Agenda and draft minutes
Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion: Y Cyng. Peter Prendergast. Anfonodd y Pwyllgor Cynllunio eu cydymdeimladau dwysaf i’r Cynghorydd Pete Prendergast. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiadau personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Y Cynghorydd Merfyn
Parry – Eitem 5 ar y rhaglen – datganodd gysylltiad personol gan fod yr
ymgeisydd yn gwsmer i gwmni yr oedd y Cynghorydd Parry yn gweithio iddo. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020
(copi wedi’i atodi). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11
Mawrth 2020. Gofynnodd aelodau i’r pwyntiau a godwyd am y trefniadau draenio ar y cais
eu nodi yn y cofnodion. Yn benodol, roedd yr aelodau yn dymuno i’w cais ar
gyfer cyfarfod gyda Swyddogion i drafod draenio gael ei gofnodi yn y cofnodion.
Sicrhaodd y swyddogion yr aelodau y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu ond roedd
oedi oherwydd Covid-19. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020 fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF. 09/2020/0167 - EFAIL Y WAEN, BODFARI PDF 6 KB Ystyried cais
ôl-weithredol ar gyfer estyniad i adeilad
amaethyddol yn Nhir ger Efail Y Waen, Bodfari, Dinbych, LL16 4EE (copi
wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cais ôl-weithredol ar gyfer estyniad i’r adeilad amaethyddol presennol ar y tir
ger Efail y Waen, Bodfari, Dinbych. Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y
Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) i’r pwyllgor bod y cais yn cael ei drafod
oherwydd y pryderon a godwyd gan y Cyngor Cymuned am natur ôl-weithredol y cais
a maint a graddfa’r estyniad. Hysbysodd y
swyddog cyfreithiol y pwyllgor nad oedd y ffaith bod y cais yn ôl-weithredol yn
gwneud y datblygiad yn annerbyniol. Dylid delio â'r cais
ar ei rinweddau ei hun. Holodd y pwyllgor
os fyddai estyniad i'r sied yn cael effaith ar y tai lleol gerllaw. Holwyd
hefyd os oedd unrhyw sylwadau pellach wedi cael eu derbyn gan Bwyllgor AHNE am
y datblygiad. Ymatebodd y
swyddogion gan gadarnhau nad oedd unrhyw wrthwynebiad wedi cael ei dderbyn gan
drigolion lleol i’r datblygiad. O ran yr AHNE, nid oedd unrhyw sylwadau gan y
pwyllgor AHNR na swyddogion, eglurwyd nad oedd y cais o fewn yr AHNE, fodd
bynnag roedd yn weladwy o’r AHNE. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd
Mark Young fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel
y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF. 45/2020/0096/ PF - 64 BRIGHTON ROAD, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried
cais ar gyfer newid defnydd ac addasiadau i gyn swyddfeydd i ffurfio ysbyty 6
ward, 61 gwely at ddefnydd nyrsio preswyl a gofal iechyd yn 64 Brighton Road, Y
Rhyl,
LL18 3HN (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer newid defnydd ac addasiadau i hen swyddfeydd er mwyn ffurfio ysbyty 61
gwely a 6 ward ar gyfer gofal iechyd a nyrsio preswyl yn 64 Brighton
Road, y Rhyl, LL18 3HN. Hysbysodd swyddogion y pwyllgor bod y swyddogion
cynllunio wedi derbyn sylwadau hwyr mewn ffurf llythyrau gwrthwynebu, gan
drigolion gerllaw. Roedd y pryderon a godwyd yn y llythyrau gwrthwynebu yn
ymwneud â diffyg cyfiawnhad ar gyfer y datblygiad, diffyg cynllun rheoli clir
ac ofnau dros ddiogelwch y safle a throsedd ac anrhefn posibl. Dywedodd y cadeirydd wrth y pwyllgor nad oedd yr
aelod lleol, y Cynghorydd Barry Mellor yn gallu mynychu’r cyfarfod, fodd bynnag
gofynnwyd i’r cadeirydd godi pwyntiau gyda swyddogion ar ei ran. Holodd pam nad
oedd y ddeiseb ar gyfer y cais blaenorol wedi cael ei grybwyll o fewn yr
adroddiad ar gyfer y datblygiad newydd. Ymatebodd y swyddogion i’r ymholiad, ac eglurwyd
bod y Pwyllgor yn delio â chais cynllunio newydd. Nid oedd unrhyw ddeiseb wedi
cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais hwn. Roedd y cais cynllunio a wrthodwyd yn
flaenorol yn destun apêl gynllunio a gafodd ei
wrthod. Ystyriwyd y ddeiseb ar amser y cais cynllunio blaenorol ond ni allai'r ddeiseb gael ei ystyried ar gyfer cais cynllunio
newydd. Hysbysodd y Cynghorydd Tony Thomas (aelod lleol)
y pwyllgor fod nifer o drigolion lleol yn meddwl bod y cais yr un fath, a bod y
ddeiseb yn dal i sefyll. Cytunodd yr aelod lleol gyda phryderon trigolion lleol
gan nad oedd cynllun rheoli clir o fewn y cais. Holwyd am orddwysáu
cartrefi gofal yn yr ardal ac os oedd unrhyw gyfatebiaeth gyda chartrefi gofal
gerllaw i asesu eu capasiti. Amlygwyd hefyd os
fyddai’r ysbyty’n cael ei adeiladu, byddai mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda
busnesau lleol gerllaw. Yn olaf, amlygodd yr aelodau lleol nad oedd Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi amlygu angen lleol am y
datblygiad. Cynnig -
Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas i wrthod y cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Brian Jones. Eglurodd y cadeirydd y byddai angen rheswm clir
dros wrthod y cais unwaith y byddai aelodau eraill wedi trafod y cais. Cytunodd y Cynghorydd Brian Jones gyda sylwadau
a godwyd gan y Cynghorydd Tony Thomas. Codwyd hefyd bod y cais presennol o
ddiddordeb i nifer o bobl y Rhyl, a fyddai wedi mynychu'r cyfarfod yn Neuadd y
Sir, a dywedodd y byddai well ganddo weld eitemau dadleuol yn cael eu trafod
mewn cyfarfodydd corfforol yn hytrach na chyfarfodydd o bell. Datganwyd hefyd
bod yr un rhesymau dros wrthod yn dal i fod yn gymwys o’r cais diwethaf. Yn
ogystal â hynny, hysbysodd y Cynghorydd Jones, byddai dod a phobl i'r ysbyty o
du hwnt i'r ardal yn cael effaith ar amwynderau lleol, ynghyd â rhai cleifion a
allai fod yn risg i ddiogelwch y trigolion gerllaw.
Amlinellwyd yr ansicrwydd yn dilyn COVID ac os fyddai’r adeilad yn cael unrhyw
ddefnydd yn dilyn y pandemig. Yn dilyn y pwyntiau a godwyd, ymatebodd y
swyddogion i ddweud bod yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol wedi cael ei gynnal,
yn unol â’r ddeddfwriaeth gynllunio. Fodd bynnag,
roedd y swyddogion yn deall pryderon y trigolion lleol. Roedd mwy o fanylion yn
y cais newydd, gan fod yr adolygiadau ac asesiadau priodol wedi cael eu cynnal. Trafododd yr aelodau’r cais a bod yr adeilad yn boendod i Heddlu Gogledd Cymru oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bod yr adeilad gwag yn dod yn risg. Roedd hefyd yn edrych yn hyll yn yr ardal leol. Roedd rhai aelodau yn cytuno bod y diffyg achos busnes o fewn y cais yn codi pryderon. Atgoffodd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 6. |