Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr
Brian Jones, Huw Jones, Tina Jones, Merfyn Parry ac Andrew Thomas |
|
Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020 (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020. Cywirdeb – Tudalen 12 – Eitem 5 Cais rhif
25/2018/1216 Bwlch Du, Nantglyn, pumed pwynt bwled – awgrymodd y Cadeirydd y
dylai’r frawddeg ddarllen fel “Y rheswm
cyntaf a roddwyd gan swyddogion oedd gadawiad, ac roedd yn amlwg nad oedd y
pedwar prawf wedi’u cwrdd fel yr uchod.” a bod y cyfeiriad at "treth y cyngor wedi cael ei gasglu" yn cael ei symud i
ddiwedd y frawddeg yn y pedwerydd pwynt bwled uchod. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr
2020 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 6) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at y
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers
cyhoeddi'r rhaglen oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â'r
ceisiadau hynny. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried cais ar gyfer newid defnydd o dir amaethyddiaeth i ddefnydd cymysg ar gyfer amaethyddiaeth a chadw ceffylau, cadw stablau ar dir i’r de orllewin o Fferm Tŷ Draw, Ffordd Yr Wyddgrug, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid y defnydd o dir amaeth i ddefnydd cymysg ar gyfer amaethyddiaeth a chadw
ceffylau, cadw stablau ar y tir i’r de-orllewin o Fferm Tŷ Draw, Ffordd yr
Wyddgrug, Bodfari, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Kerry James (asiant) (O blaid) – cafwyd mwy o fanylion a’r rhesymeg y tu ôl i’r cais i
gadw ceffylau Arab a phwysleisiwyd y byddai’r cyfleusterau ar gyfer defnydd
preifat yn unig a ddim ar gyfer dibenion masnachol. Dywedodd hefyd bod y cais
yn cyd-fynd â'r ystyriaethau cynllunio perthnasol a bod profion a mesurau
polisi wedi eu cynnig i liniaru pryderon a godir, yn arbennig amwynder
gweledol. Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y Cynghorydd Christine Marston (Aelod
Lleol) ei phryderon ynglŷn â natur ôl-weithredol y cais a'r mynediad i’r
A451 gan ofyn am sicrwydd bod y cynllun plannu arfaethedig ddim yn rhwystro
gwelededd o fynedfa'r safle. Roedd hi’n
gwerthfawrogi bod swyddogion wedi gweithio’n galed gyda’r ymgeisydd i fynd i’r
afael â'r meysydd oedd yn achosi pryder ac fe groesawodd yr amodau arfaethedig
i fynd i'r afael â'r achosion hynny.
Fodd bynnag roedd y safle mewn lleoliad sensitif o ran gwelededd ac fe
ofynnodd os oedd argymhelliad Cyd-Bwyllgor yr AHNE i blannu coed o amgylch y
bloc stablau a'r ardal storio yn cael ei weithredu fel nad yw’n sefyll allan yn
ormodol. Yn olaf o ystyried pa mor agos ydyw i’r Afon Chwiler a lleoliad yr
ardal risg o lifogydd, fe ofynnodd y Cynghorydd Marston fod amod ychwanegol yn
cael ei gyflwyno i sicrhau bod gan y bloc stablau system ddraenio
cynaliadwy. Roedd y Cynghorydd Mark
Young yn cefnogi’r cais yn gyffredinol ond roedd ganddo bryderon ynglŷn â
natur ôl-weithredol y cais ac fe ofynnodd am eglurhad ynglŷn â'r system
draenio o ystyried y gofynion gwahanol ar gyfer ceffylau ac anifeiliaid fferm
eraill gan nodi fod caniatâd blaenorol wedi bod yn amodol ar newidiadau i’r
system draenio. Gofynnodd am sicrwydd
pellach hefyd ynglŷn â gwahardd rhag defnyddio'r safle ar gyfer dibenion
masnachol. Ymatebodd y Prif
Swyddog Cynllunio (IW) i’r achosion a godwyd gan gynghori fod - ·
y
system gynllunio wedi’i ganiatáu ar gyfer ceisiadau yn cael ei wneud yn
ôl-weithredol a bod pob cais yn derbyn sylw yn ôl ei rinweddau. ·
amod 4
yn berthnasol i’r gofyniad ar gyfer cynllun tirlunio a phlannu ar y safle i
gael ei wella gan yr awdurdod a byddai swyddogion yn gwneud yn siŵr fod
yna ddim rhwystr o ran gwelededd ar fynedfa'r safle o ganlyniad ·
y
cais am blannu ychwanegol o amgylch y bloc stablau/ ardal storio ei hun yn cael
ei cynnwys fel rhan o gam cynllunio dyluniad gwirioneddol y cynllun a gellir
ychwanegu nodiadau i dynnu sylw'r ymgeisydd at y materion hynny y mae’r
awdurdod yn teimlo sydd angen sylw mewn perthynas i’r cynllun. ·
byddai’n
bosib cynnwys amod ychwanegol mewn perthynas â’r system draenio ar gyfer yr
adeilad stablau a sut i ddelio â’r dŵr wyneb o’r to. Ystyriwyd hynny'n resymol o ystyried fod yna ddim cyfeiriad ato yn y
cynlluniau a gyflwynwyd. ·
awgrymwyd
amod newydd yn y gwybodaeth atodol hwyr (taflenni glas) i fynd i’r afael â’r
pryderon o gael gwared ar wastraff anifeiliaid gyda threfniadau addas yn eu lle
i storio a chael gwared ar y gwastraff i sicrhau nad oedd unrhyw risg posib o
lygredd i'r Afon Chwiler gerllaw. ·
roedd
geirio amod 3 yn bendant o ran atal hurio stablau ar gyfer defnydd masnachol ar
unrhyw adeg. Cynnig – roedd y Cynghorydd Christine Marston yn fodlon gyda’r amodau a gyflwynwyd ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â system draenio addas ar gyfer y bloc stablau ac ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF HEN BARC CARAFANAU PLAS DEVA, FFORDD TALARGOCH, GALLT MELYD, PRESTATYN PDF 6 KB Ystyried cais ar gyfer adeiladu 41 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiol yn hen Barc Carafanau Plas Deva, Ffordd Talargoch, Gallt Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 41 o dai fforddiadwy a gwaith cysylltiedig ar hen safle Parc Carafanau
Plas Deva, Ffordd Talargoch, Gallt Melyd, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus – Stuart Andrews (McBryde Homes) (O blaid) – eglurodd manylion y
datblygiad arfaethedig i adeiladu tai fforddiadwy ar y safle yn cynnwys
cymysgedd o dai gwahanol a fyddai'n mynd i'r afael â'r angen am dai
cymdeithasol yn yr ardal; roedd y datblygiad yn cwrdd â holl ofynion
Llywodraeth Cymru (yn cael ei ariannu yn bennaf gan Gronfa Grant Tai
Cymdeithasol Llywodraeth Cymru) ac yn bodloni’r holl gyfyngiadau cynllunio ar y
safle. Trafodaeth Gyffredinol – Y Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol)
yn tynnu sylw at agweddau cadarnhaol y datblygiad a oedd yn gwneud defnydd da o
safle tir llwyd ac wedi helpu i dynnu’r pwysau oddi ar ddatblygiadau maes glas. Byddai’n cynnig cymysgedd dda o gartrefi i
gwrdd a'r anghenion tai lleol, yn cynnig cyfleoedd i'r rheiny sydd ond yn gallu
fforddio rhentu, ac hefyd yn helpu i gynnal busnesau lleol. Roedd y cynnig yn cadw at y Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) a’r Cynllun Corfforaethol. Roedd y Cynghorydd Evans yn gofidio nad oedd modd
cadw Fila Talargoch ond byddai cadw’r wal derfyn gerrig a’r plac yn helpu i
gadw naws y pentref. Ei brif bryder oedd y traffig ar yr A541, ac wrth ystyried y tagfeydd sydd
eisoes yn bodoli yn ystod yr amseroedd prysuraf oherwydd y llif traffig i mewn
ac allan o Brestatyn, dim ond gwaethygu fyddai’r sefyllfa. Fe awgrymodd y byddai’n fuddiol edrych ar
ddewisiadau eraill fel gwella'r A548 tuag at y Rhyl ac yna drosodd i Bryn Cwnin
yn Rhuddlan. Siaradodd y Cynghorydd Tony Thomas o blaid y cais
yn cynghori y byddai’r datblygiad yn helpu i gwrdd â'r angen wedi’i gydnabod yn
yr ardal am dai yn lleol ac yn cyfrannu at bron i 10% o ymrwymiad Cynllun
Corfforaethol y Cyngor i ddarparu 430 o dai fforddiadwy. Eglurodd yr Uwch Beiriannydd – Rheoli Datblygu fod
y safle wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol yn dyddio nol i 2007 a 2011 (a
oedd wedi bellach dod i ben) ar gyfer datblygiad preswyl ac hefyd ar gyfer
darparu tai yn y CDLl. Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â’r effaith ar draffig a chymhwysedd y
rhwydwaith priffyrdd fe gynghorodd bod yr ymgeisydd wedi comisiynu asesiad
effaith cynyddol o'r holl ddatblygiadau posib a fyddai’n cael effaith ar yr
A547. Roedd yr adroddiad wedi dod i’r casgliad y dylai’r rhwydwaith priffyrdd
weithredu o fewn y gymhwysedd gyda’r holl safleoedd datblygu arfaethedig, yn
geisiadau presennol ac ymrwymedig. Roedd y standiau gwelededd wrth y fynedfa yn
cwrdd â'r safonau yn TAN18 a'r safonau parcio yn cwrdd â Chanllawiau Cynllunio
Atodol y Cyngor. Drwy gymryd yr holl achosion perthnasol i
ystyriaeth fe awgrymwyd nad oedd rheswm i wrthod y cais ar sail priffyrdd. Dyma'r Prif Swyddog Cynllunio (SS) hefyd yn ymateb
i gwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Mark Young fel a ganlyn - ·
mewn
perthynas â Fila Talargoch doedd yr adeilad ddim yn rhestredig nac mewn ardal
gadwraeth a chan nad oedd yr adeilad wedi'i warchod mewn unrhyw ffordd nid oedd
gofyniad i gyflwyno datganiad o effaith ar dreftadaeth fel rhan o'r broses cais
cynllunio [cynghorodd y Cynghorydd Mark Young fod ceisiadau yn y gorffennol heb
statws adeilad rhestredig wedi cyflwyno asesiadau treftadaeth gan dynnu sylw bod
angen cysondeb o ran hynny] ·
o ran
tai fforddiadwy roedd y meini prawf yn seiliedig ar incwm lleol a byddai polisi
gosod i bobl leol yn cael ei baratoi ar y cyd â’r aelod lleol · o ran manylion y cynllun tai fforddiadwy sicrhawyd y byddai’n rhaid i’r anheddau barhau i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried amodau cynllunio ynghlwm â chaniatâd cynllunio 25/2018/1216 a ganiatawyd ar 15 Ionawr 2020 mewn cysylltiad â Bwlch Du, Nantglyn, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn am benderfyniad ar
yr amodau cynllunio i’w hychwanegu i’r caniatâd cynllunio 25/2018/1216 a
gymeradwywyd ar 15 Ionawr 2020 mewn perthynas â Bwlch Du, Nantglyn, Dinbych. Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ystyried cais
Bwlch Du yn wreiddiol ym Medi 2019 a phenderfynwyd cymeradwyo’r cais. Yn dilyn rhybudd o her cyfreithiol posib i
gyfreithlondeb y penderfyniad fe gafodd y cais ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ym
mis Ionawr 2020 pan benderfynwyd rhoi caniatâd a'r swyddogion i adrodd yn ôl
i'r Pwyllgor gyda rhestr drafft o'r amodau i'w cynnwys ar y Dystysgrif o
Benderfyniad i'w ystyried a'i gadarnhau. Roedd yr adroddiad wedi gosod amserlen o amodau
cynllunio yr oedd swyddogion yn credu a fyddai'n rhesymol ac yn hanfodol i'w
hatodi i ganiatâd cynllunio. Ers cyhoeddi’r amodau arfaethedig roedd y swyddogion wedi bod mewn
trafodaethau cadarnhaol gyda chynrychiolwyr yr ymgeisydd dros y geiriad ar
gyfer rhai o'r amodau cynllunio drafft. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny roedd
swyddogion wedi cyflwyno awgrymiadau ar gyfer y geiriad diwygiedig o’r amodau
hynny a oedd wedi’i manylu yn y wybodaeth atodol hwyr (taflenni glas) mewn teip
italig gyda sylwebaeth gryno pan yn briodol. Roedd cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedi cadarnhau
nad oedd ganddynt broblemau gyda’r diwygiadau. I fod yn eglur, ac i sicrhau fod aelodau yn fodlon
gyda geiriad yr amodau, fe gytunwyd i ystyried pob amod yn unigol gan dynnu
sylw at y diwygiadau arfaethedig ar y cyd gyda'r rhesymeg y tu ôl iddyn nhw. Crynodeb - ·
Amodau 1 a 2 – heb gynnig unrhyw newidiadau ·
Amod 3 – ail-eirio i gadarnhau geiriad drafft yr amod ac
amseriad cwblhau yr ardal parcio a throi.
·
Amodau 4 a 5 – heb gynnig unrhyw newidiadau ·
Amod 6 – ail eirio a rhannu yn ddau amod ecoleg ar wahân. Mae’r ail eirio yn Amod 6 yn egluro’r cynigion
mewn perthynas â diogelu ystlumod yn ystod y cam adeiladu. Mae’r amod ar wahân (bellach wedi'i rifo
yn Amod 7) yn nodi'r gofyniad ar wahân ar gyfer cyflwyno manylion y mesurau
osgoi ymlusgiaid, a darpariaeth nodweddion sy’n gyfeillgar i ystlumod yn y
datblygiad. ·
Amod 7 – amod newydd yn dilyn rhannu Amod 6 (uchod) yn
ddau amod ecoleg ar wahân. Mae’r amod hwn yn ymdrin â mesurau osgoi
ymlusgiaid a nodweddion sy'n gyfeillgar i ystlumod. ·
Amod 8 – ail-ddrafftio Amod 7 wedi’i gynnwys yn adroddiad
y swyddog i sicrhau ‘dyddiad terfynu’ lle byddai'r caban coed yn cael ei dynnu
ynghyd ag adolygu'r cymal olaf i ganiatáu cyfnod hirach i adfer y tir o’r
gyflwr blaenorol. ·
Amod 9 – ail-ddrafftio Amod 8 wedi’i gynnwys yn adroddiad
y swyddog i ganiatáu cyfnod hirach i wneud y gwaith i strwythur y sgubor ar ôl
cwblhau’r gwaith ar yr annedd. ·
Amod 10 – ail-ddrafftio Amod 9 i adnabod y coed sy’n tyfu o
fewn ôl troed yr hen sgubor a fu'n rhaid ei dynnu i lawr. ·
Amod 11 – amod newydd i sicrhau nad oedd perygl i strwythur
adeilad rhestredig yn ystod y gwaith o adeiladu estyniad. Ar ôl ystyried y rhestr ddrafft o amodau cynllunio
a diwygiadau wedi'u awgrymu fel y nodir gan y swyddogion fe ddarllenodd y Cadeirydd
yr argymhelliad ar y taflenni gwybodaeth atodol hwyr oedd yn rhoi sylw i hynny.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James
argymhelliad y swyddog i roi caniatâd cynllunio yn amodol ar yr amodau cynllunio
a gyflwynwyd, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Melvyn Mile. PENDERFYNWYD bod y diwygiadau awgrymedig i’r amodau a’r amod ychwanegol (rhif 11) fel y manylir yn y wybodaeth atodol hwyr (taflenni glas) i gael eu derbyn a’u hatodi i Dystysgrif Penderfynu ar gais 25/2018/1216, ynghyd ag amodau 1,2,4 ... view the full Cofnodion text for item 7. |