Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 25 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Andrew Thomas, Tina Jones a Christine Marston.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 116 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/2020.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2019/20. Cynigodd y Cynghorydd Huw Jones, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young y dylid penodi’r Cynghorydd Joe Welch yn Gadeirydd.

 

Roedd pawb yn cytuno gyda’r cynnig.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Joe Welch yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn  y cyngor 2019/2020.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2019/20. Cynigodd y Cynghorydd Pete Prendergast, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd.

 

Roedd pawb yn cytuno gyda’r cynnig.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 441 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2019 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2019.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2019 fel cofnod cywir.

 

 

7.

CAIS RHIF 02/2019/0183/ PR - TIR YNG NGHEFN TY CEFN LLANFWROG RHUTHUN pdf eicon PDF 247 KB

Ystyried cais ar fanylion edrychiad, tirlunio, cynllun a graddfa 2 annedd wedi ei gyflwyno yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol rhif cais 02/2018/0445 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am fanylion ymddangosiad, tirlunio, gosodiad a graddfa 2 annedd ar dir tu ôl i Cefn, Llanfwrog, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Toni Roberts (O Blaid) – nodwyd fod y cais ar gyfer yr anheddau yn cydymffurfio â’r holl reolau a rheoliadau cynllunio, ac roedd ar gyfer datblygu dwy annedd bach eu heffaith. Byddai’r datblygwr yn defnyddio contractwyr lleol i adeiladu’r tai. Byddai u o’r anheddau yn llai na’r hyn a ddangoswyd yn y cais cynllunio amlinellol.

 

Trafodaeth Gyffredinol

 

Nododd yr Aelod Ward, y Cynghorydd Emrys Wynne nad oedd ganddo unrhyw broblem gyda'r cais gan fod yr ymgeiswyr wedi cydymffurfio â’r rheoliadau cynllunio. Nodwyd bod Cyngor Tref Rhuthun wedi mynegi pryderon gan eu bod yn credu bod yr ardal yn cael ei gorddatblygu ac roedd yr anheddau yn agos at yr anheddau presennol ar y safle.

 

Cynnigcynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry ddilyn argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 15

YMATAL – 0

GWRTHOD – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATAU’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

8.

CAIS RHIF 23/2019/0259/ PC - HEN SIED LLANRHAEADR DINBYCH LL16 4PW pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ôl-weithredol am newid defnydd rhan o adeilad amaethyddol a llawr caled cysylltiedig i Weithdy Peiriannydd ar gyfer Busnes Chwaraeon Moduro/Ceir Clasurol Arbenigol (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd rhan o adeilad amaethyddol a llawr caled cysylltiedig i weithdy mecanyddol ar gyfer busnes chwaraeon modur / ceir clasurol arbenigol yn Hen Shed, Llanrhaeadr, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Endaf Roberts (O blaid) - Canmolodd y swyddogion cynllunio am yr adroddiad. Roedd y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol. Byddai rhoi caniatâd yn cefnogi datblygu busnes lleol ac annibynnol. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan unrhyw ymgyngoreion statudol.

 

Trafodaeth Gyffredinol

 

Dywedodd Aelod y Ward, y Cynghorydd Joe Welch wrth y pwyllgor fod y cais yn cael ei drafod oherwydd bod Cyngor Cymuned Llanrhaeadr Yng Nghinmeirch yn gwrthwynebu'r cais. Gofynnodd i'r swyddogion cynllunio am eu sylwadau ynghylch tri gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned

 

1.    Roedd rhyngwyneb strwythurol yr eiddo o adeiladwaith adeilad fferm amaethyddol ac nid Adeilad Masnachol ac nid yw'n cydymffurfio â rheoliadau adeiladu a oedd yn fater tân a diogelwch ar gyfer adeilad y safle.

2.    Roedd y cais y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer yr ardal.

3.    Nid oedd unrhyw angen lleol wedi'i brofi.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd y rheoliadau adeiladu o fewn y cylch gwaith i'w trafod yn y pwyllgor cynllunio. Roedd safle'r cais y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu yn y CDLl, ond roedd polisïau ar waith a oedd yn caniatáu datblygiadau derbyniol mewn ardaloedd gwledig. Nid oedd unrhyw ofyniad polisi i ymgeisydd brofi 'angen' er mwyn cyfiawnhau datblygiad o'r fath.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Tynnodd y Cynghorydd Merfyn Parry sylw at y ceisiadau blaenorol a wrthodwyd a gofynnodd pam fod y cais bellach yn cael ei argymell i'w gymeradwyo. Wrth ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y safle yn hanesyddol wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth ac yna at ddibenion storio. Ceisiodd ceisiadau blaenorol ganiatâd i'w ddefnyddio fel depo ar gyfer cludo nwyddau gwyn; gwrthodwyd y rhain gan y bernid y byddai hyn yn arwain at fwy o ddefnydd ar y priffyrdd yn yr ardal, ac y byddai wedi cael effaith niweidiol. Ystyriwyd nad oedd y cais newydd fel y'i cyflwynwyd yn cael effaith sylweddol ar y defnydd o'r priffyrdd.

 

Cynnigcynigiodd y Cynghorydd Mark Young ddilyn argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 15

YMATAL – 0

GWRTHOD – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATAU’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 9:56am