Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018
(amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17
Hydref 2018. Nodwyd fod y Cynghorydd Alan James yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio ar 17 Hydref 2018, dylid dileu ei enw o’r rhestr o aelodau oedd wedi
anfon ymddiheuriad. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod,
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 9) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers
cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r
cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau yn y
rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 16/2018/0649/PR – LÔN CAE GLAS, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN PDF 98 KB Ystyried cais ar
gyfer manylion ymddangosiad, tirlunio, gosodiad a maint 1 annedd a gyflwynir yn
unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod 16/2017/1074 (cais materion a
gadwyd yn ôl); cynllun parcio a throi a manylion draenio dŵr budr a
dŵr wyneb a gyflwynir yn unol ag amodau 7 ac 11 caniatâd amlinellol cod
16/2017/1074 ar dir (rhan o ardd) Cae Glas, Lon Cae Glas, Llanbedr Dyffryn
Clwyd, Rhuthun (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer manylion ymddangosiad, tirlunio, gosodiad a maint
1 annedd a gyflwynir yn unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod
16/2017/1074 (cais materion a gadwyd yn ôl); cynllun parcio a throi a manylion
draenio dŵr budr a dŵr wyneb a gyflwynir yn unol ag amodau 7 ac 11
caniatâd amlinellol cod 16/2017/1074 ar dir (rhan o ardd) Cae Glas, Lôn Cae
Glas, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (amgaeir copi). Siaradwyr Cyhoeddus - Dr David Edwards (O blaid) - yn nodi bod
dau wrthwynebiad i’r cais cynllunio wedi’u codi’n flaenorol a darparwyd ateb
gan Mr M Roberts o Sustain Architecture (asiant) i’r gwrthwynebwyr. Nodwyd nad oedd erioed wedi bod yn fwriad i
ddefnyddio tanc septig ar gyfer draenio dŵr budr, ac roedd y cynnig bob
amser wedi bod yn offer carthion system-disg.
Byddai’r arllwysiad o offer o’r fath yn diwallu gofynion y DU ac
Ewropeaidd ac roedd yn cael ei dderbyn gan Dŵr Cymru. Dywedodd y siaradwr yn ei farn ef nad oedd wedi
bod yn ofyniad cael lle troi ar gyfer cerbydau cludiant ar safle un annedd yn
ystod gwaith adeiladu. Trafodaeth Gyffredinol - Gofynnodd y Cynghorydd Huw Jones a oedd barn
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi’i gymryd i ystyriaeth pan oedd
Swyddogion wedi asesu’r cais. Gofynnwyd
a oedd yna achos i orfodi defnyddio cerrig ar y waliau a llechi ar y to. Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad
ynglŷn â barn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r rhesymau am yr
amodau a osodwyd. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio bod
sylwadau’r AHNE wedi eu hystyried a bod y defnydd o ddeunyddiau wedi’i asesu
yng nghyd-destun y rhai a ddefnyddiwyd ar eiddo yn yr ardal. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill. PLEIDLAIS: CYMERADWYO
- 17 GWRTHOD
- 0 YMATAL
- 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a
nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ystyried cais am
ganiatâd i godi un corn simdde 35 metr mewn uchder a 2m mewn diamedr sy’n
sefyll yn annibynnol, wedi’i leoli i’r gogledd o'r ffatri yn The Real Petfood
Company, Uned 2, Royal Welch Avenue, Bodelwyddan, Y Rhyl (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi un corn simnai 35 metr mewn uchder a 2m mewn diamedr
sy’n sefyll yn annibynnol, wedi’i leoli i’r gogledd o'r ffatri yn The Real
Petfood Company, Uned 2, Royal Welch Avenue, Bodelwyddan. Siaradwr Cyhoeddus - Sioned Edwards (Cadnant Planning)(O blaid) – yn
nodi fod y busnes yn cyflogi dros saith deg o bobl ac roedd wedi ymrwymo i fynd
i’r afael â phryderon trigolion lleol, drwy ddarparu’r ateb tymor hir
gorau. Dywedodd y siaradwr fod The Real
Petfood Company yn dymuno bod yn gymydog da yn y gymuned ac roedd wedi gwrando
ar bryderon trigolion a chwmnïau lleol.
Roedd newidiadau wedi eu cyflwyno i’r cais gwreiddiol i fynd i’r afael
â'r pryder am arogl. Nodwyd mai prif ystyriaethau’r cynnig oedd
treftadaeth, tirlun ac effeithiau gweledol ac amwynder preswyl ac arogl. Gofynnwyd am wybodaeth ychwanegol gan
ymgyngoreion yn ystod proses y cais ac roeddent wedi eu cynnwys yn y cais. Amlygwyd na fyddai’r effaith weledol ac ar y
tirlun yn sylweddol. Ni dderbyniwyd
gwrthwynebiadau gan yr ymgyngoreion statudol oedd yn cynnwys CADW,
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys nac Ymgynghorydd Tirlun y Cyngor mewn
perthynas ag effeithiau ar dreftadaeth, tirlun ac effaith weledol. Wrth nodi bod
mater arogl sy’n bodoli’n barod yn codi o’r broses cynhyrchu bwyd anifeiliaid
yn effeithio ar amwynder preswyl, bod y cynnig yn ceisio rheoli hyn. Roedd yr
ymgeisydd yn ystyried yr amodau a awgrymwyd gan swyddogion i fod yn dderbyniol. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i
gynnal ar 9 Tachwedd 2018. Trafodaeth Gyffredinol – rhoddodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Richard Mainon gefndir byr y
cais i’r aelodau. Dywedodd ei fod yn bresennol i gynrychioli trigolion Bodelwyddan,
oedd wedi bod yn barchus ac amyneddgar iawn drwy gydol y broses. Dywedodd y Cynghorydd Mainon ei fod yn falch
i weld bod sgwrwyr a’r hidlwyr wedi eu hychwanegu at y cais. Roedd y Cyngor Tref yn cydnabod ac yn
gwerthfawrogi bod y cais wedi’i newid i fynd i’r afael â phryderon, ond
gofynnwyd am sicrwydd ar gamau os canfyddir bod y cwmni wedi torri’r amodau os
byddai’r cynigion yn cael eu cymeradwyo.
Arweiniodd y Rheolwr Datblygu yr aelodau i’r
wybodaeth ar y daflen gwybodaeth hwyr mewn perthynas â’r cais. Amlygwyd bod yna ddwy drefn caniatâd sy’n
berthnasol i’r eiddo – y cyntaf y cais cynllunio ar gyfer y simnai ac yn ail y
broses caniatâd amgylcheddol. Roedd y
defnydd diwydiannol ar y safle wedi hen sefydlu. Yn ei farn ef, y rheolaeth gryfaf dros
weithgaredd ar y safle oedd y ddeddfwriaeth caniatâd amgylcheddol. Eglurodd y Rheolwr Busnes Diogelu’r Cyhoedd bod y materion ar y safle wedi
bod yn destun craffu manwl, ac mewn perthynas â’r sefyllfa caniatâd
amgylcheddol, argymhellwyd ystyried codi simnai i wasgaru’r allyriadau. Os
byddai simnai yn cael ei chodi gyda chynllun lleihad ar waith, gellir gosod
gorfodaeth a rheolaethau addas ar y safle.
Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurhad ar yr amserlen i ymgymryd â’r
gwaith arfaethedig a gofynnwyd am sicrwydd dros ddilyn camau gorfodi os oes
angen. Cadarnhaodd y Rheolwr Busnes Diogelu’r Cyhoedd y byddai cyfnod ymgymryd â’r
prosiect yn cael ei gynnwys yn yr hawlen, ac o fewn amserlen ymarferol. Roedd gan y system y gallu i ddygymod â
chynhyrchu mwy. Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Thomas am sicrwydd ar pa mor realistig oedd y
gofyniad i dynnu'r simnai os byddai'r ffatri yn rhoi'r gorau i weithio. Awgrymodd y Rheolwr Datblygu y byddai’r amod
cynllunio yn ychwanegu pwysau i’r broses caniatâd amgylcheddol ac ystyried a
fyddai’n rhesymol gorfodi tynnu’r simnai i lawr. Mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler bryderon bod elfennau fel gwynt yn gallu effeithio ar gyfeiriad arogl a phellter ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried cais am
ganiatâd i godi estyniad i’r ffatri bresennol er mwyn darparu gofod swyddfa
ychwanegol yn The Real Petfood Company, Uned 2, Royal Welch Avenue,
Bodelwyddan, Y Rhyl (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi estyniad i ffatri bresennol i ddarparu gofod
swyddfa ychwanegol yn y Real Petfood Company, Uned 2, Royal Welsh Avenue,
Bodelwyddan. Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn cynnig bod yr
eitem yn cael ei gohirio nes bydd y simnai wedi’i hadeiladu. Cynhaliwyd trafodaeth fer ar y rheswm dros y
gohirio. Eglurodd y Rheolwr Datblygu y
risg posibl a chanlyniadau gohirio’r cais wrth yr aelodau. Cynnig – Y Cynghorydd Brian Jones yn cynnig gohirio’r
cais, eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. PLEIDLAIS: GOHIRIO
- 7 PEIDIO
 GOHIRIO - 9 YMATAL - 1 Yn dilyn y bleidlais cadarnhawyd i beidio
gohirio'r eitem a symud ymlaen i ystyried y cais. Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd yr Aelod Lleol Richard Mainon ei siom dros y bleidlais i beidio
gohirio. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y
swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO
- 13 GWRTHOD
- 1 YMATAL
- 3 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a
nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45 a.m.) cafwyd egwyl. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.10 a.m. |
|
CAIS RHIF 45/2018/0341/PF – DERWEN HOUSE, FFORDD DERWEN, Y RHYL PDF 6 KB I ystyried cais
am ganiatâd i leoli cynwysyddion storio yn Derwen House, Ffordd Derwen, Y Rhyl,
LL18 2LS (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer lleoli cynwysyddion storio yn Derwen House, Ffordd
Derwen, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol - Roedd y Cynghorydd Ellie
Chard (Aelod Lleol) yn gwrthwynebu’r cais oherwydd gorddwysáu defnydd o’r maes
parcio. Roedd yn meddwl y byddai’r cynnig yn newid
cymeriad yr ardal, ac roedd yna drigolion yn poeni am golli coed lleol a’r
perygl o lifogydd. Roedd y Cynghorydd Chard yn cynnig gwrthod y cais
yn seiliedig ar gorddwysau. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i
gynnal ar 9 Tachwedd 2018. Gofynnodd y
Cynghorydd Bob Murray i amod gael ei gynnwys bod y cynwysyddion mewn lliw
gwyrdd. Eglurodd y Cadeirydd bod yr
amodau a awgrymwyd yn cynnwys lliw y cynwysyddion i fod yn wyrdd a gofynnir i’r
ymgeisydd gyflwyno cynigion i’r lliw ar gyfer trafodaeth gyda swyddogion
cynllunio a’r Aelodau Lleol. Eglurwyd
bod y coed ar y safle wedi eu diogelu o dan orchymyn diogelu coed. Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young a fyddai
cyfyngiad ar oriau gweithredu ar ddydd Sul a Gŵyl Banc yn cael ei
gynnwys. Dywedodd y Swyddog Datblygu y
gallai hwn gael ei gynnwys fel amod ychwanegol os byddai aelodau’n cytuno. Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler a fyddai’r
cynwysyddion storio yn cael eu defnyddio ar gyfer y busnes. Eglurodd y swyddogion bod Amod 5 yn nodi bod
y cynwysyddion ar gyfer defnydd busnes yn unig.
Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i’r geiriad ar y cyfyngiadau
ar y defnydd o’r cynwysyddion fod yn glir ac yn gadarn. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Tony Thomas yr
argymhelliad gan y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Christine Marston. PLEIDLAIS: CYMERADWYO
- 15 GWRTHOD
- 1 YMATAL
- 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog,
ynghyd â’r amodau ychwanegol, a fanylwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2018/0822/PF – 41-42 RHODFA’R DWYRAIN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais am
ganiatâd i adeiladu 41 o fflatiau cymdeithas dai ar gyfer preswylwyr lleol dros
55 oed yn ogystal â chreu a newid mynediadau i gerbydau a cherddwyr,
darpariaeth parcio cysylltiedig a gwaith cysylltiedig yn 41-42 Rhodfa’r
Dwyrain, Y Rhyl, LL18 3AW (amgaeir copi) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am ganiatâd i adeiladu 41 o fflatiau cymdeithas dai ar
gyfer preswylwyr lleol dros 55 oed yn ogystal â chreu a newid mynediadau i
gerbydau a cherddwyr, darpariaeth parcio cysylltiedig a gwaith cysylltiedig yn
41-42 Rhodfa’r Dwyrain, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol – Aelod Lleol, y Cynghorydd Tony Thomas yn mynegi ei gefnogaeth i'r
cais. Amlygodd yr angen am dai yn ardal Y Rhyl. Yn ei farn ef roedd parcio yn yr ardal yn
gyfyng, ond os cymeradwyir, ni fyddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar
y sefyllfa. Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am sicrwydd bod pryderon unigolion oedd
wedi codi pryderon/ gwrthwynebiad wedi derbyn sylw. Cadarnhaodd y Cynghorydd Tony Thomas ei fod
wedi cysylltu â‘r filfeddygfa a dau o’r trigolion lleol oedd wedi
gwrthwynebu. Gwerthfawrogwyd bod yr
angen am dai yn yr ardal yn sylweddol a bod parcio wedi bod yn fater parhaus. Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd – Priffyrdd, bod y cais yn cwrdd â’r
safonau priffyrdd/parcio perthnasol. Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurhad sut fyddai oed trigolion yn
cael ei reoli a sut yr oedd cyfraniadau addysg wedi eu hasesu. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
os gellir cadw’r wal derfyn. Gofynnodd
y Cadeirydd am eglurhad ar gyfraniadau man agored. Ymatebodd y swyddogion i’r materion a godwyd gan aelodau fel a ganlyn - ·
byddai’r fflatiau’n cael eu rheoli gan Gymdeithas Tai, a
fyddai’n sgrinio trigolion. ·
roedd y nodyn canllaw cynllunio atodol yn amlinellu
cyfrifiad cyfraniadau ariannol mewn perthynas â chynlluniau, a lle byddai
consesiynau’n cael eu cyfiawnhau. Yr Aelodau oedd i benderfynu pa un ai i adolygu’r canllaw
mewn cysylltiad â’r Cynllun Datblygu Lleol newydd. ·
rhoddwyd cadarnhad y byddai’r rhan fwyaf o’r wal derfyn
bresennol yn cael ei chynnal fel rhan o’r datblygiad, a gellir delio â hyn drwy
amod ychwanegol. ·
roedd y cynnig ar gyfer 34 o unedau un ystafell wely
felly byddai’n annhebygol o gynnwys teuluoedd gyda phlant. Cynnig - Cynigiodd y
Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i
heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog,
ynghyd â’r amod ychwanegol, cadw’r wal bresennol a fanylwyd yn yr adroddiad. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11:50 a.m. |