Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Alan Hughes, Melvyn Mile a Bob Murray Roedd y Cynghorydd Tony Thomas wedi dweud y byddai arno
angen gadael y cyfarfod yn gynnar i fynd i ddigwyddiad arall ond ei fod yn
gobeithio dychwelyd i’r cyfarfod yn nes ymlaen. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol
yn eitem 6 ar y rhaglen - Tir gerllaw Fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych
oherwydd bod yr ymgeisydd yn gwsmer i’r cwmni y mae’n gweithio iddo. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Hydref
2021. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) - Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y
Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.
Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni
glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth
ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau
gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y
ceisiadau ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 22/2020/0735/PF - TIR GERLLAW FFERM HENDRERWYDD, HENDRERWYDD, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
adeiladu annedd menter wledig, gosod gwaith trin preifat a gwaith cysylltiedig
ar dir gerllaw fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i adeiladu annedd menter wledig, gosod gwaith trin preifat
a gwaith cysylltiedig ar dir gerllaw fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Ian Jones (O blaid) - rhoddodd hanes cefndirol gan ddweud bod ei
deulu wedi byw ar y fferm ers blynyddoedd yn ffermio gwartheg godro. Enillodd y
busnes statws organig yn 2006 yn cynnig safonau uchel a chynaliadwyedd, a
thynnodd sylw at y ffaith bod nifer y ffermydd llaeth wedi lleihau oherwydd
meini prawf llym. Gofynnwyd am ganiatâd
cynllunio ar gyfer llety o ansawdd ar y safle i Reolwr Buches Odro gan fod y
bwthyn gwyliau 2 ystafell wely yn anaddas i’r diben hwn. Trafodaeth Gyffredinol - Roedd y
Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) wedi gofyn am i’r cais gael ei atgyfeirio
at y Pwyllgor i drafod egwyddor y cynnig
a’r angen am annedd ychwanegol i gefnogi menter y fferm. Soniodd am lwyddiant y busnes a’i
bwysigrwydd o ran cynaliadwyedd i’r dyfodol a’r rhaglen amgylcheddol y dylid ei
chefnogi, a byddai hefyd yn darparu annedd i fodloni’r anghenion hynny a byddai
o fudd i’r gymuned. Roedd mwyafrif y profion TAN 6 wedi cael eu bodloni ac
roedd safle arfaethedig yr annedd wedi cael ei egluro oherwydd cyfyngiadau yn
ardaloedd eraill cyfadeiladau’r fferm. Anogodd yr aelodau i roi caniatâd. Rhoddodd y Cynghorydd Merfyn Parry fwy o gyd-destun gan ddweud ei bod yn
fferm flaengar oedd wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddod yn organig a
soniodd am y gwaith oedd ynghlwm â gweithredu’r busnes a sicrhau lles
anifeiliaid. Roedd profion cynllunio
wedi cyfiawnhau’r angen am annedd ychwanegol i weithiwr fferm. O ran pryderon
am bellter yr annedd arfaethedig o gyfadeiladau’r fferm, roedd y rhesymu y tu
ôl i’r lleoliad wedi cael ei gyfiawnhau o ran cyfyngiadau tir nad oedd yn eiddo
i’r Ymgeisydd; lleoliad y piblinellau nwy a’r perygl o lifogydd. Nid oedd y Cynghorydd Parry yn ystyried bod
maint yr annedd yn rhy fawr ac mewn ymateb i awgrym y swyddogion y dylid
defnyddio’r bwthyn gwyliau, soniodd am y trefniadau a gynigiwyd gan yr
Ymgeisydd o ran tai, gyda’r bwriad o ddenu ymgeisydd o safon uchel i’r rôl a
oedd angen byw ar y safle ac a oedd yn rhan o’r pecyn recriwtio. Ni fyddai’r
bwthyn gwyliau 2 ystafell wely yn denu teulu modern i weithio, a’r bwriad oedd
ei ddefnyddio fel bwthyn gwyliau neu ar gyfer gweithlu dros dro os oedd angen -
nid oedd eiddo arall addas yn yr ardal. O ganlyniad, roedd yn credu bod y cais
yn pasio’r meini prawf ar gyfer TAN 6 a chynigiodd y dylid caniatáu’r cais, a eiliwyd gan y Cynghorydd Mark
Young. Gofynnodd y Cynghorydd Young a
oedd yn arferol yn yr amgylchiadau hyn, o gofio y gellid bodloni anghenion lles
yr anifeiliaid yn well ar y safle, i weithiwr fferm fyw filltir i ffwrdd fel y
cyfeiriwyd yn yr adroddiad. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd anghydfod o ran yr angen am ail annedd i weithiwr fferm a’r mater oedd, a oedd yr holl ddewisiadau wedi cael eu hystyried o ran llety arall cyn rhoi caniatâd i adeiladu annedd newydd yng nghefn gwlad agored. Roedd swyddogion yn ystyried bod y bwthyn gwyliau presennol oedd yn atodiad i’r ffermdy yn addas ac ar gael i’r diben hwn - os nad yn ei ffurf bresennol yna drwy ei addasu. Roedd Ymgynghorwyr y Cyngor wedi awgrymu anheddau addas posibl o fewn milltir i’r safle ond efallai y bydd gan yr aelodau farn wahanol, ac nid oedd enghreifftiau penodol oedd yn adlewyrchu’r cais presennol i gyfeirio atynt. Ymatebodd y Cynghorydd Mark Young ei bod yn arferol i weithwyr amaethyddol fyw ar y safle ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 45/2021/0187/PF - COLEG LLANDRILLO, FFORDD CEFNDY, Y RHYL PDF 169 KB Ystyried cais i
newid defnydd y tir ac adeiladu Canolfan Addysg Bellach mewn Peirianneg, creu
mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu lôn fynediad o fewn ffiniau’r safle a maes
parcio, ynghyd â thirlunio a gwaith cysylltiedig yng Ngholeg Llandrillo, Ffordd
Cefndy, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd y tir ac adeiladu
Canolfan Addysg Bellach mewn Peirianneg, creu mynedfa newydd i gerbydau,
adeiladu lôn fynediad o fewn ffiniau’r safle a maes parcio, ynghyd â thirlunio
a gwaith cysylltiedig yng Ngholeg Llandrillo, Ffordd Cefndy, y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus – Mr Lawrence Wood (o blaid) - adroddodd ar y cynnig i ddatblygu
Campws y Rhyl ymhellach drwy drosglwyddo darpariaeth peirianneg Coleg
Llandrillo i ganolfan ragoriaeth arfaethedig ar y safle, fyddai’n cynnig y
sgiliau diweddaraf mewn peirianneg adnewyddadwy ac egni a sgiliau
gweithgynhyrchu uwch, a thynnodd sylw at y manteision economaidd-gymdeithasol,
cysylltiadau partneriaeth â chyflogwyr a chyfleoedd i ddysgwyr ar bob lefel.
Roedd cynllun cymeradwy gwagio mewn llifogydd wedi cael ei ddatblygu mewn
ymateb i bryderon perygl llifogydd ac roedd mesurau atgyfnerthu wedi cael eu
cynnwys yn yr adeilad. Gofynnwyd i aelodau gydbwyso’r pryder hwn yn erbyn
manteision cefnogi dysgwyr, twf economaidd a buddsoddiad ac i ganiatáu’r cais. Trafodaeth Gyffredinol - Cynigiodd y Cynghorydd Ellie Chard (Aelod
Lleol) ac eiliodd y Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid caniatáu’r cais gan
ddweud ei bod yn llwyr gefnogi’r cais, fyddai’n gaffaeliad i’r dref yn darparu
sgiliau a chyflogaeth a thwf economaidd. Roedd wedi cael ei sicrhau gan y
mesurau i ymdrin â’r perygl llifogydd a nododd y cyfleusterau presennol yn y
safle a’r ardal o amgylch. Anogodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones
(Aelod Lleol) yr aelodau i ganiatáu’r cais hefyd, gan dynnu sylw at y
manteision i ddysgwyr a chyfleoedd cyflogaeth. Wrth ychwanegu ei gefnogaeth,
rhoddodd y Cynghorydd Brian Jones deyrnged i’r gwaith caled a wnaed i
ddatblygu’r prosiect hwn, ac er bod perygl llifogydd, roedd llawer o waith yn
mynd ymlaen gyda phartneriaid er mwyn lliniaru’r perygl llifogydd yn yr ardal
benodol hon. Adleisiodd y Cynghorwyr Pete Prendergast a Joan Butterfield
deimladau’r rhai oedd o blaid y cynnig, gan bwysleisio’r cyfleoedd sgiliau i
bobl ifanc a’r rhagolygon o ran gyrfaoedd i’r dyfodol, ynghyd â’r effaith
bositif ar y mynegai amddifadedd yn y Rhyl o ganlyniad. Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu deyrnged i waith caled y swyddogion
yn enwedig Sarah Stubbs oedd wedi gweithio’n ddiflino gyda’r Coleg, eu
hasiantwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru ar y prosiect ac i liniaru’r perygl
llifogydd. Amlygwyd yr angen i
gydbwyso’r ffactor perygl llifogydd a’r gwrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol
Cymru â manteision clir caniatáu’r datblygiad, fyddai’n darparu budd addysgol
ac economaidd arwyddocaol mewn ardal o amddifadedd lluosog cydnabyddedig. Wedi
pwyso a mesur, roedd y swyddogion wedi dod i’r casgliad bod manteision
sylweddol y cynnig yn gorbwyso pryderon am y goblygiadau llifogydd (yn amodol
ar osod amodau) ac roeddent wedi argymell cymeradwyo’r cais. Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard, ac fe eiliwyd y
cynnig gan y Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. PLEIDLAIS: O BLAID – 14 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. [Ar y pwynt hwn (10.40 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer] |
|
CAIS RHIF 14/2019/1009/PR - TIR GERLLAW LLYS HEULOG, CYFFYLLIOG, RHUTHUN PDF 96 KB Ystyried cais am
fanylion ynglŷn â golwg saith o anheddau, tirlunio, graddfa a chynllun a
gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 14/2019/0233 (Cais materion a gadwyd yn ôl)
ar dir gerllaw Llys Heulog, Cyffylliog, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am fanylion ynglŷn â golwg saith o
anheddau, tirlunio, graddfa a chynllun a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1
caniatâd amlinellol rhif cod 14/2019/0233 (Cais materion a gadwyd yn ôl)
ar dir gerllaw Llys Heulog, Cyffylliog, Rhuthun. Trafodaeth Gyffredinol - Dywedodd y
Cadeirydd (Aelod Lleol) ei fod yn gais materion a gadwyd yn ôl oedd wedi cael
ei adrodd i’r Pwyllgor oherwydd gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan Gyngor
Cymuned Cyffylliog a gofynnodd i’r swyddogion ymateb i’r pwyntiau a
godwyd. Canolbwyntiodd y swyddogion ar
y prif wrthwynebiadau gan ymateb bod y caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd
ar gyfer adeiladu 5 – 7 o anheddau ar y safle ac felly roedd effaith 7 annedd
ar draffig eisoes wedi cael ei ystyried a’i asesu’n dderbyniol. Nid oedd angen
darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle ar gyfer datblygiadau â llai na 10
annedd, yn hytrach gwnaed cyfraniad ariannol drwy daliad symiau gohiriedig tuag
at ddarparu tai fforddiadwy yn y gymuned; roedd y swm gohiriedig hwn yn cael ei
gyfrifo ar hyn o bryd ac roedd cytundeb cyfreithiol yn cael ei lunio fel rhan o
broses ar wahân. O ran y cymysgedd o dai, i ddechrau roedd y cais materion a
gadwyd yn ôl wedi’i gyflwyno ar gyfer anheddau 4/5 ystafell wely a thynnodd y
swyddogion sylw ar yr angen am gymysgedd gwell yn y gymuned yn seiliedig ar yr
asesiad o’r farchnad dai leol. O
ganlyniad, cafodd y cais ei ddiwygio i ddarparu cymysgedd mwy cyfartal o eiddo
ar gyfer y safle. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd
Christine Marston y dylid derbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais
fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler. PLEIDLAIS: O BLAID – 16 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ystyried cais i
godi un annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn The
Croft, Ffordd Dinbych Uchaf, Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi un annedd ar wahân a gwaith
cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn The Croft, Ffordd Dinbych Uchaf,
Llanelwy. Cyfeiriwyd at gywiriad i amod
4 ar y taflenni glas. Trafodaeth Gyffredinol - Cyfeiriodd y
Cynghorydd Peter Scott at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan Gyngor Dinas
Llanelwy, yn enwedig o ran gorddwysau ac edrych dros eiddo eraill. Mewn ymateb, cadarnhaodd y swyddogion
gydbwysedd o ystyriaethau yn yr achos hwn gan gydnabod pryderon y Cyngor Dinas.
Wedi asesu’r cais, gwelwyd ei fod yn bodloni’r safonau o ran pellteroedd
gwahanu a digon o le o gwmpas y safle, ac roedd digon o fannau parcio ar y
safle ar gyfer yr uned. Gan ystyried
cymeriad yr ardal a’r adeiladau o’i gwmpas, ni ystyriwyd ei fod yn arbennig o
ddwys o ran defnydd ac ychydig o effaith weledol fyddai’n ei gael ar olygfa’r
stryd yn ehangach. Am y rhesymau hyn,
ystyriodd swyddogion y byddai’n anodd gwrthod y cais ac argymhellwyd y dylid ei
ganiatáu. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd
Peter Scott y dylid derbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais fel y
nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: O BLAID – 13 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau
ategol. |
|
Ystyried yr
amodau cynllunio i’w gosod ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ar 6 Hydref 2021
ar gyfer adeiladu Cartref Gofal Preswyl â 198 o welyau (dosbarth defnydd C2),
tirlunio, mannau parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Llanelwy (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr
amodau cynllunio i’w gosod ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ar 6 Hydref 2021
ar gyfer adeiladu Cartref Gofal Preswyl â 198 o welyau (dosbarth defnydd C2),
tirlunio, mannau parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Llanelwy. Cyfeiriwyd at gywiriad i amod 1 ar y taflenni
glas. Atgoffodd y Cadeirydd
yr aelodau bod caniatâd cynllunio wedi’i roi yn groes i argymhellion y
swyddogion, ar yr amod bod yr amodau cynllunio yn dod yn ôl gerbron y
Pwyllgor i’w cymeradwyo yn seiliedig ar
y drafodaeth honno, ac roedd gosod yr amodau hynny ar y caniatâd cynllunio yn
cynrychioli parhad o’r broses honno. Trafodaeth Gyffredinol - Mynegodd y Cynghorydd
Merfyn Parry bryderon, gyda chefnogaeth y Cynghorwyr Peter Scott a Brian Jones
am y bwriad i osod amod sŵn rhif 9 - “Bydd ffenestri nad ydynt yn agor yn
cael eu gosod ym mhob ystafell gyfanheddol yn y datblygiad a gymeradwywyd a
byddant yn cael eu cadw felly bob amser, heblaw am pan fydd angen gwagio’r
adeilad ar frys.” Cyflwynwyd y ddadl y
dylid gallu agor rhywfaint ar y ffenestri er lles trigolion i adael i awyr iach
gylchredeg. Cymharodd y Cynghorydd
Scott y cais hwn ag ardal breswyl Pant Glas, Llanelwy, ger yr A55. Penderfynodd
Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru na fyddai angen cynllun
lleihau sŵn yn yr achos hwn ac eto, byddai’r lefelau sŵn yn uwch na’r
safle cartrefi gofal. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Brian Jones at Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru fel
yr arbenigwyr ar sŵn o’r lôn gerbydau a dywedodd fod y Cyngor ei hun yn
cadw preswylwyr mewn cartrefi gofal preifat heb system awyru mecanyddol a ble
nad oedd ffenestri wedi’u selio. Ar y
sail honno, cynigiodd y dylid dileu amod sŵn arfaethedig rhif 9 o’r amodau a awgrymwyd, ac fe eiliodd y
Cynghorydd Merfyn Parry. Atgoffodd y Swyddogion
yr aelodau o gefndir y cais, gan nodi nad oedd pob aelod yn bresennol
pan roddwyd y caniatâd cynllunio. Roedd
yr adroddiad asesiad sŵn a gyflwynwyd gyda’r cais yn derbyn y gellid bod
sŵn annerbyniol o’r A55 a defnydd diwydiannol o’i chwmpas ac roedd y
swyddogion wedi argymell y dylid gwrthod y cais. Roedd y Pwyllgor wedi caniatáu’r cais ar y
sail y gellid lliniaru’r sŵn drwy amodau cynllunio ac roedd ffenestri nad
oedd yn agor wedi cael eu trafod yn helaeth fel ffordd o leihau sŵn. O
ganlyniad, roedd disgwyliad cyfreithiol dilys y byddai amod o’r fath yn cael ei
osod o gofio’r hyn a gytunwyd yn flaenorol. Yn ystod trafodaeth bellach, ystyriodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’n briodol ail edrych a dileu’r amod arfaethedig am ffenestri nad oedd yn agor yng ngoleuni gwybodaeth newydd ar y mater, a thynnodd sylw hefyd at ffyrdd eraill o liniaru sŵn yn cynnwys rhwystrau lladd/atal sŵn yn lle ffenestri nad oedd yn agor. Atgoffodd y swyddogion y Pwyllgor am ymatebion i'r ymgynghoriadau ar y cais, yn enwedig ymateb Llywodraeth Cymru fel awdurdod priffyrdd cefnffordd yr A55, ynddo dynododd fater â sŵn ac roedd wedi dweud y dylai unrhyw ganiatâd gynnwys mesurau lliniaru sŵn digonol oherwydd agosrwydd y safle at yr A55. Roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn awgrymiadau lliniaru sŵn yr ymgeisydd ar gyfer awyru drwy ffyrdd mecanyddol ac felly roedd wedi cyfarwyddo y byddai ffenestri nad oedd yn agor yn cael eu gosod. O ganlyniad, byddai peidio â gosod yr amod hwn yn groes i gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fyddai angen cael gwybod cyn symud ymlaen â’r amodau ar gyfer caniatâd. Pwysleisiodd y swyddogion fod caniatâd cynllunio wedi’i ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Ystyried
adroddiad ynglŷn â chanlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y
Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer golau yn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ynghyd ag argymhellion ynghylch
newidiadau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft a’i fabwysiadu yn ffurfiol
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ynglŷn â chanlyniadau’r
ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer golau yn
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ynghyd ag
argymhellion ynghylch newidiadau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft a’i
fabwysiadu yn ffurfiol. Rhoddodd yr Aelodau Arweiniol, y Cynghorwyr Mark Young a
Tony Thomas (Cadeirydd y Cyd-bwyllgor AHNE) deyrnged i’r gwaith rhagorol a
wnaed yn cynnwys gwaith caled y swyddogion a’r Grŵp Cynllunio Strategol, a
diolchwyd hefyd i’r rhai oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas hefyd at
ymddeoliad y Swyddog Cynllunio AHNE, Tony Hughes cyn bo hir a diolchodd yn ffurfiol
iddo am ei wasanaeth ymroddedig gan ddymuno’n dda iddo i’r dyfodol. Tynnodd y Swyddog Cynllunio AHNE sylw at yr ymateb positif oedd y prosiect
wedi’i gael gyda llawer o gefnogaeth o bob ardal, ac roedd yr ymgynghoriad a
gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn wedi dangos cefnogaeth sylweddol i gynnal
a gwella awyr dywyll y nos, yr oedd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn ceisio’i
gyflawni. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y newidiadau arfaethedig i’r Canllawiau
Cynllunio Atodol mewn ymateb i’r
ymgynghoriad ynghyd â sylwadau’r swyddogion.
Byddai angen i’r tri Awdurdod Lleol yn yr AHNE gymeradwyo’r prosiect a
nodwyd y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn
ystyried y mater ym mis Rhagfyr ac Ionawr, oedd o fewn amserlenni’r cais i’r
Gymdeithas Genedlaethol Awyr Dywyll ar gyfer Statws Cymuned Awyr Dywyll. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Mark
Young y dylid cytuno ar Argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad
ac y dylid mabwysiadu’n ffurfiol y ‘Cynllunio ar Gyfer Awyr Dywyll y Nos’ -
Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Golau yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy, ac eiliodd y Cynghorydd Ellie Chard. PENDERFYNWYD cytuno â’r
newidiadau arfaethedig i’r CCA a mabwysiadu ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll’ -
Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer golau yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy’. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GAIS RHIF 43/2020/0521 – TIR GERLLAW ALEXANDRA DRIVE, PRESTATYN Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddiweddariad hwyr oedd wedi
cael ei gynnwys yn y dogfennau atodol (taflenni glas) er gwybodaeth aelodau
ynglŷn â’r cais i godi 102 annedd fforddiadwy, ffyrdd cysylltiedig, mannau
agored, tirlunio ac isadeiledd (ail gyflwyno cais 44/2019/0629) ar dir gerllaw
Alexandra Drive, Prestatyn. Roedd y Pwyllgor
wedi rhoi caniatâd cynllunio i’r cais uchod ar 16 Mehefin 2021, ac yn
dilyn hynny rhoddodd Llywodraeth Cymru ‘Gyfarwyddyd Atal’ yn ei le i atal y
Cyngor rhag cyhoeddi’r penderfyniad nes oedd wedi ystyried a ddylid galw’r cais
i mewn am benderfyniad gan Weinidogion. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi
penderfynu peidio â galw’r cais i mewn i benderfynu arno gan Weinidogion ac yn
awr gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol barhau i brosesu’r cais gyda’r bwriad o
gyhoeddi’r penderfyniad cynllunio pan fydd y cytundeb cyfreithiol Adran 106
wedi’i lofnodi. Nid oedd bellach angen y gofyniad blaenorol ar gyfer arian tuag
at welliannau i briffyrdd fel rhan o’r cytundeb gan fod y gwaith eisoes wedi’i
wneud - ond roedd angen yr holl delerau cytundeb eraill. Ar ôl cwblhau’r
cytundeb cyfreithiol Adran 106, byddai Tystysgrif y Penderfyniad yn cael ei
rhyddhau. Nododd yr Aelodau’r sefyllfa. Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m. Dogfennau ychwanegol: |