Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd Emlyn Jones fel y Pennaeth Cynllunio
a Gwarchod y Cyhoedd newydd i’w gyfarfod Pwyllgor Cynllunio cyntaf. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim cysylltiadau i’w datgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion bryd. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr
2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2017. Tudalen 11, Eitem 6: Queensland House, Y
Roe, Llanelwy - Nododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod y
cofnodion wedi cynnwys cyfeiriad at gynllun rheoli sŵn a fyddai ar gael yn
yr amserlen ofynnol. Gofynnodd a oedd hyn wedi'i gwblhau. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2018, yn amodol ar yr uchod, fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD AR GYFER DATBLYGU (EITEMAU 5-7) Cyflwynwyd ceisiadau a oedd angen i’r
Pwyllgor benderfynu arnynt ynghyd â’r ddogfennaeth gysylltiedig. Cyfeiriwyd
hefyd at yr wybodaeth ychwanegol hwyr a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi’r Rhaglen a
oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn rhoi amser i geisiadau siarad
cyhoeddus, cytunwyd amrywio trefn y ceisiadau ar Rhaglen yn briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried cais ar
gyfer manylion cynllun fesul cyfnod a gyflwynwyd yn unol ag amod 3 caniatâd
cynllunio rhif 20/2016/1137- ar dir i’r Gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais gyda manylion y cynllun graddol a
gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio cod rhif 20/2016/1137 ar
dir i’r Gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Trafodaeth
Gyffredinol - Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler at bryderon
Cyngor Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd ynghylch cadw ffyrdd mynediad yn lân wrth
gychwyn gwaith ar y safle. Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod amodau ychwanegol
wedi'u gosod ar y cynllun tai. Roedd cynllun rheoli'r amgylchedd adeiladu hefyd
wedi bod yn amod a roddwyd i'r cynllun
tai a oedd yn cynnwys cyfleusterau golchi olwynion ar y safle i geisio cadw'r
ffyrdd yn lân. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod yr Aelod Lleol yn
cefnogi'r cais. Cynnig -
Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler argymhellion y swyddog i ganiatáu'r
cais, eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 43/2017/1147/PF – 39-41 Stryd Fawr, Prestatyn PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer newid defnydd A2 i A3 (prydau parod poeth) a gwaith cysylltiedig yn
39-41, Stryd Fawr, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer y newid defnydd o A2 i A3
(Cludfwyd Poeth) a gwaith cysylltiedig yn 39-41 Stryd Fawr, Prestatyn. Trafodaeth
Gyffredinol - Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
(Aelod Lleol) ei gefnogaeth i'r cais. Dywedodd fod holl bryderon Cyngor Tref
Prestatyn wedi cael sylw o fewn yr amodau a roddwyd. Cynnig -
Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhellion y swyddogion i
ganiatáu'r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD ar gyfer y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion
fel manylwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 43/2017/1160/AD – 39-41 Stryd Fawr, Prestatyn PDF 96 KB Ystyried cais ar
gyfer arddangos 2 arwydd ffasgia wedi'i oleuo’n allanol ac 1 arwydd crog wedi’i
oleuo’n allanol yn 39-41, Stryd Fawr, Prestatyn
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i arddangos 2 arwydd ffasgia wedi'u
goleuo'n allanol ac 1 arwydd crog wedi'i oleuo'n allanol yn 39-41 Stryd Fawr,
Prestatyn. Trafodaeth Gyffredinol -
dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Lleol) ei fod yn credu na
fyddai'r arwyddion arfaethedig yn cael effaith negyddol weledol ar yr ardal
gadwraeth a chadarnhaodd ei gefnogaeth i'r cais. Cynnig – Cynigiodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhellion y swyddogion i ganiatáu'r cais, ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD ar gyfer hysbysebu, yn unol ag argymhellion y
swyddogion fel manylwyd yn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD ER GWYBODAETH: PENDERFYNIADAU APELIADAU CYNLLUNIO PDF 246 KB Derbyn adroddiad
gwybodaeth sy’n amlinellu penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr
Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Cyngor Sir ar ddau
brif gynnig datblygu preswyl yn Ninbych a Gallt Melyd (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth yn amlinellu’r
penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau
a wnaed yn erbyn penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan y Cyngor Sir. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Yn y
fan hon, hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau am ganlyniad apêl cynllunio diweddar.
Roedd Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Fferm Wynt Pant Y Maen, ac wedi
gwrthdroi argymhellion Arolygydd yr Apêl. Mynegodd y Cadeirydd rywfaint o
syndod ar y canlyniad a theimlai dylai’r aelodau gael gwybod am y sefyllfa.
|
|
Daeth y cyfarfod i ben am 09.52 a.m. |