Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Bill
Cowie, Dewi Owens a Julian Thompson-Hill. Croesawodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Pete Prendergast i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor
Cynllunio. Roedd y Cynghorydd Prendergast yn disodli'r
diweddar Gynghorydd McCarroll ar y pwyllgor ar ôl cwblhau'r hyfforddiant
angenrheidiol. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. Holodd y
Cynghorydd Cefyn Williams am yr arfer o gyhoeddi ffurflenni datgan cysylltiad
ym mhob cyfarfod a chytunodd y Cadeirydd i godi'r mater gyda swyddogion. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2015
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2015. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2015
fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 a 6) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd angen penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol. Cyfeiriwyd
hefyd at wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl
cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud ag adroddiadau penodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 01/2014/0063/PF - 3A, 3, 5 PWLL Y GRAWYS, DINBYCH Ystyried cais i drosi a newid anheddau presennol ac uned fasnachol yn
Gartref Gofal Preswyl Dosbarth C2 yn 3A, 3 a 5 Pwll y Grawys, Dinbych (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i drosi a newid anheddau presennol
ac uned fasnachol i Gartref Gofal Preswyl Dosbarth C2 yn 3A, 3 a 5 Pwll y
Grawys, Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus- Mr. D. Lewis (O
blaid) – yn siarad o blaid y cais gan nodi manteision cadarnhaol i
anghenion iechyd meddwl trigolion unigol ac annog byw'n annibynnol. Trafodaeth gyffredinol – Nododd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Colin
Hughes (Aelod Lleol) yn cefnogi argymhelliad y swyddogion i roi caniatâd. Ymatebodd swyddogion i gwestiynau yn cynghori
mai’r defnydd presennol oedd dwy uned annedd Dosbarth C3 ac un uned manwerthu
A1. Nid oedd y cynllun wedi’i gofrestru eto ond roedd Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ystyried y nifer o fflatiau a gyflwynwyd yn
dderbyniol ar y cyfan. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Win Mullen-James
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Richard Davies. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 25 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 10/2014/1168/PFT - HAFOTTY WEN, CORWEN Ystyried a
chymeradwyo amodau cynllunio ynghlwm wrth Dystysgrif Penderfyniad ar gyfer
cynllunio mewn perthynas â chodi un tyrbin gwynt gydag allbwn o hyd at 250 cilowat, uchafswm uchder blaen llafn 48m,
a datblygiad cysylltiedig yn cynnwys adeiladu trac mynediad, llawr caled, twll
cloddio, cysylltiad grid ac ystafell switsys yn Hafotty Wen, Corwen (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i
amodau cynllunio ynghlwm wrth Dystysgrif Penderfyniad ar gyfer cynllunio mewn
perthynas â chodi un tyrbin gwynt gydag allbwn o hyd at 250 cilowat, uchafswm uchder blaen llafn 48m,
a datblygiad cysylltiedig yn cynnwys adeiladu trac mynediad, llawr caled, twll
cloddio, cysylltiad grid ac ystafell switsys yn Hafotty Wen, Corwen. Roedd y Pwyllgor wedi rhoi caniatâd
cynllunio amodol ym mis Mawrth 2015. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y swyddogion cynllunio yn credu bod
yr amodau drafft fel y manylir yn yr adroddiad yn rhesymol ac yn angenrheidiol
o ran y cais ac yn cynnwys materion safonol sy'n berthnasol i geisiadau
tyrbinau gwynt. Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn cyfeirio at y ceblau rheolaeth trydan a
holodd am y pellter i’r is-orsaf. Dywedodd swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw fanylion am yr elfen
cysylltiad grid a fyddai'n destun caniatâd ar wahân. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies
argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James. PLEIDLAIS: O BLAID - 25 YN ERBYN – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD cymeradwyo’r amodau a nodiadau i'r
ymgeisydd fel y nodir yn adran 3 yr adroddiad ar gyfer eu cynnwys ar y
Dystysgrif Penderfyniad ar gyfer cais cynllunio 10/2014/1168. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL HYSBYSEBION - MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL Ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol terfynol ar
Hysbysebion i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw
Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar Hysbysebion i’w ddefnyddio wrth benderfynu
ar geisiadau cynllunio. Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i'r adroddiad ac esboniodd y gwahanol gamau
yn y broses cyn mabwysiadu dogfennau CCA yn derfynol gan y Pwyllgor Cynllunio. Atgoffwyd yr Aelodau bod yr adroddiad wedi cael ei
ohirio gan y pwyllgor ym mis Mawrth 2015 tra'n aros am adborth gan y Pwyllgor
Craffu Cymunedau. Roedd yr ymarfer ymgynghori wedi arwain at newidiadau mân fel yr amlygwyd
yn y ddogfen CCA terfynol a oedd yn cynnwys cyfeiriad at waith yr adran
Priffyrdd a gwella’r gosodiad. Roedd argymhellion gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau hefyd wedi arwain at fân
ddiwygiadau, gan gynnwys dileu Atodiad C er mwyn osgoi dryswch rhwng canllawiau
cynllunio a phriffyrdd ar arwyddion anawdurdodedig ar dir priffordd. Trafododd yr Aelodau reoleiddio gweithgareddau
penodol gyda swyddogion a p'un a oeddent yn cynnwys materion cynllunio neu
briffyrdd sydd angen caniatâd neu orfodi gan gynnwys problemau sy'n
gysylltiedig â lleoliad byrddau 'A', ysbwriel a masnachu blaen gwrt. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen am ymagwedd
gyson at y materion hynny. Pwysleisiodd swyddogion diben y ddogfen CCA i roi arweiniad ar y mathau o
hysbysebion sy'n gofyn am ganiatâd. Byddai materion o bryder a godwyd gan aelodau gan gynnwys rhwystro,
diogelwch i gerddwyr/priffyrdd ac arddangos nwyddau angen ymdrin â hwy ar wahân
a chytunodd y swyddogion i gysylltu â chydweithwyr priffyrdd a chynllunio ar
faterion penodol yn hynny o beth. Byddai angen asesu pob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun ac roedd swyddogion
yn awyddus i weithio gyda busnesau dan sylw i gyrraedd canlyniad cadarnhaol. Dywedodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau fod y polisi sy’n ymwneud
â symud yr arwyddion anawdurdodedig oddi ar dir priffordd yn destun archwilio. Roedd canlyniadau’n cynnwys newid i'r
canllawiau polisi i ymgorffori cynnwys aelodau lleol yn y broses ynghyd â siart
llif gorfodi a ddyluniwyd i wella cysondeb. Ar ôl ei gwblhau gall y siart llif gael ei rannu
gydag aelodau. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies i air mwy
priodol ar gyfer y cyfieithiad Cymraeg o 'ffasgia’ gael ei ddefnyddio yn y
ddogfen CCA Cymraeg. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies
argymhelliad y swyddog fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Cefyn Williams. PLEIDLAIS: O BLAID - 25 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD bod yr aelodau’n mabwysiadu'r Canllaw
Cynllunio Atodol terfynol ar Hysbysebion i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar
geisiadau cynllunio (fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad). |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL SIOPAU BWYD PAROD POETH - MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL Ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol terfynol ar Siopau
Bwyd Parod Poeth i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Rheolwr Polisi Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd wedi cyflwyno adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio
Atodol (CCA) terfynol ar Siopau Bwyd Tecawê Poeth i’w ddefnyddio wrth
benderfynu ar geisiadau cynllunio. Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Cefyn Williams cytunodd swyddogion y byddai
gair mwy priodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfieithiad Cymraeg 'tecawê'
yn y ddogfen CCA Cymraeg. Cynhaliwyd ymgynghoriad deuddeg wythnos ac roedd
crynodeb o'r pedwar sylw a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u cynnwys
fel atodiad i'r adroddiad. Ni chynigiwyd gwneud unrhyw newidiadau i’r CCA drafft o ganlyniad i'r
ymatebion a gafwyd. Eglurwyd y byddai ceisiadau ar gyfer bwytai/caffis gydag elfen prydau bwyd
parod angen eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain gan gymryd i ystyriaeth
y rhaniad gweithredol rhwng 'bwyta i mewn' a 'mynd allan'. Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr adroddiad a
rhinweddau’r ddogfen CCA drafft. Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r cynnig i gyflwyno cyfyngiad 400 metr ar
siopau bwyd parod poeth ger ysgolion, yn enwedig gan fod nifer o ysgolion yn
agos at ganol trefi, a chydnabuwyd fod gan yr ysgolion eu polisïau eu hunain yn
nodi a ddylid caniatáu’r disgyblion i adael tir yr ysgol yn ystod amser cinio. Nid oedd y Cynghorwyr Rhys Hughes
a Stuart Davies yn cefnogi'r elfen honno o’r cynnig yng ngoleuni'r effaith
niweidiol bosibl ar Langollen a'r economi busnes lleol a rhannwyd y pryderon
hynny gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ynglŷn â Rhuthun. Eglurodd swyddogion nad oedd y CCA yn
ddogfen bolisi ond roedd yn darparu canllawiau a dywedwyd y byddai pob achos yn
cael ei drin yn ôl ei deilyngdod ei hun a gall fod amgylchiadau lle nad oedd y
mesur hwn yn briodol. Cadarnhawyd hefyd y rhesymeg y tu ôl i'r cyfyngiad arfaethedig i helpu i
fynd i'r afael â phroblem gordewdra ymhlith plant. Fodd bynnag, teimlai aelodau bod y cynnig
yn rhy gyfyngol ar fusnesau presennol a rhai newydd sy'n dymuno arallgyfeirio
ac yn groes i’r neges bod Sir Ddinbych yn agored ar gyfer busnes. Roeddent hefyd o'r farn y byddai'r cynnig
yn atal cystadleuaeth iach rhwng busnesau ac yn dileu'r hawl i unigolion
ddewis. Yn ystod trafodaeth bellach cafwyd consensws cyffredinol y dylid dileu'r
cyfyngiad arfaethedig ar siopau prydau bwyd parod poeth newydd o'r ddogfen CCA. Cynnig - Cynghorydd Win Mullen-James yn cynnig,
eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes, bod paragraff 5.2 sy'n ymwneud â
chyfyngiad 400 metr ger ysgolion yn cael ei dynnu o'r ddogfen CCA. PLEIDLAIS: O BLAID (TYNNU) - 25 YN ERBYN (TYNNU) - 1 YMATAL - 0 Yna pleidleisiodd y pwyllgor ar argymhelliad y
swyddogion i fabwysiadu’r ddogfen CCA, ar ôl dileu paragraff 5.2. PLEIDLAIS: O BLAID - 26 YN ERBYN – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD ar ôl tynnu paragraff 5.2, bod yr
aelodau’n mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol terfynol ar Siopau Bwyd Parod
Poeth i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (fel y manylir yn
Atodiad 1 gyda’r adroddiad). |
|
BRIFF DATBLYGU SAFLE 'TRIONGL RHUDDLAN’ – MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL Ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Briff Safle Datblygu drafft ar gyfer
'Triongl Rhuddlan', gan gynnwys diwygiadau arfaethedig i’r ddogfen, ar gyfer
penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer
'Triongl Rhuddlan', gan gynnwys newidiadau arfaethedig i’r ddogfen, ar gyfer
penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio. Roedd y pwyllgor wedi cymeradwyo’r BDS
drafft ar gyfer ymgynghori ym mis Tachwedd 2014. Roedd y broses ymgynghori’n cynnwys dau sesiwn
galw heibio gyda nifer dda yn bresennol yn Llyfrgell Rhuddlan gyda phobl leol
yn gefnogol i raddau helaeth. Roedd crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u
cynnwys fel atodiad i'r adroddiad. Wrth ymateb i'r sylwadau hynny cynigiwyd nifer o newidiadau a amlygwyd yn y
ddogfen derfynol. Diolchodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) i’r
swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y BDS fel ffordd o wella ymddangosiad
gweledol y dref a denu busnesau newydd i'r ardal. Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol)
hefyd yn siarad o blaid y BDS ond yn tynnu sylw at y perygl o lifogydd sy'n gysylltiedig
â’r ardal a'r angen i reoli traffig os oedd y safle i gael ei ddatblygu gan
gynnwys lliniaru tagfeydd, gwelliannau i ffyrdd a mynediad i'r safle. Ychwanegodd y Cynghorydd Alice Jones y
dylid cymryd i ystyriaeth yr effaith ar y diwydiant amaethyddol yn sgîl y
cynnydd mewn traffig a cherbydau nwyddau trwm hefyd. Cadarnhaodd Rheolwr Polisi Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd newidiadau i'r BDS drafft i adlewyrchu'r canllawiau
diweddaraf ar risg llifogydd a oedd wedi'i wneud yn glir o fewn y ddogfen. Dywedodd am y problemau traffig a godwyd
yn ystod y broses ymgynghori a'r mesurau lliniaru sy’n cael eu hystyried. Roedd y traffig a gynhyrchir yn dibynnu ar
y defnydd arfaethedig ar y safle a gellir ceisio cael cyfraniadau ariannol i
liniaru unrhyw effaith. Byddai asesiad trafnidiaeth yn ofynnol hefyd i gyd-fynd ag unrhyw gynigion. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ann Davies
argymhelliad y swyddog i fabwysiadu’r ddogfen, gyda’r Cynghorydd Peter Owen yn
eilio. PLEIDLAIS: O BLAID - 26 YN ERBYN – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
aelodau’n mabwysiadu'r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer 'Triongl Rhuddlan,
ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad, gan gynnwys newidiadau arfaethedig i’r
ddogfen, ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio. |
|
HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH - ADRODDIAD GWYBODAETH Derbyn adroddiad
gwybodaeth yn diweddaru'r aelodau ar y datblygiadau ar safle Ysbyty Gogledd
Cymru (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad gwybodaeth ei gyflwyno, yn unol â
chais y pwyllgor ym mis Mawrth 2015, yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar
ddatblygiadau ar safle Ysbyty Gogledd Cymru. Dywedodd y Cadeirydd eu bod yn dal i aros am
benderfyniad yr Arolygydd ar yr ymchwiliad i wrthwynebiad i'r Gorchymyn Prynu
Gorfodol a gofynnodd i’r pwyllgor dderbyn yr adroddiad heb wneud sylw. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad gwybodaeth. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU A106 – SAFLE POOL PARK, RHUTHUN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau mewn perthynas â chynnydd Cytundeb Adran 106 ar
gyfer Safle Pool Park, Rhuthun. Darparwyd lluniau diweddar o’r safle hefyd fel y gofynnwyd gan aelodau. Roedd y pwyllgor wedi rhoi caniatâd cynllunio i
ddatblygu ym mis Medi 2013. Cytunwyd ar delerau drafft cytundeb A106 gyda
mesurau diogelwch i sicrhau y cynhaliwyd gwaith ar yr adeiladau rhestredig ar y
cyfle cynharaf yn unol â chamau’r datblygiad. Diolchodd y Cynghorydd Meirick Davies i’r
swyddogion am y diweddariad. Teimlai y dylai'r pwyllgor adolygu cynnydd o bryd i'w gilydd mewn achosion
o'r fath er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen. Cytunodd y Swyddog Cynllunio efallai fod
gwerth mewn adrodd yn ôl i'r aelodau ar achosion er gwybodaeth neu ar gyfer
adolygiad. Amlygodd y Cynghorydd Alice Jones
bwysigrwydd cofnodi pensaernïaeth yr adeiladau a hanes ar gyfer y dyfodol a
rhoddwyd sicrwydd bod angen cofnod ffotograffig fel rhan o'r cynllun adfer ac
addasu. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n holi Archifau Ysbyty Gogledd Cymru
ynglŷn â chofnodion eraill y safle. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad gwybodaeth. Daeth y cyfarfod i ben am 10.45am. |