Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr Y Cyngor, Neuadd Y Sir, Ruthun A Thrwy Gynhadledd Fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr Delyth Jones a Cheryl Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn datgan cysylltiad
personol yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan ei fod yn aelod o fwrdd pwyllgor
Menter Iaith. Roedd y Cynghorydd Mark Young yn datgan cysylltiad
personol yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan ei fod yn aelod o’r elusennau y
soniwyd amdanynt o fewn y cais, fodd bynnag, nid oedd yn aelod o’r bwrdd
eiddo. Roedd y Cynghorydd Chris Evans yn datgan cysylltiad
personol yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan ei fod yn aelod o’r elusennau y
soniwyd amdanynt o fewn y cais, fodd bynnag, nid oedd yn aelod o’r bwrdd yn yr elusen. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
Cadarnhau cywirdeb
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21
Chwefror 2024. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 fel cofnod
gwir a chywir o’r gweithrediadau. |
|
CAIS RHIF. 01/2023/0715 - GWEITHDY'R GORON (Y FARCHNAD FENYN GYNT), LON Y GORON, DINBYCH PDF 79 KB Ystyried cais ar gyfer newidiadau ac ad daliadau i do, gan gynnwys tynnu a gwneud iawn o olau awyr presennol, gosod ffenestri to, paneli solar ffotofoltaidd a gwaith cysylltiedig yng Ngweithdy'r Goron (Y Farchnad Fenyn gynt), Lôn y Goron, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei gyflwyno ar
gyfer Addasiadau ac atgyweiriadau i’r to, gan gynnwys tynnu ac atgyweirio’r
ffenestr do presennol, gosod goleuadau yn y to, paneli solar ffotofoltäig a gwaith cysylltiol yng Ngweithdy’r Goron
(Marchnad Fenyn gynt), Lôn Crown, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - diolchodd
Paul Moore (o blaid) i’r pwyllgor am y cyfle i siarad i gefnogi’r cais ar gyfer
y Farchnad Fenyn yn Ninbych. Eglurodd y
siaradwr cyhoeddus na fyddent yn trafod yr agweddau technegol o’r cais a
deddfwriaeth, gan fod hyn wedi ei gyflwyno eisoes; byddent yn canolbwyntio ar
bwysigrwydd yr adeilad hwn i’r gymuned.
Ar ôl bod yn wag ac mewn cyflwr gwael ers bron i saith mlynedd, y
gobaith oedd i’w weld yn cael ei adfywio.
Gweledigaeth yr ymgeisydd oedd i greu canolfan dreftadaeth a diwylliant
iechyd meddwl, a weithredir gan y trydydd sector ac elusennau, a fyddai’n
darparu gwasanaethau hanfodol i bobl Sir Ddinbych. Oherwydd yr hinsawdd ariannol
presennol, roedd yn hynod heriol i ddarparu unrhyw wasanaeth, yn arbennig ar
gyfer y trydydd sector, a oedd yn wynebu toriadau parhaus a phenderfyniadau
anodd yn ddyddiol. Y nod oedd i leihau gorbenion gweithredol a chanolbwyntio ar gyflawni canlyniadau.
Er enghraifft, roedd y datblygiad yn anelu i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl
oedd wir ei angen ar gyfer o leiaf pump diwrnod yr wythnos, ynghyd â chyfleoedd
gwirfoddoli. Roedd yr ymgeisydd hefyd yn dyheu i ddatblygu’r gwasanaethau a bod
yn achrededig tra’n hybu ein diwylliant gyda’r Fenter Iaith. Roedd y siaradwr cyhoeddus yn
cydnabod bod Sir Ddinbych wedi cefnogi eu gweledigaeth yn fawr ac roeddent yn
ddiolchgar am yr arian oedd ar gael drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedd gan
y Farchnad Fenyn botensial sylweddol i fod yn ganolbwynt cymunedol hanfodol. Trafodaeth Gyffredinol – Caniataodd y Cynghorydd Mark
Young i’r Cynghorydd Arwel Roberts siarad ar ran y Cynghorydd Delyth Jones
(aelod lleol) nad oedd yn gallu bod yn bresennol. “Fel aelod lleol o’r ward ble roedd yr
adeilad wedi’i leoli, roeddwn eisiau rhannu fy marn. Y bwriad yw i ddatblygu’r adeilad, sydd
eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio, i swyddfa, canolfan addysg, amgueddfa a
chyfleuster cymunedol. Mae’r cynllun
hwn yn alinio gydag amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae mewn lleoliad
priodol. Felly, rydw i’n cefnogi’r
prosiect yn llwyr. Nid oes gennyf unrhyw
wrthwynebiad i’r bwriad i gadw’r goleuadau to na’r blwch nythu ar y safle. Mae’n hanfodol i sicrhau bod y deunyddiau to
a ddefnyddir yn briodol i’r safle, fel llechi Cymreig fel y soniwyd yn yr
adroddiad. Er fy mod yn cefnogi’r
prosiect, mae gennyf bryderon ynglŷn ag ychwanegu paneli solar i’r
adeilad. Mae ynni adnewyddadwy yn
hanfodol ar gyfer y dyfodol, ond mae’n bosibl na fydd maint a graddfa’r
lleoliad yn briodol ar gyfer ystod o 40 o baneli. Rwyf yn annog aelodau’r panel i ystyried yr
agwedd hon yn ofalus cyn penderfynu. Gan fod y safle mewn ardal gadwraeth ble
mae adeiladau rhestredig yn amlwg, mae lleoliad a gwelededd unrhyw waith
adeiladu newydd yn ystyriaethau hanfodol.
Mae’r safle arfaethedig, sydd wedi’i leoli mewn lle amlwg a gellir ei
weld o nifer o lwybrau cerdded ledled y dref, gan gynnwys y rhai sy’n arwain at
Gastell Dinbych, angen sylw arbennig. Mae unrhyw ddatblygiad yn yr ardal hon yn gallu bod yn risg o osod cynsail ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, a allai gael effaith andwyol ar ymdrechion cadwraeth. Mae Dinbych yn cynnwys y nifer uchaf o adeiladau rhestredig yng Nghymru, gan ei wneud hyd yn oed yn fwy hanfodol i gadw a diogelu cymeriad unigryw y dref. Mae’r cyllid CFFR mewn perygl os yw’r cynllun bwriedig yn cynnwys paneli solar, a oedd yn fater o ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried cais am Newidiadau a chywiriadau i do, gan gynnwys tynnu a gwneud iawn am olau awyr presennol a gosod goleuadau to a phaneli solar PV (Cais Adeilad Rhestredig) yng Gweithdy'r Goron (Y Farchnad Fenyn Gynt), Lôn Y Goron, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais adeilad rhestredig
ei gyflwyno ar gyfer Addasiadau ac atgyweiriadau i’r to, gan gynnwys tynnu ac
atgyweirio’r ffenestr do presennol, gosod goleuadau yn y to, paneli solar ffotofoltäig a gwaith cysylltiol yng Ngweithdy’r Goron
(Marchnad Fenyn gynt), Lôn Crown, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - diolchodd
Paul Moore (o blaid) i’r cadeirydd am ganiatau iddo
annerch y pwyllgor, gan ychwanegu at yr hyn gafodd ei ddweud yn flaenorol;
roedd y cais yn anelu i gefnogi ailddatblygu’r adeilad, y nod i’w addasu i
safonau modern a’i wneud yn fwy ymarferol tra hefyd yn amlygu ei botensial ar
gyfer y dyfodol. Roedd yr ymgeisydd
eisiau sicrhau y gellir defnyddio’r adeilad am amser maith drwy weithredu
effeithlonrwydd priodol. Cynigydd - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo’r
cais yn groes i argymhellion y swyddogion, gydag amodau’n cael eu trafod gydag
aelodau lleol os caniateir, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Elfed Williams. Cyn i’r bleidlais gael ei
chynnal, gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis pa un a roddwyd unrhyw ystyriaeth
i’r ffaith bod yr adeilad yn adeilad rhestredig yn ystod y drafodaeth; hefyd,
gofynnodd pa un a fyddai’n cael pleidleisio ar y cais, er ei bod wedi methu’r
drafodaeth flaenorol, roedd wedi bod yn bresennol o’r dechrau ar yr un yma. Eglurodd swyddogion y rhoddwyd
ystyriaeth yn ystod y drafodaeth flaenorol i statws adeilad rhestredig yr
adeilad. Penderfynodd y Cynghorydd
Ellis i beidio pleidleisio. PLEIDLAIS – O blaid – 17 Yn erbyn – 1 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhelliad
y swyddog. |
|
CAIS RHIF. 09-2023-0669 - HAFOD Y PARC, BODFARI, DINBYCH PDF 78 KB Ystyried cais i ddymchwel yr
adeilad storio presennol, a throsi sied fuwch bresennol
i ffurfio un annedd, gan gynnwys
codi estyniadau un llawr, ffurfio parcio, gosod offer trin pecyn, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Hafod y Parc, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei gyflwyno ar
gyfer dymchwel adeilad storio presennol, a thrawsnewid sied wartheg bresennol i
ffurfio un annedd, gan gynnwys adeiladu estyniadau un llawr, creu lle parcio,
gosod offer trin pecyn, tirlunio a gwaith cysylltiol mewn Adeiladau Allanol yn
Hafod y Parc, Bodfari, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - Diolchodd Gethin Jones (asiant) (O blaid) i’r pwyllgor am
gael siarad. Eglurodd y byddai’n
cyflwyno cynnig ar ran ymgynghorwyr Jones Planning, oedd yn cynrychioli’r
ymgeiswyr oedd â gwreiddiau dwfn yn Hafod Park. Roedd yr ymgeiswyr yn
gwasanaethu Heddlu Gogledd Cymru ar hyn o bryd ac yn gyn heddwas gyda Heddlu
Gogledd Cymru, nawr yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn dymuno adleoli
i Aberchwiler oherwydd eu cysylltiadau teulu cryf â’r ardal. Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau ariannol wedi
gwneud adleoli yn anymarferol iddyn nhw.
Mae’r heriau economaidd hefyd yn cyfyngu ar allu cymunedau lleol i
groesawu teuluoedd ifanc bywiog fel nhw, sydd â chysylltiadau teulu cryf â’r
ardal. Roedd y safle bwriedig wedi’i leoli yng ngogledd ddwyrain Aberchwiler ac
roedd yn rhan o Ystâd hanesyddol Grove Hall. Roedd y safle yn arfer bod yn
gartref i’r porthdy, oedd wedi’i adleoli i’r diwedd ar ddechrau’r 1900au. Mae’r safle yn cynnwys adeilad
a elwir yn lleol yn Sied Wartheg, sydd yn cael ei gydnabod gan CPAP fel adeilad
o ddiddordeb arbennig. Roedd yr adeilad
storio cyfagos yn arfer bod yn strwythur dal dŵr caeedig, fel y gwelir
mewn lluniau hanesyddol o’r 1970au.
Roedd y cais yn bwriadu trawsnewid y safle i lety preswyl gyda dull
sensitif a ystyriwyd yn drwyadl. Roedd
y cynnig yn alinio gyda’r paramedrau presennol ac roedd wedi derbyn llawer o
gefnogaeth gan y gymuned leol, gan gynnwys 17 llythyr o gefnogaeth a
chymeradwyaeth gan y cyngor cymuned lleol. Roedd y datblygiad arfaethedig yn anelu i wella’r ardal a darparu preswylfa
i gwpl ifanc â’u gwreiddiau’n ddwfn yn y gymuned. Fodd bynnag, roedd cyflwr presennol y
lleoliad, gan gynnwys y sied wartheg oedd yn dirywio ac adeiladau storio
anhrefnus yn tynnu oddi ar apêl weledol cyffredinol yr AHNE. Er gwaethaf hyn, roedd y golygfeydd dros
Glawdd Offa yn darparu safbwynt sy’n amlygu pwysigrwydd cydbwysedd y datblygiad
bwriedig gyda maint amaethyddol sy’n cyd-fynd â’r
ardal gyfagos. Er nad yw’r cynnig o
bosibl yn cwrdd â phwynt trawsnewid sy’n ofynnol ym Mholisi HEG 4, mae
arwyddocâd hanesyddol ac amaethyddol y sied wartheg yn cyflwyno achos cymhellol ar gyfer ei hailddefnyddio. Mae’r ymgeisydd yn
credu ei bod yn bwysig cydbwyso polisi a chadwraeth treftadaeth ac mae wedi
gofyn i’r aelodau ystyried y cydbwysedd hwn yn eu proses gwneud penderfyniad yn
ofalus. Trafodaeth Gyffredinol – Cynghorydd Merfyn Parry (aelod
lleol) - hysbysodd y pwyllgor y dylent fod wedi derbyn dogfennaeth hwyr gyda
lluniau yn ymwneud â’r safle a mynegodd ei rwystredigaeth gyda’r diffyg lluniau
ar gael yn ystod cyfarfod y pwyllgor, fel y bu’n flaenorol a chodwyd hynny o
fewn y cais gan y Cynghorydd Parry, roedd y sied wartheg wedi’i lleoli yng
nghwrtil Fferm Grove Hall. Y cynnig oedd
i’w newid i annedd, a fyddai nid yn unig yn cadw’r deunydd hanesyddol ond hefyd
yn gwella’r tirlun treftadaeth leol. Roedd y cyngor cymuned yn ffafrio’r cynnig
hwn ac ni fu unrhyw wrthwynebiad. Roedd
Grove Hall yn glwb yn y 50au ac yn fferm hyd at y 70au. Fodd bynnag, mae’r adeiladau i gyd bellach
yn dai, fflatiau a fflatiau aml-lawr preswyl. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid
cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, ac fe eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Huw Hildtich-Roberts. Roedd y pwyllgor yn trafod manteision cynnwys amodau ar y defnydd o ddeunyddiau ar y datblygiad; ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS RHIF. 14-2023-0371 - TIR YN LLYS HEULOG, CYFFYLLIOG PDF 79 KB Ystyried cais i godi 7
annedd gan gynnwys mynediad, ffyrdd ystadau mewnol, tirlunio a gwaith
cysylltiedig yn Nhir yn Llys Heulog, Cyffylliog, Rhuthun (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer
adeiladu 7 annedd gan gynnwys mynediad, ffyrdd ystâd mewnol, tirlunio a gwaith
cysylltiol ar dir yn Llys Heulog, Cyffylliog, Rhuthun. Diolchodd y Cynghorydd Elfed
Williams (aelod lleol) i’r cadeirydd am y cyfle i siarad; gofynnodd a oedd y
cais wedi cael ei drafod yn flaenorol; fodd bynnag, roedd eisiau gwybod pam bod
y fynedfa yn fater yn flaenorol a heb ei nodi fel pryder nawr. Hefyd, gofynnodd a fyddai paneli solar yn
gallu cael eu cynnwys yn y tai newydd. Eglurodd swyddogion a oedd yn
ymateb nad oedd yna bryderon blaenorol gyda diogelwch y briffordd a mynedfa i’r
safle yn ôl yn 2019 pan oedd y cais yn cael ei ystyried yn wreiddiol. Hysbysodd y swyddogion y
pwyllgor na fyddai yna unedau tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu ar y safle.
Fodd bynnag, byddai yna gyfraniad ariannol drwy swm cymudol a ddefnyddir i
gefnogi darpariaeth tai fforddiadwy yn yr ardal. Byddai’r swm yn cael ei reoli drwy gytundeb
adran 106. Yn yr un modd byddai yna gyfraniad ariannol tuag at fan agored,
roedd y swm yn cael ei gyfrif yn ôl y gyfrifiannell man agored, oedd yn cyfateb
i oddeutu £1200 fesul uned. Cafodd yr
Aelodau hefyd eu sicrhau os na ellir defnyddio’r arian yn yr ardal
uniongyrchol, yna byddai’n mynd i gefnogi’r ardal gyfagos. Roedd y swyddogion hefyd yn
egluro i’r aelodau na allant orfodi’r datblygwyr i osod paneli solar ar yr
unedau. Fodd bynnag, gallent eu hannog
nhw drwy nodyn i’r ymgeisydd. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Elfed Williams y dylid
cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS – O blaid – 19 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais cynllunio yn unol ag
argymhelliad y swyddog, gydag amod ychwanegol i gynnwys y manylion mynediad. |