Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
CYNGHORYDD RAYMOND BARTLEY - TEYRNGED Ar ran y Pwyllgor
Cynllunio talodd yr Is-Gadeirydd y Cynghorydd Bill Cowie deyrnged i’r
Cynghorydd Raymond Bartley fu farw’n ddiweddar yn dilyn salwch byr. Roedd
y Cynghorydd Bartley yn fonheddwr, yn broffesiynol ac yn ffrind arbennig
iawn. Bu’n
Gadeirydd ardderchog a bydd yn golled fawr i’r Pwyllgor Cynllunio ac i Sir
Ddinbych. Roedd y Pwyllgor yn meddwl am ei deulu ar yr adeg
hwn. Dywedwyd y byddai aelodau unigol yn cael cyfle i
dalu teyrnged i'r Cynghorydd Bartley yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn. Safodd
yr aelodau a'r swyddogion mewn teyrnged ddistaw. Fel Is-Gadeirydd,
Cadeiriodd y Cynghorydd Bill Cowie y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Bob
Murray, Bill Tasker a Cheryl Williams. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd
Stuart Davies – Cysylltiad Personol – Eitem 11 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Gareth Sandilands – Cysylltiad Personol – Eitem 10 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Williams – Cysylltiad Personol – Eitem 5 a 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Mark
Young – Cysylltiad Personol – Eitem 7 ar
y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr
2016 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2016. Cywirdeb – Dywedodd y Cynghorydd Meirick Davies
fod rhai o’r ffigurau pleidleisio a gofnodwyd yn y cofnodion yn wahanol i’w
nodiadau ef a byddai’n siarad gyda’r swyddog perthnasol am y mater yn dilyn y
cyfarfod. Nodwyd nad oedd unrhyw amrywiaeth yn y
ffigurau yn effeithio ar y canlyniad pleidleisio. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14
Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 10) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr
a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau
penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i
gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n
briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHIF Y CAIS 16/2016/1045/PF - PLAS LLANBEDR, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN PDF 37 KB Ystyried cais i amrywio amod rhif 12 caniatâd cynllunio 16/2016/0545 er
mwyn parhau i ddefnyddio’r ddwy fynedfa ar gyfer y datblygiad, gan ddileu’r
angen i gyfyngu defnydd mynedfa Lôn y Mynydd ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Hall,
Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd bod yr Asiantiaid
oedd yn gweithredu ar ran Llanbedr Hall hefyd yn gweithredu fel ei Asiantiaid o
ran gwaith yn ymwneud â’i ffarm]. Roedd cais wedi’i gyflwyno i amrywio amod rhif 12
caniatâd cynllunio 16/2016/0545 er mwyn parhau i ddefnyddio’r ddwy fynedfa ar
gyfer y datblygiad, gan ddileu’r angen i gyfyngu defnydd mynedfa Lôn y Mynydd
ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Hall, Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus - Ms G Crawley (o blaid) – cyfeiriodd at hanes
cynllunio blaenorol a chanfyddiadau apêl yr Arolygydd na fyddai unrhyw effaith
sylweddol ar draffig sy’n defnyddio’r rhodfa gefn ac amlygodd welliannau i’w
gwneud i’r rhodfa o flaen y datblygiad i annog defnydd. Byddai holl draffig adeiladu yn
defnyddio’r rhodfa o flaen y datblygiad. Dadleuwyd nad oedd yn rhesymol gwrthod yr amrywiad
o ystyried yr hanes cynllunio a hawliau defnydd presennol. Trafodaeth Gyffredinol – Tynnodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod
Lleol) sylw at y pwynt mynediad o'r cefn a rhwydwaith ffordd fel y nodwyd ar y
cynlluniau ac a ddangoswyd yn sleidiau’r cyflwyniad ac amlygodd bryderon
arbennig ynglŷn â’r briffordd. Roedd pryderon yn cynnwys annigonolrwydd y
llwybr mynediad cefn a Lôn y Mynydd / Lôn Cae Glas ac ar Gefnffordd yr A494 gan
gynnwys dim neu welededd gwael yn y gyffordd yn arwain o’r cefn, goryrru ar hyd
ffyrdd mynediad cefn a Chefnffordd yr A494 rhwng Rhuthun a’r Wyddgurug a oedd
yn gul ac yn beryglus ac yn lle gwael am ddamweiniau. Hefyd amlygodd ran o lwybr mynediad cefn wedi’i arwyddbostio’n benodol yn
anaddas i gerbydau a nifer o ddamweiniau ffordd ar hyd y llwybr cefn. Yn olaf, cyfeiriwyd at y nifer fawr o wrthwynebiad
lleol ar sail priffordd ac o ystyried y cynnydd posibl mewn traffig o ganlyniad
i’r datblygiad cadarnhaodd y Cynghorydd Williams na allai gefnogi’r cais. Yn ystod trafodaeth bu’r aelodau’n ystyried y
ffactorau o blaid ac yn erbyn yr amrywiad, gan bwyso a mesur yr hanes cynllunio
a phryderon diogelwch ffordd. Cadarnhaodd y Cynghorwyr Merfyn Parry,
Dewi Owens a Huw Hilditch-Roberts eu bod yn gyfarwydd â’r ardal a dywedwyd am
eu profiadau eu hunain a phryderon am ddiogelwch traffig yn y cyswllt hwn. Teimlwyd y dylid rhoi llawer o ystyriaeth i wybodaeth leol a’r llu o
wrthwynebiadau a dderbyniwyd oedd yn manylu pryderon diogelwch priffordd. Tra’n cydnabod yr hanes cynllunio a’r tebygolrwydd o apêl yn erbyn y
penderfyniad i wrthod y cais roedd yr aelodau hynny’n teimlo bod pryderon
diogelwch yn hanfodol yn yr achos hwn, yn arbennig o ystyried bod y rhodfa o
flaen y datblygiad yn cynnig llwybr mwy diogel a digonol. Nid oedd y Swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd yn herio cyfyngiadau’r llwybr rhodfa gefn ac yn cydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn a’i annigonolrwydd. Fodd bynnag, ailadroddwyd bod hanes cynllunio sylweddol yn yr achos hwn yn cynnig cefnogaeth gyfyngedig i wrthod y cais a manylodd y swyddogion oblygiadau oedd yn codi o ganiatâd cynllunio blaenorol gan y pwyllgor yn 2006 [Rhif. 16/206/0872 – apêl wedi’i gefnogi yn ymwneud â’r defnydd o’r un rhodfeydd], 2015 [Rhif 16/2014/1020 – caniatâd cynllunio ar gael ar gyfer 9 annedd heb unrhyw gyfyngiadau], a 2016 [Rhif. 16/2016/0545 – cymeradwyaeth ddilynol i drefniant yn ymwneud ag amod 10 yn cyfyngu llwybr cerbydau adeiladu i’r rhodfa o flaen y datblygiad]. O wybod yr hanes nid oedd swyddogion yn ystyried bod effaith 2 annedd ychwanegol o dan y caniatâd cynllunio diweddaraf yn caniatáu cyfiawnhad digonol i wrthod y cais ar gyfer amrywiant. O ran tystiolaeth un ddamwain yn unig a gofnodwyd ar hyd y ffordd rhwng Hydref 2011 – Hydref 2016, er ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 16/2016/1044/PF - PLAS LLANBEDR, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN PDF 5 KB Ystyried cais i
drawsnewid garej yn annedd sengl ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Dyffryn Clwyd,
Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd bod yr
Asiantiaid oedd yn gweithredu ar ran Llanbedr Hall hefyd yn gweithredu fel ei
Asiantiaid o ran gwaith yn ymwneud â’i ffarm]. Roedd cais wedi’i gyflwyno i drawsnewid garejis yn
annedd sengl ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus- Ms G Crawley
(O blaid) - dywedodd fod y cynllun arfaethedig yn cynnig gwelliant i’r
caniatâd cynllunio presennol gyda threfniadau gwell ar gyfer mudo ystlumod a
gwelliannau i’r cwrt. Trafodaeth Gyffredinol – Nid oedd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) yn gwrthwynebu'r cais
gan gadarnhau nad oedd unrhyw faterion o ran mynediad o ganlyniad i lif
naturiol y traffig. Fodd bynnag, roedd yn mynegi
pryderon ynglŷn â'r oedi o ran datblygu'r safle ac roedd yn gobeithio y
byddai'r gwaith yn dechrau cyn gynted â phosibl. Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd Merfyn Parry ynglŷn â
swyddogion llif traffig cadarnhaodd swyddogion bod mynediad i wasanaethu’r
safle trwy’r rhodfa gefn. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Anton Sampson. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 25 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 31/2016/1003/PF - ADEILAD ALLANOL YN NHYDDYN EOS, GROESFFORDD MARLI, ABERGELE PDF 6 KB Ystyried Cais i
droi adeilad allanol yn annedd (dyluniad wedi newid o'r hyn a gymeradwywyd
eisoes dan rif 31/2005/1468), Adeilad Allanol yn Nhyddyn Eos, Groesffordd
Marli, Abergele (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol yn yr eitem hon gan fod yr Ymgeisydd
yn gyfaill i’r teulu.] Cafodd cais ei gyflwyno i droi adeilad allanol yn
un annedd (dyluniad wedi newid o'r hyn a gymeradwywyd eisoes dan rif 31/2005/1468) – adeilad allanol yn Nhyddyn
Eos, Groesffordd Marli, Abergele. Siaradwr Cyhoeddus- Mr A Pierce (O blaid) – cyfeiriodd at hanes
cynllunio blaenorol ac eglurodd yr oedi o ran gwaith adeiladu ar y safle ac
adolygiadau i’r cais gwreiddiol. Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd y Cynghorydd Meirick Davies (Aelod Lleol) fod swyddogion yn hapus
gyda'r dyluniad diwygiedig. Roedd Cyngor Cymuned Cefn Meiriadog wedi
mynegi pryderon ynglŷn â’r amser yr oedd y gwaith adeiladu yn ei gymryd ac
roedd yr ymgeisydd wedi rhoi sicrwydd y byddai’n symud ymlaen yn gyflym i
gwblhau’r datblygiad o fewn deuddeng mis.
O ganlyniad, roedd y Cynghorydd Davies yn cynnig bod y cais yn cael ei
ganiatáu yn amodol ar yr amod bod angen cwblhau’r gwaith adeiladu o fewn
deuddeng mis yn hytrach na’r pum mlynedd arferol. Eglurodd y Rheolwr Datblygu bod yr amserlen pum mlynedd yn cyfeirio at
ddechrau’r datblygiad a oedd eisoes wedi dechrau yn yr achos hwn. O ganlyniad awgrymodd bod amod rhif 1 fel y manylwyd yn yr adroddiad yn
cael ei dynnu yn ei gyfanrwydd. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, yn amodol ar ddileu amod 1 o ran
dechrau ar y datblygiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 23 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad, yn amodol ar ddileu amod rhif 1 o ran dechrau’r datblygiad. |
|
CAIS RHIF 40/2016/0256/PC – CAEAU I’R DE-ORLLEWIN O GROESFFORDD BORTH, ABERGELE PDF 35 KB Ystyried cais i
gadw a newid defnydd adeilad amaethyddol i brosesu coed a defnyddio’r iard i
storio coed (ôl-gais) ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd Borth, Abergele
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei gyflwyno i gadw a newid defnydd
adeilad amaethyddol i brosesu coed a defnyddio’r iard i storio coed (ôl-gais)
ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd Borth, Abergele. Siaradwr Cyhoeddus- Mr B Owen (O blaid) – eglurodd weithrediad y
busnes a manteision o ran cyflogaeth leol a’r economi wledig. Ymatebodd i (1) bryderon sŵn gan ddadlau’r effaith lleiaf a bod
Swyddogion Rheoli Llygredd yn derbyn hyn, a (2) pryderon priffyrdd yn dadlau y
byddai defnydd amaethyddol yn cynhyrchu mwy o ddefnydd gan gerbydau ac y byddai
mesurau lleddfu yn cael eu gweithredu i fynd i’r afael â phryderon. Trafodaeth Gyffredinol – Tynnodd y Rheolwr Datblygu sylw at
wybodaeth ychwanegol fel y manylwyd yn y papurau atodol a ddosbarthwyd yn y
cyfarfod a oedd yn manylu hanes cynllunio ar gyfer y safle hyd eithaf gwybodaeth y swyddogion. Eglurodd mai’r mater dan ystyriaeth oedd pa un a oedd y defnydd o’r
adeilad, mynediad i gerbydau a’r safle yn addas ac yn dderbyniol ar gyfer busnes prosesu coed. Er gwaethaf pryderon sŵn roedd y Swyddog Rheoli Llygredd yn ystyried
na fyddai'r sŵn o'r prosesu coed ei hun yn cyfiawnhau gwrthod gan y gellir
rheoli'r lefelau drwy amodau. Er mai’r defnydd amaethyddol oedd y
sefyllfa ar gyfer syrthio yn ôl arno, roedd swyddogion yn meddwl y byddai’r
defnydd ar gyfer prosesu coed yn cynyddu’r effaith annerbyniol ar ddiogelwch
priffordd a fanylwyd o fewn yr adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts am yr ymweliad
safle a gynhaliwyd ar 12 Medi 2016.
Cyfeiriodd at amrywiol ddamweiniau ar y ffordd gerbydau ac roedd yn
meddwl bod y mynediad i’r safle/ffordd allan yn beryglus iawn. Credai y byddai caniatáu’r cais yn
gwaethygu’r sefyllfa a chytunodd gyda’r swyddogion y dylid gwrthod y cais ar
sail diogelwch priffordd. O ganlyniad cynigiodd y Cynghorydd Roberts i wrthod y cais yn unol ag
argymhellion y swyddog. Ymhelaethodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod
Lleol) ynglŷn â hanes cynllunio’r safle o 2004 ac amlygodd ddiystyrwch y
perchennog o ran rheoliadau a gweithdrefnau cynllunio ers hynny heb unrhyw
ddefnydd difrifol o'r safle at ddibenion amaethyddol. Hefyd mynegodd bryder am y cais cynllunio ôl-weithredol ac roedd yn cynnig
newid defnydd o amaeth i brosesu/gweithgynhyrchu coed ac amlygodd y
gwrthwynebiad gan drigolion cyfagos. Roedd y Cynghorydd Jones yn cefnogi
argymhelliad y swyddog i wrthod ar sail priffordd a theimlodd nad oedd yna sail
i ddadl yr ymgeisydd y byddai defnydd amaethyddol yn golygu nifer uwch o
gerbydau o ystyried na fu llawer neu ddim defnydd amaethyddol yn y gorffennol
ac yn annhebygol o fod yn y dyfodol. Fodd bynnag, gofynnodd iddynt ystyried
sŵn ac amwynder preswyl a cholli tir amaethyddol fel rhesymau cynllunio
dilys dros wrthod y cais. Dywedodd y Cadeirydd bod y rhesymau dros
beidio â chynnwys y seiliau cynllunio hynny wedi eu manylu o fewn yr adroddiad. O ganlyniad eiliodd y Cynghorydd Alice
Jones y cynnig gan y Cynghorydd Arwel Roberts i wrthod y cais yn unol ag
argymhellion y swyddog. Trafododd yr aelodau'r ystyriaethau cynllunio materol ymhellach gyda swyddogion a gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion. O ran priffyrdd, gofynnwyd mwy o gwestiynau ynglŷn â dadl yr ymgeisydd y gall y defnydd syrthio yn ôl ar gyfer y safle at ddibenion amaethyddol arwain at fwy o symudiadau cerbydau a pha un a oedd tystiolaeth i gefnogi’r sail diogelwch priffyrdd o ran damweiniau a gofnodwyd, yn arbennig o ystyried ei fod yn gais ôl-syllol. Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r polisïau cynllunio sy’n ymwneud â newid defnydd o amaeth i waith cynhyrchu, diffiniad o’r gwaith prosesu coed a pha un a ellid ei ystyried fel prosiect ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CAIS RHIF 43/2016/0512/PF - 74 FFORDD GRONANT, PRESTATYN PDF 37 KB Ystyried cais i
godi 5 fflatiau, 6 annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig yn 74 Ffordd Gronant,
Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei gyflwyno i godi 5 o fflatiau, 6
annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig yn 74 Ffordd Gronant, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus- Mrs C Jones (Yn
erbyn) - yn dadlau nad oedd y datblygiad yn cyd-fynd a’r ardal o ystyried
natur ddylanwadol y bloc fflatiau a oedd hefyd yn effeithio ar amwynder preswyl
ond yn croesawu datblygiad y safle yn unol â chaniatâd cynllunio blaenorol a
roddwyd yn 2005. Trafodaeth Gyffredinol – Rhoddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Lleol) rywfaint o hanes
cynllunio a chadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i egwyddor y
datblygiad. Fodd bynnag, roedd yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ar sail y bloc
fflatiau yn unig a chytunodd â barn y siaradwr cyhoeddus yn hyn o beth. Nid oedd yn ystyried bod lleoliad arfaethedig
y bloc fflatiau yn addas a theimlodd nad oedd y maint yn cyd-fynd â’r ardal,
hyd yn oed wrth gymryd i ystyriaeth yr eiddo mawr ar wahân yn y cyffiniau, a
chaniatáu ar gyfer y ffaith y byddai’r bloc fflatiau yn cynnig amrywiaeth eang
o ddeiliadaeth a thai fforddiadwy. Mynegodd bryder hefyd ynglŷn â cholli
13 o goed. Roedd y Cynghorwyr Anton Sampson (Aelod Lleol),
Hugh Irving a Gareth Sandilands (Aelodau Prestatyn) yn unfrydol yn cefnogi barn
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ac yn credu nad oedd y bloc fflatiau yn
cyd-fynd â’r ardal ac y byddai’n cael effaith andwyol ar amwynder preswyl. Dywedodd y Rheolwr Datblygu am y materion
ffeithiol canlynol i aelodau eu hystyried wrth wneud penderfyniad - ·
codwyd
y mater ynglŷn ag argaeledd tir ar gyfer tai a sicrhau’r defnydd mwyaf o
dir ar gyfer tai yn y cynllun datblygu ·
roedd
datblygiad preswyl wedi’i gynnig ac o ystyried y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn
flaenorol ar y safle ar gyfer saith annedd roedd hanes yn awgrymu bod tai yn
dderbyniol yn y lleoliad hwnnw ·
roedd
dwysedd y cynllun arfaethedig ar gyfer 21 annedd fesul hectar islaw’r trothwy
mewn polisïau cynllunio a oedd yn nodi 35 annedd fesul hectar ond ystyriwyd y
byddai'n dderbyniol yn yr achos hwn i ystyried cymeriad yr ardal ·
cyfeiriwyd
at y cynlluniau a ddarparwyd oedd yn dangos stryd ar hyd Ffordd Gronant lle
awgrymwyd y bloc o fflatiau a oedd yn anelu i ddangos nad oedd yr adeilad ei
hun dim uwch nag adeiladau presennol gyferbyn ac oedd yn rhoi syniad o ran
maint a graddfa ·
o ran
colli coed, gwelwyd bod y rhan fwyaf o’r coed i’w torri yn enghraifft o ansawdd
isel a byddai yna gynllun ailblannu ar y safle ac felly roedd colli coed yn
cael ei ystyried yn dderbyniol yn yr achos hwn. Cynnig – Cynigiwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ac eiliwyd gan y Cynghorydd Anton Sampson bod y cais yn cael ei
wrthod ar sail y byddai maint a graddfa’r bloc fflatiau yn cael effaith negyddol
sylweddol ar amwynder gweledol yr ardal ar gyfer eiddo a thrigolion
cyfagos. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 10 GWRTHOD - 12 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD i
WRTHOD caniatâd yn groes i argymhelliad swyddog ar sail bod y bloc fflatiau
o faint a graddfa fyddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar amwynder gweledol
yr ardal ar gyfer eiddo a thrigolion cyfagos.
Os bydd yna apêl
yn erbyn y penderfyniad, cytunwyd fel cynigydd ac eilydd bod y Cynghorwyr
Julian Thompson-Hill ac Anton Sampson yn mynychu ar ran y pwyllgor. Ar y pwynt hwn
(11.35 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth. |
|
CAIS RHIF 43/2016/1083/PF - 2 LICHFIELD DRIVE, PRESTATYN PDF 5 KB Ystyried cais i
godi estyniad i gefn yr annedd (ail-gyflwyniad) yn 2 Lichfield Drive, Prestatyn
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Gareth Sandilands
gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn byw ger safle’r cais.] Roedd cais wedi’i gyflwyno i godi estyniad i gefn
annedd (ail-gyflwyniad) yn 2 Lichfield Drive, Prestatyn a chyfeiriwyd at y
wybodaeth atodol ychwanegol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Gareth Sandilands
(Aelod Lleol) yn codi nifer o wrthwynebiadau yn erbyn y cais ar ran trigolion
lleol a oedd yn ymwneud â thagfeydd traffig, lle parcio ar briffordd gyhoeddus,
gorddwysâd eiddo, ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr eiddo a cholli
preifatrwydd. Cyfeiriodd at gais cynllunio blaenorol a wrthodwyd a’i amheuaeth bod y cais
yn rhannol ôl-gais. Tynnodd y Rheolwr Datblygu sylw’r aelodau at
gynlluniau yn dangos y strwythur coed presennol a oedd yn gyfreithiol ac nid
oedd y swyddogion yn meddwl bod yr estyniad arfaethedig yn wahanol iawn o ran
maint, graddfa, effaith ar gymdogion ac ati. Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r defnydd
presennol o’r strwythur pren eglurodd y swyddogion os oedd yr adeilad yn ategol
i’r prif annedd y gallai gael ei ddefnyddio’n gyfreithiol fel llety. O ganlyniad i wrthwynebiadau trigolion
lleol roedd y Cynghorydd Gareth Sandilands yn cynnig bod y cais yn cael ei
wrthod a rhoddodd y swyddogion gyngor o ran ystyriaethau cynllunio perthnasol
yn yr achos hwn. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Sandilands bod y
cais yn cael ei wrthod oherwydd yr effaith ar gymdogion fyddai’n colli
preifatrwydd. Nid oedd dim eilydd ar gyfer y cynnig hwnnw. Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies argymhellion
y swyddogion i roi caniatâd i’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad yn gofyn am gadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio mewn
perthynas â chais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored
a gwaith cysylltiedig ar dir ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Stuart Davies gysylltiad
personol yn yr eitem hon gan ei fod yn byw gyferbyn â’r safle oedd yn destun y
cais.] Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i gadarnhau
penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Rhagfyr 2016 mewn perthynas
â chais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith
cysylltiedig ar dir ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y
datblygiad yn ddibynnol ar ddarparu mwy o dai fforddiadwy. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i aelodau
ar wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw fel y crynhowyd isod -
Tai Fforddiadwy – byddai’r ymgeisydd yn darparu 10% o dai fforddiadwy ar y 95 annedd llawn a oedd yn cyfateb i 9 annedd ar y safle a thaliad swm gohiriedig o £47,074.50 yn gyfnewid am 0.5 annedd. Roedd yr ymgeisydd yn cynnig bod yr unedau fforddiadwy hynny yn gydberchnogaeth. ·Diogelwch Cyfraniadau Ariannol - gallai datblygu’r unedau fforddiadwy ar
y safle, talu’r swm gohiriedig a chyfrifoldebau mannau agored, a darparu
cyfraniad ariannol tuag at addysg ei reoli’n ddigonol trwy gytundeb cyfreithiol
A.106 ac felly nid oedd swyddogion yn ystyried ei bod yn ofynnol i’r datblygwr
fod yn rhan o fond ariannol. ·
Lle
Parcio – roedd amod tirlunio wedi’i gynnig yn adroddiad gwreiddiol y swyddog yn
ceisio cytundeb pellach i'r manylion penodol ar gyfer y man agored a’r
ardaloedd wedi’u tirlunio ar y safle a allai, os cytunir, gynnwys lle parcio
ychwanegol i gerbydau. Cyfrifoldeb y datblygwr fydd cyflwyno cynnig tirlun ar gyfer yr ardaloedd a
gall swyddogion gysylltu ag aelodau lleol ar y cynllun terfynol. Roedd y Cynghorydd Stuart Davies (Aelod Lleol) yn
falch o ddweud bod trigolion lleol wedi cydnabod y drafodaeth gadarn yn y
cyfarfod diwethaf wrth ystyried y cais ac roeddent yn ddiolchgar am hyn. Diolchodd i’r swyddogion cynllunio am eu
gwaith i sicrhau’r cytundebau perthnasol gyda datblygwyr y gellir eu rheoli a’u
gorfodi drwy gytundeb A.106 fel y manylir o fewn yr adroddiad. Fodd bynnag, gofynnodd am eglurhad pellach ar
y cynllun cydberchnogaeth arfaethedig a pha un a oedd y Cyngor yn gallu cyfrannu
at y ddarpariaeth mewn cyferbyniad â landlordiaid cymdeithasol eraill. Cadarnhaodd y swyddogion y cynnig ar gyfer cyd-ecwiti mewn perthynas â’r 9
uned tai fforddiadwy a dywedodd y byddent yn cysylltu â swyddogion tai
ynglŷn â rôl Sir Ddinbych yn y ddarpariaeth honno. Roedd hefyd yn agored i’r datblygwr godi’r
mater gyda landlordiaid cymdeithasol eraill a chynnig cynllun. Rhoddwyd sicrwydd y byddai aelodau lleol yn cael eu hysbysu am y
trafodaethau hynny. Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau pellach fel a
ganlyn - ·
dywedwyd
bod y polisïau a gweithdrefnau ar gyfer delio gyda thai fforddiadwy a sicrhau
bod gofynion yn cael eu diwallu o ran dyraniad perthnasol yr unedau i
ddiwallu’r angen lleol, safonau gofod llawr a ffactorau a meini prawf gwerth/fforddiadwyedd
– dylai unrhyw bryderon am achosion unigol gael eu codi y tu allan i’r cyfarfod
a dylai unrhyw bryderon ehangach ynglŷn â’r polisïau hynny gael eu codi
trwy Grŵp Llywio'r Cynllun Datblygu Lleol neu'r Pwyllgor Archwilio. ·
derbyniwyd
sylwadau hwyr gan Gymdeithas Ddinesig Llangollen a oedd yn holi am y
cyfraniadau arfaethedig mewn perthynas ag Addysg a Gofod Swyddfa ac eglurodd
swyddogion y rhesymau dros y farn y byddai darparu mannau agored a chyfraniad
yn seiliedig ar y 45 uned ychwanegol yn dderbyniol yn yr achos hwn o ystyried
yr egwyddor a hanes cynllunio. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhellion y swyddogion i gadarnhau’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar y sail fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd gan y ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: 'CARAFANAU, CHALETS A SAFLEOEDD GWERSYLLA' - DRAFFT YMGYNGHORI PDF 159 KB Ystyried adroddiad yn argymell bod Aelodau yn cytuno ar y Canllaw Cynllunio
Atodol drafft ar garafanau, chalets a safleoedd gwersylla fel sail ar gyfer
ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw
Cynllunio Atodol (CCA) ar Garafanau, Chalets a Safleoedd Gwersylla fel sail ar
gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y ddogfen yn rhoi arweiniad pellach i ddatblygwyr, swyddogion ac
aelodau. Atgoffodd y Cynghorydd Smith Aelodau o wahanol
gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r dogfennau CCA yn
derfynol. Anogodd yr aelodau i ymateb gyda’u barn yn ystod y cyfnod ymgynghori. Wrth bleidleisio, roedd pawb yn unfrydol - PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn cytuno ar y Canllaw
Cynllunio Atodol drafft ar Garafanau, Chalets a Safleoedd Gwersylla fel sail ar
gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y
Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH - GORCHYMYN PRYNU GORFODOL - DATGANIAD BREINIO CYFFREDINOL Ystyried
adroddiad cyfrinachol yn gofyn am awdurdodiad ar gyfer gwneud Datganiad Breinio
Cyffredinol i gwblhau pryniant gorfodol safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd adroddiad cyfrinachol ei gyflwyno yn gofyn
am awdurdodiad ar gyfer gwneud Datganiad Breinio Cyffredinol i gwblhau pryniant
gorfodol safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru a throsglwyddo perchnogaeth yn
uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Gogledd Cymru. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint
o hanes cefndir y sefyllfa a’r broses hyd yma a chynhaliwyd dwy sesiwn briffio
aelodau ar y pwnc yn ystod y mis diwethaf. Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle
i ofyn cwestiynau i’r swyddogion ynglŷn â’r broses ei hun, gan gynnwys
dadleuon cyfreithiol, yr amserlenni tebygol a goblygiadau ariannol gan gynnwys
iawndal sy’n daladwy. Trafodwyd rôl yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth
Adeiladu hefyd. Yn ystod y drafodaeth talwyd teyrnged i
swyddogion blaenorol a phresennol sy’n cymryd rhan yn y broses. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Mark Young
argymhelliad y swyddog, gan gredu mai dyma’r ateb gorau yn yr achos hwn ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies. PLEIDLAIS: O BLAID - 15 YN ERBYN – 0 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD - (a) Pwyllgor Cynllunio yn cymeradwyo Datganiad Breinio Cyffredinol i gwblhau
pryniant gorfodol safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru a ddangosir ag ymyl coch ar y
cynllun fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol ag adran 47 Deddf 1990
a throsglwyddo perchnogaeth y safle yn uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Cadwraeth
Adeiladu Gogledd Cymru a (b) Bydd y Datganiad Breinio Cyffredinol yn cael ei gyflwyno, ar ôl i Gytundeb
Cefn Gefn gael ei lofnodi gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Gogledd Cymru
a’r Cyngor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm. |