Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Merfyn Parry a Peter Prendergast.

 

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 437 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018.

 

O ran cywirdeb –

 

Dywedodd Aelodau nad oedd unrhyw ymddiheuriadau yng nghofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018. Câi’r cofnodion eu diwygio gan nodi ymddiheuriadau ar ran y Cynghorwyr Ann Davies, Peter Evans, Peter Prendergast a Julian Thompson-Hill.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiad uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12

Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

 

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau yn y rhaglen.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS 15/2018/1076 - ERW GOED, LLANARMON YN IÂL, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i Amrywio amod rhif 4 y caniatâd cynllunio a roddwyd o dan god rhif 15/2016/0858 i alluogi ail leoli pwynt mynediad ar hyd blaen y safle, mewn cysylltiad â chaniatâd amlinellol ar gyfer datblygu 0.60ha o dir i bwrpasau preswyl yn Erw Goed, Llanarmon Yn Iâl, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 4 ar ganiatâd cynllunio 15/2016/0858 fel y gellid symud y fynedfa o flaen y safle, mewn cysylltiad â chaniatâd amlinellol ar gyfer datblygu 0.60 hectar o dir at ddibenion preswyl yn Erw Goed, Llanarmon yn Iâl, Yr Wyddgrug.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Peter Lloyd (O blaid) – Esboniodd i’r Pwyllgor mai cais oedd hwn i amrywio caniatâd presennol ar gyfer mynedfa i gerbydau. Y rheswm dros symud y fynedfa oedd lleoliad yr un a gymeradwywyd mewn perthynas ag asedau Dŵr Cymru ar gyfer dŵr budr a dŵr wyneb, a fyddai’n gwneud y datblygiad yn anymarferol. Byddai symud y fynedfa’n rhagori’n sylweddol ar y cynlluniau gwreiddiol o ran gwella mannau agored i’r cyhoedd a chadw coed a gwrychoedd. O ganlyniad i hynny, byddai diwygio’r cynlluniau yn sicrhau tai a thai fforddiadwy ar y safle, yn gwneud defnydd effeithlon o’r tir, yn cydymffurfio â’r safonau priffyrdd ac yn gwella naws weledol y datblygiad o fewn y pentref a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Rhoddodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Martyn Holland, rywfaint o gefndir byr i’r cais i’r aelodau. Dywedodd bod cymuned Llanarmon yn Iâl wedi cefnogi datblygu’r safle yn y Cynllun Datblygu Lleol diwethaf. Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu amrywio’r amod, ond byddai’n dymuno cadw cymaint â phosib o’r coed a’r gwrychoedd. Mynegodd y Cynghorydd Holland bryderon ynglŷn â’r terfyn cyflymder ar y ffordd gerllaw’r cae chwarae presennol. Roedd yn falch y byddai’r datblygiad yn ymestyn y parth 30mya, ond byddai’n well ganddo ymestyn y parth y tu hwnt i’r cae chwarae ac adeiladu palmant er diogelwch.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai creu palmant wrth ymyl y ffordd yn golygu torri rhai o’r coed a’r gwrychoedd. Fodd bynnag, awgrymwyd y gellid creu llwybr troed y tu mewn i’r datblygiad, yr ochr arall i’r coed a’r gwrychoedd, fel na fyddai’n rhaid eu torri.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y byddai unrhyw ddatblygiad yn cael effaith ar y lôn, ond byddai’r amrywiad a gynigiwyd yn cael llai o effaith ar y coed a’r gwrychoedd o gymharu â’r fynedfa wreiddiol. Dywedodd y byddai’n ofynnol cyflwyno cais ar gyfer y materion a gadwyd yn ôl ac y byddai hwnnw’n ymdrin â’r terfyn cyflymder, felly gallai’r Pwyllgor drafod hynny pan gyflwynid y cynlluniau manwl er cymeradwyaeth.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd – Priffyrdd y byddai’n siarad â’r ymgeisydd ynglŷn â chytundeb priffyrdd addas, a gallai feithrin cyswllt â’r aelod lleol i holi ei farn ynglŷn â hyd y parth 30mya.

 

Cytunodd y Pwyllgor i roi nodyn i’r ymgeisydd er mwyn trafod mater y llwybr troed / palmant cyn mynd ymlaen i gyflwyno cais manwl.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Jones dderbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Meirick Davies.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 17

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog yn yr adroddiad, ynghyd â nodyn i’r ymgeisydd ynglŷn â darparu llwybr troed / palmant.

 

 

 

6.

CAIS 02/2018/1090 - TIR YN (RHAN O ARDD) PENNANT, BRYN GOODMAN, RHUTHUN pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried cais i datblygu 0.17 hectar o dir drwy godi 2 annedd ar wahân (cais amlinellol - pob mater wedi’u cadw’n ôl) Tir yn (rhan o ardd) Pennant, Bryn Goodman, Rhuthun LL15 1EL (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cais i ddatblygu 0.17 hectar o dir i godi dwy annedd ar wahân ar dir ym Mhennant, Bryn Goodman, Rhuthun (cais amlinellol – pob mater wedi’i gadw’n ôl).

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Esboniodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Emrys Wynne, mai cais amlinellol oedd hwn ond fod rhai trigolion yn pryderu ynghylch cynllun arfaethedig y safle. Gobeithiai y byddai’r ymgeiswyr yn ystyried barn y trigolion wrth lunio’r cynlluniau manwl.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y gellid trafod unrhyw bryderon â’r ymgeiswyr yn ystod y drefn cyn ymgeisio.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw’r aelodau at yr wybodaeth atodol (taflenni glas) a oedd yn dileu amod 5 ac yn diwygio amod 9 fel ei fod yn dweud ‘... nid yw hynny’n cyfleu cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol...’

 

Ychwanegid nodyn i’r ymgeisydd er mwyn annog y datblygwr i drafod y materion hynny’r oedd trigolion lleol wedi’u codi ynglŷn â chynllun yr anheddau.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies dderbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Emrys Wynne.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 16

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog yn yr adroddiad, a diwygio’r amodau fel y nodwyd yn y daflen ategol.

 

 

 

7.

CAIS 41/2018/0865 - HENDRE, BODFARI, DINBYCH pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i alluogi creu ffordd fynediad, ardal ategol wedi’i dirlunio a gwaith cysylltiedig yn Fferm Yr Hendre, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol fel y gellir creu ffordd fynediad, ardal ategol wedi’i thirlunio a gwaith cysylltiedig yn Hendre, Bodfari, Dinbych.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Christine Marston, fod y Cyngor Cymuned yn pryderu ynglŷn â cholli cynefin bywyd gwyllt yn sgil torri’r gwrychoedd, ond bod yr Ecolegydd wedi’i chael hi’n anodd asesu’r sefyllfa gan mai cais ôl-weithredol ydoedd. Roedd y Cynghorydd Marston o’r farn y bu’r ymgeisydd yn ystyriol o’r tirlun gyda’i waith, gan nodi’r amodau arfaethedig i ddiogelu coed a gwrychoedd ar y safle.

 

Amlygodd y Cynghorydd Marston bryderon ynglŷn â llwybr ceffylau cyhoeddus oedd wrth ymyl y dreif gwreiddiol, a oedd angen ei ddiogelu o ran ei led presennol fel y câi’r cyhoedd rwydd hynt i fynd arno. Dywedodd mai mater priffyrdd oedd hyn, yn hytrach na mater cynllunio.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Christine Marston dderbyn argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 16

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog yn yr adroddiad.

 

 

 

8.

CAIS 43/2018/0847 - PEN Y LLAN, BISHOPSWOOD ROAD, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i tynnu saith o goed onnen ac un sycamorwydden yn ddarostyngedig i Orchymyn Diogelu Coed 1/1981 yn Pen Y Llan, Bishopswood Road, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i dorri saith onnen ac un sycamorwydden, yn amodol ar Orchymyn Diogelu Coed 1/1981, ym Mhen y Llan, Bishopswood Road, Prestatyn.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Rhoes yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Tina Jones, yr wybodaeth ddiweddaraf am y cais. Hysbyswyd y Pwyllgor y cynhaliwyd ymweliad safle gyda’r aelod lleol arall, y Cynghorydd Hugh Irving. Roedd y coed yn agos iawn at y tŷ, a hysbyswyd y pwyllgor fod gwifrau trydan yn mynd o dan y canghennau uchaf. Roedd y Cynghorydd Jones o’r farn y gallai’r coed fod yn beryglus pe byddai gwyntoedd cryfion yn eu chwythu i lawr.

 

Rhoes yr aelod lleol, y Cynghorydd Hugh Irving, wybodaeth ychwanegol ynglŷn â hanes yr eiddo, a’r ffaith fod y coed yn ffinio â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a choetir hynafol. Fodd bynnag, roedd y tŷ’n hŷn na chan mlynedd bellach, ac yn ddiweddar roedd y coed wedi tyfu uwch ei ben.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y coed ar dir y Cyngor, a chytunodd y swyddogion i drosglwyddo sylwadau’r aelodau i’r Gwasanaethau Cefn Gwlad, er mwyn sicrhau nad oedd coed ar dir y Cyngor yn peri trafferth i berchnogion y tir cyfagos.

 

Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod:

  • Gwrthwynebiadau i’r cais gan fod y coed yn cael eu torri am resymau esthetig yn bennaf, yn hytrach nag er diogelwch.
  • A ellid plannu coed llai o faint yn lle’r rhai presennol.
  • Y Gorchymyn Diogelu Coed oedd mewn grym ar y safle. Hysbyswyd yr Aelodau fod a wnelo’r Gorchymyn â’r coetir, a bod y coed dan sylw wedi hadu eu hunain ers gwneud y Gorchymyn hwnnw.
  • Wrth ganiatáu’r cais rhoddid cymeradwyaeth i’r gwaith yn dechnegol, ond byddai’n ofynnol cael caniatâd perchennog y tir fel y gallai’r ymgeisydd drafod y mater â’r Gwasanaethau Cefn Gwlad.

 

Pe cymeradwyid y cais, roedd hi’n amlwg o’r amodau mai’r bwriad oedd gadael i’r coed aildyfu o’r bonion yn hytrach na’u difa.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tina Jones dderbyn argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 14

GWRTHOD – 2

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.15 a.m.