Agenda and draft minutes
Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2019/20. Cynigiodd
y Cynghorydd Mark Young y dylid penodi'r Cynghorydd Joe Welch yn Gadeirydd, ac
eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Evans. Dangoswyd dwylo
i ddangos cytundeb unfrydol â'r cynnig. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Joe Welch yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer
y flwyddyn i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2021/22. Cynigiodd
y Cynghorydd Ann Davies y dylid penodi'r Cynghorydd Christine Marston yn
Is-Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Tony Thomas. Dangoswyd
dwylo i ddangos cytundeb unfrydol â'r cynnig. PENDERFYNWYD
penodi'r Cynghorydd Christine Marston yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Ar y pwynt hwn,
croesawodd Paul Mead, Rheolwr Rheoli Datblygu ddau Aelod newydd o'r Pwyllgor
Cynllunio, y Cynghorwyr Joan Butterfield ac Alan Hughes. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Joan Butterfield ac Alan Hughes na fyddent yn cymryd rhan yn y
pleidleisio nes eu bod wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol a fyddai'n digwydd
cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio i'w gynnal ym mis Gorffennaf 2021. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 7 - 10) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers
cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r
cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y
rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 43/2020/0521/PF – TIR GERLLAW ALEXANDRA DRIVE, PRESTATYN PDF 13 KB Ystyried cais i
godi 102 o anheddau fforddiadwy, ffyrdd cysylltiedig, man agored, tirlunio ac
isadeiledd (ail gyflwyno cais Cynllunio 44/2019/0629) ar dir gerllaw Alexandra
Drive, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 102 o anheddau fforddiadwy, ffyrdd cysylltiedig, man agored, gwaith
tirlunio ac isadeiledd (ailgyflwyno cais cynllunio 44/2019/0629) ar dir ger
Alexandra Drive, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus – Phil Quirk (yn erbyn) – esboniodd y materion
parhaus yn ymwneud â phroblemau gyda’r system ddraenio sy'n digwydd yn
rheolaidd. Dywedodd na allai'r orsaf
bwmpio ymdopi â maint y gwastraff ar hyn o bryd ac y byddai ychwanegu 102 yn
fwy o eiddo yn achosi mwy o broblemau.
Gofynnodd i'r aelodau wrthod y cais nes bod system gwaredu carthion
foddhaol ar waith. Philip Lowndes (yn erbyn) – esboniodd nad oedd
lleoliad y datblygiad arfaethedig o fewn y CDLl ac mai tir ffermio ydoedd. Roedd gan eiddo i'r gorllewin o'r safle
broblemau gorlif a fyddai'n cael eu lliniaru gan 102 eiddo ychwanegol. Ni fyddai'r isadeiledd i ddarparu ar gyfer y
nifer ychwanegol o eiddo yn gallu ymdopi.
Gyda dim ond un ffordd i fynd i mewn i'r datblygiad a'i adael, byddai
hyn yn achosi problemau priffyrdd.
Gofynnodd i’r aelodau wrthod y cais. Stuart Andrew (o blaid) – Cyfarwyddwr Dylunio a
Chynllunio i Castle Green Homes.
Dywedodd mai'r agwedd fwyaf arwyddocaol ar y datblygiad fyddai 102 o dai
fforddiadwy. Roedd angen eithriadol am
dai fforddiadwy. Dylid ystyried y
datblygiad hwn yn un derbyniol a dylid ei gymeradwyo. Daniel Parry (o blaid) – Cyfarwyddwr Datblygu Adra
Homes. Esboniodd fod Adra wedi bod yn
darparu tai fforddiadwy ledled Gogledd Cymru a'i fod yn adnabod yr ardal. Byddai gan y datblygiad 46 o gartrefi rhent
cymdeithasol. Byddai’n ddatblygiad
cymysg o dai a byngalos 2-4 ystafell wely.
Mae angen tai fforddiadwy ym Mhrestatyn.
Oherwydd yr angen, roedd Cyngor Sir Dinbych a Llywodraeth Cymru yn barod
i gefnogi'r cynllun gyda chyllid grant.
Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai'r datblygiad yn cychwyn dros yr haf
i roi tai i deuluoedd sydd wir eu hangen. Dadl Gyffredinol - Mynegodd y Cynghorwyr Bob Murray, Paul
Penlington, Julian Thompson-Hill a Gareth Davies i gyd eu pryderon ynghylch y
datblygiad arfaethedig. Nid oedd y tir o
fewn y CDLl. Tir ffermio ydoedd a dylid ei ddefnyddio at y diben hwnnw. Roedd Cyngor Tref
Prestatyn wedi gwrthwynebu’r datblygiad ynghyd â’r AS. Roedd preswylwyr wedi
codi pryderon gydag aelodau lleol ynghylch llifogydd, traffig a’r ffaith na
fyddai’n dda i'r amgylchedd. Roedd yr
isadeiledd lleol yn bryder gan na fyddai gan ysgolion, meddygon ac ati, y gallu
i ddelio â'r niferoedd ychwanegol a ddisgwylir. Cadarnhaodd
Cynghorwyr Lleol fod angen tai fforddiadwy ym Mhrestatyn ond nid ar y safle a
gynigiwyd. Esboniodd Lara
Griffiths, Uwch Swyddog Cynllunio, mai'r mater allweddol oedd Polisi Cynllunio
Cymru a bod y tir wedi'i ychwanegu i ddisodli tir arall yn y CDLl newydd. Roedd yn ofynnol i’r aelodau wneud
penderfyniad ar ystyriaethau cynllunio materol.
Mae’r angen am dai fforddiadwy yn uchel iawn gan fod 6/10 o aelwydydd ym
Mhrestatyn nad oes ganddynt fynediad at rent preifat nac yn gallu prynu. Yr angen am dai fforddiadwy ym Mhrestatyn
oedd yr angen mwyaf ym Mhrestatyn. Ar
gyfer y bobl leol fyddai’r datblygiad o dai fforddiadwy. Yn ystod
trafodaethau, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, Paul Mead, fel y dywedwyd
eisoes, bod angen tai fforddiadwy ym Mhrestatyn. Nid oedd yn safle ddyranedig ar hyn o bryd,
ond yn gorfforaethol roedd cyflenwi tai fforddiadwy yn flaenoriaeth. Byddai'r datblygiad yn sicrhau yr aed i'r
afael â materion yn ymwneud â llifogydd, draenio ac effaith ar gymdogion. Pe
bai'r cais yn cael ei wrthod, byddai'r datblygwyr yn mynd drwy'r broses
apelio. Mae swyddogion cynllunio wedi
gwrando ar farn preswylwyr ac aelodau ond roedd yr argymhelliad gan swyddogion
i ganiatáu’r cais yn seiliedig ar dystiolaeth. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (10.55 am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.05 a.m. |
|
CAIS RHIF 43/2021/0063/PF - 23 FFORDD GROSVENOR, PRESTATYN PDF 13 KB Ystyried cais i
godi panel coed 3 metr o uchder a ffens pyst i gysgodi carafán a chodi decin a
ramp i wasanaethu carafán yn 23 Ffordd Grosvenor, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi ffens bren 3 metr o uchder i roi sgrin i garafán a chodi decin a ramp ar
gyfer carafán yn 23 Grosvenor Road, Prestatyn. Ar y pwynt hwn,
esboniodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, Paul Mead, fod siaradwr cyhoeddus wedi
darparu datganiad ysgrifenedig o blaid y cais. Datganiad
ysgrifenedig wedi’i ddarparu gan Brian Robinson (o blaid) - Rwy'n Beiriannydd
Adeiladu Siartredig yn gweithredu ac yn siarad ar ran yr ymgeisydd Mrs Lisa
Wilton. Ein barn ni yw
nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y garafán sydd wedi'i lleoli yng
nghefn 23 Grosvenor Road, Prestatyn gan ei bod yn atodiad i'r prif annedd. Mae'r garafán yn ategol i'r prif annedd fel y
cadarnhawyd yn e-bost y Swyddogion Cynllunio a anfonwyd ataf ar 7 Mehefin. Y Swyddog Cynllunio yw Miss Emer O’Conner. Nid yw’r garafán
yn annedd ar wahân. Er bod cegin fach
yn y garafán, mae'r holl goginio teuluol yn cael ei wneud yn y brif annedd. Nid oes
cyfleusterau golchi dillad yn y garafán, ac mae'r holl olchi yn cael ei wneud
yn y brif annedd. Darperir
cyfleusterau golchi i’r anabl yn y garafán er budd rhieni fy nghleientiaid a'i
chwaer. Mae llystad fy nghleient yn
dioddef o Glefyd Parkinsons ac mae gan ei chwaer Syndrom Down. Nid yw'r cais, mewn gwirionedd, ar gyfer y garafán ond ar gyfer y ffens
sgrin bren, a fydd yn darparu preifatrwydd i'r cymdogion cyfagos. Mae hefyd ar
gyfer y decin a'r ramp er mwyn caniatáu i lystad fy nghleient gael mynediad i'r
garafán. Mae llystad fy
nghleient yn ei gweld hi’n anodd iawn cael mynediad i'r prif annedd oherwydd y
grisiau. Gan fod y garafán
yn atodiad i'r prif annedd, rydym yn teimlo y dylid rhoi caniatâd cynllunio i’r
fffens a'r decin / ramp. Dadl Gyffredinol - Hysbysodd y Cynghorydd Tony Flynn yr aelodau ei
fod wedi siarad â'r ymgeisydd a thrigolion cyfagos. Mynegodd y trigolion cyfagos bryder ynghylch
uchder y ffens ond gwnaethant hefyd ofyn i'r ffens fod o ansawdd da. Cadarnhawyd pe
bai'r garafán yn cael ei symud yn y dyfodol, byddai'n ofynnol i'r ffens ostwng
i'r uchder 1.8 metr presennol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y
cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y swyddogion, ac fe’i heiliwyd
gan y Cynghorydd Peter Scott. PLEIDLAIS - Cymeradwyo - 16 Ymatal – 0 Gwrthod - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 45/2020/0844/PF - SANDY LODGE, 83 FFORDD DYSERTH, y RHYL PDF 13 KB Ystyried cais i
newid ac addasu cartref nyrsio presennol i gynnwys estyniad gyda dwy ystafell
wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau set o risiau wedi’u hamgáu fydd yn
allanfeydd tân, a chanopi mynediad yn Sandy Lodge, 83 Ffordd Dyserth, y Rhyl
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer addasu ac ymaddasu cartref nyrsio presennol i gynnwys estyniad i ddwy
ystafell wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau set o risiau wedi’u hamgáu fydd
yn allanfeydd tân, a chanopi mynediad yn Sandy Lodge, 83 Ffordd Dyserth, y
Rhyl. Dywedodd y
Cynghorydd Brian Jones, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mai, y gofynnodd i'r
cais yn Sandy Lodge gael ei ohirio nes bod ymweliad safle wedi'i gynnal ar y
safle. Cynigiodd y Cynghorydd Jones,
unwaith eto, y dylid gohirio'r cais hyd nes y gellid cynnal ymweliad safle. Pleidlais - O blaid gohirio -
16 Ymatal – 0 Yn erbyn – 0 PENDERFYNWYD y
dylid gohirio’r cais i newid ac addasu Cartref Nyrsio presennol yn Sandy Lodge,
y Rhyl i gyfarfod yn y dyfodol am y rhesymau a nodwyd gan y Cynghorydd Brian Jones uchod. |
|
CAIS RHIF 47/2021/0257/PF - 2 BRYN IBOD WAEN LLANELWY PDF 13 KB Ystyried cais i
godi estyniad deulawr yn y cefn gydag estyniad unllawr cyfagos yn 2 Bryn Ibod
Waen, Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniad deulawr yn y cefn gydag estyniad unllawr cyfagos yn 2 Bryn Ibod,
Waen, Llanelwy. Gofynnodd y
Cynghorydd Christine Marston i'r cais gael ei ohirio nes bod aelodau'n cael
cyfle i gynnal ymweliad safle i archwilio’r effaith ar eiddo cyfagos. Pleidlais - O blaid gohirio -
16 Ymatal – 0 Yn erbyn – 0 PENDERFYNWYD y
dylid gohirio'r cais i godi estyniad deulawr yn y cefn gydag estyniad unllawr
cyfagos yn 2 Bryn Ibod, Waen, Llanelwy i gyfarfod yn y dyfodol am y rheswm a
nodwyd gan y Cynghorydd Christine Marston uchod. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am. |