Agenda and draft minutes
Lleoliad: via Video Conference
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 2 Medi 2020
(copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 2 Medi 2020. Cywirdeb: Datganodd y Cynghorydd Christine Marston bod y
cynnig ar dudalen 15 yn Gymraeg ar y fersiwn Saesneg. Cadarnhaodd
Swyddogion y byddai hynny’n cael ei gywiro. PENDERFYNWYD, yn amodol ar y cywiriad uchod, derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2020 a chadarnhau eu bod yn gofnod
cywir. |
|
CAIS RHIF 20/2020/0530/PF - GRAIG COTTAGE, GRAIGADWYWYNT PDF 6 KB Ystyried cais i
godi ystafell yr ardd a gosod tanc septig yn Graig Cottage, Graigadwywynt, Rhuthun
(copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi ystafell yr ardd a gosod tanc septig yn Graig Cottage, Graigadwywynt,
Rhuthun. Trafodaeth gyffredinol - Mynegodd aelodau
bryder oherwydd bod ceisiadau cynllunio blaenorol am annedd ar y safle hwn wedi
cael eu gwrthod a gofynnwyd i swyddogion sicrhau na fyddai’r cais hwn am
ystafell yr ardd gyda thoiled a sinc cegin yn gam ar gyfer cais am dŷ yn y
dyfodol. Cadarnhaodd
swyddogion bod angen i aelodau asesu’r cais a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ac y
byddai'r ystafell yr ardd yn cael ei defnyddio fel lle i gael seibiant ar gyfer
aelodau o’r teulu sy’n rhannu cyfrifoldeb am ofalu am riant hŷn sy’n byw
yn Graig Cottage. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Emrys Wynne y dylid
cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Ellie Chard. Pleidlais - Cymeradwyo - 14 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 22/2020/0544/PO – TIR YN BRIAR LEA, GELLIFOR PDF 6 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.21 hectar o dir drwy godi 4 annedd (cais amlinellol gyda mynediad)
ar dir yn Briar Lea, Gellifor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 0.21 hectar o dir drwy godi 4 annedd (cais amlinellol gyda mynediad)
ar dir yn Briar Lea, Gellifor. Trafodaeth gyffredinol - Cadarnhaodd swyddogion nad oedd maint yr anheddau
wedi’u pennu eto. Lled lleiaf y ffordd fynediad fyddai 4.8 metr ac nid oedd gan yr Adran Briffyrdd unrhyw
wrthwynebiadau. Cadarnhawyd hefyd y byddai trafodaethau’n cael eu
cynnal gyda’r ymgeisydd ynglŷn â chymysgedd yr anheddau a gynigir. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Mark Young y dylid cymeradwyo'r
cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Bob Murray.
Pleidlais - Cymeradwyo - 15 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 23/2020/0067 – PARC CARAFANAU CAER MYNYDD, FFERM CAER MYNYDD, SARON PDF 6 KB Ystyried cais am
waith peirianneg arfaethedig i ffurfio llyn pysgota, llwybrau mewnol, maes
parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Carafanau Caer Mynydd, Fferm Caer Mynydd,
Saron (copi'n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i
gadeirio’r eitem hon gan fod y cais yn ward y Cadeirydd, y Cynghorydd Joseph
Welch. Cyflwynwyd cais i
ymgymryd â gwaith peirianneg arfaethedig i greu llyn pysgota, llwybrau mewnol,
maes parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Carafanau Caer Mynydd, Fferm Caer
Mynydd, Saron. Mynegodd y
Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) ei wrthwynebiad i’r cais. Roedd y Cyngor
Cymuned a nifer o drigolion lleol hefyd wedi anfon eu gwrthwynebiadau i’r cais. Roedd trigolion
lleol yn pryderu ynghylch y posibilrwydd o bartïon yn cael eu cynnal yn hwyr yn
y nos ar y tir. Roedd materion yn
ymwneud â mynediad hefyd wedi’u nodi o fewn y gwrthwynebiadau. Trafodaeth gyffredinol - Mynegodd yr
Aelodau bryder ynghylch rhai o’r materion a godwyd gan yr Aelod Lleol. ·
Hyd
at 30 o gerbydau yn mynd i’r safle pob dydd. Nid yw Priffyrdd wedi mynegi
gwrthwynebiadau. Ni fyddai’r amcangyfrif o 30 ymwelydd y dydd yn cael
effaith sylweddol ar y briffordd - byddai’r un fath ag oddeutu 4 taith cerbyd
yr awr mewn diwrnod 8 awr. Mae’r maes parcio arfaethedig yn darparu lle i 10
car barcio ·
Daw dŵr yfed Saron drwy’r cae dan sylw. Byddai’r
ymgeisydd yn gyfrifol am gysylltu â Dŵr Cymru, sydd y tu hwnt i reolaeth
CSDd ·
Mae
tanc septig y capel hefyd y tu allan i reolaeth CSDd ·
O ran
pryderon ynghylch sŵn, ceir deddfwriaeth ar wahân ar gyfer sŵn dan
niwsans statudol ·
Cadarnhaodd
y swyddogion fod yr adeilad amwynder wedi’i ddymchwel ac nad oes adeiladau ar
dir y cais ·
Byddai
derbynfa a thoiledau’r parc carafanau ar gael i ymwelwyr Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Melvyn Mile, ac fe’i
heiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog. Pleidlais: Cymeradwyo – 12 Ymatal – 0 Gwrthod – 3 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
YMATEB I YMGYNGHORIAD CYN YMGEISIO STATUDOL PDF 302 KB Fferm Ynni'r Haul
Elwy - Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Statudol – Fferm Ynni Solar Elwy - Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol Gwahoddwyd y
Pwyllgor Cynllunio i ymateb i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar y Fferm Ynni Solar
Elwy arfaethedig yn Llanelwy. Cadarnhaodd y
Rheolwr Rheoli Datblygu Cynllunio mai’r ymgynghoriad cyn ymgeisio oedd cam cyntaf
y broses. Byddai manylion y cais yn cael
eu trin yn ddiweddarach yn y broses. Cafwyd
trafodaeth a bu i’r Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Scott, fynegi ei
gymeradwyaeth i’r datblygiad. Cynigiwyd gan y Cynghorydd
Peter Scott ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ann Davies i gytuno i gefnogi mewn
egwyddor yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, yn amodol ar y cais ffurfiol ac yn
amodol ar yr adroddiad effaith lleol. Pleidlais - Cytuno - 15 Ymatal – 0 Yn erbyn – 0 PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Cynllunio yn cytuno i gefnogi mewn
egwyddor yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, yn amodol ar y cais ffurfiol ac yn
amodol ar yr adroddiad effaith lleol. |
|
DAETH Y CYFARFOD I
BEN AM 3.35 P.M. |