Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 25 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Peter Evans, Meirick Lloyd Davies a Brian Jones.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol –

 

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill – Eitem 8 ar y Rhaglen – gan mai fo yw Aelod Arweiniol Eiddo a bod y tir yn eiddo i'r Cyngor

 

Y Cynghorydd Tina Jones – Eitem 8 ar y Rhaglen – gan oherwydd bod ganddi berthynas fusnes â Macbrydydd Homes Ltd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 475 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

 

 

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 01/2018/0705 PARC GLYN LLEWENI, FFORDD YR WYDDGRUG, DINBYCH pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried  cais i ddatblygu 1.3 hectar o dir drwy godi 24 cabanau llety a gwaith cysylltiol ar dir The Glyn Lleweni Parc, Yr Wyddgrug, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 1.3 hectar o dir drwy godi 24 llety aros a gwaith cysylltiedig ym Mharc Glyn Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Nerys Edwards (YN ERBYN) - Datganodd bod y cais yn gwrth-ddweud polisi cynllun datblygu lleol PSE12 a’r CDLl presennol, na fyddai’n caniatáu cymeradwyo unrhyw ddatblygiad o’r fath. Mae’r diffyg manylion yn y cynllun busnes yn golygu nad all y pwyllgor wneud penderfyniad gwybodus o ran yr effaith ar yr economi lleol.

 

Mae hygyrchedd y safle i gludiant cyhoeddus yn parhau i fod yn broblem, a bydd trigolion lleol yn cael eu heffeithio gan y datblygiad a’r cynnydd mewn traffig ar y ffordd fynediad. Nid oes unrhyw ddarpariaeth wedi’i wneud i les a diogelwch ymwelwyr i’r safle.

 

Mae’r diffyg manylion o ran darpariaeth gwasanaethau cyfleustodau yn golygu nad all y Pwyllgor Cynllunio wneud penderfyniad gwybodus ar effaith yr isadeiledd a’r dyfrhawn. Mae pryderon hefyd o ran Iechyd a Diogelwch y safle oherwydd bod y mynediad yn mynd drwy faes glanio gweithredol. Bydd angen i’r Cyngor gynyddu'r monitro er mwyn sicrhau na fydd unrhyw un yn preswylio'n barhaol ar y safle arfaethedig.

 

Rodney Witter (O BLAID) – Datganodd bod gan y pwyllgor a’r fenter nod gyffredin o ran datblygiadau sy'n cyd-fynd â natur a thai cynaliadwy.

 

Mae’r parc wedi ei drawsnewid yn dilyn caniatâd i sawl cais cynllunio yn y gorffennol. Yn 1990 caniatâd ar gyfer gleiderau gwynt a achosodd yr RAF i chwilio am safle arall. Bu cais arall i ganiatáu adfer yr hen lwyni Lleweni, i sefydlu parc bychan ar gyfer carafanau. Caniatawyd cais i adfer hen adeiladau i greu pentrefan gydag 17 annedd.

 

Thema’r cais yw amrywiaeth yr economi lleol, sy’n unol â pholisi’r Sir. Bydd y datblygiad hwn yn caniatáu i’r economi gwledig dyfu, fel y rhai sydd wedi’u cyflawni yn y siroedd cyfagos. Derbyniwyd cefnogaeth gan 56 ymwelydd o blaid y cais. Gall y Cyngor weithredu cyfyngiad deiliadaeth 28 niwrnod i sicrhau nad oes neb yn preswylio’n barhaol ar y safle.

 

Trafodaeth GyffredinolMynegodd Aelod Lleol, y Cynghorydd Mark Young bryder gyda diffyg manylder o ran yr hyn fydd yn cael ei ddatblygu gan nad oes achos busnes, a chodwyd y mater nad yw'r cais yn glynu ar y polisi cynllun datblygu lleol PSE12. Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Thomas nad oedd yn gweld rheswm i fynd yn erbyn argymhelliad y swyddog i wrthod y cais.

 

Eglurwyd bod y Polisi CDLl sydd wedi’i fabwysiadu yn ceisio gwrthwynebu parciau carafanau statig newydd yn y Sir, p’un ai’n ddatblygiadau gwledig neu arfordirol, ac mae’r lletyau aros arfaethedig yn disgyn o fewn diffiniad cyfreithiol o garafán.

 

CynnigCynigodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddog i wrthod y cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 0

GWRTHOD - 16

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

6.

CAIS RHIF 44/2018/0855/ PR – TIR I’R DWYRAIN O TIRIONFA, RHUDDLAN, Y RHYL pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried cais ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, gosodiad a maint 99 anheddau a gyflwynir yn unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod 44/2015/1075 (cais materion a gadwyd yn ôl); ar dir i’r dwyrain o Dirionfa, Rhuddlan, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cais mater a gadwyd yn ôl ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa’r 99 annedd a gyflwynir yn unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod 44/2015/1075, ar dir i’r dwyrain o Tirionfa, Rhuddlan.

 

Cynigodd aelod lleol, y Cynghorydd Ann Davies i’r cais gael ei ohirio, ar y sail nad oedd digon o dystiolaeth gan Dŵr Cymru o ran carthffos gyhoeddus yn croesi’r safle. Cafodd y cynnig i ohirio ei eilio gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

Hysbysodd y swyddogion yr aelodau bod y safle yn safle a neilltuwyd, gyda chaniatâd cynllunio amlinellol. Roedd y cais i asesu’r Caniatâd Amlinellol, nid oes y swyddogion wedi derbyn unrhyw wrthwynebiadau gan Dŵr Cymru, corff arbenigol ar systemau draenio. Argymhellodd y swyddogion i beidio â gohirio’r cais.

 

PLEIDLAIS:

GOHIRIO - 5

PEIDIO Â GOHIRIO - 10

YMATAL - 0

 

Penderfynodd y pwyllgor i beidio â gohirio'r cais a pharhaodd y drafodaeth.

 

SIARADWYR CYHOEDDUS -

 

Pauline Evans (YN ERBYN) – Datganodd nad all isadeiledd Rhuddlan ymdopi â datblygiad o’r maint hwn, yn arbennig y systemau draenio.

 

Roedd diffyg eglurder ar y cynlluniau o ran mesuriadau o bellter yr anheddau arfaethedig o’r eiddo ar Pentre Lane.

 

O dan y CDU a’r CDLl mae nifer sylweddol o dai a datblygiadau eraill wedi eu hadeiladu'n Rhuddlan, sy'n mynd yn erbyn anghenion y Sir. Mae Llywodraeth Cymru wedi goramcangyfrif mudo net yn y Sir ac nid oes angen datblygiad o’r graddfa hwn.

 

Mae problem traffig difrifol yn Rhuddlan o’r holl drefi yn yr ardal, a byddai'r tai ychwanegol arfaethedig yn cael effaith negyddol ar y broblem traffig presennol. Mae lleoedd mewn ysgolion yn brin.

 

Stuart Andrew (O BLAID) – Eglurodd bod y cais yn gais mater a gadwyd yn ôl, a bod y safle wedi derbyn caniatâd cynllunio yn y gorffennol, a gwerthwyd y tir gan y Cyngor er mwyn datblygu tai.

 

O’r 99 annedd arfaethedig, bydd 10 annedd yn fforddiadwy; bydd chwe dwy ystafell wely; a phedwar eiddo pedair ystafell wely. Bydd ardal chwarae, ynghyd â hanner erw o fan agored wedi’i dirlunio ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio, a gaiff ei gytuno gan y Cyngor. Byddai cyfraniad ariannol tuag at ysgolion lleol o £384,000, a £77,000 ychwanegol i wella mannau gwyrdd agored presennol. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad gan gyrff arbenigol.

 

Trafodaeth GyffredinolCanmolodd y Cynghorydd Christine Marston yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, eglurwyd bod unrhyw bryderon o ran y bibell carthffosiaeth wedi'u cywiro yn dilyn yr ymweliad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) yn erbyn y cais mater a gadwyd yn ôl gan ddatgan bod gan y trigolion lleol broblemau hir dymor yn erbyn y datblygiad. Mae’r ysgolion lleol ar hyn o bryd yn llawn ac yn methu â derbyn mwy o blant, ac ni ellir datblygu'r ysgol gan ei fod ar dir CADW.

 

Roedd gan y Cyng. Davies bryderon hefyd o ran y traffig ychwanegol y byddai'r datblygiad yn ei achosi, gan fod problem fawr yn barod o ran traffig yn Rhuddlan. Byddai’r system garthffosiaeth presennol angen ei uwchraddio i reoli’r tai ychwanegol yn Rhuddlan. Amlygwyd maint y tai arfaethedig, gan nad oedd y rhestr dai ar gyfer trigolion yn Rhuddlan yn dangos yr angen am 58 4 ystafell wely.

 

Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) yn erbyn y cais hefyd. Byddai’r datblygiad yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF 15/2018/1130/ AD - PARC CARAFANNAU PARC FARM, LLANARMON-YN-IÂL, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi wal gerrig gydag arwydd hysbysu wedi’i fewnosod fel estyniad i wal gerrig presennol ym Mharc Carafannau Parc Farm, Llanarmon Yn Iâl, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer codi wal gerrig gydag arwydd hysbysu wedi’i fewnosod, fel estyniad i wal gerrig presennol.

 

Trafodaeth GyffredinolHolodd y Cynghorydd Huw Jones a oes angen i’r arwydd fod yn ddwyieithog. Mewn ymateb, dywedodd swyddogion bod y Canllaw Cynllunio Atodol yn rhoi canllawiau clir y dylai arwyddion fod yn ddwyieithog lle bynnag bosib’, ond yn yr achos hwn, mae’r enw’n ddwyieithog yn barod.

 

CynnigCynigiodd y Cynghorydd Huw Jones dderbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 15

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

CAIS RHIF 18/2019/0124/ TP – 11 PARC TYN LLAN, LLANDYRNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i wneud gwaith ar goeden llwyfen a choed masarn yn ddarostyngedig i Orchymyn Diogelu Coed yn 11 Parc Tyn Llan, Llandyrnog, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer gwaith i goeden lwyfen a choed sycamorwydden yn ôl Gorchymyn Diogelu Coed yn 11 Parc Tyn Llan, Llandyrnog, Dinbych.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Hysbysodd aelod lleol, y Cynghorydd Merfyn Parry'r pwyllgor nad oedd gan y Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i'r gwaith.

 

CynnigCynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry dderbyn argymhellion y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 16

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

9.

ADRODDIAD GWYBODAETH – DIWEDDARIAD AR APELIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 100 KB

Derbyn adroddiad gwybodaeth am benderfyniadau apeliadau cynllunio diweddar a gafwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar achosion yn y Sir. Mae’n cwmpasu cyfnod o 6 mis o fis Medi 2018 hyd yma. (Copi ynghlwm)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylai'r aelodau nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

10.

ADRODDIAD GWYBODAETH – PROSIECT CYSYLLTIAD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 180 KB

Derbyn adroddiad gwybodaeth i ddiweddaru Aelodau ar wybodaeth a dderbyniwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â chynigion y Grid Genedlaethol i redeg cysylltiad grid o’r orsaf bŵer niwclear Wylfa arfaethedig i is-orsaf ym Mhentir ger Bangor.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylai'r aelodau nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.