Agenda and draft minutes
Lleoliad: via Video Conference
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
(Sylwer: Mae gwybodaeth ynglŷn â sut y
cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ynghlwm wrth yr eitem hon ar y
wefan). |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad sy’n rhagfarnu yn eitem 6, Tir (rhan o ardd)
yn 73A Erw Goch, Rhuthun, am ei fod yn adnabod yr ymgeisydd yn dda. Datganodd y
Cynghorydd Tina Jones gysylltiad sy’n rhagfarnu yn eitem 8, Cynllun Datblygu
Lleol Sir Ddinbych 2006-2021 – Adroddiad Monitro Blynyddol 2020 gan ei bod yn
berchen ar ddarn o dir sy’n rhan o’r Cynllun Datblygu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd
2020 (copi wedi’i atodi). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 11 Tachwedd 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF 02/2020/0724/PF – TIR YN GLASDIR, RHUTHUN PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer adeiladu 63 o anheddau fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith
cysylltiol (cynllun diwygiedig) ar dir yn Glasdir, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 63 annedd fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a’r gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig) ar dir yng Nglasdir, Rhuthun. Siaradwyr Cyhoeddus - Matthew Green (yn erbyn) - Gellir crynhoi fy
mhryderon ynglŷn â’r cais cynllunio penodol fel a ganlyn: 1 – Gwrthwynebwyd cynlluniau tebyg ym mis Mawrth eleni (9 – 4) gan nad oedd
cynllun, cymeriad a dyluniad y tai arfaethedig yn cyd-fynd â’r datblygiadau
presennol yn yr ardal. Mae’r ceisiadau hyn (er eu bod yn wahanol) yr un mor wahanol eu natur /
cymeriad i’r eiddo sydd wedi eu hadeiladu ar Glasdir (a gweddill Rhuthun) ac ar
sail cysondeb democrataidd dylid gwrthod y rhain yn yr un modd y tro hwn. 2 – Cytunodd Cynghorwyr ym mis Mawrth 2020 (chwe mis yn unig yn ôl) y
byddai’r cynnydd yn y nifer o anheddau a phobl yn rhoi straen ar y seilwaith
gyfredol yn yr ardal. Mynegwyd pryderon am ardal arfaethedig y datblygiad gan y
byddai’n cael effaith ar lif y traffig yn yr ardal, sydd eisoes yn wael yn
ystod adegau prysur. Mynegwyd pryderon hefyd am yr effaith bosib ar ecoleg yr
ardal, a’r risg uwch o safbwynt llifogydd, yn enwedig gan fod yr ardal o fewn
ardal perygl llifogydd. Yn wir, nododd un cynghorydd: “Ni allwn barhau i
ddal y glaw yn ei ôl na dal yr afonydd yn ôl, nac ychwaith ddal y llanw yn ôl.
“Dylem adolygu ein cynllun datblygu lleol ar unwaith a rhoi’r gorau i adeiladu
ar orlifdiroedd” ac mae’r cynghorydd a ddywedodd hyn yn bresennol. 3 – Pam fyddai’r Cyngor yn cytuno i adeiladu eiddo newydd yn Rhuthun, pan
fod lle yn dal i fod ar gael ar safle Clwyd Alyn yn Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Roedd hwnnw yn safle 38 uned – ac eto mae lle yn dal i fod ar gael. 4 – A ellir ymddiried yng Nghlwyd Alyn i adeiladu mwy na 60 o anheddau pan
fydd eu gwybodaeth gynllunio yn llawn camgymeriadau a gwybodaeth anghywir. Ar
uwchgynllun Clwyd Alyn ar-lein mae’n sôn am • Ysgol Glasdir – sydd mewn gwirionedd yn sarhad i Ysgol Pen Barras ac
Ysgol Stryd y Rhos. Roedd gwaith papur cychwynnol yn nodi fod 63 annedd. Mae datganiad cynllunio CAHL – tudalen 31, pwynt 117, yn nodi 65 annedd. Er mai camgymeriadau bychain yw’r rhain – sut allwn ni ymddiried mewn cwmni
i adeiladu eiddo os nad yw eu hymchwil yn gywir ar eu gwaith papur? Ni allwn
ganiatáu’r fath gam o safbwynt ymddiriedaeth. 5 – Yr effaith ar yr iaith Gymraeg. Yn yr Asesiad o Effaith ar yr Iaith
Gymraeg, mae’n dweud “maint cartref ar gyfartaledd yw 2.3 o bobl, byddai 145 o
drigolion yn y datblygiad” (tudalen 14, pwynt 5.9). BYDD 6 o bobl mewn eiddo
sydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer 6 o bobl. Bydd pob eiddo yn cael ei lenwi
i’w uchafswm. Felly, y cyfrifiad fydd 263 o drigolion. 6 – Mae’r holl waith papur yn awgrymu y byddai trigolion newydd yr ystâd
dai hon yn bobl “leol”. Fodd bynnag, onid y gwir yw y bydd yr eiddo hyn yn
agored i fandiau 1 – 4 ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH)? Mae band
4 SARTH ar gael i unrhyw un – ddim yn
lleol i’r sir nac i’r wlad? 7 – Yn yr holl waith papur, a gofynnais y cwestiwn yn y cais cyn cynllunio – does dim gwybodaeth am y mathau o denantiaethau fydd gan drigolion y cynllun arfaethedig. Fyddan nhw i gyd yn anghenion Cyffredinol? Tai â chymorth? Lesddeiliaid? IMR? A fydd y tenantiaethau yn sicr neu’n dymor penodol? A fydd tenantiaethau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 02/2020/0811/PF – TIR YN (RHAN O ARDD) 73A ERW GOCH, RHUTHUN LL15 1RS PDF 95 KB Ystyried cais ar
gyfer adeiladu annedd ar wahân, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith
cysylltiedig ar dir yn (rhan o ardd) 73A, Erw Goch, Rhuthun LL15 1RS (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar y pwynt hwn
datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad sy'n rhagfarnu am ei fod yn
ffrind i'r ymgeisydd, a gadawodd y cyfarfod. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Melfyn Parry y
dylid gohirio’r cais er mwyn i’r ymgeisydd wneud gwaith ychwanegol a
chyflwyno’r cais mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Ann Davies. Pleidlais - O blaid gohirio - 17 Yn erbyn gohirio - 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn ymwneud â thir (rhan o
ardd) yn 73A Erw Goch, Rhuthun i'w roi gerbron cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Ystyried cais ar
gyfer adeiladu adeilad amaethyddol ar gyfer storio gwair a phorthiant (ailgyflwyno)
ar dir wrth Fferm Rhesgoed, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun LL15 1YE (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd swyddogion mai'r rheswm dros roi’r cais
gerbron y Pwyllgor Cynllunio oedd oherwydd bod y cais wedi'i gyflwyno gan
Gynghorydd Sir ac y derbyniwyd 4 gwrthwynebiad neu fwy. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, y dylid
cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddogion ac fe’i eiliwyd gan y
Cyng. Peter Scott. Pleidlais - Cymeradwyo
- 18 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion fel y’u nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH 2006 - 2021: ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2020 PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio i hysbysu aelodau’r Pwyllgor Cynllunio am
gynnydd gweithredu Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych a fabwysiadwyd 2006 – 2021
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar y pwynt hwn datganodd y Cynghorydd Tina Jones
gysylltiad sy'n rhagfarnu am ei bod yn berchen ar ddarn o dir sy’n rhan o’r Cynllun
Datblygu Lleol a gadawodd y cyfarfod. Cyflwynodd y
Swyddog Cynllunio Gynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006 - 2021: Adroddiad
Monitro Blynyddol Drafft 2020 Roedd
dyletswydd ar y Cyngor i gynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) ar gyfer
Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych (CDLl) 2006 – 2021. Gan gydnabod yr anawsterau y mae Awdurdodau Lleol
a chymunedau’n eu hwynebu yn ystod y pandemig Covid-19, ysgrifennodd y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar 7 Gorffennaf 2020 na fyddai gofyniad i
gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol erbyn mis Hydref 2020. Anogwyd Awdurdodau Lleol i barhau i gasglu
data gan y byddai hynny’n helpu i siapio a hysbysu polisi a datblygu’r cynllun. Mae copi o’r llythyr wedi’i gynnwys yn yr
atodiadau. Roedd yr
adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed o ran rhoi’r Cynllun Datblygu
Lleol ar waith, ac yn amlygu unrhyw heriau yn y CDLl. Mae tair elfen sylfaenol yn y CDLl a fabwysiadwyd
sy'n gofyn am sylw penodol wrth ddrafftio’r CDLl nesaf: ·
Darpariaeth
marchnad a thai fforddiadwy yn unol â rhagamcanion aelwydydd diwygiedig
Llywodraeth Cymru ar gyfer y sir; ·
Mynd
i’r afael ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn y Sir ·
Adlewyrchu
canlyniadau arolygon a gynhaliwyd ar gyfer rheolaeth mwynau a gwastraff yng Ngogledd Cymru. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Cynllunio yn nodi cynnwys yr adroddiad Monitro Blynyddol
Drafft. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 a.m. |