Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyn dechrau’r
cyfarfod, cadarnhawyd y byddai amser dechrau'r cyfarfod yn cael ei oedi ychydig
gan y bu damwain traffig ar y ffordd yn Llanelwy a oedd yn atal nifer o'r
aelodau rhag cyrraedd y cyfarfod ar amser.
Am 9.40am
penderfynwyd y dylid dechrau’r cyfarfod gan fod digon o aelodau yn bresennol i
gael cworwm. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol gydag Eitem 5 gan fod ei nai yn
gweithio ar gyfer Grŵp Cynefin. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
{0><}98{>Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2018 (copi wedi’i atodi). <0} Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2018. Tudalen 11 –
Eitem 6- Cadarnhaodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei fod wedi mynychu’r
ymweliad safle a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2018. Tudalen 12 –
Eitem 6- Nododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod yr argymhelliad yn nodi
bod y gwaith i ddechrau o fewn 6 mis ac nid y cyfnod arferol a nodwyd. PENDERFYNWYD –yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
14 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 – 8) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers
cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau o’r
cyhoedd i siarad, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 02/2018/0952/PF - 48 BRYN RHYDD, RHUTHUN PDF 6 KB {0><}79{>Ystyried cais i godi estyniad a gwneud addasiadau
i annedd yn 48 Bryn Rhydd, Rhuthun (copi ynghlwm).<0} Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol gyda’r eitem gan fod ei nai yn
gweithio ar gyfer Grŵp Cynefin. Cyflwynwyd y cais
i godi estyniadau ac addasu annedd yn 48 Bryn Rhydd, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Kerry Jones (yn erbyn) – nododd ei bod yn bresennol
ar ran nifer o breswylwyr ym Mryn Rhydd.
Roedd yr estyniad arfaethedig yn ymddangos yn ormesol a threchol. Byddai’n cael effaith andwyol ar rif 49 Bryn
Rhydd oherwydd y collir golau i’r gegin a ffenestr yr ystafell ymolchi a oedd
yn cael ei ddefnyddio'n barhaus, a cholli preifatrwydd hefyd. Byddai effaith andwyol tebyg ar rif 47 Bryn
Rhydd oherwydd maint yr estyniad. Roedd
50 Bryn Rhydd wedi’i adeiladu ar lefel is, a byddai’r ffenestri ar ddrychiad
cefn yr estyniad yn wynebu yn syth at ffenestri'r ystafell fyw gan achosi
effaith ormesol a chysgodol. I grynhoi,
byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol a gofynnodd Ms. Jones bod y cais yn
cael ei wrthod. Huw Evans (O Blaid) - nododd y gofynnwyd iddo
fynychu ar ran yr ymgeiswyr. Y rheswm
dros y cais oedd i wneud lle ar gyfer unigolyn gydag anableddau, felly byddai’r
addasiadau mewnol a’r estyniad yn sicrhau symudiad hawdd ar gyfer defnyddiwr
cadair olwyn. Gwnaed
addasiadau sylweddol i’r cais i fodloni pryderon y cymdogion. Byddai’r datblygiad yn cael effaith ond ni
fyddai’n ormesol nac yn drechol.
Byddai’r estyniad yn un gydag unllawr ac ni fyddai’n edrych dros unrhyw
un o’r eiddo cyfagos. Roedd y cais yn
cydymffurfio â’r polisi gydag ychydig iawn o effaith ac yn cael ei ddarparu ar
gyfer unigolyn gydag anableddau. Cadarnhaodd y
Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i gynnal ar 7 Rhagfyr 2018. Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Emrys
Wynne, y cynhaliwyd cyfarfod gyda’r ymgeisydd, y gwrthwynebwyr a’r swyddogion i
geisio datrysiadau. Eglurodd pe bai’r
cais yn cael ei wrthod, gallai’r ymgeisydd adeiladu estyniad ychydig yn llai o
dan hawliau datblygu a ganiateir y gellir ei adeiladu heb y diwygiadau a
gynigir yn awr i ddyluniad y to. Cadarnhawyd nad
oedd canllaw 25 gradd yn berthnasol i ddrychiadau ochr tai. Roedd Grŵp Cynefin wedi ceisio
lliniaru'r effaith ar eiddo cyfagos ond roedd angen yr estyniad ar gyfer tenant
anabl. Byddai effaith ar
y cymdogion pan fyddai’r gwaith adeiladu yn dechrau oherwydd y cerbydau
adeiladu, ond disgwylir hynny gydag unrhyw ddatblygiad adeiladu. Ar y pwynt hwn,
cadarnhawyd na fyddai’r Cynghorwyr Ellie Chard, Gwyneth Kensler a Bob Murray yn
cymryd rhan yn y bleidlais gan eu bod yn hwyr yn cyrraedd a heb glywed y
drafodaeth lawn ynglŷn â’r cais. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y
swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Thomas. PLEIDLAIS: CYMERADWYO –gan
gynnwys yr amod ychwanegol ar y daflen las) – 11 YMATAL - 1 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion, ynghyd â’r amodau ychwanegol, a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2018/0999/PF - 50 Clifton Park Road, Y Rhyl PDF 96 KB {0><}75{>Ystyried cais i godi estyniad a gwneud addasiadau
i annedd yn 50 Clifton Park Road, Rhyl (copi ynghlwm).<0}
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniad ar yr annedd yn 50 Clifton Park Road, y Rhyl, LL18 4AW. Siaradwr Cyhoeddus – Stephanie Wotton (yn erbyn) – nododd ei bod yn byw yn 52 Clifton Park Road, a oedd yn sownd i eiddo’r ymgeisydd. Roedd wedi byw yn yr eiddo ers bron i 20 mlynedd. Pe bai’r estyniad i rif 50 Clifton Park Road yn cael ei adeiladu, byddai’n cael effaith ar y golau drwy ei ffenestr. Roedd y ffenestr unigryw dan sylw yn 3m x 2.5m ac wedi bod yn yr eiddo ers dros 20 mlynedd. Pe adeiledir yr estyniad yno yna byddai 12cm o fwlch rhwng y ffenestr a wal yr estyniad. Byddai hefyd yn cael effaith ar yr ystafell wely ar y llawr cyntaf gan y byddai’r estyniad yn diddymu rhywfaint o olau dydd. Roedd Cyngor Tref y Rhyl yn erbyn y cais, ac roedd Ms Wotton yn teimlo y byddai’n cael effaith ddifrifol ar ei lles a’i hiechyd pe cymeradwyir y cais. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i gynnal ar 7 Rhagfyr 2018. Trafodaeth Gyffredinol – Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Brian Jones i’r aelodau ystyried y pwynt am ganllawiau a hysbysodd y Pwyllgor ei fod yn erbyn y cais. Nododd oherwydd maint yr estyniad deulawr, byddai’n annerbyniol i rywun golli cymaint o olau. Rhannodd Aelodau’r Ward (nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor), y Cynghorwyr Brian Blakeley a Cheryl Williams bryderon Ms Wotton gan y byddai'r estyniad yn amharu ar y golau i'w heiddo a'r ffaith y byddai hithau’n edrych allan ar wal frics. Roeddent yn credu nad oedd y cais yn cyfateb â’r cyd-destun ac yn ormesol. Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynllun blaenorol a gyflwynwyd yn un ar gyfer estyniad a oedd yn fwy na maint yr hyn a gyflwynwyd i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad wedi nodi’r canllaw 45 gradd ac roedd estyniad y llawr gwaelod wedi’i leihau fel nad oedd yn torri’r canllaw 45 gradd. Nododd y Cynghorydd Mark Young y dylid gwrthod y cais oherwydd yr effaith ormesol ar y cymydog. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid gwrthod y cais, yn erbyn argymhelliad y swyddogion, oherwydd y byddai'r cymydog yn colli cymaint o olau dydd / golau'r haul a'r effaith ormesol ar y cymydog, eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Tony Thomas. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 3 YMATAL - 2 GWRTHOD - 10 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cynnig, yn erbyn argymhellion y swyddogion, oherwydd colled golau dydd/ golau’r haul a’r effaith ormesol ar y cymydog. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45 a.m.) cafwyd egwyl o 15
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.00 a.m. |
|
CAIS RHIF 43/2018/0900/PF - 1 THE DELL A THIR Y TU ÔL I THE DELL PDF 6 KB {0><}75{> I ystyried cais i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi bloc o fflatiau
preswyl 15 uned; adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwneud gwaith
cysylltiedig yn 1 The Dell a thir y tu ôl i The Dell, Prestatyn (copi ynghlwm).<0} Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel yr annedd bresennol a chodi bloc o fflatiau preswyl 15 uned; adeiladu
mynedfa newydd i gerbydau a gwneud gwaith cysylltiedig yn 1 The Dell a’r tir tu
ôl i The Dell, Prestatyn, LL19 8SS. Trafodaeth Gyffredinol - Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i
gynnal ar 7 Rhagfyr 2018. Cadarnhaodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Tina Jones ei bod hi a’r cynghorydd Hugh Irving (nad
oedd yn Aelod o’r Pwyllgor) wedi’u cynnwys yn yr holl drafodaethau ynglŷn
â’r datblygiad. Roedd y cais wedi
ystyried pryderon y preswylwyr. Ar hyn
o bryd roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem ar y safle ac roedd y preswylwyr
wedi rhoi gwybod y gwelwyd llygod mawr ar y safle. Nododd y
Cadeirydd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y dylai’r Pwyllgor Cynllunio
benderfynu ar y cais ac ni ddylid ei alw i mewn i gael penderfyniad gan
Weinidogion Cymru. Roedd y pellter
rhwng yr adeilad arfaethedig a chefn yr anheddau deulawr ar The Dell yn golygu
y byddai lefel dderbyniol o amwynder yn parhau ar gyfer preswylwyr yr anheddau
presennol. O ran pryderon y preswylwyr
lleol, roedd CCA Datblygiad Preswyl a fabwysiadwyd yn awgrymu y dylai isafswm y
pellter a geisir rhwng cefn eiddo preswyl i gyfyngu edrych drosodd ac ati fod
yn 21m. Roedd y pellter wedi’i gyflawni
yn yr achos hwn gan fod pellter o 31m rhwng y datblygiad newydd a drychiadau
cefn rhif 3 a 5 The Dell. Mewn perthynas â
rhifau 7 a 9 The Dell ni ystyriwyd y byddai’r cynnig yn achosi unrhyw effaith
andwyol sylweddol ar lefel amwynder yr eiddo hyn. Er y derbynnir y byddai’n effeithio ar
olygfa’r eiddo hyn, ni ystyrir y byddai lefel y niwed yn ddigon i gyfiawnhau
gwrthod rhoi caniatâd. Cynghorodd
Ecolegydd y Sir bod yr adroddiad ecolegol ar gyfer y cais wedi bod yn un
trylwyr ac er bod moch daear yn defnyddio'r safle i hel bwyd, nid oedd unrhyw
set yn bresennol a fyddai angen eu lliniaru fel rhan o'r datblygiad. Felly, ni bennir bod y datblygiad yn peri bygythiad
i boblogaethau moch daear lleol, na moch daear na setiau unigol. Roedd Dŵr
Cymru wedi adolygu’r strategaeth ddraenio a chynllun draenio arfaethedig, a
oedd yn cynnig y dylid gwaredu gwastraff drwy'r system garthffosiaeth gyhoeddus
a dylid gwaredu dŵr wyneb i garthffos dŵr wyneb cyhoeddus ar raddfa
nad yw’n uwch na 5 litr yr eiliad.
Nodwyd 2 danc gwanhau ar y cynllun draenio. Gan nad oedd y
safle o fewn parth llifogydd, ac o ystyried ymatebion yr ymgyngoreion draenio,
ni ystyriwyd bod unrhyw bryderon llifogydd neu ddraenio ar y safle. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tina Jones argymhelliad y
swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 1 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion
y swyddogion, ynghyd â’r amodau ychwanegol, a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 47/2018/0962/PC - BRYN AWEL, CWM PDF 6 KB {0><}0{>I ystyried cais i godi stablau ar gyfer defnydd
preifat (cais ôl-weithredol) ym Mryn Awel, Cwm (copi ynghlwm). <0} Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd cais wedi’i
gyflwyno i godi stablau at ddefnydd preifat (cais ôl-weithredol) ym Mryn Awel,
Cwm, y Rhyl, LL18 6HU. Trafodaeth Gyffredinol - Cadarnhaodd Aelod Lleol, y Cynghorydd Christine
Marston ei bod o blaid y cais ôl-weithredol hwn. Dangosodd
Cofrestr Tir Cyffredin Cyngor Sir Ddinbych nad oedd y darn o dir wedi'i
gofrestru fel Tir Cyffredin. Byddai’r
safle ar ymylon y tir cyffredin. Roedd y trefniadau
ar gyfer storio / gwaredu gwastraff wedi'u cadarnhau ac fe gynghorwyd na
fyddai'n cael ei storio ar y safle, ond yn cael ei symud i leoliad storio a
rennir ar y fferm gyfagos ar feic cwad personol. Holodd y Cynghorydd Merfyn Parry a oedd yn
ystyriaeth berthnasol bod angen y cyfleuster ar y safle. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Christine Marston
argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Alan James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO’R cais
gyda’r amod ychwanegol - 13 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag
argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
POLISI CYNLLUNIO CYMRU RHIFYN 10 Er gwybodaeth,
roedd eitem o wybodaeth hwyr wedi’i chynnwys ar y taflenni glas. Roedd swyddogion
Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru bod
rhifyn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru wedi'i gyhoeddi ar 5 Rhagfyr 2018, gan
ddiddymu rhifyn 9 y ddogfen o'r dyddiad hwnnw.
Felly, o’r dyddiad hwnnw, Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10 fyddai’r
rhifyn y cyfeirir ato yn adroddiadau’r Swyddogion. Dogfennau ychwanegol: |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m. |