Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag Eitem Rhif 9 ar y Rhaglen. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Mehefin
2018 (I ddilyn). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2018. Holodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies a fyddai’r penderfyniad a wnaed yn erbyn
argymhelliad y swyddog ar gyfer caniatâd cynllunio yn Ystrad Isa yn cael ei
gyflwyno yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio. Eglurodd y Prif
Swyddog Cynllunio fod y Rheolwr Datblygu a Phennaeth y Gwasanaeth yn teimlo nad
oedd angen cyflwyno'r adroddiad yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2018
fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-7) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr
(taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r
ceisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno
sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n
briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF. 14/2018/0360/ - FFERM WYNT COEDWIG CLOCAENOG PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer pwll benthyg i echdynnu cerrig mân i'w defnyddio er mwyn adeiladu'r Fferm
Wynt sydd wedi'i gymeradwyo yng Nghoedwig Clocaenog yn unig (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried cais ar gyfer pwll benthyg i echdynnu cerrig mân i'w defnyddio
er mwyn adeiladu'r Fferm Wynt sydd wedi'i chymeradwyo yng Nghoedwig Clocaenog. Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Alan
James am gael gohirio’r cais wrth aros am ganlyniadau asesiad effaith
hydro-ddaearyddol. Eglurodd y swyddogion rywfaint o’r wybodaeth gefndir a chadarnhau y
gellid parhau â'r cais yn seiliedig ar yr wybodaeth bresennol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James, a eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young
bod yr eitem yn cael ei gohirio. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO
- 14 YMATAL - 0 YN ERBYN
GOHIRIO - 2 PENDERFYNWYD y dylid gohirio’r cais. |
|
CAIS RHIF. 41/2018/0009/ - CHAPEL COTTAGE, FFORDD YR WYDDGRUG, BODFARI, DINBYCH PDF 93 KB Ystyried cais i
godi estyniadau i eiddo yn Chapel Cottage, Mold Road, Bodfari, Dinbych (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniadau i eiddo yn Chapel Cottage, Ffordd yr Wyddgrug, Bodfari,
Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - Nododd Martin
Shutt (o blaid) bod yr ymgeisydd
wedi gwneud penderfyniadau yn unol â chanllawiau yr AHNE o ran dyluniad yr
eiddo. Roedd y cynnig ar gyfer estyniad
cyfoes i’r eiddo presennol gydag argymhellion yn eu lle i ganiatáu i'r estyniad
gyd-fynd â’r ardal gyfagos. Roedd
newidiadau eisoes wedi’u cwblhau i’r cynnig gwreiddiol yn unol â chanllawiau’r
AHNE. Croesawyd trafodaethau gyda’r
swyddog cynllunio i liniaru unrhyw bryderon eraill. Mae safle’r cais yn gaeedig ac mae’r estyniad
arfaethedig y tu cefn i’r eiddo wedi’i guddio o’r golwg. Trafodaeth Gyffredinol – cynhaliwyd cyfarfod Panel Arolygu Safle ar 12
Gorffennaf 2018. Darparodd y
Cynghorydd Christine Marston (Aelod Lleol) gefndir byr o safle'r cynnig. Nododd y Cynghorydd Marston bod cefnogaeth
wedi’i dderbyn gan Gyngor Cymuned Bodfari heb unrhyw bryderon na
gwrthwynebiadau gan eiddo cyfagos.
Nododd canllawiau cynllunio atodol yr AHNE bod mwy o ryddid ar ddyluniad
estyniad ar eiddo ar wahân. Darparwyd
cadarnhad i’r pwyllgor bod yr eiddo wedi’i guddio o olwg yr eiddo cyfagos. Eglurodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei fod wedi ymweld â’r safle. Roedd maint yr estyniad y tu cefn i’r eiddo
yn uwch na’r eiddo presennol ac nid oedd yn cyd-fynd â'i ddyluniad. Hysbysodd y
Cynghorydd Alan James yr aelodau ei fod yn bresennol yn yr ymweliad safle. Roedd y cynnig yn gyfoes iawn ac fe deimlwyd
bod cwmpas i gael adeilad cyfoes yn yr ardal.
Roedd y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn gobeithio y byddai'r estyniad yn
eiddo sy'n rhad ar ynni gyda safonau gwyrdd uchel. Cadarnhawyd gan y
Prif Swyddog Cynllunio bod uchder yr estyniad i’r eiddo yn is na’r annedd
bresennol. Byddai safonau adeiladu
gwyrdd yn cael eu mabwysiadu pe gymeradwyir yr estyniad. Roedd gan y Swyddogion bryderon o ran y
dyluniad a holwyd a oedd y cynnig yn cyd-fynd â’r annedd bresennol a’r ardal. Cadarnhawyd pe bai’r cais yn cael ei
gymeradwyo byddai amodau yn cael eu cymhwyso yn dilyn trafodaethau gyda’r aelod
arweiniol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Christine Marston y dylid
cymeradwyo’r cais, yn erbyn argymhelliad y swyddog gan fod y dyluniad yn
wreiddiol ac o fewn cwmpas y canllawiau a nodwyd, eiliwyd y cynnig gan y
Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: CYMERADWYO yn
groes i argymhelliad y swyddogion – 14 YMATAL - 0 GWRTHOD yn unol
ag argymhelliad y swyddogion - 3 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais,
yn groes i argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF. 20/2018/0484/ - BRANAS, LLANFAIR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN PDF 92 KB Ystyried cais i
adeiladu estyniad llawr gwaelod i eiddo ym Mranas, Llanfair Dyffryn Clwyd,
Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
adeiladu estyniad llawr gwaelod i eiddo ym Mranas, Llanfair Dyffryn Clwyd,
Rhuthun. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler argymhelliad
y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag
argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Thai, i geisio cyfraniad y
Pwyllgor Trwyddedu i’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad – Problemau, Dewisiadau
a’r Dewis a Ffafrir ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Newydd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai yr adroddiad gan gyflwyno ymateb drafft y
Cyngor i'r Ymgynghoriad - Problemau, Dewisiadau a'r Dewis a Ffefrir ar gyfer y
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.
Darparwyd
gwybodaeth gefndir i’r aelodau ar ddiweddariad cynhyrchu Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Nodwyd y
bydd yn darparu fframwaith ar gyfer buddsoddi, nodi meysydd twf allweddol a math a lleoliad seilwaith. Bydd y fframwaith yn weithredol ochr yn ochr
â Pholisi Cynllunio Cymru. Bydd y
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn darparu fframwaith i'r Cynllun Datblygu
Strategol Rhanbarthol a'r Cynllun Datblygu Lleol gydymffurfio ag ef. Roedd y
Fframwaith yn y camau datblygu cynnar ar hyn o bryd. Clywodd yr Aelodau mai terfyn amser y
fframwaith oedd ugain mlynedd gydag adolygiad bob pum mlynedd. Ystyriodd Llywodraeth Cymru sawl opsiwn gwahanol. Enwyd yr opsiwn a ffefrir yn Fannau
Cynaliadwy. Byddai Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol drafft yn cael ei gynhyrchu gydag ymgynghoriad pellach ym mis
Gorffennaf- Medi 2019. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Cynllunio ar y pwynt hwn. Roedd pryder
wedi’i nodi gan y swyddogion ar adroddiad drafft yr ymgynghoriad (atodiad 2) yn
ymwneud â niferoedd tai. Awgrymwyd y
byddai Llywodraeth Cymru yn gosod nifer y tai ar lefel ranbarthol. Ni ddarparwyd eglurhad pellach o ran dyraniad
niferoedd tai rhwng yr awdurdodau. Roedd
amseru hefyd yn bryder. Roedd perygl na fyddai amseru'r Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol a'r gwaith a wnaed ar y Cynllun Datblygu Lleol yn cyd-fynd. Ategodd yr
Aelodau at y pryderon a godwyd gan y swyddogion o ran amseru’r gwaith a
gwblhawyd, yn enwedig yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol. Yn dilyn
pleidlais unfrydol, PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Cynllunio’n nodi’r adroddiad ac yn cytuno ar ymateb i ymgynghoriad Drafft Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
|
|
I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio i roi gwybod i aelodau am adborth i’r
ymgynghoriad cyhoeddus ac i fabwysiadu dogfen Canllawiau Cynllunio Atodol: ‘Carafanau, Cabanau Gwyliau a Gwersylla’ (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol â’r eitem hon ar y rhaglen gan fod
awdur yr adroddiad yn ferch yng nghyfraith iddo. Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio’r adroddiad a oedd yn cyflwyno canllaw cynllunio atodol drafft (CCA): Carafanau, Cabanau Gwyliau a Safleoedd Gwersylla – Mabwysiadu dogfen derfynol. Tynnwyd sylw’r pwyllgor at y ffaith fod y CCA yn berthnasol i safleoedd newydd yn unig neu i estyniad safleoedd presennol ar gyfer defnydd gwyliau. Holodd y Cynghorydd Mark Young pe bai’r adroddiad wedi’i fabwysiadu yn gynt a fyddai ceisiadau cynllunio blaenorol wedi’u cymeradwyo. Cyflwynodd bryder fod caniatâd blaenorol ar gyfer ‘pod’ wedi’i gymeradwyo gyda’r sicrwydd na fyddai’n troi’n garafán sefydlog ac roedd eisiau cadarnhad bod hyn yn parhau i fod yn berthnasol. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Young, nododd y Swyddogion Cynllunio bod y polisi’n parhau i fod yr un fath. Felly byddai’r argymhellion ar gyfer ceisiadau cynllunio blaenorol yn parhau i fod yr un fath. Mae cyfeiriad y polisi wedi’i nodi yn PSE 12 yn cyfeirio at garafanau, byddai’n rhaid cyflawni unrhyw newidiadau drwy’r Cynllun Datblygu Lleol. Rhoddwyd cadarnhad o’r diffiniad o garafán. Yn dilyn pleidlais unfrydol, PENDERFYNWYD bod
yr aelodau yn mabwysiadu’r CCA arfaethedig i’w ddefnyddio i benderfynu ar
geisiadau ac apeliadau cynllunio.
|
|
GWERTHUSIAD ARDAL GADWRAETH Y RHYL PDF 55 KB I ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn ceisio
cymeradwyaeth yr Aelodau i gynnal ymgynghoriad ar Werthusiad Ardal Gadwraeth y
Rhyl gyda chyrff statudol ac aelodau o’r cyhoedd (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr aelodau
i gynnal ymgynghoriad ar Werthusiad drafft Ardal Gadwraeth y Rhyl, gyda chyrff
statudol ac aelodau o'r cyhoedd. Darparwyd cefndir
a diffiniad bras o’r ardal gadwraeth i'r aelodau. Yn wreiddiol bu dwy ardal gadwraeth yn y Rhyl
ac fe’u cyfunwyd yn un yn 2007. Codwyd rhai pryderon bod ardaloedd penodol wedi
colli eu cymeriad. Cynigodd y
Gwerthusiad o’r Ardal Gadwraeth sawl newid allweddol a oedd yn cynnwys
ychwanegu ardaloedd penodol i’r ardal gadwraeth ac eithrio ardaloedd
eraill. Roedd y cynnig yn
nodi y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am wyth wythnos ac fe fyddai'n
ymgysylltu â Chyngor Tref y Rhyl, preswylwyr lleol, darparu gwybodaeth yn y
llyfrgell, y wefan a siop dros dro yng Nghanolfan y Rhosyn Gwyn. Byddai unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad yn
cael eu cyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor Cynllunio maes o law. Yn ystod y
drafodaeth holodd yr aelodau sut y byddai adeiladau yn cael eu rheoli yn yr
ardaloedd cadwraeth pe na baent yn diwallu’r safonau. Cadarnhaodd y Prif Syrfëwr Adeiladau
a Chadwraeth fod cynnal safonau yn allweddol a byddai cynnal camau gorfodi ar
waith a gyflawnwyd heb ganiatâd yn allweddol. Roedd
trafodaethau a gwaith ar Brif Gynllun y Rhyl wedi parhau. Yn dilyn
pleidlais unfrydol, PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau yn cymeradwyo bod Apêl Drafft Ardal Gadwraeth y Rhyl, Atodiad 1, yn
destun ymgynghoriad cyhoeddus sy’n para o leiaf wyth wythnos. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10:35 a.m. Dogfennau ychwanegol: |