Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: via WebEx
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiadau personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Tina Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 7 ar y
Rhaglen (Canolfan Y Dderwen, y Rhyl). Datganodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 7
ar y Rhaglen (Canolfan Y Dderwen, y Rhyl). Datganodd y
Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar y
Rhaglen (Bwthyn Brynllithrig Bach, Rhuallt). Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Tina Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag Eitem 7 ar y
Rhaglen (Canolfan y Dderwen, y Rhyl). Datganodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill gysylltiad personol ag Eitem 7 ar y Rhaglen
(Canolfan y Dderwen, y Rhyl). Datganodd y
Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag Eitem 8 ar y
Rhaglen (Bwthyn Brynllithrig Bach, Rhuallt). |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Mehefin
2020 (copi ynghlwm). Penderfyniad: Pleidlais: 17 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn atal eu pleidlais PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2020. Cywirdeb – cynhaliwyd y cyfarfod trwy WebEx, ac ni chafodd ei gynnal yn Siambr y
Cyngor. Eglurodd y Cynghorydd Emrys Wynne nad oedd yn
gallu ymuno â’r cyfarfod oherwydd problemau technegol ond fe’i rhestrwyd fel
bod yn bresennol. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin
2020 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM
GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers
cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen yn unol
â’r wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr. |
|
CAIS RHIF 25/2020/0257/PS – Tir i’r Dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn PDF 97 KB Ystyried cais i
amrywio Amodau 32 a 37 caniatâd cynllunio 25/2007/0565/WF ar gyfer datblygu
Fferm Wynt Brenig, ceisio eglurder ynglŷn â’r gair “annedd” (“dwelling”)
yng nghyd-destun asesiadau effaith cysgod sy’n fflachio ac allyriadau sŵn
o'r tyrbinau, i adlewyrchu statws gyfreithiol anheddau sy’n bodoli’n
gyfreithiol eisoes, neu sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio cyn y dyddiad
caniatâd ar gyfer yr amrywiadau a geisir yma (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cais wedi’i dynnu
nôl. Cofnodion: Cais wedi ei
dynnu yn ôl. |
|
CAIS RHIF 47/2020/0216/PF – BWTHYN BRYNLLITHRIG BACH, RHUALLT, LLANELWY LL17 0LW PDF 93 KB Ystyried cais ar
gyfer gosod pod glampio at ddefnydd llety gwyliau (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Pleidlais: 16 o
blaid, 0 yn erbyn, 1 yn atal eu pleidlais PENDERFYNWYD RHOI CANIATÂD i’r
cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r
papurau ategol i leoli pod glampio i’w ddefnyddio fel llety gwyliau. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Brian Jones gysylltiad sy’n rhagfarnu, ni chymerodd ran yn y
drfodaeth ac ni chafodd bleidlais. Cyflwynwyd cais
ar gyfer lleoli pod glampio ar gyfer defnydd fel llety gwyliau ym Mwthyn
Brynllithrig Bach, Rhuallt, Llanelwy LL17 0TP. Ar y pwynt hwn,
eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd technoleg ar gael ar hyn o bryd ar
gyfer siaradwr cyhoeddus ond roedd datganiad ysgrifenedig wedi’i ddarparu o
blaid y cais gan Mr a Mrs Edwards. Roedd
gwaith yn cael ei wneud i allu cael mynediad at dechnoleg ar gyfer siaradwyr
cyhoeddus yng nghyfarfodydd y dyfodol. Datganiad
ysgrifenedig a ddarparwyd gan Mr a Mrs Edwards (o blaid): Diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y pwyllgor hwn. Mae’r cais hwn ar gyfer
disodli’r tŷ haf presennol sydd o fewn cwrtil yr eiddo, gyda phod glampio
i gael ei ddefnyddio gan deulu a ffrindiau yn ogystal â fel llety gwyliau.
Mae’r cais wedi’i gefnogi’n llawn gan Gymdeithas Clawdd Offa, Cydbwyllgor Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ogystal â
nifer o gymdogion ac aelodau’r gymuned gan gynnwys y tirfeddiannwr i gefn ac
ochr ddeheuol yr eiddo. Yn ogystal â bod yn lle i ffrindiau a theulu aros, bydd y pod glampio
arfaethedig yn ffynhonnell incwm i gefnogi Mrs Edwards i leihau ei horiau
gwaith er mwyn bod yn brif ofalwr i'w mab, sydd â chyflwr genetig oes difrifol
a phrin. Mae Mr a Mrs Edwards yn gweithio i’r GIG lleol ac maent wedi gwneud
hynny ers mwy na 15 mlynedd. Byddai defnyddio’r pod glampio arfaethedig fel
llety gwyliau yn helpu i sybsideiddio eu hincwm er mwyn gofalu am eu mab yn
hytrach na hawlio budd-daliadau. Mae gan y pod arfaethedig ôl troed petryal a chaiff ei gladio ar y tu allan
gyda chedrwydd coch, sy’n cyd-fynd â’r llethr o amgylch a’r coetir trwchus ac
mae ganddo nodweddion treulio tebyg. Mae
gorffeniad y to cromennog yn ddalen o dun gwastad; mae'n llwyd er mwyn cyd-fynd
â’r lliwiau o’i gwmpas. Bydd y datblygiad yn sensitif ac anymwthiol ac mae 45
metr oddi wrth y ffin rhwng eiddo Mr a Mrs Edwards a’r cymydog agosaf, Tyddyn y
Drew. Mae un ardal barcio fawr ar gyfer y pod glampio un ystafell wely, ac mae
modd mynd iddi ychydig i fyny’r ffordd ar hyd Cwm Road. Nid yw adran briffyrdd
Sir Ddinbych wedi mynegi unrhyw wrthwynebiadau i’r mynediad. Mae hwn yn ddatblygiad ar raddfa fach a’r bwriad yw cefnogi’r economi leol
a hyrwyddo atyniadau i dwristiaid a busnesau lleol er enghraifft bwytai,
tafarndai a siopau. Mae Mr a Mrs Edwards yn bwriadu cefnogi busnesau lleol
eraill, er enghraifft trwy ddefnyddio glanhawr lleol a sicrhau aelodaeth mewn
spa leol ar gyfer defnyddwyr y podiau. I gloi, mae’r cais ar gyfer llety gwyliau tawel ar raddfa fach, drws nesaf
i gartref ein teulu. Diolch Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Christine Marston, nad oedd y
Cyngor Cymuned wedi mynegi unrhyw wrthwynebiadau i’r cais. CYNIGODD y Cynghorydd
Christine Marston argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i HEILIWYD gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Cafwyd pleidlais:
16 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol ar
gyfer lleoli pod glampio ar gyfer defnydd fel llety gwyliau. |
|
CAIS RHIF 02/2020/0251/PC – Yr Hen Wynnstay Stores, Ffordd y Parc, Rhuthun LL15 1NO PDF 6 KB Ystyried cais am
newid defnydd adeiladau a thir o Fanwerthu A1 i ddefnydd Iard Adeiladwyr /
Warws B8 / Storio (cais ôl weithredol) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Pleidlais: 17 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn atal eu pleidlais PENDERFYNWYD RHOI CANIATÂD yn
unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a phapurau ategol
ac yn destun cael gwared ar Amod 7 gan na fydd offer swnllyd yn cael eu
defnyddio ar hen safle Wynnstay Stores. Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer newid defnydd adeiladau a thir o A1 Manwerthu i Iard Adeiladwyr / B8
Warws / Defnydd Storio (cais ôl-weithredol) yn yr Hen Wynnstay Stores, Ffordd y
Parc, Rhuthun LL15 1NQ. Cadarnhaodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Emrys Wynne, nad oedd Cyngor Tref Rhuthun wedi mynegi
unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Roedd
gwaith wedi’i wneud ar y safle, a oedd yn rhedeg fel Iard Adeiladwyr bellach. Cadarnhawyd na
fyddai mwy na 2 sgip yn cael eu gosod ar y safle ar unrhyw adeg ac y byddai’r
ddau yn cael eu gosod ar ochr ddwyreiniol y safle. Amod 7 a
gynigiwyd yn adroddiad y Swyddog oedd na ddylai unrhyw beiriannau wneud
sŵn cyn 8.00 a.m. Cadarnhawyd na
fyddai unrhyw beiriannau ar y safle a gwnaed cais i’r amod perthnasol gael ei
ddileu. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r amod yn cael ei
ddileu. CYNIGIODD y Cynghorydd
Emrys Wynne argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais fel a nodir yn
yr adroddiad ac yn amodol ar ddileu Amod 7, ac fe’i EILIWYD gan y Cynghorydd Mark Young. Cafwyd pleidlais:
17 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion
y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol ac yn amodol ar
ddileu Amod 7 oherwydd na fydd unrhyw offer sy’n cynhyrchu sŵn yn cael eu
defnyddio ar hen safle Wynnstay Stores.
|
|
CAIS RHIF 45/2020/0131/PF – Canolfan y Dderwen, Ysgol Christchurch, Ffordd Las, Y Rhyl PDF 94 KB I ystyried cais i
godi estyniad unllawr i’r Ganolfan Oaktree bresennol i ddarparu cyfleusterau
meithrin ychwanegol (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Pleidlais: 15 o
blaid, 0 yn erbyn, 1 yn atal eu pleidlais PENDERFYNWYD RHOI CANIATÂD yn
unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a phapurau ategol
ac yn destun ychwanegu amod ychwanegol ynglŷn â chynllun rheoli a
gweithredol y ganolfan ar ôl trafodaeth gyda’r aelod lleol. Cofnodion: Datgelodd y
Cynghorydd Tina Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu. Datganodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill gysylltiad personol. Cyflwynwyd cais
ar gyfer codi estyniad unllawr i adeilad presennol Canolfan y Dderwen i
ddarparu cyfleusterau meithrinfa ychwanegol yng Nghanolfan y Dderwen, Ysgol Christchurch,
Ffordd Las, y Rhyl. Yn y fan hon,
gadawodd y Cynghorydd Tina Jones y cyfarfod. Holwyd pam roedd
y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio.
Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y Cynghorydd Tony Thomas, ar
24 Mehefin, wedi gofyn i’r cais cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio
oherwydd bod ganddo bryderon am ddwysâd y safle. Eglurodd yr Aelod
Lleol, y Cynghorydd Pete Prendergast, fod y feithrinfa yn boblogaidd iawn a bod
angen ei hymestyn ar frys. Roedd Canolfan
y Dderwen yn cynnal nifer o weithgareddau yn ystod y dydd a gyda’r nos. Roedd un gwrthwynebiad i’r cais wedi dod i
law ond nid oedd yn cynnwys rhesymau cynllunio o ran y cais. Roedd y cyfleuster wedi’i redeg a’i drefnu yn
hynod o dda ac roedd aelodau lleol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf i gyd. Roedd y gefnogaeth roedd y cyfleuster yn ei
rhoi i deuluoedd yn enfawr. Gofynnodd y
Cynghorydd Tony Thomas am adroddiad annibynnol yn dangos bod angen yr
estyniad. Gan fod y cais yn gais Cyngor
Sir Ddinbych, roedd yn teimlo y dylai gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio
ar gyfer craffu cyhoeddus, a gofynnodd i bob cais Cyngor Sir Ddinbych yn y
dyfodol cael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor Cynllunio. Gwnaeth y
Cynghorydd Mark Young bwynt o drefn o ran y cais hwn. Cadarnhaodd y
Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd mater angen yn ofyniad polisi ac nad oedd yn
rheswm dilys dros wrthod y cais hwn. Cynghorodd Aelodau i ddiystyru hyn a
chyfyngu’r drafodaeth i faterion cynllunio perthnasol. Eglurodd y Rheolwr Datblygu nad oedd
cyfeiriad yn y Cynllun Dirprwyo presennol bod rhaid i bob cais y Cyngor gael eu
hatgyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio. Gellid gosod unrhyw bryderon o ran
gweithredu a rheoli’r cyfleuster fel amod. Gallai union eiriad yr amod gael ei
gytuno â’r aelodau lleol. CYNIGIODD y Cynghorydd
Ellie Chard argymhelliad y
swyddog i gymeradwyo’r cais fel a nodir yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod
arall, sy’n ei gwneud yn ofynnol sicrhau cynllun gweithredu/rheoli. Cafwyd pleidlais:
15 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol, yn
amodol ar ychwanegu amod arall o ran cynllun gweithredu a rheoli’r ganolfan yn
dilyn trafodaeth gyda’r aelod lleol. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 10:35 A.M. |