Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau i ddatgan
cysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn
y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Alan James
gysylltiad personol yn eitem rhif 9
(Roger W Jones Ltd) gan fod ganddo gyfrif adeiladwyr gweithredol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 7 Medi 2022 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Medi 2022. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi fel cofnod cywir. |
|
Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y
Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth
atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r
rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r
ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno
sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen. |
|
Ystyried cais i
gymeradwyo cynllun i ffurfio 14 llain ychwanegol ar gyfer carafanau teithiol,
traciau mynediad a llwybrau mewnol, cysylltu â’r tanc septig presennol, plannu,
tirlunio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Carafanau Teithiol Lleweni, Ffordd yr
Wyddgrug, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid y cynllun a
gymeradwywyd i ffurfio 14 llain ychwanegol ar gyfer carafanau teithiol, traciau
mynediad a llwybrau mewnol, cysylltu â’r tanc septig presennol, plannu,
tirlunio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Carafanau Teithiol Lleweni, Parc
Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Rhoddodd Rodney Witter (o blaid) – hanes byr o’r safle a’r cefndir ar gyfer y cais. Cymerodd y perchnogion presennol warchodaeth
dros y tir yn 1989. Roedd y Pwyllgor
Cynllunio wedi bod o gymorth yn y gorffennol a chafwyd caniatâd cynllunio yn yr
1990au i adfer yr adeiladau i’r 17 tŷ gwych yn Lleweni ar hyn o bryd. Dechreuodd y gwaith o adfer yr hen lwyni ac
yn 1990 bu i’r Pwyllgor Cynllunio gymeradwyo 10 carafán i’r ardal
gychwynnol. Yn nes ymlaen, wrth adfer
rhan bellach, unwaith eto bu i’r Pwyllgor Cynllunio gytuno yn unfrydol i
gynyddu i 20 carafán. Yn dilyn pryderon
o ran nifer y symudiadau gan y carafanau ar hyd lôn gul y maes awyr, a oedd ei
angen bob 28 diwrnod, newidiodd y Pwyllgor Cynllunio’r amod a chaniatáu'r
carafanau i aros ond i’w defnyddio am 28 diwrnod ar y tro yn unig, sydd bellach
yn cael ei gofnodi mewn dyddiadur electronig.
Roedd y gwaith o adfer y llwyni bellach wedi'i gwblhau a fyddai’n
galluogi 14 llain ychwanegol ar gyfer carafanau yn yr ardal breifat ac sydd o’r
golwg. Byddai hwn yn encil tawel i’r
gwesteion sy’n gwerthfawrogi atyniadau Dyffryn Clwyd. Mae’r gwesteion yn dod â phŵer gwario
i’r ardal. Gofynnodd Mr Witter i’r
aelodau gefnogi argymhelliad y swyddogion. Trafodaeth Gyffredinol – Darllenodd y Cynghorydd Delyth Jones
ddatganiad ar ran y Cynghorydd Rhys Thomas (Aelod Ward). Roedd gan y Cynghorydd Thomas amheuon
difrifol am gymeradwyo’r cais cynllunio, fodd bynnag, os, drwy ganiatáu’r cais,
y byddai’r safle yn newid o’r hyn a oedd yn bresennol i fod yn safle sy’n cael
ei reoli’n dda, yna byddai’n cefnogi’r cais.
Byddai’n disgwyl i’r amodau cynllunio ar y safle gael eu monitro’n
rheolaidd ac hefyd gorfodi amodau os bo angen.
Byddai hyn yn lliniaru pryderon preswylwyr cyfagos. Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James
os byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais, a ellir gosod amod y byddai’n
sensitif i olau i Safle Awyr Dywyll yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a
bywyd gwyllt y nos. Cadarnhaodd y swyddogion, o ran rheoli
golau ar gyfer yr effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos,
bydd angen amod rhif 5 sy’n gofyn am asesiad goleuadau allanol a goleuadau
mewnol, er budd amddiffyn cadwraeth ystlumod.
Cadarnhawyd y byddai angen amod ychwanegol a oedd yn gofyn i reoli
goleuadau allanol ar y carafanau eu hunain.
Cynnig – Cynigodd
y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y
swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Delyth Jones. PLEIDLAIS - O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 10 pleidlais dros Zoom) – 19 Ymatal – 0 Gwrthod - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog. |
|
CAIS RHIF 10/2021/1173/ PF - TIR YN NANT Y GAU, BRYNEGLWYS, CORWEN, LL21 9LF PDF 80 KB Ystyried cais i
adeiladu annedd ar gyfer gweithwyr amaethyddol, gosod gwaith trin
carthffosiaeth a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nant Y Gau, Bryneglwys, Corwen,
LL21 9LF (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi annedd gweithiwr amaethyddol, gosod peiriant trin carthion
a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nant y Gau, Bryneglwys, Corwen. Siaradwr Cyhoeddus – Arwyn Davies (O blaid) – Roedd Mr Davies yn awyddus i gadw’r fferm deuluol
i fynd ac yn gobeithio bod yn ffermwr o’r bedwaredd genhedlaeth a oedd yn
gweithio’n agos gyda’i rieni ac wedi dysgu’r ffyrdd gorau o ffermio. Rhoddodd
amlinelliad o'r ffermio yr oedd yn ei wneud ac yn y diwedd roedd yn gobeithio
meddiannu'r fferm gyda'i deulu. Dywedodd Mr Davies fod angen i ffermio newid
oherwydd newid hinsawdd, costau a rheolau NBZ newydd. Gyda'r wybodaeth a oedd
wedi'i throsglwyddo dros genedlaethau a'r gefnogaeth barhaus gan ei rieni a'i
bartner, Grace, roedd yn hyderus y gallai'r fferm ffynnu. Fodd bynnag, roedd
angen iddo fod ar y safle. Roedd wedi edrych ar eiddo yn y pentref a'r
ardaloedd cyfagos ond nid yn unig roedd y rhain yn anfforddiadwy, ond nid yn
ymarferol oherwydd ei gŵn defaid, ei wyna a'i loia. Oherwydd lles yr
anifeiliaid roedd angen i Mr Davies fod ar y safle yn enwedig gan y byddai'n
rhedeg y busnes yn fuan iawn. Y gobaith oedd y byddai’r plant yn tyfu i fyny ar
y fferm ac yn mynd i’r ysgol gynradd leol gan fod hyn yn hanfodol i ddyfodol y
fferm a gyda chymorth y Pwyllgor Cynllunio, gallai anelu at fod yn ffermwr
pedwaredd cenhedlaeth Nant Y Gau, gan gymryd rôl arweiniol yn y busnes a
pharatoi’r fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Trafodaeth Gyffredinol – Diolchodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) i Mr Arwyn Davies am
gyflwyno ei ddatganiad. Roedd yn amlwg bod llawer o waith wedi digwydd rhwng yr
ymgeisydd a swyddogion ac roedd yn galonogol gweld bod mwyafrif o'r
ystyriaethau cynllunio perthnasol wedi eu cwrdd. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau
gan yr AHNE, Cyngor Cymuned, trigolion na Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nid
oedd unrhyw negyddiaeth weledol o gwmpas y cynnig ac mae'r cais yn cefnogi'r
targed allyriadau carbon. Y rheswm y daethpwyd â'r cais gerbron y Pwyllgor
Cynllunio oedd pryderon rhwng barn broffesiynol Prifysgol Reading a Kite
Consultants ac roedd y Cynghorydd Evans hefyd yn pryderu bod swyddogion wedi
cymryd sylw o elfen Reading o'r cyngor yn hytrach na chyngor Kite Consultants. Eglurodd y Cynghorydd Evans ei fod yn ei chael yn anodd deall pam nad oedd
Prifysgol Reading yn gwerthfawrogi'r cyllid oedd ar gael yn y busnes ffermio.
Nid oedd cyflog y priod wedi'i ystyried, na'r gwaith allanol y mae'r ymgeisydd
yn ei wneud. Teimlai'r Cynghorydd Evans nad oedd y swyddogion wedi gweld y
darlun ariannol cyflawn wrth wneud eu hargymhellion a gofynnodd i'r Pwyllgor
Cynllunio ymchwilio ymhellach i elfen Prifysgol Reading o'r cyngor. Dywedodd ei
fod yn bersonol yn teimlo bod pobl yn yr ardaloedd gwledig dan anfantais. Cafwyd gwybodaeth gan Busnes Cymru a oedd yn nodi bod 40% o ffermydd Cymru
bellach wedi arallgyfeirio a oedd yn cyfateb i 19% o gyfanswm yr incwm. Nid
oedd Prifysgol Reading wedi ystyried hyn. Mae cyfeirnod 4.4 y cais hwn yn ymdrin â phopeth yn yr adran honno. Cyfeirnod 4.5 – hyrwyddo arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig y mae'r
ymgeisydd hwn yn ei wneud ac 4.5.3 bod olyniaeth yn hollbwysig. Gan gyfeirio at y prawf ariannol dywedodd fod yna ardal lwyd gan ei fod yn dweud “dylai fod â rhagolygon da o barhau’n economaidd gynaliadwy am gyfnod rhesymol o amser”. Nid oedd yn ymddangos bod Prifysgol Reading yn derbyn hynny, ar sail ffigurau ariannol pur, nid ar hanes y fferm. Ym marn y Cynghorydd Evans, nid oedd yn meddwl bod unrhyw gydberthynas rhwng yr wybodaeth yr oedd Prifysgol Reading wedi’i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAIS RHIF 01/2021/0836/ PF - FFLATIAU PENNANT, STRYD HENLLAN, DINBYCH LL16 3PH PDF 171 KB Ystyried cais i
adeiladu 7 annedd teras, 2 adeilad sy’n cynnwys cyfanswm o 4 o fflatiau, ffurfio
mynediad, lleoedd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Pennant,
Stryd Henllan, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i adeiladu 7 annedd teras, 2
adeilad sy’n cynnwys cyfanswm o 4 o fflatiau, ffurfio mynedfa, lleoedd parcio,
gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Pennant, Stryd Henllan,
Dinbych. Y Cynghorydd Delyth Jones (Aelod y Ward) – roedd y
cais wedi’i ddylunio i fod yn lle 2 floc a oedd ar y safle’n wreiddiol. Mae’r to i’w weld yn uwch na’r tai ger
llaw. Rwy’n deall y bydd yn addas yn y
lleoliad hwn ac i liniaru unrhyw lifogydd.
Mae llawer o waith wedi’i wneud gyda’r cynlluniau ac mae’r gofynion o
ran gwella llifogydd wedi’u bodloni.
Croesawai’r Cynghorydd Jones y cymal ychwanegol sy’n rhoi gofynion o ran
y math o ddeunyddiau a ddefnyddir a’u lliw.
Mae’n cynnig cynllun 100% o dai cymdeithasol ac mae mawr angen am hynny yn
yr ardal. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Delyth Jones y dylid rhoi caniatâd yn unol ag
argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS – O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 10 pleidlais dros Zoom) – 19 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog. |
|
AR Y PWYNT HWN (10.20AM) CAFWYD EGWYL. AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 10.25AM. |
|
Ystyried cais i
godi 108 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir
gyferbyn ag Ysbyty Glan Clwyd, Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan, Y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 108 annedd, adeiladu mynedfa
newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir gyferbyn ag Ysbyty Glan Clwyd,
Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan, y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd cyfarfod safle wedi’i gynnal ddydd Gwener
30 Medi 2022. Bu’r Cynghorydd Peter
Scott yn y cyfarfod safle ac edrychodd ar y safle. Roedd y Swyddog Priffyrdd hefyd wedi bod yn y
cyfarfod safle i egluro y byddai’r fynedfa a’r allanfa o’r safle’n cael ei
gwella. Byddai croesfan i gerddwyr a
beicwyr oddi wrth y gylchfan wrth fynedfa’r ysbyty. Byddai’r cynigion draenio ar gyfer dŵr
wyneb yn dilyn deddfwriaeth Systemau Draenio Cynaliadwy. Yn ystod yr ymweliad â’r safle, gofynnwyd
cwestiwn am y system garthffosiaeth gyhoeddus.
Ar y daflen o sylwadau hwyr, roedd datganiad gan Ddŵr Cymru wedi’i
gynnwys yn dweud na fyddai caniatâd i unrhyw un arall gysylltu â’u system
garthffosiaeth gyhoeddus leol nhw oherwydd diffyg capasiti. Dywedai y byddai dŵr budr o unrhyw ddatblygiad arall
ar y Safle Strategol Allweddol ehangach angen cael ei gysylltu â Gwaith Trin
Dŵr Gwastraff Bae Cinmel. I wneud hyn, byddai angen gwelliannau sylweddol
i isadeiledd ar gost y datblygwr, a fyddai’n gwneud unrhyw ddatblygiad arall yn
anymarferol. Dywedodd y Cynghorydd Raj Metri (Aelod
Lleol) nad oedd wedi gallu bod ar yr ymweliad safle oherwydd problemau iechyd,
yn anffodus. Roedd pobl leol yn pryderu
am y peryglon ar Sarn Lane wrth gerdded i ac o’r ysbyty. Mynegwyd pryder hefyd ynglŷn â draenio
ar y ffordd. Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd bod
asesiad cludiant manwl wedi’i ddarparu yn rhan o’r cais. Roedd cyffyrdd lleol wedi cael eu hasesu a
byddai pob cyffordd yn gweithredu’n ddiogel o fewn eu capasiti. Roedd llawer o ddulliau cludiant ar wahân i
geir ar gael ar gyfer y safle ac roedd bwriad i wella cysylltiad y safle â’r
rhwydwaith llwybrau cerdded a beicio presennol yn rhan o Deithio Llesol Cymru
drwy gyflwyno croesfan wedi’i rheoli ar Ffordd Rhuddlan, heb fod ymhell o’r
gylchfan gyda llwybr cerdded a beicio bob ochr i’r ffordd yn cysylltu â’r
cyfleuster newydd. Byddai mynedfa’r
safle ar ffurf cyffordd flaenoriaeth wedi’i rheoli, ac ni fyddai’n effeithio ar
lif rhwydd y traffig. Roedd trefniadau’r
fynedfa’n cydymffurfio â gofynion TAN18 ar safonau gwelededd. Byddai ffyrdd yr ystâd oddi mewn i’r safle
5.5 metr o led gyda llwybrau cerdded 2 fetr.
Byddai’r gilfan tynnu-i-mewn bresennol yn cael ei thynnu. Wrth ystyried yr holl wybodaeth, nid oedd gan
yr Adran Briffyrdd unrhyw bryderon. Cadarnhaodd y Cynghorydd Alan James ei
fod wedi bod yng nghyfarfod y safle ac roedd yn fodlon â’r cynigion. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott, y dylid caniatáu’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog. PLEIDLAIS – O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 10 pleidlais dros Zoom) – 19 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog. |
|
CAIS RHIF 45/2022/0533/ PS - ROGER W JONES LTD. CEFNDY ROAD, Y RHYL PDF 159 KB Ystyried cais i
osod rhaciau iard allanol ychwanegol (cais ôl-weithredol) yn Roger W Jones Ltd.
Cefndy Road, Y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ais i osod rhaciau iard
ychwanegol (cais ôl-weithredol) yn Roger W Jones Ltd, Ffordd Cefndy, y Rhyl. Cynhaliwyd ymweliad â’r safle ar 30
Medi 2022. CYNIGIODD y Cynghorydd Peter Scott y
dylid gohirio’r cais i siarad â’r ymgeiswyr i weld a ellid dod i gyfaddawd, ac
eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS – O blaid gohirio – (9 pleidlais yn y Siambr a 9 pleidlais dros Zoom) – 18 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD GOHIRIO’r cais
cynllunio. |
|
CAIS RHIF 45/2022/0543/ PF - 2 FFORDD TYNEWYDD, Y RHYL PDF 158 KB Ystyried cais i
adeiladu estyniad llawr cyntaf dros y garej bresennol, ffurfio balconi wrth
ochr yr annedd a gwaith cysylltiedig yn 2 Ffordd Tynewydd, Y Rhyl (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i adeiladu estyniad
llawr cyntaf dros garej bresennol, ffurfio balconi wrth ochr annedd a gwaith
cysylltiedig yn 2 Ffordd Ty Newydd, y Rhyl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Win Mullen-James
y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd
gan y Cynghorydd Ellie Chard. PLEIDLAIS – O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 9 pleidlais dros Zoom) – 18 Ymatal – 0 Gwrthod – 0 PENDERFYNWYD y dylid
CYMERADWYO’r cais cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
47/2020/0593/PF – HEN GLWB RYGBI Y RHYL, FFORDD Y WAEN ROAD, RHUDDLAN, Y RHYL PDF 289 KB Derbyn adroddiad i geisio enwebiadau gan Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio i
gynrychioli’r Cyngor yn y Gwrandawiadau ar gyfer cais rhif: 47/2020/0593 sydd
wedi cael ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer penderfyniad gan
Weinidogion Cymru (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn adroddiad i geisio enwebiadau
gan Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio i gynrychioli’r Cyngor yn y Gwrandawiadau ar
gyfer cais rhif: 47/2020/0593 a oedd wedi cael ei alw i mewn gan Lywodraeth
Cymru i Weinidogion Cymru benderfynu arno. Gofynnodd y Cynghorwyr Chris Evans a
Peter Scott am gael bod yn gynrychiolwyr. Cytunwyd yn unfrydol ar hynny drwy godi
dwylo. PENDERFYNWYD
bod y Cynghorwyr Chris Evans a Peter Scott yn cynrychioli'r Cyngor yn y Gwrandawiadau
ar gyfer cais cyf: 47/2020/0593 a oedd wedi'i alw i mewn gan Lywodraeth Cymru
i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru. |
|
ADOLYGU’R CYNLLUN DIRPRWYO PDF 189 KB Derbyn adroddiad
sy’n rhoi amlinelliad i Aelodau o’r newidiadau a awgrymwyd i’r Cynllun Dirprwyo
Cynllunio (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyn adroddiad a oedd yn rhoi amlinelliad i Aelodau o’r newidiadau a awgrymwyd i Gynllun Dirprwyo
Cynllunio. Yn dilyn pleidlais unfrydol
trwy godi dwylo, cytunwyd ar dderbyn y newidiadau i Gynllun Dirprwyo Cynllunio. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM
10.50 A.M. |