Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Chris Evans, Merfyn
Parry ac Elfed Williams. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd James Elson gysylltiad personol yn
eitem rhif 5 ar y rhaglen gan fod ei lysfab wedi gweithio i Jones Brothers. Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis gysylltiad personol
yn eitem rhif 6 ar y rhaglen gan fod ei chŵn yn mynd i’r lleoliad gofal
dydd ar safle’r cais. Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad
personol yn eitem 6 ar y rhaglen gan fod merch yr ymgeisydd yn yr un dosbarth
â’i ferch yn yr ysgol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Mehefin
2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2024. Felly: PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2024 fel cofnod cywir. CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y
Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth
atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi’r
rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn bodloni ceisiadau i
siarad gan y cyhoedd, cytunwyd i amrywio trefn ceisiadau ar y rhaglen yn unol â
hynny. |
|
CAIS RHIF 19/2022/0783/ PC - TYN Y MYNYDD, LLANELIDAN, RHUTHUN, LL15 2LG PDF 100 KB Ystyried cais ar
gyfer newid defnydd adeilad a thir amaethyddol i gyfleuster gofal dydd a
phreswyl ar gyfer cŵn, adeiladu swyddfa safle, gosod carthbwll a gwaith
cysylltiedig (cais ôl-weithredol) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer newid defnydd adeilad
a thir amaethyddol i gyfleuster gofal dydd a phreswyl ar gyfer cŵn,
adeiladu swyddfa safle, gosod carthbwll a gwaith cysylltiedig (cais
ôl-weithredol). Siaradwr Cyhoeddus – Huw Edwards
(O blaid) roedd angen mawr am y cyfleuster hwn yn lleol. Gweithredwyd eisoes ar
argymhellion gan Swyddogion a dilynwyd canllawiau megis ychwanegu insiwleiddiad
wal graig mewn mannau a oedd yn debygol o adleisio sŵn. Roedd newidiadau o
fewn y Cynllun Busnes a Rheolaeth hefyd wedi'u rhoi ar waith mewn perthynas â
lliniaru sŵn. Roedd hyn yn amrywio o waith sgrinio ychwanegol am lefydd yn
cau a mwy o ymwybyddiaeth ymysg staff. Roedd y busnes yn fusnes teuluol ac yn
cyflogi tri aelod o staff llawn amser a nifer o staff rhan amser pan oedd
angen, yn ogystal â bod yn gefnogwr brwd o Gynllun Dechrau Gweithio Sir
Ddinbych. Roedd y busnes hefyd yn darparu ar gyfer unigolion ag Anghenion
Addysgol Arbennig. Ar hyn o bryd roedd mil o gŵn wedi'u
cofrestru o dan y busnes gofal dydd a llety i gŵn, gyda llawer o
gwsmeriaid yn dibynnu'n helaeth ar y gwasanaeth a ddarperir. Roedd llawer o fanteision i’r cŵn
ddefnyddio’r cyfleuster, gan gynnwys ymarfer corff a chymdeithasu. Caiff yr
holl gŵn eu sgrinio cyn cael dod yno, ac ni chaniateir cŵn ymosodol. Trafodaeth Gyffredinol – Croesawodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Hugh
Evans y wybodaeth fanwl am gefndir y busnes o fewn y cais. Roedd y
gwrthwynebiadau blaenorol i'r cais wedi cael sylw ac roedd yn llwyr gefnogi'r
cais. Gofynnodd y Cynghorydd Andrea Tomlin am
eglurhâd ar yr elfen ôl-weithredol o'r cais. Holodd a oedd yr elfen
ôl-weithredol wedi ffafrio'r ymgeisydd a'r trigolion, gyda mwy o sieciau a
balansau yn cael eu gwneud na phe bai'n gais gwreiddiol. Eglurodd y Rheolwr
Datblygu fod y mater hwn yn cael ei godi'n aml pan oedd pobl yn cyflwyno
ceisiadau ôl-weithredol. Nid oedd unrhyw beth mewn deddfwriaeth na chyfraith
cynllunio a oedd yn nodi bod ceisiadau ôl-weithredol yn anghyfreithlon. Bu
sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch newid y
ddeddfwriaeth o ran ffioedd cynllunio a’u cynyddu. Gall hyn fod yn rhwystr i
ymgeiswyr a'u hannog i fynd drwy'r broses ceisiadau cynllunio sydd eisoes ar
waith. Byddai swyddogion yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau pe bai’r
ddeddfwriaeth yn newid. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y
swyddog, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Alan James. Pleidlais – O blaid – 16 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD: y dylid
CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
CAIS RHIF 40/2023/0627/ PF - TIR YM MRYN MORFA, BODELWYDDAN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer dymchwel annedd ac adeiladu 31 o anheddau fforddiadwy newydd gan gynnwys
mynediad newydd i gerbydau, ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer dymchwel annedd ac
adeiladu 31 o anheddau fforddiadwy newydd gan gynnwys mynediad newydd i
gerbydau, ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig. Siaradwr Cyhoeddus – Saul Page
(yn erbyn) yn byw ar y stryd am 7 mlynedd roedd llawer o bryderon am y cais
oedd wedi ei gyflwyno ar gyfer y tir gwyrdd ger yr ardal breswyl
bresennol. Roedd y gwrthwynebiadau yn erbyn y cais fel a
ganlyn – · Colli tir
gwyrdd. · Roedd
posibilrwydd i brisiau tai ostwng gan na fyddai'r stryd bellach yn ffordd
bengaead. · Roedd difrod i
gerbydau yn bryder gyda'r cynnydd mewn traffig oherwydd y stryd gul. · Pryderon
ynglŷn â diogelwch plant yn chwarae tu allan gan y byddai'r stryd yn dod
yn ffordd drwodd i'r datblygiad newydd, gyda chynnydd mewn cerbydau adeiladu yn
ystod y gwaith. · Plant yn cael
eu gorfodi i chwarae y tu mewn, gan gyfyngu ar fynediad i’r awyr agored. I gloi,
roedd y Pwyllgor yn awyddus i ymweld â'r safle i weld sut y byddai'r mewnlifiad
traffig yn effeithio ar y stryd gul cyn gwneud penderfyniad ar y datblygiad. Siaradwr Cyhoeddus – Endaf
Roberts (o blaid) - mae angen tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych ac roedd yr angen
presennol sydd heb ei ddiwallu yn arwain at drigolion yn byw mewn gwestai. Byddai’r cais hwn yn cyfrannu at ddarparu
cartrefi fforddiadwy yn Sir Ddinbych. Roedd y safle mewn ardal hynod gynaliadwy
ym Modelwyddan, gyda chysylltiadau cludiant cyhoeddus. Roedd y safle ar hyn o
bryd mewn perchnogaeth breifat heb unrhyw fynediad cyhoeddus. Roedd yr
aneddiadau yn y cynnig yn amrywio o eiddo 1 ystafell wely i gartrefi teuluol
mwy, a fyddai’n diwallu’r angen yn uniongyrchol. Roedd yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth
ychwanegol ar faterion tir amaethyddol, priffyrdd a gofynion ecolegol. Nodwyd bod materion priffyrdd wedi eu hamlygu
fel pryder ac atgoffwyd yr aelodau na wrthodwyd cynllun marchnata tebyg ar yr
un safle lle disgwylir i berchenogaeth ceir fod yn llawer uwch na'r cynnig hwn
ar sail priffyrdd. Roedd y safle mewn lleoliad cynaliadwy ac yn
darparu mathau a chymysgedd o dai yr oedd dirfawr eu hangen yn yr ardal. Gofynnwyd yn garedig am ganiatâd cynllunio
i'r cais er mwyn gallu mynd i'r afael â rhan o'r argyfwng tai yn yr ardal. Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Raj
Metri ei fod yn deall pryderon y trigolion ond bod y boblogaeth yn cynyddu a'r
angen am dai yn cynyddu. Gofynnodd y Cadeirydd am wybodaeth gan
swyddogion ar y mater bod y cais y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
a’r rheswm y derbyniwyd y cais i ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio, yn ogystal
â’r pryderon a godwyd am y briffordd. Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd y
safle yn y CDLl a’i fod y tu allan i ffin y datblygiad. O fewn y CDLl
mabwysiedig roedd polisi eithriadau (polisi BSC8) a oedd yn caniatáu ar gyfer
anheddau y tu allan i ffin y CDLl pe bai'r cais yn amlygu'r angen am dai
fforddiadwy. Ni allai 55% o aelwydydd yn ardal Bodelwyddan fforddio rhentu na
phrynu eiddo ac am y rhesymau hyn argymhellodd swyddogion ganiatáu'r cais. Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Rheoli Datblygiadau, Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd wrth y Pwyllgor fod y cynnig ar gyfer 31 o unedau preswyl ac y byddai mynediad uniongyrchol i'r safle o ffordd bengaead Bryn Morfa a oedd yn gwasanaethu tua 40 o eiddo preswyl ar hyn o bryd. Mae stryd Bryn Morfa oddeutu 6m o led, gyda llwybrau troed ar y ddwy ochr yn cwrdd â Ronalds Way ar gyffordd a reolir yn ôl blaenoriaeth. Mae datganiad cludiant wedi’i gynnwys gyda'r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAIS RHIF 46/2023/0719/ PF - PARC BUSNES NEW VISION, FFORDD GLASCOED, LLANELWY, LL17 0LP PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer adeiladu 2 uned fasnachol (Dosbarth Defnydd D1) gan gynnwys creu llefydd
parcio, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig (diwygiad i’r defnydd B1 a
gymeradwywyd yn flaenorol) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 2 uned fasnachol gan
gynnwys creu maes parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig. Siaradwr Cyhoeddus - Steve Grimster
(o blaid) fel y dogfennwyd gan
Swyddogion, roedd y tir dan sylw wedi'i neilltuo ers tro ar gyfer defnydd
swyddfa B1 yn y CDLl, gan ffurfio rhan o Barc Busnes Llanelwy. Sicrhaodd y tir
ganiatâd cynllunio am y tro cyntaf ar gyfer defnydd swyddfa yn 2006, a gafodd
ei ymestyn wedi hynny. Er bod rhywfaint o ofod swyddfa wedi'i ddarparu ar y tir cyfagos, nid oedd
yr ymgeisydd wedi gallu dod o hyd i ddeiliad ar gyfer gweddill ei ddatblygiad,
a elwir yn Barc Busnes New Vision. Gwnaed popeth posibl i wneud iddo lwyddo.
Roedd pandemig covid wedi lleihau'r galw am ofod swyddfa ymhellach, oherwydd
mwy o weithio hyblyg. 18 mlynedd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio cyntaf ar y safle, daeth
defnyddiwr at yr ymgeisydd, a oedd yn ceisio cyfleuster newydd, modern a
phwrpasol yn benodol yn Llanelwy, i ddarparu triniaethau clinigol, meddygol a
chosmetig fel defnydd D1. I’r perwyl hwn, rhoddwyd y sylwadau a ganlyn: ·
Derbyniodd y Cyngor fod y tir dan sylw wedi’i farchnata’n briodol, ac nad
oedd unrhyw ddiddordeb yn y tir ar gyfer y defnydd a ganiatawyd. ·
Roedd y CDLl a’r polisïau sydd ynddo bellach wedi dod i ben, yn cwmpasu’r
cyfnod hyd at 2021. Fodd bynnag, yn absenoldeb CDLl Newydd, maent yn parhau i
fod yn sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, yn cynnig hyblygrwydd cyfyngedig i
ddefnyddiau amgen gael eu hystyried ar y safle pan oedd yn amlwg nad oedd
unrhyw alw am y defnydd B1 a neilltuwyd. Gallai'r dull hwn arwain at y
buddsoddiad arfaethedig a 30-50 o swyddi'n mynd y tu allan i'r Sir; ·
Gofynnodd yr ymgeisydd am farn bragmatig wrth ystyried argaeledd tir ac
adeiladau eraill. Mae’r defnyddiwr terfynol eisiau bod yn Sir Ddinbych, yn agos
at Ysbyty Glan Clwyd i gefnogi gwasanaethau’r GIG, a’r rhwydwaith priffyrdd i
wasanaethu trigolion y Sir. Nid oeddent am fod yn Sir y Fflint na Chonwy;
ystyriwyd bod asesiad o'r tir a'r adeiladau sydd ar gael yn y Siroedd hynny yn
ormodol ac y gallai unwaith eto lywio buddsoddiad y tu allan i Sir Ddinbych; ·
Ar y mater hwn, 'roedd yr ymgeisydd yn ymwybodol nad oedd y Cyngor wedi
cymhwyso ystyriaethau prawf dilyniannol wrth ganiatáu cais ôl-weithredol i
newid defnydd o B1 i D1 ym Mharc Busnes Rhuthun ym mis Ionawr. Nid yw'n glir
pam bod dull gwahanol o ymdrin â'r prawf dilyniannol bellach yn cael ei roi ar
waith. Fodd bynnag, mae'n dangos y gall
defnyddiau B1 a D1 fodoli gyda’i gilydd ar Barc Busnes; ·
O ran hygyrchedd, derbyniwyd y byddai rhywfaint o ddibyniaeth ar y maes
parcio preifat. Nid oedd hynny’n wahanol i’r defnydd B1 a ganiatawyd. O ran
lleoliad, y safle oedd yr agosaf at Lanelwy, dim ond milltir o'r terfynau
datblygu. Roedd gwasanaeth bws bob awr, a byddai ymwelwyr yn gallu aros y tu
mewn i'r adeilad cyn dychwelyd i'w cyrchfan. Ar gyfer y defnyddiwr terfynol,
roedd angen cael cydbwysedd rhwng agosrwydd at Lanelwy, yr Ysbyty a'r A55. Byddai’r pecyn o
fanteision economaidd, cymdeithasol ac iechyd a gynigir yn sylweddol, heb
unrhyw effeithiau amgylcheddol annerbyniol. Nid oedd unrhyw seiliau technegol
dros wrthod. Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Peter Scott, bod y cais hwn yn gyfle gwych i ddod â 30-50 o swyddi proffesiynol i'r ardal a darparu gwasanaeth deintyddiaeth y mae mawr ei angen. Roedd Llwybr Teithio Llesol newydd yn cael ei ddatblygu ar Green Gates East a Green Gates West, a fyddai’n cysylltu safle’r Parc Busnes â Llanelwy. Teimlai y byddai’r cais hwn yn ased i ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS RHIF 01/2020/0315/ PF - HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU PDF 177 KB Ystyried cais am drosi ac adnewyddu,
dymchwel yn rhannol ac addasu'r prif adeiladau rhestredig at ddefnydd preswyl
(34 annedd); dymchwel cartref nyrsys, marwdy, ward ynysu, Ward Aled a’r hen
waith nwy; datblygu tir o fewn libart yr ysbyty at ddefnydd cymysg i alluogi
datblygu, yn cynnwys hyd at 300 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o
unedau busnes (yn cynnwys cymysgedd o ddefnydd A1, A2, A3, B1, C1, C2, C3, D1 a
D2); lleoli Clwb Criced Dinbych ac adeiladu mynediad a gwneud y gwaith draenio
a gwaith arall cysylltiedig (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer newid, adfer,
dymchwel yn rhannol ac addasu prif ystod yr adeiladau rhestredig i ddefnydd
preswyl (34 annedd); dymchwel Cartrefi Nyrsys, Marwdy, ward ynysu, Ward Aled a
hen adeilad gwaith nwy; a datblygu tir o fewn safle’r ysbyty ar gyfer defnydd
cymysg i alluogi datblygiad, gan gynnwys hyd at 300 o unedau preswyl a hyd at
1114 metr sgwâr o unedau busnes; lleoli Clwb Criced Dinbych; ac adeiladu
mynedfa, system ddraenio a gwaith cysylltiedig. Cyfeiriodd y Cadeirydd yr aelodau at
nodiadau’r swyddogion yn y papurau ategol. Rhoddodd y Rheolwr Datblygu gefndir byr i'r cais i'r
Pwyllgor. Cyflwynwyd a thrafodwyd y cais cynllunio’n wreiddiol gan
Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych ddydd Mercher 8 Medi 2021. Rhoddwyd
caniatâd cynllunio yn amodol ar ddychwelyd manylion y cytundeb cyfreithiol ac
amodau cynllunio i’r Pwyllgor Cynllunio i benderfynu arnynt ymhellach. Byddai'r
Aelodau'n ymwybodol bod hwn yn brosiect mawr i Ddinbych a Sir Ddinbych. Roedd y
safle yn cynnwys adeilad rhestredig o bwysigrwydd cenedlaethol, a bwriedir
adfer a throsi'r adeilad hwn fel rhan o'r cynnig. Roedd y Prosiect yn cynnwys
galluogi datblygiadau sy'n ymwneud ag adeiladu tai o fewn y tir, er mwyn
cefnogi gwaith adfer ac addasu'r prif adeilad rhestredig. Roedd angen cynhyrchu
swm sylweddol o arian y Sector Cyhoeddus er mwyn gwneud y prosiect yn hyfyw, a
chyllid oedd un o’r prif resymau dros yr oedi ers mis Medi 2021. Roedd llawer o
reolaethau deddfwriaethol yr oedd angen eu hystyried, a oedd yn cynnwys
sgyrsiau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ecolegydd y Sir a’r Tîm Priffyrdd,
er mwyn sicrhau y gellid cyflawni’r prosiect ac ystyried amser a’r effeithiau
ar Ddinbych a’r ardaloedd cyfagos. Yn olaf, gydag unrhyw gytundeb cynllunio cyfreithiol,
roedd angen cytundeb rhwng y datblygwr a'r awdurdod. Teimlai swyddogion bod y
lefel hon o gytundeb wedi'i chyflawni a'u bod yn hyderus gyda’r manylion o ran
amser a chyflawniad, a oedd yn gwneud y cynllun yn ymarferol. Trafodaeth Gyffredinol – Diolchodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Delyth Jones i'r
swyddogion am eu gwaith ar y cais hwn ar gytundeb Adran 106. Gan gyfeirio at
ohirio’r eitem o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai 2024, gofynnwyd a
oedd yr Adran Gyfreithiol yn fodlon â’r amodau sydd bellach wedi’u cynnwys yn y
cais. Cyfeiriwyd at elfennau Bioamrywiaeth a Chadwraeth y cais, ac amlygwyd eu
bod yn hollbwysig i lwyddiant a chyflawniad y prosiect hwn. Gofynnwyd am eglurder ynghylch cadw adeilad
Ward Aled yn ystod y cyfnod adeiladu. Codwyd cwestiynau ynghylch pwy fyddai'n
gyfrifol am y safle a chodwyd pryderon hefyd ynghylch y cyllid sydd ar gael.
Gofynnwyd am eglurhad ar gludiant a llwybrau Teithio Llesol i'r safle. Eglurodd y Rheolwr Datblygu sut y byddai Ecoleg a
Bioamrywiaeth yn cael ei reoli ar y safle, a’u bod yn rhai o’r problemau mwyaf
oedd yn wynebu'r prosiect. Roedd gwaith agos yn parhau gyda CNC ynghylch y
broses drwyddedu gan ystyried y cyfrannau lliniaru arfaethedig a nodir yn y
cynigion. Cynnig y datblygwr ar hyn o bryd oedd dymchwel Ward Aled,
ond oherwydd bod y datblygiad hwn wedi cymryd 10 - 15 mlynedd i'w gwblhau,
cafodd Ward Aled ei gynnwys yng nghyfnodau'r prosiect er mwyn caniatáu pob
cyfle iddi gael ei chadw. Roedd CNC yn awyddus i gael awdurdod cyfrifol (CSDd) i
ofalu am y safle a’i reoli, ac roedd trafodaethau manwl wedi’u cynnal gyda’r
Gwasanaethau Cefn Gwlad ynghylch sut y gellid rhoi hyn ar waith. Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd fod gan Sir Ddinbych y cyllid i gynorthwyo gyda rhai addasiadau priffyrdd oddi ar y safle. Fodd bynnag, roedd angen ei wario erbyn diwedd mis Rhagfyr 2024. Mewn perthynas â goblygiadau ... view the full Cofnodion text for item 8. |