Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715 E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyn dechrau’r
cyfarfod, dywedwyd nad oedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley, yn gallu
mynychu'r cyfarfod ac yn ei absenoldeb, y byddai’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd
Bill Cowie (a elwir yn ‘Cadeirydd’ o hyn allan), yn cadeirio cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 59 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd
Gareth Sandilands – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y rhaglen Cynghorwyr Joan
Butterfield, David Simmons, Julian Thompson-Hill a Meirick Lloyd Davies –
Cysylltiad Personol - Eitem Rhif 9 ar y Rhaglen 9 |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd
2016 (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2016. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16
Tachwedd 2016 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 – 10 AR Y RHAGLEN) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr
wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r
rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd
i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y
bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHIF Y CAIS 03/2016/0300/PF - TIR ODDI AR FFORDD Y FICERDY, LLANGOLLEN PDF 60 KB Ystyried cais i
godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith
cysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 95 annedd, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen. Siaradwyr Cyhoeddus - Mr. Lawrence (Yn erbyn) - cododd bryderon ynghylch y cais. Gwrthwynebodd y ffaith nad yw’r cais presennol yn debyg o gwbl i'r cais a roddwyd yn 1997, pan nad oedd y cae uchaf wedi cael ei ystyried ar gyfer datblygiad. Mynegodd yr angen am fwy o dai fforddiadwy. Hefyd mynegwyd pryderon ynghylch y pwysau ar ysgolion a faint o le agored y bydd yna o fewn y datblygiad arfaethedig. Mr. Gilbert (O blaid) – rhoddodd gefndir a gwybodaeth am y datblygiad. Roedd y safle cyfan wedi ei ddyrannu ar gyfer datblygu o fewn y CDLl. Cafwyd trafodaethau gyda swyddogion cynllunio ac roedd datblygwyr yn cydymffurfio â safonau cynllunio Sir Ddinbych. Byddai ffordd newydd arfaethedig mewn perthynas â'r cais, a fyddai'n gwella'r problemau ac yn lleddfu pryderon trigolion lleol. Dadl Gyffredinol - Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at y safle a ddyrannwyd yn cyfuno 2 lain o dir - un yn cynnwys caniatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer 50 o anheddau a'r ail wedi ei glustnodi yn y CDLl ar gyfer datblygiad o 45 o anheddau. Yn ystod trafodaeth ddwys, codwyd y pwyntiau canlynol: · Roedd y caniatâd cynllunio blaenorol yn dal yn fyw oherwydd y ffaith bod y ffordd fynediad i'r datblygiad wedi cael ei hadeiladu o fewn 5 mlynedd o ddyddiad rhoi'r caniatâd cynllunio. · Man Agored - Yn dilyn trafodaethau, roedd man agored cyhoeddus mwy, a mwy canolog, wedi cael ei gynnig. Cynigiwyd bod y cyfrifoldebau rheoli yn gorwedd gyda'r datblygwr / tirfeddiannwr a byddai'n cael ei sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol. Cynigiwyd £1818.28 yn ychwanegol fel cyfraniad at ddarpariaeth oddi ar y safle. · Roedd strategaeth ddraenio wedi’i chyflwyno yn nodi bod ffosydd cerrig yn ddewis realistig ar y safle. Ystyriodd y Swyddogion bod digon o wybodaeth wedi’i chyflwyno i ddangos y gellid rheoli dŵr budr a dŵr wyneb yn dderbyniol. Nid oedd union faint a lleoliad y ffosydd cerrig arfaethedig wedi cael ei sefydlu, fodd bynnag, ystyriwyd y gallai'r manylion hyn gael eu rheoli’n rhesymol drwy amod. · Roedd pryderon amrywiol wedi'u codi mewn perthynas ag effaith y datblygiad mewn perthynas â'r rhwydwaith priffyrdd lleol a diogelwch y ffyrdd. Roedd asesiadau wedi’u cynnal gan yr adran Priffyrdd, ac yn seiliedig ar y cyflwyniad, ynghyd â chasglu gwybodaeth ychwanegol, ystyriodd y Swyddogion Priffyrdd y byddai'n angenrheidiol bod y ffordd fynediad newydd yn cael ei chwblhau cyn adeiladu unrhyw anheddau. Byddai hyn yn caniatáu i draffig adeiladu sy’n ymwneud â'r tai i ddefnyddio hon fel llwybr i mewn i'r safle. Gan ystyried ymatebion yr ymgynghorai technegol, manylion y trefniadau mynediad a pharcio arfaethedig, dyluniad cyffyrdd, lleoliad y safle a graddfa'r datblygiad, ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. · Y cynnig oedd codi 95 o anheddau ar 3.7 hectar. Byddai hyn yn cynrychioli dwysedd o 26 o anheddau fesul hectar, a oedd yn is na’r ffigwr a fyddai'n codi o gymhwyso'r ffigur Polisi RD1, o 35 annedd fesul hectar. · Gwnaethpwyd cytundeb gyda'r datblygwyr mewn perthynas â chyfraniad addysg a gynigiwyd i'w sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol. · Cafodd ei gadarnhau gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y cais ar gyfer 95 o anheddau, a oedd yn cynnwys cais blaenorol am 50 o anheddau. Roedd y caniatâd cynllunio a oedd yn bodoli, ar gyfer gosodiad a dyluniad gwahanol. Roedd y cais presennol ar gyfer y safle cyfan o 95 o anheddau. · Fe wnaeth nifer o Aelodau gwestiynu dyraniad y tai fforddiadwy. Eglurodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn (11.40 am) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.00p.m. |
|
Ystyried cais i
ddymchwel adeiladau presennol a chodi siop fwyd (Dosbarth A1), maes parcio a
meysydd gwasanaeth, mynediad i gerbydau a cherddwyr a gwaith cysylltiedig ar
Ystâd Ddiwydiannol Parc Dyffryn, Ffordd Pendyffryn, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel adeiladau presennol a chodi siop fwyd (Dosbarth A1), maes parcio a
meysydd gwasanaeth, mynediad i gerbydau a cherddwyr a gwaith cysylltiedig ar
Ystâd Ddiwydiannol Parc Dyffryn, Ffordd Pendyffryn, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus- Mr Stuart Jarine (O blaid) - siaradodd ar ran yr ymgeisydd yn rhoi gwybod bod y safle wedi bod
yn wag ers dros 10 mlynedd, a byddai'r datblygiad yn welliant i'r dref. Byddai'r archfarchnad yn darparu hyd at 40 o
swyddi i bobl leol. Roedd Lidl yn
awyddus i fuddsoddi yn Sir Ddinbych ac wedi cynllunio y byddai’r siop yn agor
yn 2018. Dadl Gyffredinol - amlinellodd y Rheolwr Datblygu pa mor agos oedd y
safle at Stryd Fawr Prestatyn. Esboniodd
fod yr adroddiad yn nodi’r holl ystyriaethau cynllunio perthnasol, nid oedd
unrhyw wrthwynebiad wedi dod i law a chafwyd cefnogaeth leol. Cefnogodd y
Cynghorwyr Bob Murray, Gareth Sandilands a Julian Thompson-Hill y cais, ond
mynegwyd rhai pryderon ynghylch faint o draffig y bydd yno. Cadarnhawyd gan yr Uwch Beiriannydd, bod
ystyriaeth lawn wedi'i rhoi i oblygiadau priffyrdd y datblygiad ac wrth
gydnabod amheuon lleol, ystyriwyd bod y cynigion yn dderbyniol o ran diogelwch
priffyrdd a darpariaeth parcio, ac yn cydymffurfio â'r polisïau a chanllawiau
cynllunio perthnasol. Roedd y Datganiad
Ieithyddol Cymunedol cryno a gyflwynwyd gyda'r cais yn dod i'r casgliad na
fyddai'r cynigion yn cael unrhyw effaith negyddol ar anghenion a buddiannau'r
iaith Gymraeg. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod
amod ychwanegol yn cael ei gynnwys yn delio â Strategaeth Cyflogaeth Leol, i
gynnwys effeithiau ar yr iaith Gymraeg, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rhys
Hughes. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac i gynnwys yr amod ychwanegol ar
gyfer effaith ar yr iaith Gymraeg, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Anton
Sampson. PLEIDLAIS: O blaid - 20 Ymatal - 0 Gwrthod - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad, ac i gynnwys yr amod
ychwanegol ar gyfer effeithiau ar yr iaith Gymraeg. |
|
Ystyried cais i
ailddatblygu 4.25 hectar o dir gan gyfuno’r elfennau (Llawn/Amlinellol) hybrid
canlynol :- Dymchwel yr hen “Heulfan” ac ail-wneud tu allan Theatr y Pafiliwn
sydd ynghlwm â hi sy'n cynnwys tros-gladin. (Llawn)-
Adeiladu Canolfan Arddangos/Ddigwyddiadau Dosbarth D2 4,000m2 fel estyniad i
Theatr y Pafiliwn (Amlinellol)- Adeiladu gwesty Dosbarth C1 73 ystafell wely
2,825m2 ar wahân. (Llawn) - Codi 2 Fwyty i Deuluoedd Dosbarth A3 (Amlinellol)-
Cadw ac ailddefnyddio ciosg manwerthu presennol ac adeilad sied trên tir at
ddefnydd manwerthu/hamdden/cymunedol (Llawn)- Maes parcio newydd wedi'i
ailgynllunio i geir/coetsis (Llawn)- Gwelliannau a newidiadau i fynedfa
cerbydau ac ardaloedd troi presennol. (Llawn)
– manylion tirlunio caled a meddal (Llawn/Amlinellol) yn Theatr y Pafiliwn,
Heulfan a thir/meysydd parcio ceir a choetsis cyfagos, East Parade, Y Rhyl
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ailddatblygu 4.25 hectar o dir gan gyfuno’r elfennau (Llawn/Amlinellol) hybrid
canlynol:- Dymchwel yr hen “Heulfan” ac ail-wneud tu allan Theatr y Pafiliwn
sydd ynghlwm â hi, sy'n cynnwys tros-gladin. (Llawn)- Adeiladu Canolfan
Arddangos/ Ddigwyddiadau Dosbarth D2 4,000m2 fel estyniad i Theatr y
Pafiliwn (Amlinellol) - Adeiladu gwesty
Dosbarth C1 73 ystafell wely 2,825m2 ar wahân.
(Llawn) - Codi 2 Fwyty i Deuluoedd Dosbarth A3 (Amlinellol) - Cadw ac
ailddefnyddio ciosg manwerthu presennol ac adeilad sied trên tir at ddefnydd
manwerthu/hamdden/cymunedol (Llawn) - Maes parcio newydd wedi'i ailgynllunio i
geir/coetsis (Llawn) - Gwelliannau a newidiadau i fynedfa cerbydau ac ardaloedd
troi presennol. (Llawn) – Manylion
tirlunio caled a meddal (Llawn/Amlinellol) yn Theatr y Pafiliwn, yr Heulfan a
thir/meysydd parcio ceir a choetsis cyfagos, East Parade, Y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus- Mr R Gee (O blaid) - siaradodd ar ran yr
ymgeisydd, Neptune Developments Ltd. Roedd y datblygiad i fod yn gam allweddol
cyntaf o ddatblygiad Glannau’r Rhyl a fwriadwyd i ailddyfeisio ac adfywio glan
y môr y Rhyl. Byddai'r datblygiad yn
creu nifer sylweddol o swyddi ac yn gwella twristiaeth. Dadl Gyffredinol - Dywedodd y Cynghorydd David Simmons (aelod ward) y
byddai’r datblygiad hwn yn gyfle gwych i'r Rhyl a Sir Ddinbych. Hysbysodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, y Pwyllgor, er nad oedd yn aelod o'r
Pwyllgor Cynllunio, ei fod eisiau esbonio faint o waith oedd wedi digwydd rhwng
Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru, Neptune Developments Ltd, a buddsoddwyr
preifat. Roedd gan y Rhyl fater adfywio
ar hyn o bryd ond roedd yn gobeithio y byddai hyn yn sbarduno newid ar gyfer y
Rhyl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons argymhelliad y
swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joan
Butterfield. PLEIDLAIS: O blaid - 18 Ymatal - 0 Gwrthod - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
RHIF Y CAIS 03/2016/0845/LB – BWTHYN PEN Y BEDW, BIRCH HILL, LLANGOLLEN PDF 29 KB Ystyried Cais
Adeilad Rhestredig ar gyfer disodli strwythur to presennol ar heulfan yn y cefn
i do gwydr; adfer strwythur y to pyramid sgwâr yn y cefn, ffurfio gorchudd to
clad sinc lliw llechen naturiol uwchben storfa i’r cefn a newid gwteri a
pheipiau landeri i haearn bwrw ym Mwthyn Pen Y Bedw, Birch Hill, Llangollen
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Cais
Adeilad Rhestredig ar gyfer disodli strwythur to presennol ar heulfan yn y cefn
i do gwydr; adfer strwythur y to pyramid sgwâr yn y cefn, ffurfio gorchudd to
clad sinc lliw llechen naturiol uwchben storfa i’r cefn a newid gwteri a
pheipiau landeri i haearn bwrw ym Mwthyn Pen y Bedw, Birch Hill, Llangollen. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Rhys Hughes argymhelliad y
swyddogion i gymeradwyo’r cais Adeilad Rhestredig, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Brian Blakeley. PLEIDLAIS: O blaid - 18 Ymatal - 0 Yn erbyn – 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais Adeilad
Rhestredig, yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
RHIF Y CAIS 23/2016/0875/PF – COEDWIG CLOCAENOG, SARON, DINBYCH PDF 28 KB Ystyried cais i
godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig (cais diwygiedig) yng
Nghoedwig Clocaenog, Saron, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig (cais diwygiedig) yng
Nghoedwig Clocaenog, Saron, Dinbych. Dywedodd yr Aelod
Lleol, y Cynghorydd Joe Welch, fod cais wedi ei gyflwyno ar gyfer is-orsaf
drydan a gwaith cysylltiedig yn 2014 a oedd wedi cael ei wrthod, ond a roddwyd
ar apêl ar 1 Mehefin 2016. Roedd yn ymddangos bod ardal y lle caeedig yn llai
na'r cais cynllunio gwreiddiol, ond bu cynnydd yn yr uchder penodedig. Eglurodd y
Swyddog Cynllunio fod y cais o gymeriad gwahanol, a byddai effaith o'r
gwreiddiol ac effaith sŵn yn cael eu darparu gydag amodau cynllunio. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Rhys Hughes argymhelliad y
swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens. PLEIDLAIS: O blaid - 12 Ymatal - 0 Yn erbyn - 7 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
RHIF Y CAIS 47/2016/0997/PF – GROESFFORDD TREMEIRCHION PDF 58 KB Ystyried cais i
godi uchder wal terfyn flaen Groesffordd, Tremeirchion (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
gynyddu uchder y wal derfyn flaen yn y Groesffordd, Tremeirchion, Llanelwy. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais cynllunio, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Huw Williams. PLEIDLAIS: O blaid - 18 Ymatal - 0 Gwrthod - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad yn cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Rhif 03/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n
ymwneud â thir yn Ffordd Hendre, Gallt Melyd a Gorchymyn Cadw Coed Rhif 04/2016
Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir ym Maes Meurig, Gallt Melyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu adroddiad i Aelodau’n cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Rhif
03/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir yn Ffordd Hendre, Gallt Melyd a
Gorchymyn Cadw Coed Rhif 04/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir ym
Maes Meurig, Gallt Melyd. Roedd y Cyngor
wedi gwneud defnydd o'r pwerau a nodir yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990,
adran 201 (Gorchmynion Cadw Coed dros dro) ar 9 Awst 2016. Roedd angen
penderfyniad ynghylch bwriad y Cyngor i gadarnhau'r Gorchmynion Cadw Coed, cyn
i'r Gorchmynion Cadw Coed dros dro priodol ddod i ben ar ddechrau mis Chwefror
2017. Roedd un o'r Gorchmynion (Maes Meurig) â gwrthwynebiad, fel y nodwyd yn
yr adroddiad. Roedd Gorchmynion
Cadw Coed yn gyffredinol yn anelu at gadw coed unigol neu grŵp o goed sy'n
cyfrannu at nodweddion o'r dirwedd, yn darparu amwynder ar gyfer mwynhad y
cyhoedd, yn darparu cynefin i fywyd gwyllt lleol, neu oherwydd eu prydferthwch
cynhenid. Mewn termau cyfreithiol, maent
yn ei gwneud yn drosedd difrigo, tocio, diwreiddio, difrodi neu ddifetha coeden
yn fwriadol, neu dorri coeden i lawr, heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Peter Evans i dderbyn
argymhelliad y swyddog i gadarnhau Gorchmynion Cadw Coed, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Gareth Sandilands. PLEIDLAIS: O blaid - 17 Ymatal - 0 Yn erbyn - 1 PENDERFYNWYD bod aelodau'n
cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Rhif 03/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â
thir yn Ffordd Hendre, Gallt Melyd a Gorchymyn Cadw Coed Rhif 04/2016 Cyngor
Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir ym Maes Meurig, Gallt Melyd, yn unol ag
argymhelliad y swyddog fel a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Yn y fan hon, fe
wnaeth Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ddymuno adferiad llwyr i’r
Cynghorydd Raymond Bartley (Cadeirydd) a diolchodd i'r Cynghorydd Bill Cowie am
gadeirio'r cyfarfod. Fe wnaeth hefyd
ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd i bawb. Fe wnaeth y
Cynghorydd Bill Cowie ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 pm. |