Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu â’r busnes sydd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018. PENDERFYNWYD bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018 yn cael eu cymeradwyo fel
cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD AR GYFER DATBLYGU (EITEMAU 5 – 8 AC 11 - 12) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ceisiadau
a ddaeth i law a oedd angen penderfyniad gan y pwyllgor, ynghyd â dogfennau
cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at
wybodaeth ategol hwyr (taflenni glas) a ddaeth i law ers cyhoeddi’r rhaglen a
oedd yn gysylltiedig â cheisiadau penodol.
Er mwyn bodloni ceisiadau i siarad gan y cyhoedd, cytunwyd i amrywio
trefn ceisiadau ar y rhaglen yn unol â hynny. |
|
CAIS RHIF CAIS RHIF 21/2018/0293/PF – 16 LÔN Y RHEITHORDY, LLANFERRES, YR WYDDGRUG PDF 6 KB Rhoi ystyriaeth i
gais i ddymchwel portsh a chodi garej yn sownd wrth yr adeilad (cynllun
diwygiedig) yn 16 Lôn y Rheithordy, Llanferres (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel portsh a chodi garej cysylltiedig (cynllun wedi’i ddiwygio) yn 16
Rectory Lane, Llanferres, yr Wyddgrug. Siaradwr Cyhoeddus - Mr B. Barton (Yn erbyn) – mynegodd bryderon am
effaith y cynigion ar y ffordd i mewn ac allan o Rif 18 Rectory Lane. Cyfeiriodd hefyd at sylwadau yn adroddiad y
Swyddog i Bwyllgor mis Medi. Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Emrys Wynn ar ran y
Cynghorydd Gwyneth Kensler nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod ond roedd wedi
bod ar Ymweliad Safle a gynhaliwyd ddydd Gwener 12 Hydref 2018. Roedd
y Cynghorydd Kensler wedi cadarnhau nad oedd rheswm dros wrthwynebu’r cais yn
ei barn hi. Cadarnhawyd bod
yr ymweliad safle wedi bod yn hynod o ddefnyddiol oherwydd roedd swyddogion o’r
tîm technegol wedi bod yn bresennol hefyd. Mynegodd yr Aelod
Lleol, y Cynghorydd Martyn Holland bryderon o ran rheolaethau dros
fanylion/sadrwydd adeiladol waliau cynnal a oedd yn agos at ffiniau’r eiddo
cyfagos. Ymatebodd y Prif Swyddog
Cynllunio drwy gadarnhau bod Swyddogion Rheoli Adeiladu wedi cynghori y byddai
angen cymeradwyaeth dan Reoliadau Adeiladu o ran manylion y wal gynnal. Gan fod y wal gynnal o flaen y garej wedi’i
dangos fel parhad o adeilad y garej, deallwyd y byddai hon hefyd yn destun
asesiad fel rhan o gais Rheoliadau Adeiladu. Cadarnhawyd hefyd
y byddai nodyn arbennig i’r ymgeisydd, pe bai caniatâd yn cael ei roi, yn cael
ei atodi i bwysleisio’r angen i ddilyn gweithdrefnau priodol o ran y prosesau
dylunio a chymeradwyo sy’n gysylltiedig ag elfennau wal gynnal y cynigion. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Alan James
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bob
Murray. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 13 YMATAL - 0 GWRTHOD - 1 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd
yn unol ag argymhelliad y swyddog fel a nodir yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 47/2018/0411/PF - NEW INN COTTAGE, TREMEIRCHION. LLANELWY. PDF 6 KB Rhoi ystyriaeth i
gais i ddymchwel bwthyn a chodi annedd arall gyda garej ynghlwm, ynghyd a gosod
carafán sefydlog dros dro ar y safle ac amgáu
safle New Inn Cottage, Tremeirichion (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth cais i law
ar gyfer dymchwel bwthyn a chodi annedd newydd a garej ar wahân, gyda charafán
sefydlog a chlostir cysylltiedig yn New Inn Cottage, Tremeirchion, Llanelwy. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Edward Hughes (o blaid) – eglurodd fod y cais wedi’i
gyflwyno ar gyfer dymchwel y bwthyn presennol ac adeiladu cartref teuluol sy’n
addas ar gyfer y dyfodol. Roedd yn bwriadu ailgylchu cymaint o’r deunyddiau o’r
hen fwthyn ag oedd yn bosibl. Byddai
deunyddiau lleol yn cael eu defnyddio, a chrefftwyr lleol. Cadarnhaodd ei fod
wedi gweithio gyda swyddogion Cyngor Sir Ddinbych, asiantaethau allanol a’r
gymuned leol i sicrhau y byddai’r cais yn dderbyniol i bawb. Trafodaeth Gyffredinol – cadarnhawyd bod yr ymweliad safle wedi bod yn
hynod o ddefnyddiol oherwydd bod y tu allan i’r hen fwthyn i’w weld mewn cyflwr
cymharol dda ond wrth fynd i mewn i’r eiddo, roedd yn glir ei fod mewn cyflwr
adfeiliedig ac nad oedd yn strwythurol gadarn.
Byddai’n anodd gwella’r adeilad presennol ar gost resymol. Roedd yr
ymgeiswyr wedi gweithio’n galed gyda’r Adran Gynllunio ac wedi rhoi ystyriaeth
i’r cyngor a roddwyd. Byddai’r annedd
arfaethedig yn darparu cartref teuluol modern a oedd yn effeithlon o ran ynni. Cadarnhaodd
Swyddogion y byddai cofnod ffotograffig cyflawn yn cael ei gadw ar gyfer y
dyfodol, oherwydd oedran y bwthyn presennol. Dywedwyd wrth
Aelodau y byddai amod ychwanegol yn cael ei gynnwys pe bai’r cais yn cael ei
ganiatáu. “9.
Caiff y garafán breswyl ei symud o’r safle dim hwyrach nag un mis o
ddyddiad preswylio cyntaf yr annedd newydd. Rheswm: Er budd harddwch
ac oherwydd mai dim ond ar gyfer cam adeiladu’r datblygiad mae angen y llety.” Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Christine Marston argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 13 YMATAL - 0 GWRTHOD - 1 PENDERFYNWYD RHOI
caniatâd i’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel a nodir yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 03/2018/0531/PF - PRINCE OF WALES, STRYD Y RHAGLAW, LLANGOLLEN PDF 95 KB Rhoi ystyriaeth i
gais i droi llety preswyl uwchben tŷ tafarn yn dau fflat hunangynhaliol yn
Nhafarn y Prince of Wales, Stryd y Rhaglaw, Llangollen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer trawsnewid ac addasu llety preswyl uwchben y tŷ tafarn i ffurfio 2
fflat hunangynhwysol yn Prince of Wales, Stryd y Rhaglaw, Llangollen. Mynegodd Aelod
Lleol, y Cynghorydd Graham Timms, ei gefnogaeth i’r cais oherwydd roedd angen
mawr yn yr ardal am y math o dai a gynigir. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Jones argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r
cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd
yn unol ag argymhellion y swyddog fel a nodir yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 21/2018/0601/PF - HYFRYDLE, MAESHAFN, YR WYDDGRUG PDF 94 KB Rhoi ystyriaeth i
gais i godi estyniad i eiddo a dymchwel garej er mwyn darparu lle parcio oddi
ar y ffordd yn Hyfrydle, Maeshafn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer codi estyniadau i annedd a dymchwel garej i ddarparu parcio oddi ar y
ffordd yn Hyfrydle, Maeshafn, yr Wyddgrug. Mynegodd Aelod
Lleol, y Cynghorydd Martyn Holland ei gefnogaeth i’r cais oherwydd roedd angen
diweddaru’r eiddo er mwyn bodloni safonau byw modern. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Brian Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd
yn unol ag argymhellion y swyddog fel a nodir yn yr adroddiad. |
|
PROSIECT CYSYLLTU GOGLEDD CYMRU PDF 200 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad yn ymwneud â chais gan y Grid Cenedlaethol am gorchymyn i roi
caniatâd i ddatblygu perthnasol i Gynllun Gorsaf Ynni Niwclear Wylfa Newydd
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr
adroddiad i ddarparu gwybodaeth gefndir o ran cynigion y Grid Cenedlaethol i
redeg cysylltiad grid o orsaf bŵer niwclear arfaethedig Wylfa i is-orsaf
ym Mhentir, ger Bangor. Roedd yn
amlinellu sail y cynigion a’r camau gweithdrefnol a oedd yn rhan o archwilio’r
cais gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a oedd yn cynnwys rhoi gwybod i Gyngor Sir
Ddinbych fel awdurdod â ffin weinyddol a rennir â Gwynedd, un o’r Siroedd lle
byddai’r datblygiad yn digwydd. Yn dilyn
trafodaeth, cytunodd aelodau na ddylai Cyngor Sir Ddinbych gymryd rhan pellach
yng ngham Archwilio prosiect Cysylltu Gogledd Cymru. Cynnig – gan y Cynghorydd Huw Jones i gytuno ag argymhelliad y swyddog fel a nodir yn yr adroddiad, ac eiliwyd
gan y Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: CYTUNO AG
ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG - 14 GWRTHOD A MYND YN
ERBYN ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG - 0 PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor yn cytuno i Swyddogion roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn dymuno bod
yn rhan pellach o gam Archwilio prosiect Cysylltu Gogledd Cymru. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH 2006 - 2021: ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL DRAFFT 2018 PDF 369 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad yn rhoi gwybod i'r aelodau am gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol
2018 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol i roi gwybod i aelodau am gynnwys
Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2018. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Alan James nodi
cynnwys yr adroddiad, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard. Cododd bawb eu
dwylo mewn cytundeb unfrydol. PENDERFYNWYD bod
Aelodau’n nodi cynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl 2018, Atodiad 1. |
|
Ar y pwynt hwn (10.25 a.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.45 a.m. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD o
dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w
gwahardd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail eu bod yn
debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff
14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 07/2018/0243/OB – 11 RHOS HELYG, LLANDRILLO Rhoi ystyriaeth i
gais am Weithred Amrywio er mwyn tynnu rhif 11 Llys Helyg o’r Rhwymedigaeth
Adran 106 sy’n ymwneud â darpariaeth tai fforddiadwy mewn perthynas â chaniatâd
cynllunio 07/2004/08 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer Gweithred Amrywio i dynnu 11 Rhos Helyg o Rwymedigaeth Adran 106 o ran
darpariaeth tai fforddiadwy mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 07/2004/0805
yn 11 Rhos Helyg, Llandrillo, Corwen. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Sion Roberts (o blaid) – eglurodd fod y sefyllfa
wedi bod yn barhaus ers dwy flynedd. Roedd wedi hysbysebu bod yr eiddo ar werth
yn y Free Press ac ar ei dudalen Facebook ond nid oedd wedi llwyddo i werthu’r
eiddo. Pwysleisiodd nad oedd yr eiddo yn
addas bellach fel cartref teuluol. Roedd
y Cyngor Cymuned yn cefnogi’r teulu ond roedd Mr Roberts yn teimlo na allai
symud ymlaen heb i’r Rhwymedigaeth A106 gael ei dynnu. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y cais yn ymwneud â chytundeb cyfreithiol
a oedd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Rhos Helyg yn
2005. Roedd 11 Rhos Helyg yn un o dair annedd
fforddiadwy. Yn yr adroddiad,
amlinellodd swyddogion y profion roedd rhaid eu gwneud er mwyn penderfynu ar y
cais, a oedd yn canolbwyntio ar p’un a oedd y cytundeb cyfreithiol yn parhau i
fod â phwrpas cynllunio defnyddiol. Siaradodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor o blaid tynnu’r rhwymedigaeth Adran
106. Roedd yn cefnogi’r ymgeisydd, oherwydd pan brynwyd
yr eiddo i ddechrau, roedd amgylchiadau Mr Roberts yn wahanol, ond roedd ganddo
deulu ifanc bellach. Pwysleisiodd fod y
teulu am aros yn y gymuned mewn eiddo a oedd yn fwy addas ar gyfer eu hanghenion.
Yn y gorffennol, roedd swyddogion wedi cynnig cyngor i Mr Roberts am
farchnata’r eiddo a allai fod wedi bod yn fwy effeithiol o bosibl. Roedd
yr eiddo wedi’i adeiladu i amcangyfrif maint landlordiaid cymdeithasol sef
byngalo dwy ystafell wely digonol ond roedd yn rhy fach bellach ar gyfer teulu
Mr Roberts a oedd yn tyfu. Cododd Aelodau
gwestiynau o ran defnydd polisi a chanllawiau, y broses o ran tynnu
rhwymedigaethau, ac egwyddorion cyffredinol sy’n sail i sicrhau a chadw
anheddau fforddiadwy. Darparodd swyddogion ymatebion ffeithiol i gynorthwyo
wrth roi ystyriaeth i’r materion. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i
wrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Brian Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO
TYNNU’R RHWYMEDIGAETH ADRAN 106 - 0 YMATAL - 3 GWRTHOD TYNNU’R
RHWYMEDIGAETH ADRAN 106 - 11 PENDERFYNWYD bod
yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn GWRTHOD tynnu’r
Rhwymedigaeth Adran 106 o ran Rhif 11 Rhos Helyg, Llandrillo. |
|
CAIS RHIF 07/2018/0901/OB – TIR YN RHOS HELYG, LLANDRILLO Rhoi ystyriaeth i
gais am Weithred Amrywio er mwyn tynnu rhif 11 Llys Helyg o’r Rhwymedigaeth
Adran 106 sy’n ymwneud â darpariaeth tai fforddiadwy mewn perthynas â chaniatâd
cynllunio 07/2004/08 (copi ynghlwm) yn gyfnewid am swm wedi’i gymudo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer Gweithred Amrywio i dynnu 11 Rhos Helyg o Rwymedigaeth Adran 106 o ran
darpariaeth tai fforddiadwy mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 07/2004/0805,
yn gyfnewid am swm gohiriedig o £10,000 - Tir yn Rhos Helyg, Llandrillo,
Corwen. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Sion Roberts (o blaid) – eglurodd ei fod wedi cynnig
£10,000 i dynnu’r Cytundeb Adran 106, ond roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi gofyn
am swm o £36,000. Eglurodd Mr Roberts na allai fforddio swm mor fawr. Pwysleisiodd ei fod am symud ymlaen gyda’i
deulu i gartref a oedd yn fwy addas. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y cais yn ymwneud â chytundeb cyfreithiol
a oedd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Rhos Helyg yn
2005. Roedd 11 Rhos Helyg yn un o dair annedd
fforddiadwy. Yn yr adroddiad, amlinellodd
swyddogion y profion roedd rhaid eu gwneud er mwyn penderfynu ar y cais, a oedd
yn canolbwyntio ar p’un a oedd y cytundeb cyfreithiol yn parhau i fod â phwrpas
cynllunio defnyddiol ac a fyddai swm gohiriedig i’r swm hwnnw yn cyflawni’r
pwrpas hwnnw yr un mor dda. Mynegodd Aelod
Lleol, y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei gefnogaeth i’r ymgeisydd a dywedodd, yn
ei farn ef, fod £10,000 yn gynnig addas, a p’un a oedd darparu swm gohiriedig o
£10,000 yn cyflawni’r pwrpas hwnnw yr un mor dda. Ar y pwynt hwn, cynigiodd
y Cynghorydd Emrys Wynne fod yr eitem yn cael ei gohirio i alluogi Mr Roberts
a’r Cyngor i drafod ymhellach pa swm gohiriedig fyddai’n dderbyniol er mwyn i’r
mater symud ymlaen. Ni chafwyd eilyddion
i gynnig y Cynghorydd Wynne, felly ni chafwyd pleidlais am ohirio’r mater. Cododd Aelodau
gwestiynau o ran cyfrifo ffigurau’r swm gohiriedig, a darparodd Swyddogion
ymatebion ffeithiol i gynorthwyo â rhoi ystyriaeth i’r materion. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones i wrthod y cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Christine Marston. PLEIDLAIS: CYMERADWYO DERBYN
Y SWM GOHIRIEDIG - 3 YMATAL - 1 GWRTHOD DERBYN Y
SWM GOHIRIEDIG - 10 PENDERFYNWYD bod yr Awdurdod
Cynllunio Lleol yn GWRTHOD addasu Rhwymedigaeth Adran 106 drwy
dynnu 11 Rhos Helyg o’r cytundeb wrth dalu swm gohiriedig o £10,000. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 a.m. |