Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Raj Metri a James Elson.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Alan James gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen; gan fod yr ymgeisydd y sonnir amdano yn eitem 6 wedi gwneud rhywfaint o waith iddo yn y gorffennol.

 

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen, gan fod ei brawd yn byw gerllaw’r safle.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 398 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024.

 

Nid oedd unrhyw fater yn ymwneud â chywirdeb; fodd bynnag, codwyd mater safle hen Ysbyty Gogledd Cymru gan y Cadeirydd. Dywedodd ei fod, yn dilyn y drafodaeth yn y cyfarfod diwethaf, wedi derbyn nifer o ymholiadau gan y cyhoedd – fel ag y gwnaeth aelodau etholedig eraill o Gyngor Sir Ddinbych nad oedd ar y Pwyllgor Cynllunio. Dymunai gynyddu’r ymgysylltiad â’r cyhoedd er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn gwybodaeth ynglŷn â’r mater. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau y byddent yn trafod y mater gyda’r swyddogion perthnasol i sicrhau mwy o ymgysylltu.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Delyth Jones y dylid trafod unrhyw awgrymiadau ynglŷn ag ymgysylltu yng nghyfarfod Grŵp Ardal Aelodau Dinbych er mwyn sicrhau bod aelodau lleol yn ymwybodol o unrhyw faterion yn ymwneud â safle hen Ysbyty Gogledd Cymru; yr oedd y swyddogion yn cytuno â’r awgrym hefyd.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 yn gofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

 

5.

CAIS RHIF 15/2023/0029 BURLEY HILL GARAGE, ERYRYS pdf eicon PDF 99 KB

Ystyried cais i newid defnydd tir ar gyfer parcio 3 bws ar y man tarmac presennol (cais ôl-weithredol) yn Burley Hill Garage, Eryrys (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i gael newid defnydd tir ar gyfer parcio 3 coets ar y man tarmac presennol (cais ôl-weithredol) yn Burley Hill Garage, Eryrys, yr Wyddgrug (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Kean’s Coaches (ymgeisydd) (o blaid) – Dywedodd y siaradwr cyhoeddus eu bod wedi derbyn adroddiad y swyddogion cynllunio yn ei gyfanrwydd ac, ar y cyfan, eu bod yn cytuno â chynnwys yr adroddiad mewn perthynas â’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i’r cais hwn. Nodwn na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau proffesiynol. Mae gennym gefnogaeth gan y Cyngor Cymuned a chan adran briffyrdd Sir Ddinbych a swyddogion Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus fod tri o’r pum gwrthwynebiad a dderbyniwyd wedi dod o’r un eiddo. Cyflwynwyd dau o’r pump ar ôl y dyddiad cau, ac yr oedd y pryderon a godwyd yn ymwneud â sŵn. Comisiynwyd adroddiad sŵn gan yr ymgeisydd, a ganfu na fyddai unrhyw effaith negyddol ar eiddo cyfagos. Cafwyd pryderon ynglŷn â’r effaith ar ddiogelwch y briffordd. Yn hanesyddol defnyddiwyd yr iard hon ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan Swyddog Priffyrdd Sir Ddinbych.

 

Yr oedd cerbydau nwyddau trwm yn arfer bod yn yr un lleoliad ar y safle, ac yr oeddynt hwy lawer mwy swnllyd na’r coetsys yr ydym yn eu defnyddio, ac yn cynhyrchu llawer mwy o allyriadau. Ni fydd unrhyw effaith weledol o gymharu â’r caniatâd cynllunio sydd eisoes ar waith ar y safle. Codwyd pryderon hefyd ynglŷn â nifer y coetsys a fydd yn cael eu parcio ar y safle. Hoffem nodi bod dwy uned fasnachol ar y safle sy’n cael eu rhentu. Mae’r ddau fusnes hwnnw’n darparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer cerbydau masnachol, coetsys, bysiau, faniau a cherbydau nwyddau trwm. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y cerbydau y gellir eu parcio ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw. Yn ogystal, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar symudiadau cerbydau i’r safle ac allan ohono ar unrhyw adeg, dim ond i’r adeilad ac allan ohono; neu mae’r cais ar gyfer parcio coetsys ar wahân i’r telerau cynllunio sydd eisoes ar waith ar gyfer y ddwy uned fasnachol.

 

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus mai busnes sy’n tyfu ydyw, sy’n dod â ffyniant economaidd i gymuned wledig. Mae’n darparu cyfleoedd gwaith i breswylwyr lleol a gwasanaethau i ysgolion, grwpiau cymunedol ac elusennau. Mae gennym gontractau ysgolion ar hyn o bryd gyda Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych. Felly, i gloi, os na allwn barcio coetsys, ni allwn weithredu.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Yr oedd y Cynghorydd Terry Mendies (aelod lleol) yn cefnogi’r cais yn llwyr. Mae’n gais syml – ar gyfer parcio tair coets mewn iard mewn lleoliad gwledig – a dylem fod yn annog mentrau busnes bach.

 

Fodd bynnag, cynigiodd y Cynghorydd Mendies ddiwygiad i’r cais, sef bod yr oriau bron yn cadw at amseroedd defnyddio’r iard ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, yr oriau yw 8.00am tan 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener; 8.00am tan 1.00pm ar ddydd Sadwrn; ac ni chaniateir unrhyw weithgarwch ar ddydd Sul na gwyliau cyhoeddus. Dywedodd y Cynghorydd Mendies hefyd nad oedd yn cefnogi’r cynnig ar gyfer mynediad 24/7 i’r safle.

 

Ar ôl siarad â’r preswylwyr, a chan ystyried bod y coetsys y cyfeirir atynt yn y cais hwn yn cael eu defnyddio ar gyfer mynd â phlant i’r ysgol, byddai’n briodol diwygio’r oriau i ddechrau am 7.30am, a chadw at y cyfyngiadau presennol, sef 6.00pm.

 

Mae’r iard hon yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a byddai’n annerbyniol cael coetsys yn mynd a dod drwy’r amser.

 

Amlygodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 41/2024/0115/PF THE WARREN, BODFARI pdf eicon PDF 171 KB

Ystyried cais i godi annedd menter wledig, gosod tanc septig a gwaith cysylltiedig yn The Warren, Bodfari (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i gael codi annedd menter wledig, gosod tanc septig, a gwaith cysylltiedig yn The Warren, Bodfari, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Rod Waterfield (o blaid) – Diolchodd y siaradwr cyhoeddus i’r pwyllgor am gael siarad. Yr oedd y cais ar gyfer annedd menter wledig, ac nid annedd amaethyddol. Mae’r safle yn 50 erw o dir yn Nyffryn Chwiler y tu allan i Fodfari; y mae’n eiddo i ymddiriedolaeth deuluol, ac wedi ei neilltuo er budd amgylcheddol, cymdeithasol a chymunedol am y 125 mlynedd nesaf. Rhannwyd y tir i ddau floc. Mae un yn 40 erw o goetir sydd â mynediad cyhoeddus caniataol iddo, mae’n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, ac wedi ei neilltuo at ddefnydd cymdeithasol, amgylcheddol a chyhoeddus. Mae’r bloc arall yn 10 erw ac ym mhen uchaf y safle, ac yr oedd nifer o sefydliadau’n defnyddio’r bloc hwnnw. Defnyddid amrywiol beiriannau i ymgymryd â phethau fel gwaith contractio amgylcheddol, rheoli canolfan sgiliau coetir – y fwyaf yng Nghymru, mae’n debyg – ac yr oeddynt hefyd yn cynnal cyrsiau crefftau traddodiadol. Cynhelid tua saith deg o gyrsiau bob blwyddyn.

 

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus fod llawer o sefydliadau a chyrff yn defnyddio’r safle ar gyfer nifer o ddigwyddiadau. Yr oedd safle carafanau bach a 14 o randiroedd yn cael eu gosod; yr oedd y ddwy nodwedd yn agored drwy gydol y flwyddyn. 

 

Yr oedd yna hefyd dri thwnnel polythen ac uned fach gydag ieir a moch ar y safle; yr oedd planhigion blodau gwylltion ar gyfer tîm bioamrywiaeth y Cyngor hefyd yn cael eu tyfu. Yr oedd y ddau beth hwn yn darparu cyfleoedd gwaith. Yr oedd yna weithdy hefyd lle gwneid eitemau ar gyfer y gymuned leol a grwpiau amgylcheddol – yr Ymddiriedolaeth Natur yn bennaf, a sefydliadau achub a sefydliadau amrywiol eraill hefyd. 

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Caniataodd y Cadeirydd i’r swyddogion dynnu sylw at bwyntiau allweddol yr adroddiad cyn caniatáu i’r aelodau lleol drafod y cais. Dywedodd y swyddogion fod y prif reswm dros wrthod y cais yn ymwneud â Nodyn Cyngor Technegol 6, sef “mae yna angen swyddogaethol dilys clir”. Teimlai swyddogion o’r manylion a rannwyd gan yr ymgeisydd nad oedd angen swyddogaethol oherwydd nid oedd angen i rywun fod yn bresennol ar y safle am 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Felly, teimlai’r swyddogion nad oedd y cais, yn y bôn, yn pasio profion Nodyn Cyngor Technegol 6.

 

Heriodd y Cynghorydd Chris Evans (aelod lleol) argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais. Dadleuodd fod yr holl safle’n fendith i’r gymuned ac yn cynorthwyo’r rhai mwyaf diamddiffyn, a bod angen ei gynnal. Dadleuodd fod angen presenoldeb ar y safle oherwydd pryderon ynglŷn â diogelwch, gan fod sawl eitem o offer drud yno, a byddai cael rhywun ar y safle’n atal camweddau rhag digwydd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Chris Evans y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Byddai’r rhesymau’n cael eu nodi cyn y bleidlais.

 

Ymatebodd y swyddogion i’r pwynt ynglŷn â diogelwch, gan gyfeirio at Nodyn Cyngor Technegol 6. Byddai’n rhaid i’r aelodau fod yn fodlon nad oes unrhyw ddewis arall parthed diogelwch ar y safle.

 

Yr oedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn cefnogi’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Evans; dywedodd fod pawb sy’n defnyddio’r safle’n canmol y cyfleuster a phopeth a gynigir ar y safle. Holodd y Cynghorydd Parry a oedd rhesymau lluosog wedi eu nodi i ddangos bod angen sylfaenol am godi annedd menter wledig; dywedodd swyddogion y byddai’n beth da eu rhestru os oedd, er mwyn cyfiawnhau mynd yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

Cynigiodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD ER GWYBODAETH - CRYNODEB O BENDERFYNIAD APÊL KYNSAL HOUSE (45/2021/0516) pdf eicon PDF 285 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth i’r aelodau – Crynodeb o Benderfyniad Apêl Kynsal House (45/2021/0516).

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Cynllunio’n nodi adroddiad Crynodeb o Benderfyniad Apêl Kynsal House (45/2021/0516).