Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Huw Jones a Tony Thomas gysylltiad personol
gydag eitem 9, Canllaw Cynllunio Atodol yr AHNE. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018
(amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018. Tudalen 15 –
Trafodaeth Gyffredinol - enw'r Cynghorydd yw Hugh Irving nid Hugh Evans. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
14 Mawrth 2018 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-8) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl
cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 02/2018/0065/PF - TIR YN (GARDD RANNOL) TAN Y GERDDI, STRYD MWROG, RHUTHUN PDF 97 KB I ystyried cais i
godi annedd ar wahân, addasiadau i’r mynediad cerbydau presennol a gwaith
cysylltiedig (cynllun diwygiedig i hwnnw a gymeradwywyd yn flaenorol o dan god
rhif 02/2015/0995) tir yn (gardd rannol) Tan y Gerddi, Stryd Mwrog, Rhuthun. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi annedd ar wahân, addasiadau i’r mynediad cerbydau presennol a gwaith
cysylltiedig (cynllun diwygiedig i’r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol o dan god
rhif 02/2015/0995) tir yn (gardd rannol) Tan y Gerddi, Stryd Mwrog, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Nododd Catherine
Cordova (yn erbyn) – ei bod yn
cynrychioli’r chwe aelwyd y byddai’r datblygiad yn effeithio arnynt. Roedd y safle wedi’i brynu gyda chaniatâd
gwreiddiol ar gyfer byngalo dwy ystafell wely.
Byddai maint y cais presennol yn effeithio ar ansawdd bywyd y preswylwyr
presennol oherwydd y byddai llai o olau yn yr eiddo cyfagos ynghyd â ffenestri
yn wynebu'r bythynnod. Byddai’r adeilad
yn rhy fawr, yn ormesol ac yn ymwthiol. Mark Braxton – (o blaid) – eglurodd ei fod wedi
prynu’r safle i adeiladu tŷ ar ei gyfer ef ei hun. Byddai’r tŷ yn eiddo cyfoes gydag
elfennau technolegol datblygedig. Roedd
Mr Braxton yn ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen â’r datblygiad. Trafodaeth Gyffredinol- cynhaliwyd Cyfarfod y Panel Arolygu Safle ar 16
Ebrill i asesu effaith y cynnig ar yr ardal gyfagos ac eiddo preswyl
cyfagos. Roedd y
Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) wedi siarad â chymdogion y safle. Roedd yn pryderu ynglŷn ag arddull yr
adeilad o fewn ardal gadwraeth ond ni chafwyd gwrthwynebiad gan y Swyddog
Cadwraeth. Roedd Cyngor Tref
Rhuthun wedi gwrthwynebu oherwydd lleoliad, maint a dyluniad yr adeilad a
fyddai, yn eu barn nhw, yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos o fewn yr
ardal gadwraeth. Ceisiwyd eglurhad
mewn perthynas â chymhwysiad y “canllaw 25 gradd” a’r posibilrwydd o golli
golau yn 130 a 132 Stryd Mwrog. O
ystyried y pellter rhwng yr eiddo a chymhwysiad y canllaw 25 gradd, barn y
Swyddog oedd na fyddai'r eiddo yn groes i'r canllaw o gwbl, ac na fyddai'r
datblygiad yn cyflwyno cysylltiad annerbyniol gyda'r eiddo cyfagos. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd pryderon ynglŷn â maint arfaethedig y cais o gymharu
â'r safle. Cyflwynodd yr aelodau
bryderon gan berchnogion eiddo cyfagos, oherwydd colli golau a phreifatrwydd. Roedd y cais
gwreiddiol a gymeradwywyd yn 2015 yn nodi cais ar gyfer byngalo dwy ystafell
wely a fyddai, ym marn yr aelodau lleol, yn fwy addas ar gyfer y safle o fewn
yr ardal gadwraeth. Cafwyd cadarnhad
gan y swyddogion cynllunio y byddai'r ffenestri ar y drychiad gorllewinol yn
ffenestri y gellir eu hagor. Ni fyddai
modd agor y ffenestri cymylog ar lawr cyntaf y drychiad deheuol a dwyreiniol ac
fe fyddai hynny'n sicrhau preifatrwydd
ar gyfer yr eiddo cyfagos. Yn dilyn
trafodaeth fanwl, cynigodd yr Aelod Lleol y dylid gwrthod y cais oherwydd yr
effaith ar eiddo cyfagos. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Emrys Wynne y dylid gwrthod
y cais, yn groes i argymhelliad y swyddogion, oherwydd yr effaith ar eiddo
cyfagos. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Christine Marston. PLEIDLAIS: CYMERADWYO yn
unol ag argymhelliad y swyddogion - 8 YMATAL - 0 GWRTHOD yn groes
i argymhelliad y swyddogion – 9 PENDERFYNWYD GWRTHOD y
cais, yn groes i argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 21/2018/0166/PF – 12 BRYN ARTRO AVENUE, LLANFERRES, YR WYDDGRUG PDF 6 KB Ystyried cais i
godi estyniad unllawr yng nghefn 12 Bryn Artro Avenue, Llanferres, Yr Wyddgrug
(copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniad unllawr yn 12 Bryn Artro
Avenue, Llanferres, yr Wyddgrug. Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am gael gohirio'r cais oherwydd bod
y mesuriadau yn anghywir. Cadarnhaodd y
swyddogion y gellid parhau â'r cais yn seiliedig ar yr wybodaeth bresennol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylid
gohirio ystyried yr adroddiad, eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Gwyneth
Kensler. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO -
9 YMATAL - 0 YN ERBYN GOHIRIO
- 7 PENDERFYNWYD y
dylid gohirio’r cais. |
|
CAIS RHIF 43/2018/0030/PF – MAES CARAFANAU FOUR WINDS, FFORDD FFYNNON, PRESTATYN PDF 6 KB Ystyried cais i
wneud addasiadau i ardal parc carafanau teithiol presennol i leoli lleiniau i
12 o garafanau teithiol yn lle darpariaeth bresennol o 5 llain ym Maes
Carafanau Four Winds, Ffordd Ffynnon, Prestatyn (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
wneud addasiadau i ardal parc carafanau teithiol presennol i leoli lleiniau i
12 o garafanau teithiol yn lle darpariaeth bresennol o 5 llain ym Maes
Carafanau Four Winds, Ffordd Ffynnon, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus – Eglurodd Lyn Buck
(yn erbyn)- ei bod yn Gadeirydd
Cymdeithas yr Anifeiliaid wedi’u Gadael. Codwyd
pryder ynglŷn â nifer y digwyddiadau yn ymwneud â cheir yn tynnu carafanau
yn mynd heibio adeilad Cymdeithas yr Anifeiliaid wedi’u Gadael gan achosi
difrod i wal y Gymdeithas. Nid oedd unrhyw lwybrau troed ar hyd y ffordd, gan
ei gwneud yn beryglus i gerddwyr a marchogion sy'n defnyddio'r ffordd. Roedd mynedfa a llwybr gadael y briffordd yn
wael. Roedd ceisiadau am fwy o garafanau
yn y dyfodol yn peri pryder hefyd. Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y Cynghorydd Bob Murray (Aelod Lleol)
bryder ynglŷn â nifer y mannau pasio a’r cynnydd mewn traffig ar y lôn. Roedd mesurau
gostegu traffig wedi’u hawgrymu ond nodwyd na fyddai hyn yn opsiwn ar gyfer
ffordd heb lawer o draffig. Cadarnhawyd na
chafwyd unrhyw wrthwynebiad gan y Swyddog Priffyrdd yn amodol ar ddarparu
mannau pasio ar y ffordd fynediad o Ffordd Ffynnon. Nododd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod ganddo bryderon ynglŷn â’r problemau
traffig arfaethedig ond teimla bod yn rhaid asesu’r cais ar ei rinweddau. Felly nododd ei fod, yn anffodus, yn cynnig y
dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Huw Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 1 YN ERBYN – 3 PENDERFYNWYD y
dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion
y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 43/2018/0158/PR – TIR GERLLAW LLYS YR YNADON, FFORDD FICTORIA, PRESTATYN PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa 2 uned
manwerthu wedi eu cyflwyno yn unol ag Amod 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol
rhif 43/2015/1241/PO (Cam 2 cais materion a gadwyd yn ôl) a manylion lefelau
lloriau gorffenedig 2 uned manwerthu a gyflwynwyd yn unol ag amod 11 ar dir ger
Llys yr Ynadon, Victoria Road, Prestatyn (copi'n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa 2 uned
manwerthu yn unol ag Amod 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 43/2015/1241/PO
(Cam 2 cais materion a gadwyd yn ôl) a manylion lefelau lloriau gorffenedig 2
uned manwerthu a gyflwynwyd yn unol ag amod 11 ar dir ger Llys yr Ynadon,
Ffordd Fictoria, Prestatyn. Trafodaeth Gyffredinol – Darllenodd y Cynghorydd Tony Flynn (Aelod Lleol)
ddatganiad byr gan y Cynghorydd Rachel Flynn (Aelod Lleol) yn nodi'r rhesymau
pam nad oedd hi'n cefnogi'r cais. Yna
eglurodd y Cynghorydd Tony Flynn ei ddadleuon yn erbyn y cais gan gynnwys: (i)
a
fyddai 22 o ofodau parcio yn ddigon ar gyfer y 2 uned manwerthu a'r staff. (ii)
pryderon
gan breswylwyr lleol oherwydd y posibilrwydd y byddai siopwyr yn parcio ar ymyl
y ffordd. (iii)
cystadleuaeth
ar gyfer busnesau presennol ar hyd Ffordd Fictoria a allai achosi problemau
ariannol iddynt neu eu hachosi i gau. Wrth drafod,
codwyd y materion a’r awgrymiadau canlynol: (i)
gosod
llinellau melyn dwbl ar hyd y ffyrdd cyfagos, byddai angen cyflwyno'r cynnig
mewn ymgynghoriad. (ii)
gosod
cynllun parcio ceir a allai gynnwys amseroedd agor ar gyfer y maes parcio,
parcio beiciau, rhwystrau cyfyngu uchder, a’r defnydd o TCC. (iii)
cadarnhawyd
i’r aelodau y byddai swyddogion rheoleiddio adeiladu yn monitro gwaith
adeiladu’r cynlluniau ar ôl eu cymeradwyo a phe bai achosion yn codi, byddant
yn hysbysu’r swyddogion cynllunio. Wrth grynhoi,
cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y gellir cynnwys dau amod ychwanegol o fewn
argymhelliad A: (i)
Cynllun
addas i reoli'r maes parcio, oriau gweithredu - boed ar agor dros nos, parcio
beiciau a rhwystrau cyfyngu uchder. Ar ôl derbyn cynllun rheoli
parcio, byddai’r swyddogion yn cysylltu â’r aelodau lleol i benderfynu a oes
angen ei gyflwyno i’r Pwyllgor. (ii)
Llinellau
melyn a marciau diogelwch ar y gyffordd.
Roedd hyn yn broses ar wahân ar gyfer
priffyrdd a fyddai'n destun ymgynghoriad. Unwaith eto, byddai'r swyddogion yn
ymgynghori â'r aelodau lleol i benderfynu a oes angen ei gyflwyno yn ôl i'r
Pwyllgor. Cynnig- Cynigodd y Cynghorydd Huw Jones argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo
Argymhelliad A ac Argymhelliad B. PLEIDLAIS: ARGYMHELLIAD A
(gan gynnwys dau amod ychwanegol): CYMERADWYO - 17 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 ARGYMHELLIAD B: CYMERADWYO - 16 YMATAL - 0 YN ERBYN - 1 PENDERFYNWYD y
dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad ynghyd â dau amod ychwanegol.
|
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL YR AHNE PDF 292 KB I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol i roi gwybod i aelodau o ganlyniad
ymgynghoriad 10 wythnos o hyd ac i fabwysiadu dogfen Canllawiau Cynllunio
Atodol yr AHNE (copi'n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar y pwynt hwn,
datganodd y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Huw Jones a Tony Thomas gysylltiad
personol. Cyflwynodd y
Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio
Cynaliadwy, yr adroddiad ynglŷn â Nodyn Canllawiau Cynllunio Atodol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau
Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – Mabwysiadu Dogfen Derfynol. Roedd angen
gwneud penderfyniad ynglŷn â mabwysiadu'r ddogfen derfynol yn dilyn
ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Tachwedd 2017 ac Ionawr 2018 am gyfnod o 10
wythnos. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus
ac wedi i’r Awdurdod Cynllunio Lleol fabwysiadu’r ddogfen, y gellir trin y
Canllaw Cynllunio Atodol fel ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth bennu
ceisiadau cynllunio neu apeliadau. Cadarnhaodd y
Swyddog Cynllunio Strategol bod cynhyrchu’r ddogfen wedi bod yn waith ar y cyd
rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y
Fflint a Chyd-Bwyllgor yr AHNE, gyda mewnbwn gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Cynnig – cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas y dylid
mabwysiadu’r CCA, ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.
PLEIDLAIS: CYMERADWYO- 16. YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD bod: (i)
Y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i
ystyriaethau. (ii)
Bod Aelodau yn mabwysiadu’r ddogfen CCA
ddrafft ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
(AHNE)’, yn unol â’r newidiadau arfaethedig fel y nodir yn yr Adroddiad
Ymgynghori. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.27am. |