yn dechrau’n fuan ar gyfleuster gyda 66 gwely a fydd wedi’i leoli llai na milltir i ffwrdd. Yn ôl gwefan Medirose, bwriedir darparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol er mwyn galluogi pobl leol i gael mynediad at  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF. 45/2021/0265/ PF – CYN SAFLE'R GANOLFAN HAUL, RHODFA'R DWYRAIN, Y RHYL, LL18 3AQ pdf eicon PDF 172 KB

Ystyried cais i newid defnydd dir yn atyniad twristiaid ‘SkyFlyer Balloon’ yn cynnwys gosod platfform concrid, winsh fowntiedig a’r 'Skyflyer Balloon' a'r fasged gysylltiedig, codi toiled ac adeilad derbynfa, tirlunio a'r gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd y tir i fod yn atyniad twristiaid “SkyFlyer Balloon”, gan gynnwys gosod platfform concrid, winsh wedi’i fowntio a’r “SkyFlyer Balloon” a’r fasged gysylltiedig, codi adeiladau ar gyfer toiled a derbynfa, tirlunio a gwaith cysylltiedig yng nghyn safle’r Ganolfan Haul, Rhodfa’r Dwyrain, Y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Sean Taylor (Asiant) (O blaid) – Nododd mai amcan yr atyniad oedd creu profiad o’r radd flaenaf drwy gydol y flwyddyn mewn man eiconig. Pwynt gwerthu unigryw yr atyniad fyddai mai dyma’r atyniad awyrol cyntaf o’i fath yn y byd. Byddai’n hedfan ar 40 not ac yn codi 30 o bobl i fyny at uchder o 120 metr. Byddai’r atyniad hefyd yn gallu gwrthsefyll gwyntoedd dros 80 not. Mae’r cynnig yn cynrychioli buddsoddiad o dros £2 filiwn a byddai’n cyflogi 7 gweithiwr llawn amser a 4 rhan amser yng ngham un.

Rhagwelwyd mai nifer yr ymwelwyr ym mlwyddyn un fyddai 67,175, gan godi i 133,000 ym mlwyddyn dau a chyrraedd lefel wastad o 145,000 erbyn blwyddyn pedwar. Y gobaith oedd gallu agor yr atyniad erbyn Pasg 2022, ond yn sgil oedi, y gobaith bellach yw y bydd yn agor ym mis Mai. Roedd yna amserlen 8 i 9 mis ar gyfer gweithgynhyrchu a gosod y falŵn. Gwnaed gwaith blaenorol gyda darparwyr llety, darparwyr gweithgareddau eraill, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i greu atyniad cynaliadwy i dwristiaid. Roedd atyniad y SkyFlyer yn amrywiol ac yn denu amrywiaeth eang o ymwelwyr. Byddai’r atyniad yn cynnig profiad gweledol i ddefnyddwyr o’r Rhyl a’r cyffiniau. Byddai’r cydweithio agos â Hamdden Sir Ddinbych ar y datblygiad yn parhau.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Pwysleisiodd y Cynghorydd Tony Thomas (Aelod Lleol) y byddai hwn yn ddatblygiad eiconig i’r Rhyl ac yn gwella’r ardal. Nododd y teimlai y byddai’r datblygiad yn creu swyddi ac yn dod â busnes i’r ardal.

Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas ganiatáu’r cais yn unol ag argymhellion y swyddogion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Butterfield yn benodol at Amod 11 yr adroddiad, oedd yn ymwneud â thynnu strwythurau os byddai’r atyniad ar gau am gyfnod o 6 mis. Gofynnodd a fyddai’n bosibl ychwanegu eglurhad a manylion ychwanegol at yr amod.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, fel y cynigydd, ei fod yn fodlon gyda’r amod gan ei fod wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Butterfield, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r Awdurdod oedd berchen y tir lle mae’r atyniad yn sefyll. Pe bai'r aelodau’n gwneud cais, gallai’r swyddogion edrych ar yr amod a osodwyd a’i ddiwygio gydag amodau mwy penodol. Y dewis arall fyddai i'r DCC fel perchennog tir reoli'r gwaith o reoli'r safle yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Christine Marston am eglurhad ar amod 7 ynglŷn â'r arwyddion a'r hysbysebu o amgylch y safle a'r balŵn. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai angen i unrhyw arwyddion yn y dyfodol gael eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan yr ACLl.

Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas ganiatáu’r cais yn unol ag argymhellion y swyddogion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Pleidlais -

O blaid – 18

Ymatal – 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’r cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

Ar y pwynt hwn (15:10 p.m.) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 15.20 p.m.

 

 

8.

CAIS RHIF 01/2020/0315/PF . HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH pdf eicon PDF 247 KB

Ystyried cais i drawsnewid,  adnewyddu, dymchwel yn rhannol ac addasu'r prif adeiladau rhestredig at ddefnydd preswyl (34 annedd); dymchwel cartref nyrsys, marwdy, ward ynysu, Ward Aled ac adeilad yr hen waith nwy; datblygu tir o fewn tiroedd yr ysbyty at ddefnydd cymysg i alluogi datblygu, yn cynnwys hyd at 300 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes (yn cynnwys cymysgedd o ddefnydd A1, A2, A3, B1, C1, C2, C3, D1 a D2); lleoli Clwb Criced Dinbych ac adeiladu mynediad a gwneud y gwaith draenio a gwaith arall cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer Trosi, adfer, dymchwel ac addasu'n rhannol adeiladau rhestredig prif ystod i ddefnydd preswyl (34 o anheddau); dymchwel cartref nyrsys, marwdy, ward ynysu, Ward Aled ac adeilad yr hen waith nwy; datblygu tir o fewn tiroedd yr ysbyty at ddefnydd cymysg i alluogi datblygu, yn cynnwys hyd at 300 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes (yn cynnwys cymysgedd o ddefnydd A1, A2, A3, B1, C1, C2, C3, D1 a D2); lleoli Clwb Criced Dinbych; ac adeiladu mynediad, draeniad a gwaith cysylltiedig yn Hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.

 

Cyfeiriodd y cadeirydd yr aelodau at nodiadau’r swyddog y manylir arnynt yn y papurau ategol ynghyd â sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Rhys Thomas, a oedd wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu dod i’r cyfarfod pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi cyflwyniad byr i'r adroddiad i'r aelodau. Roedd yr Aelodau hefyd wedi cael sesiwn friffio anffurfiol ar y cais hwn ddydd Mercher 1 Medi 2021.

 

Roedd y cyflwyniad a gyflwynwyd i aelodau yn gais ‘hybrid’. Mae hyn yn golygu bod rhan o’r cais yn cynnwys cynlluniau manwl, ac ail elfen yn darparu amlinellau, gyda manylion pellach i'w cyflwyno ar y cyd gyda cheisiadau pellach.      

Roedd y cynnig yn cynnwys addasiad a gwaith adfer i’r prif adeilad rhestredig 2 seren yn 34 uned annedd. Ynghyd â’r gwaith adfer hwn, ac yn rhannol ar gyfer ariannu’r gwaith adfer, roedd y cynnig yn cynnwys datblygiad o hyd at 300 annedd, 1,114 medr sgwâr o ofod masnachol a gwaith ategol arall i gynnwys adleoliad posib clwb criced Dinbych a gwaith isadeiledd arall.

Lluniwyd y cais cynllunio gan Jones Bros, daliadau Rhuthun cyfyngedig, a bu’n destun proses ymgynghoriad llawn cyn y cais, ar ddechrau 2020. Roedd y broses hon yn statudol ac yn cynnwys ymgynghoriad cymunedol eang. Roedd swyddogion cynllunio’r awdurdod lleol wedi gweithio gydag ystod eang o ymgyngoreion arbenigol a nifer o ymgynghorwyr yr ymgeisydd. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion arbenigol. 

Cyffyrddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ar geisiadau cynllunio blaenorol ar gyfer datblygu’r safle yr oedd y pwyllgor wedi pennu’n flaenorol. Cafodd dau gais perthnasol eu cymeradwyo gan bwyllgorau cynllunio blaenorol ar gyfer adfer adeilad rhestredig a datblygu rhannau o’r safle ar gyfer tai a defnyddiau masnachol. Cafodd un o’r rhain ei gymeradwyo yn 2007 ac yn fwy diweddar cyflynwyd cynllun i’r pwyllgor cynllunio yn 2016, a bennodd aelodau i gymeradwyo yn amodol ar gytundeb cyfreithiol 106.

Roedd y cynlluniau a’r cynllun arfaethedig yn cynnwys cysyniad o alluogi’r datblygiad. Mae’r cysyniad wedi’i nodi ym mholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol, briff datblygu safle a chanllawiau cenedlaethol. Roedd galluogi’r datblygiad yn caniatáu ar gyfer cynnal tai a datblygiadau eraill er mwyn ariannu’r gwaith adfer ac ailddefnyddio asedau treftadaeth. Yn y cais a gyflwynwyd, roedd y cynllun a gynhigiwyd yn ceisio galluogi datblygiad o 300 annedd i ariannu rhan o’r gwaith adfer i brif adeiladau rhestredig 2 seren, sef Hen Ysbyty Dinbych.    

Roedd yr adroddiad yn manylu ar asesiadau a oedd wedi cael eu cynnal yn unol â Pholisi'r CDLl VOE4. Roedd y polisi'n darparu canllawiau ar alluogi datblygiadau. Daeth swyddogion i'r casgliad bod y cynigion a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn glynu at y polisi a’r briff datblygu safle mabwysiedig. Roedd yr adroddiad yn nodi rheolaethau a rhwymedigaethau perthnasol i sicrhau bod y gwaith adfer i’r adeiladau rhestredig yn cymryd rhan ar y cyd gydag unrhyw ddatblygiad galluogi.

Pwysleisiodd swyddogion bod negydu a thrafodaethau  eang wedi cael eu cynnal gan ymgyngoreion technegol, a bod cyfreithwyr wedi cael eu penodi i sicrhau bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi cael ei archwilio a’i  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CAIS RHIF43/2021/0469. 1 THE DELL A THIR Y TU ÔL I THE DELL, PRESTATYN LL19 8SS . pdf eicon PDF 157 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 2 o ganiatâd cynllunio rhif 43/2018/0900 i ganiatáu newidiadau i leoliad y rhandy preswyl a chodi lefel y llawr gorffenedig (copi ynghlwm)



 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer amrywio amod rhif 2 cod caniatâd cynllunio rhif 43/2018/0900 i ganiatáu diwygiadau i leoli'r bloc fflatiau preswyl a chodi lefel y llawr gorffenedig yn 1, The Dell and Land i gefn Dell, Prestatyn.

 

Hysbysodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Tina Jones, yr aelodau, y Cynghorydd Hugh ac Irving ac roedd y Cynghorydd Jones wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r safle. Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2018 i ddatblygu'r eiddo. Y diwygiadau arfaethedig oedd dod ag ôl troed y bloc fflatiau ymhellach o'r ffin gefn 2.5m.

 

Byddai'r gwelliant yn creu pellter o'r llwybr cerdded. Byddai'n dal i fod o fewn y pellter cyfreithiol a argymhellir o eiddo arall.

Cynigiwyd hefyd codi lefel y llawr gorffenedig 250mm o 15.500AOD fel y'i cymeradwywyd yn flaenorol i 15.750AOD a fyddai yn ei dro yn cynyddu uchder yr adeilad 250mm. 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai'r rheswm pam y cafodd ei gyflwyno i'r pwyllgor oedd gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Prestatyn.

 

Cynigodd y Cynghorydd Tina Jones y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

PLEIDLAIS -

O blaid – 14

Ymatal - 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

10.

CAIS RHIF. 45/2021/0040/ PF – MARCHNAD Y FRENHINES, SUSSEX STREET, Y RHYL pdf eicon PDF 174 KB

Ystyried cais cynllunio Hybrid (Manylion llawn ac amlinelliad) ar gyfer ailddatblygu 0.93ha o dir a elwir yn Farchnad y Frenhines i gynnwys yr elfennau canlynol:  Manylion Llawn:- dymchwel yr adeilad Bright Spot ar gornel Rhodfa’r Gorllewin a’r Stryd Fawr- Dymchwel 2-6 y Stryd Fawr - Codi Neuadd Fwyd a Marchnad - Codi lle digwyddiadau amlbwrpas - Codi gorsaf drydan - Cadw ac ailwampio adeilad Siambrau’r Frenhines sy’n wynebu Sussex Street - Cadw’r maes parcio dros dro yn Queen Street - rhywfaint o dirlunio meddal/caled dros dro a pharhaol, Amlinelliad: Datblygu adeiladau Dosbarth 3 (rhandai preswyl), Dosbarth A1 (manwerthu), Dosbarth A2 (ariannol a phroffesiynol), Dosbarth A3 (bwyd  a diod), Dosbarth B1 (swyddfeydd), Dosbarth D1 (di-breswyl), Dosbarth D2 (cynnull a hamdden). Mae’r holl faterion manwl ar gyfer yr elfennau hyn wedi'u neilltuo ar gyfer ceisiadau’r dyfodol (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais Cynllunio Hybrid ar gyfer ailddatblygu 0.93ha o dir a elwir queens Market, Sussex Street Rhyl.

 

Ymddiheurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu (DCM) fod yr Aelodau Lleol a nodwyd yn yr adroddiad wedi'u datgan yn anghywir. Cadarnhaodd mai'r Aelodau Lleol oedd y Cynghorydd Joan Butterfield a'r Cynghorydd Alan James.

 

Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r Aelodau i'r cais cynllunio 'hybrid' a oedd yn cynnig cynllun ailddatblygu gwasanaeth/hamdden a thai defnydd cymysg yng nghanol tref y Rhyl. O ganlyniad i ymgynghori helaeth cyn ymgeisio a thrafodaethau arbenigol ymgynghorai, nid oedd gan y cais unrhyw wrthwynebiadau technegol. 

Clywodd yr Aelodau'r cais gyda'r nod o adfywio bloc o 0.93 hectar o dir rhwng West Parade, Stryd y Frenhines, Sussex Street a'r Stryd Fawr y cyfeirir atynt ar y cyd fel "Marchnad Queens".

Clywodd yr Aelodau'r cais Roedd y cais yn cynnwys elfennau manwl o'r cynnig gan gynnwys creu neuadd fwyd a marchnad, gofod digwyddiadau amlbwrpas ac adnewyddu adeilad a pharcio Queens Chambers. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys elfennau amlinellol ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol gan gynnwys datblygu cymysgedd o ddefnydd masnachol a fflatiau preswyl. Cadarnhawyd y byddai angen cyflwyno rhagor o geisiadau manwl ar gyfer y datblygiadau hynny. 

Ystyriwyd bod y cynllun yn elfen allweddol o strategaeth adfywio Canol Tref y Rhyl. Y nod ar gyfer y safle oedd darparu canolbwynt i gysylltu canol y dref â'r promenâd. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at fudd economaidd ac adfywio'r cynllun gan gynnwys ailddatblygu safle amlwg, a chreu swyddi a gweithgarwch economaidd i'r dref. ar gyfer y datblygiadau hynny. 

 

Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Joan Butterfield, yn fodlon ar y cais. Byddai adfywio Adeilad y Frenhines o fudd i'r gymuned gyfan a'r ardaloedd cyfagos yn Sir Ddinbych, gan brofi amrywiaeth o gynnyrch a gweithgareddau. Byddai adfywio'r safle yn cynyddu nifer y swyddi drwy'r flwyddyn sydd ar gael. Ailadroddodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Alan James, feddyliau'r Cynghorydd Butterfield.   

 

Cynigodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS -

O blaid – 15

Ymatal - 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

11.

GWYBODAETH YCHWANEGOL pdf eicon PDF 216 KB

Derbyn adroddiad yn hysbysu’r aelodau nad yw'r Cyngor wedi derbyn gwrthwynebiad i Orchymyn Diogelu Coed dros dro rhif 6 (2021) tir yng Nghilgoed, St David’s Lane, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Swyddog Cynllunio yn tywys aelodau drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod y goeden wedi'i lleoli mewn ardal gadwraeth. Roedd cais am waith i'r goeden honno wedi'i wneud, ond teimlai swyddogion fod y goeden yn deilwng i'w diogelu. Teimlwyd bod y goeden wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r ardal gadwraeth. Ar ôl cyfathrebu â swyddogion cadwraeth a'r ymgynghorydd coed, gosodwyd GAC brys ar y goeden. Yn dilyn yr ymgynghoriad, derbyniwyd un gwrthwynebiad. Roedd swyddogion yn dal i fod o'r farn bod y goeden yn haeddu cael ei hamddiffyn ac yn gofyn am gytundeb yr aelodau i gadarnhau'r GAC.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mark Young, fy Nghynghorydd Peter Scott, gymeradwyo argymhelliad swyddog ar gyfer Gorchymyn Cadw Coed Rhif 6 (2021) Tir yng Nghilgoed, Lôn Dewi Sant, Dinbych heb addasiad i roi amddiffyniad parhaus i'r Maple Norwy a adawodd Borffor.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Lleol Gwyneth Kensler fod perchnogion y tir wedi'u lleoli, yn hapus i ddiogelu'r goeden. Roedd yr aelod lleol yn hapus i gefnogi'r argymhelliad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Mark Young y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Pleidlais -

 

O blaid – 13

Ymatal – 0

Yn erbyn - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO Gorchymyn Cadw Coed Rhif 6 heb ei addasu, yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 16.30 p.m

Dogfennau ychwanegol: