Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim cysylltiadau i’w datgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017. Gofynnodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i’r Cynghorydd Christine Marston am eglurhad
ynghylch pam y byddai angen iddo ddatgan cysylltiad yn y cais mewn perthynas â
maes parcio Capel y Waen. Eglurodd y
Cynghorydd Marston ei bod wedi meddwl bod Ymddiriedolaeth Elizabeth Williams yn
gweithio yn y gymuned leol a Chapel y Waen. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-15) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at
wybodaeth ategol a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen a oedd yn ymwneud â
cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu
ceisiadau gan aelodau o’r cyhoedd i siarad, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen
fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 16/2017/0628/PF - TYN Y CELYN, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN PDF 6 KB Ystyried cais i
ddymchwel annedd bresennol a thai allanol, a chodi annedd newydd yn Nhyn y
Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel annedd a thai allanol, a chodi annedd newydd yn Nhyn y Celyn,
Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Berwyn Owen (O Blaid) - Dywedodd
bod yr ymgeiswyr yn deulu lleol gyda phedwar o blant dan 8 oed. Prynwyd
yr eiddo tua 1 flwyddyn yn flaenorol gan Gyngor Sir Ddinbych. Nid oedd yr adeilad wedi'i restru ac roedd o
bwysigrwydd hanesyddol isel ac nid oedd iddo ddiddordeb archeolegol. Roedd yr ymgeiswyr wedi cael 2
adroddiad strwythurol ar wahân a oedd yn dangos cyflwr gwael yr adeilad
presennol ac roedd yn amlwg o safbwynt strwythurol, mai dymchwel ac ailadeiladu
fyddai'r unig opsiwn. Trafodaeth Gyffredinol - Hysbysodd
y Rheolwr Datblygu yr Aelodau am yr wybodaeth ychwanegol a gynhwyswyd yn yr
wybodaeth atodol hwyr (taflenni glas). Mynegodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Huw Williams ei
gefnogaeth i'r cais gan nad oedd gwerth hanesyddol i'r adeilad presennol. Cadarnhawyd bod ymweliad safle wedi digwydd yn ddiweddar
a byddai'r adeilad newydd yn ased i'r gymuned. O
ran gwerthu yr adeilad presennol ni chynhwyswyd unrhyw amodau ond dangoswyd
nawr nad oedd yr adeilad o bwysigrwydd hanesyddol ac nid oes diddordeb
archeolegol yn yr eiddo. Roedd yr Aelodau wedi cwestiynu'r ffaith nad oedd unrhyw
adroddiad wedi'i gynnwys oddi wrth Swyddog Rheoli Adeiladu. Cadarnhawyd
bod Swyddog Cadwraeth y Cyngor, sydd yn Syrfëwr Adeiladau cymwys, wedi asesu'r
cynnig. Cynnig – Cynigiodd
y Cynghorydd Merfyn Parry, gyda’r Cynghorydd Emrys Wynne yn ei eilio, y dylid
caniatáu'r cais yn erbyn argymhelliad y swyddog ar y sail nad oedd y tŷ o
werth hanesyddol ac y byddai'r tŷ newydd i safonau adeiladu'r 21ain
ganrif. PLEIDLAIS: CANIATÁU
(dymchwel ac ailadeiladu) - 14 YMATAL - 2 GWRTHOD - 2 PENDERFYNWYD y
dylid CANIATÁU'R cais yn erbyn
argymhelliad y swyddog ar y sail nad oedd y tŷ o werth hanesyddol ac y
byddai'r tŷ newydd i safonau adeiladu'r 21ain ganrif. |
|
CAIS RHIF 18/2017/0936/PF - 2 PENYGROES, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 5 KB Ystyried cais i
godi estyniad a gwneud addasiadau i annedd yn 2 Penygroes, Llandyrnog, Dinbych
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniad a gwneud addasiadau i annedd yn 2 Penygroes, Llandyrnog, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Andrew Raven (O Blaid) - Dywedodd ei fod ef, ei wraig a'i fab wedi prynu'r
eiddo chwe mis yn flaenorol ac yn ystyried eu hunain yn rhan o'r gymuned leol. Roedd angen gwella effeithlonrwydd ynni'r eiddo gan
mai "G" oedd y raddfa EPG. Byddai'r estyniad llawr cyntaf yn lliniaru problemau a
achoswyd gan y to yn gollwng yn yr estyniad unllawr a hefyd roedd lle yn
broblem i'r teulu. Roedd y
cynlluniau wedi'u diwygio ers cais blaenorol ac nid oedd yr un na'r cymdogion
uniongyrchol ar y chwith na’r dde wedi cyflwyno unrhyw wrthwynebiad. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Merfyn
Parry, o blaid y cais. Dywedodd cyn i'r ymgeisydd brynu'r eiddo, roedd wedi
bod yn wag ers tua 7 mlynedd. Cadarnhaodd fod yr ymgeisydd wedi diwygio dyluniad yr
estyniad ac roedd o blaid y cais. Cadarnhawyd gan y Swyddog
Cynllunio bod yr argymhelliad ar gyfer gwrthod yn seiliedig ar yr effaith
bosibl y byddai'r estyniad arfaethedig yn ei gael ar y 2 eiddo cyfagos. Roedd y rheol 45º wedi'i defnyddio yn yr asesiad a
oedd yn dangos effaith ormesol ar Rifau 1 a 3 Penygroes. Roedd yr ymgeiswyr eu hunain wedi darparu astudiaeth
haul i helpu i asesu effeithiau. Unwaith eto, cynigiodd yr Aelod
Lleol ei gefnogaeth i'r cais a dywedodd fod y cynllun wedi cynnwys gostwng
uchder y to i'r estyniad i leihau cysgod. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry, gyda’r
Cynghorydd Peter Evans yn ei eilio, y dylid cymeradwyo’r cais yn erbyn
argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 6 YMATAL - 0 GWRTHOD - 11 PENDERFYNWYD y
dylid GWRTHOD y cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 45/2017/0677/PF - 50 BATH STREET, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
newid defnydd annedd yn ganolfan asesu i deuluoedd yn cynnwys pedair uned o
lety dros dro yn 50 Bath Street, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd annedd yn ganolfan asesu i deuluoedd yn cynnwys pedair uned o
lety dros dro yn 50 Bath Street, y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus – Karen Wareing (O Blaid) - dywedodd nad oedd gan
Gogledd Cymru ganolfan asesu teuluoedd. Y nod oedd atal plant rhag mynd i mewn i'r system
ofal, gan leihau cost ymyrraeth olynnol. Byddai blaenoriaethau’n cael eu rhoi i drigolion lleol
gyda'r ganolfan yn cael ei staffio 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos a byddai
ganddi tcc. Byddai'r
cyfleuster yn cael ei reoleiddio a'i arolygu gan AGGCC. Byddai’n dod â chyflogaeth i'r ardal. Trafodaeth Gyffredinol - pwysleisiodd y Cadeirydd a'r Rheolwr Datblygu y byddai
angen i Aelodau ganolbwyntio ar resymau cynllunio ar gyfer y cais. Siaradodd yr Aelodau Arweiniol, y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl
Ifanc) a'r Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth)
yn erbyn y cynnig gan ddweud nad oeddynt yn gweld unrhyw angen am y cyfleuster. Rhoddodd yr Aelod Lleol, y
Cynghorydd Tony Thomas, drosolwg o'r cyfleuster a'r angen am yr unedau. Dywedodd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn
oddi wrth yr Heddlu, Cyngor Tref y Rhyl na AGGCC. Dywedodd y Rheolwr Datblygu, gan
y byddai newid defnydd yr annedd i ganolfan asesu teuluoedd yn arwain at golli
annedd deiliad sengl, byddai hyn yn cael effaith niweidiol ar y cymysgedd tai
yn yr ardal. Byddai
lleoliad y gwasanaeth cymorth ychwanegol o fewn ardal o’r Rhyl sydd eisoes yn
cynnwys nifer o ddefnyddiau o'r fath yn cael effaith gronnus negyddol ar
gymeriad yr ardal. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies, ac fe’i
eiliwyd gan y Cyng. Huw Jones, y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhellion y
swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 6 YMATAL - 1 GWRTHOD - 11 PENDERFYNWYD y
dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
Ar y pwynt hwn (10.50 am) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.10 a.m. |
|
CAIS RHIF 01/2016/1165/PF - YR HEN DDEPO GWLÂN, LÔN GOCH, DINBYCH PDF 95 KB Ystyried cais i
newid defnydd tir er mwyn creu unedau storio a swyddfa safle yn yr Hen Depo
Gwlân, Lôn Goch, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd tir er mwyn creu unedau storio a swyddfa safle yn yr Hen Depo
Gwlân, Lôn Goch, Dinbych. Trafodaeth gyffredinol - mynegodd yr Aelod Lleol ei phryderon ynglŷn â
defnyddio'r safle ar gyfer unedau storio yn enwedig y posibilrwydd o
ddamweiniau oherwydd y cynnydd yn nifer y traffig yn agos i'r safle yn dilyn
agoriad y parc manwerthu yn ddiweddar. Mynegodd yr Aelod Lleol bryderon hefyd ynghylch parcio
cerbydau danfon ac ambiwlansys yn Llys Meddyg gerllaw. Byddai Datblygiad Lôn Ganol a fyddai’n dai â chymorth
hefyd yn ychwanegu at y cynnydd mewn traffig i'r ardal. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Byddai agosrwydd yr
unedau storio i'r cartrefi cyfagos yn achosi problem sŵn, ynghyd â'r nifer
gynyddol o gerbydau yn defnyddio'r safle. Oherwydd y problemau, ni fyddai lleoliad y safle yn
ffafriol i'r ardal. ·
Byddai'r defnydd yn
un cynnil a sicrhawyd yr aelodau bod ganddynt bŵer i gynnwys oriau
gweithredu'r safle fel amod i unrhyw ganiatâd. ·
Yn y gorffennol,
roedd y safle wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl ond wedi ei wrthod
yn seiliedig ar gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd materion llifogydd. Cafodd hyn effaith ar ddefnydd y safle yn y dyfodol. ·
Cadarnhaodd yr Uwch
Beiriannydd, Priffyrdd, fod asesiad traffig wedi'i gwblhau ac nad oedd unrhyw
bryderon ar sail priffyrdd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry, y dylid gwrthod y cais yn groes i
argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 11 YMATAL - 0 GWRTHOD - 7 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 09/2017/0887/PC - 2 TŶ CLWYD, LÔN Y CAPEL LANE, BODFARI PDF 96 KB Ystyried cais i
newid defnydd a gwneud addasiadau i adeilad llety ategol ar wahân i ffurfio
eiddo i’w osod ar gyfer gwyliau (cais ôl-syllol) yn 2 Tŷ Clwyd, Chapel
Lane, Bodfari (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd a gwneud addasiadau i adeilad llety ategol ar wahân i ffurfio
eiddo i’w osod ar gyfer gwyliau (cais ôl-syllol) yn 2 Tŷ Clwyd, Lôn y
Capel, Bodfari, Dinbych. Trafodaeth Gyffredinol - mynegodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Merfyn Parry, ei
bryderon bod y cais a gyflwynwyd yn gais ôl-weithredol. Dywedodd hefyd fod ganddo bryderon am resymau
diogelwch ffyrdd oherwydd byddai angen i gerbydau facio yn ôl ar y briffordd. Oherwydd hyn, gofynnodd yr Aelod Lleol am ychwanegu
amod ychwanegol ar gyfer darparu man troi ar y tir. Cadarnhaodd y swyddogion y
byddai'r adeilad yn cael ei gyfyngu i gael ei ddefnyddio fel llety gwyliau yn
unig ac na ellid ei feddiannu fel unig neu brif breswylfa person. Byddai cofrestr yn cael ei chadw yn cynnwys manylion
enwau holl ddefnyddwyr y llety, eu prif gyfeiriadau cartref a'r dyddiad maent
yn cyrraedd a gadael y llety. Byddai’r gofrestr ar gael i’r
Awdurdod Cynllunio Lleol ei archwilio ar gais. Cynnig – Cynigodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Merfyn
Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray, y dylid cymeradwyo’r cais ond y dylid
cynnwys amod ychwanegol o osod man troi ar y tir ar sail diogelwch priffyrdd. PLEIDLAIS: CYMERADWYO (gan
gynnwys amod ychwanegol) - 16 YMATAL - 0 GWRTHOD - 2 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion, ond y dylid cynnwys amod ychwanegol o osod man troi
ar y tir ar sail diogelwch priffyrdd. |
|
CAIS RHIF 10/2017/0330/PO - TIR YN BROOKLYN, BRYNEGLWYS, CORWEN PDF 6 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.18 hectar o dir drwy godi 6 annedd (cais amlinellol gyda manylion
mynediad) ar dir yn Brooklyn, Bryneglwys, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 0.18ha hectar o dir drwy godi 6 annedd (cais amlinellol gyda manylion
mynediad) ar dir yn Brooklyn, Bryneglwys, Corwen. Trafodaeth Gyffredinol - yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cwestiynwyd
geiriad amod rhif. 11 "Bydd pob
arwydd o fewn y safle yn Gymraeg a
Saesneg". Eglurwyd bod
hyn yn cyfeirio at yr arwyddion marchnata a’r deunydd marchnata ar gyfer y
datblygiad. Byddai enwau
terfynol y strydoedd yn Gymraeg. Cadarnhawyd y byddai'r amod yn cael ei ail-eirio er
mwyn eglurhad. ·
Cwestiynwyd nifer
yr anheddau i'w hadeiladu ar y plot. Cadarnhawyd fod y cais amlinellol am
"leiafswm" o 6 annedd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, a
eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young, i gymeradwyo’r cais amlinellol yn amodol
ar ail-eirio amod rhif 11. PLEIDLAIS: CYMERADWYO (gan
gynnwys ail-eirio amod rhif 11) –
18 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion, yn amodol ar ail-eirio amod rhif 11 i ddweud "Bydd yr holl arwyddion
marchnata o fewn y safle yn Gymraeg a
Saesneg". |
|
CAIS RHIF 12/2017/0015/PO - TIR SY’N TARO AR GRUD YR AWEL, CLAWDDNEWYDD, RHUTHUN PDF 94 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.49 hectar o dir (cais amlinellol gan gynnwys mynedfa) ar dir sy’n
taro ar Grud yr Awel, Clawddnewydd, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 0.49 hectar o dir (cais amlinellol gan gynnwys mynedfa) ar dir sy’n
taro ar Grud yr Awel, Clawddnewydd, Rhuthun. Trafodaeth Gyffredinol - yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cynhaliwyd ymweliad
safle a oedd wedi asesu'r pryderon ynghylch agosrwydd y gwaith carthffosiaeth
i'r safle. ·
Cwestiynwyd
geiriad amod rhif. 11 "Bydd pob arwydd o fewn y safle yn Gymraeg a Saesneg". Eglurwyd bod hyn yn cyfeirio at yr arwyddion
marchnata a’r deunydd marchnata ar gyfer y datblygiad. Byddai enwau terfynol y strydoedd yn
Gymraeg. Cadarnhawyd y byddai'r amod yn
cael ei ail-eirio er mwyn eglurhad. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young, a
eiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard, i gymeradwyo’r cais amlinellol yn amodol
ar ail-eirio amod rhif 11. PLEIDLAIS: CYMERADWYO (gan
gynnwys ail-eirio amod rhif 11) –
18 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion, yn amodol ar ail-eirio amod rhif 11 i ddweud "Bydd yr holl arwyddion
marchnata o fewn y safle yn Gymraeg a
Saesneg". |
|
CAIS RHIF 12/2017/0638 - TIR GER Y GYFNEWIDFA FFÔN, CLAWDDNEWYDD, RHUTHUN PDF 6 KB Ystyried cais I ddatblygu 0.2ha o dir ar gyfer datblygiad preswyl o isafswm o 5 annedd (cais amlinellol yn cynnwys mynediad) ar Tir ger y gyfnewidfa Ffôn, Clawddnewydd, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer datblygu
0.2ha o dir ar gyfer datblygiad preswyl o leiaf 5 annedd (cais amlinellol gan
gynnwys mynediad) ar dir ger y Gyfnewidfa Ffôn, Clawddnewydd, Rhuthun. Trafodaeth Gyffredinol: Cwestiynwyd geiriad amod rhif. 11 "Bydd pob
arwydd o fewn y safle yn Gymraeg a
Saesneg". Eglurwyd bod hyn
yn cyfeirio at yr arwyddion marchnata a’r deunydd marchnata ar gyfer y
datblygiad. Byddai enwau terfynol y
strydoedd yn Gymraeg. Cadarnhawyd y
byddai'r amod yn cael ei ail-eirio er mwyn eglurhad. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, a
eiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard, i gymeradwyo’r cais amlinellol yn amodol
ar ail-eirio amod rhif 11. PLEIDLAIS: CYMERADWYO (gan
gynnwys ail-eirio amod rhif 11) –
18 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion, yn amodol ar ail-eirio amod rhif 11 i ddweud "Bydd yr holl arwyddion
marchnata o fewn y safle yn Gymraeg a
Saesneg". |
|
CAIS RHIF 40/2017/0812/PF - BODELWYDDAN HOUSE, Y PENTREF, BODELWYDDAN PDF 94 KB Ystyried cais i
adeiladu wal derfyn, gatiau awtomatig newydd a ffens (rhannol ôl-syllol) yn
Bodelwyddan House, y Pentref, Bodelwyddan (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi uchder wal derfyn, gatiau awtomatig newydd a ffens (rhannol ôl-weithredol)
yn Bodelwyddan House, y Pentref, Bodelwyddan, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol - hysbysodd y Rheolwr Datblygu yr Aelodau fod y cais yn
rhannol ôl-weithredol gan fod ffens y ffin eisoes wedi ei godi. Roedd yr Awdurdod Lleol yn cymryd camau gorfodi gan
nad oedd y ffens yn cyd-fynd ag amwynder gweledol yr ardal ac yn tynnu oddi ar
gymeriad cyffredinol yr ardal gadwraeth. Eglurwyd gan y Rheolwr Datblygu,
oherwydd bod rhybudd gorfodi wedi'i gyflwyno i'r ymgeisydd, bod penderfyniad
wedi'i rannu bellach yn cael ei awgrymu. Felly, y bleidlais fyddai i gymeradwyo'r wal derfyn
a'r gatiau a gwrthod y ffens. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James, ac fe’i eiliwyd
gan y Cynghorydd Bob Murray, i ganiatáu’r cais yn rhannol ac i’w wrthod yn
rhannol yn unol ag argymhellion y swyddog.
PLEIDLAIS: CANIATÁU Wal a
Giât a GWRTHOD Ffens - 18 YMATAL - 0 GWRTHOD POPETH -
0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R Wal a’r Gatiau a GWRTHOD y ffens yn unol ag argymhelliad
y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 40/2017/0813/LB - BODELWYDDAN HOUSE, Y PENTREF, BODELWYDDAN PDF 95 KB Ystyried cais i
adeiladu wal derfyn, gatiau awtomatig newydd a ffens (rhannol ôl-syllol)
(Caniatâd Adeilad Rhestredig) yn Bodelwyddan House, y Pentref, Bodelwyddan
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
Adeilad Rhestredig i godi uchder wal derfyn, gatiau awtomatig newydd a ffens
(rhannol ôl-weithredol) yn Bodelwyddan House, y Pentref, Bodelwyddan, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol - hysbysodd y Rheolwr Datblygu yr Aelodau unwaith
eto fod y cais Adeilad Rhestredig yn rhannol ôl-weithredol gan fod ffens y ffin
eisoes wedi ei godi. Roedd yr Awdurdod
Lleol yn cymryd camau gorfodi gan nad oedd y ffens yn cyd-fynd ag amwynder
gweledol yr ardal ac yn tynnu oddi ar gymeriad cyffredinol yr ardal gadwraeth. Eglurwyd gan y
Rheolwr Datblygu, oherwydd bod rhybudd gorfodi wedi'i gyflwyno i'r ymgeisydd,
bod penderfyniad wedi'i rannu bellach yn cael ei awgrymu. Felly, y bleidlais fyddai i gymeradwyo'r wal
derfyn a'r gatiau a gwrthod y ffens. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray, i ganiatáu’r cais yn rhannol ac i’w wrthod
yn rhannol yn unol ag argymhellion diwygiedig y swyddog. PLEIDLAIS: CANIATÁU Wal a
Giât a GWRTHOD Ffens - 18 YMATAL - 0 GWRTHOD POPETH -
0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R caniatâd Adeilad
Rhestredig ar gyfer y Wal a’r Gatiau a
GWRTHOD y ffens yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 45/2017/0795/PC - 58 QUEEN STREET, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
newid defnydd o arcêd i glwb iechyd (cais ôl-syllol) yn 58 Queen Street, y Rhyl
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd o arcêd i glwb iechyd (cais ôl-weithredol) yn 58 Queen Street, y
Rhyl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James, ac fe’i eiliwyd
gan y Cynghorydd Mark Young, fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag
argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 YMATAL - 0 GWRTHOD - PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad
y swyddogion. |
|
Ystyried
adroddiad er mwyn cymeradwyo’r Adroddiad Adolygu drafft y CDLl, Cytundeb
Cyflawni drafft newydd ar gyfer y CDLl ac Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o
Gynaliadwyedd i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Brian
Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, yr
adroddiad. Yn dilyn
cymeradwyaeth i ymgynghori drwy benderfyniad dirprwyedig Aelod Arweiniol, a
gyhoeddwyd ar 7 Awst 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 9 wythnos rhwng 21
Awst 2017 a 20 Hydref 2017. Mae Cynllun
Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006-2021 yn ddogfen strategol, ac yn gyfrwng
darparu allweddol ar gyfer y Cynllun Corfforaethol a nifer o strategaethau'r
Cyngor megis Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol a'r Strategaeth Dai.
Cafwyd trafodaeth ac yn dilyn
pleidlais unfrydol PENDERFYNWYD: (i)
Bod yr Aelodau’n argymell i’r Cyngor Llawn
gymeradwyo Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych a’r atodiadau;
Cytundeb Cyflawni CDLl newydd drafft; a’r Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o
Gynaliadwyedd fel y’u diwygiwyd i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru (atodwyd fel
Atodiad 2). (ii)
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3) yn rhan o’i
ystyriaethau. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm. |