Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Jon Harland, Raj Metri, Gwyneth Ellis, Cheryl Williams a Michelle Blakeley-Walker.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chris Evans gysylltiad personol yn eitem 9 ar y rhaglen - Tŷ Celyn, Cwm, Y Rhyl gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Datganodd y Cynghorydd Chris Evans gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 10 ar y rhaglen – 8 Dyffryn Teg, Rhuallt gan mai ef oedd ymgeisydd y cais.

 

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025/26.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alan James benodi’r Cynghorydd Mark Young yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn gyngor 2024/25, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly

 

PENDERFYNWYD Penodi’r Cynghorydd Mark Young yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn gyngor 2025/26.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn  y cyngor 2025/2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn gyngor 2025/26.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry benodi'r Cynghorydd Alan James yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn gyngor 2025/26, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ellie Chard.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly

 

PENDERFYNWYD Penodi’r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn gyngor 2025/26.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu codi’r Cytundeb Adran 106 a fyddai’n cael ei orfodi ar Ysbyty Gogledd Cymru i’w drafod.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau ei fod wedi cytuno 12 mis yn ôl, trafododd yr aelodau gynnwys cytundeb Adran 106 gyda chais Ysbyty Gogledd Cymru. Yn y cofnodion, manylwyd y dylid trefnu'r cytundeb Adran 106 o fewn 3 mis. Roedd y Cadeirydd yn gwerthfawrogi'r anawsterau a wynebwyd, ond teimlai'n bwysig bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai cyfarfod ar wahân i drafod yr oedi fod o fudd.

 

Diolchodd y Rheolwr Datblygu i'r Cadeirydd am y cwestiwn a chytunodd ei fod yn brosiect cymhleth. Cytunodd â'r cynnig i'w drafod ymhellach gyda'r Aelodau a chytunodd i gyflwyno'r cynnig ar gyfer cyfarfod i'r Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a'r Prif Weithredwr a oedd yn rhan o'r achos.

 

PENDERFYNWYD bod y Rheolwr Datblygu yn anfon y cais am ddiweddariad ar Safle Ysbyty Gogledd Cymru ymlaen at y Pennaeth Gwasanaeth a'r Prif Weithredwr a bod diweddariad i'r Aelodau yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 353 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2025 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Ebrill 2025.

 

Materion cywirdeb – Dim

 

Materion yn codi - Dim

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2025 fel cofnod cywir o’r trafodion.

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 7 - 10) -

Cyflwynwyd ceisiadau a dderbyniwyd yr oedd angen penderfyniad gan y Pwyllgor arnynt ynghyd â dogfennaeth gysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

RHIF Y CAIS: 07/2024/1377/PF - ADEILADAU ALLANOL GER FFERM BRYN PENLLYN, LLANDRILLO, CORWEN, SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 173 KB

Ystyried cais i adeiladu estyniad a thrawsnewid adeilad allanol presennol i ffurfio un uned gwyliau (Dosbarth Defnydd C6) gan gynnwys gosod pwmp gwres yn y ddaear, paneli solar ar y to, codi clwyd ystlumod ar yr ysgubor gyfagos, ffurfio lle parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu estyniad a thrawsnewid adeilad allanol presennol i ffurfio un uned gwyliau (Dosbarth Defnydd C6) gan gynnwys gosod pwmp gwres yn y ddaear, paneli solar ar y to, codi clwyd ystlumod ar yr ysgubor gyfagos, ffurfio lle parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar adeiladau allanol ger Fferm Bryn Penllyn, Llandrillo.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Mrs Fran Burn (O blaid) – Diolchodd y siaradwr cyhoeddus i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am y cyfle i annerch yr aelodau.

 

Clywodd yr aelodau fod yr ymgeisydd wedi bod yn gysylltiedig â’r eiddo ers 1948 pan oedd yn fferm weithredol. Eglurodd fod ei theulu wedi rhentu’r eiddo Pant Llyn yn gyntaf cyn prynu rhan o’r eiddo gyda hawliau dŵr ac etifeddu gweddill yr eiddo gyda hawliau dŵr yn ddiweddarach. Clywodd yr aelodau fod y teulu wedi cynnal yr eiddo o’u cartref ers dros 45 o flynyddoedd.

Roedd y bywyd gwyllt a’r ffordd o fyw yn cael eu trysori gan y teulu, yn enwedig yr ystlumod a’r gwenoliaid. Pwysleisiwyd bod gwenoliaid wedi dychwelyd i un o’r ysguboriau yn y cyfleuster ond nad oedd yr ysgubor yn cael ei heffeithio gan y cais.

 

Clywodd yr aelodau mai’r rheswm dros y cais oedd i ddatblygu’r safle i’r dyfodol, er mwyn ei atal rhag dirywio. Ceisiwyd cyngor ar Bolisi Lleol Cenedlaethol a hysbyswyd yr ymgeisydd mai’r ffordd orau oedd i ddatblygu’r ysgubor yn gartref gwyliau un ystafell wely ar gyfer dau berson. Roedd y datblygiad wedi’i ddylunio i integreiddio gyda’r adeilad presennol, ac i beidio ag amharu ar gymeriad yr eiddo. 

Ni ragwelwyd y byddai dau ymwelydd yn creu llawer iawn o sŵn ac roeddent yn hyderus y byddai’r cwmni a fyddai’n rheoli’r uned gwyliau yn gwneud hynny mewn ffordd gymwys a phroffesiynol. Ni fyddai cŵn yn cael eu caniatáu yn yr uned gwyliau.

 

Dywedodd yr ymgeisydd eu bod yn ymwybodol o’r amodau amrywiol a oedd yn gysylltiedig â’r cais a’u bod yn fodlon cydymffurfio â’r holl amodau arfaethedig. Roedd yr ymgeisydd wedi cydymffurfio a chyfathrebu gyda swyddogion a gweithwyr proffesiynol i leddfu rhai o bryderon yr eiddo cyfagos.

 

Mr Mike James (Yn erbyn) – Pwysleisiodd fod sawl agwedd ar y cais a oedd yn peri pryderon difrifol. Nid oedd disgrifiad y Gofrestrfa Tir o’r safle arfaethedig wedi cael ei ddefnyddio ac roedd enw’r lleoliad yn anghywir.

Dywedodd nad oedd wedi derbyn hysbysiad o gyflwyniad y cais. Yn ôl y cais, roedd yr eiddo agosaf 160 metr i ffwrdd ond roedd ei eiddo ef o fewn 60 metr o’r eiddo.

 

Pwysleisiodd fod yr estyniad arfaethedig i’r ysgubor yn anghywir o hyd at 1 metr ar y cynlluniau gan wneud iddo edrych yn fwy deniadol ar y cynlluniau. Pan heriwyd hyn, fe’u disodlwyd.

 

Cwblhawyd dau adroddiad croes i’w gilydd ar y tanc septig presennol, gydag un yn cyfeirio at 4 person yn ei ddefnyddio a’r llall yn cyfeirio at ddau.  Clywodd yr aelodau y cytunwyd ar ddau yn dilyn herio. 

Dywedodd y siaradwr ei fod yn credu y byddai’r ymgeisydd a’r asiant wedi bod yn llwyr ymwybodol o oblygiadau’r camgymeriadau ar ganlyniad y cais. 

 

Tynnodd y siaradwr sylw’r aelodau at y dderwen aeddfed a oedd wedi’i lleoli ar y safle. Mynegodd y siaradwr bryderon hefyd ynglŷn ag addasrwydd y fynedfa bresennol i gerbydau ar y safle.

 

Dywedodd y siaradwr fod Dŵr Cymru wedi amcangyfrif y byddai dau berson yn cynhyrchu 2.1 metr ciwb o wastraff yr wythnos. Dim ond 1.5 metr ciwb oedd capasiti’r tanc septig, felly byddai’n rhaid ei wagio’n aml er mwyn osgoi gorlifo. Ar gyfer tanc septig mawr, byddai angen cae draenio newydd, 15 metr o unrhyw adeilad - a fyddai’n  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHIF Y CAIS: 47/2024/1056/PC - TŶ CELYN, CWM, Y RHYL, SIR DDINBYCH, LL18 5SN pdf eicon PDF 177 KB

Ystyried cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir i ddefnydd cymysg sy'n cynnwys; defnydd preswyl, defnydd amaethyddol mewn cysylltiad â'r tyddyn a choedyddiaeth presennol, a datblygiad gweithredol sy'n gysylltiedig â'r defnyddiau uchod, sy'n cynnwys codi adeilad ffrâm ddur, darparu haen o lawr caled newydd ar lawr caled sy'n bodoli eisoes, a newidiadau i fynediad i briffordd (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir i ddefnydd cymysg sy'n cynnwys; defnydd preswyl, defnydd amaethyddol mewn cysylltiad â'r tyddyn a choedyddiaeth presennol, a datblygiad gweithredol sy'n gysylltiedig â'r defnyddiau uchod, sy'n cynnwys codi adeilad ffrâm ddur, darparu haen o lawr caled newydd ar lawr caled sy'n bodoli eisoes, a newidiadau i fynediad i briffordd yn Nhŷ Celyn, Cwm, Y Rhyl, Sir Ddinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus – Sioned Edwards, Cynllunio Cadnant (O blaid) – Diolchodd y siaradwr i’r aelodau am y cyfle i siarad o blaid y cais.

 

Hysbyswyd yr aelodau mai cais ôl-weithredol oedd hwn, a bod yr ymgeisydd yn gweithio’n rhagweithiol gyda swyddogion cynllunio i ddatrys y mater.

Roedd yr ymgeisydd yn denant yn Nhŷ Celyn, yn prydlesu’r tyddyn amaethyddol. Roedd byw yn yr eiddo yn caniatáu i’r teulu ffermio ar y tyddyn ac yn caniatáu i’r ymgeisydd barhau i weithredu ei fusnes gwledig sy’n seiliedig ar dir.

 

Nodwyd bod cais blaenorol a gyflwynwyd ar gyfer defnydd mwy eang o’r tir wedi cael ei dynnu’n ôl ym mis Hydref 2023. Cyflwynwyd y cais diwygiedig heddiw i reoleiddio defnydd yr adeilad ffrâm ddur a’r llawr caled o’i amgylch.

Roedd yr ymgeisydd yn cyflogi nifer fechan o weithwyr mewn cysylltiad â’i fusnes amaethyddol.

Ar hyn o bryd, roedd yr adeilad ffrâm ddur dan sylw yn cael ei ddefnyddio gan yr ymgeisydd i storio peiriannau ac offer yn gysylltiedig â’i fusnes amaethyddol a thirlunio. Roedd yr adeilad hefyd yn cael ei ddefnyddio i storio offer amaethyddol yn gysylltiedig â’r tyddyn yn Nhŷ Celyn ac i gynnal a chadw’r tir.

Nodwyd bod rhai gwrthwynebiadau i’r cais a godwyd gan eiddo cyfagos wedi drysu rhwng y busnes Arbworks a’r tyddyn.

 

Ar ran yr ymgeisydd, gofynnodd y siaradwr i’r aelodau ystyried amod rhif 9, fe allai’r cyfyngiad amser yn gysylltiedig â’r amod hwnnw fod yn dynn iawn, yn enwedig oherwydd bod yn rhaid caniatáu digon o amser i weithwyr sydd wedi bod yn gweithio oddi ar y safle i orffen eu diwrnod gwaith a dychwelyd i’r safle.  Hefyd, gellid camgymryd symudiadau yn gysylltiedig â gweithgareddau teuluol neu’r tyddyn am symudiadau yn gysylltiedig â’r busnes.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Chris Evans (aelod lleol) ei fod yn adnabod y safle’n dda ac yn adnabod yr ymgeisydd a’i deulu. Dywedodd fod y safle’n lân, yn daclus, ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am ymweld â’r safle ar 9 Mai, roedd llawer yn bresennol ac roedd yn ddefnyddiol iawn.

Cadarnhaodd y Cynghorydd James Elson ei fod wedi mynychu’r cyfarfod safle. Dywedodd wrth yr aelodau ei fod yn falch iawn o nodi cyn lleied o’r safle a oedd yn weladwy wrth agosáu ato. Roedd yn hapus gyda’r ymatebion a ddarparwyd ynglŷn â’r pryderon gwelededd a godwyd gan AHNE.

Ategodd y Cynghorydd Merfyn Parry safbwyntiau’r Cynghorydd Elson a diolchodd i’r swyddogion am y cyfle i fynd i’r safle a chael mewnwelediad uniongyrchol i’r ardal amgylchynol a beth fyddai’r cais yn ei gynnwys.

Diolchodd y Rheolwr Datblygu i’r aelodau am yr adborth o’r ymweliad safle. Roedd swyddogion wedi gweithio gyda’r ymgeisydd i ddatrys rhai o’r pryderon blaenorol ac, wrth wneud hynny, wedi edrych ar amodau rhesymol i’w gosod i reoli defnydd y safle. Roedd swyddogion yn teimlo ei bod yn rhesymol i osod amod ar oriau gweithredu’r elfennau masnachol ar y safle er mwyn gwarchod amwynderau’r ardal.

Mae gosod amodau cynllunio’n ceisio rheoli datblygiad a’i effeithiau. Wrth gyfyngu oriau gweithredu, byddai’r Awdurdod Cynllunio bob amser yn cymryd golwg ymarferol ar niwed. Byddai angen iddynt orfodi’r amodau pe bai gweithredu y tu allan i’r oriau a gytunwyd yn arwain at effeithiau amwynder sylweddol y gellid  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

Gwnaed cais bod yr holl aelodau’n defnyddio’r microffonau wrth bleidleisio.

 

 

 

Ar y pwynt hwn (10.27am), cymerodd y Pwyllgor egwyl fer am 5 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.32 am.

 

9.

RHIF Y CAIS: 12/2024/1398/HH - 3, CRUD YR AWEL, CLAWDDNEWYDD, RHUTHUN, SIR DDINBYCH, LL15 2NJ pdf eicon PDF 173 KB

Ystyried cais i godi estyniad i gefn annedd a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniad i gefn yr annedd a gwaith cysylltiedig yn 3, Crud Yr Awel, Clawddnewydd, Rhuthun.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Cynllunio’r Aelodau fod y cais wedi’i gyflwyno gan Bennaeth Gwasanaeth Cyngor Sir Dinbych a dyna pam ei fod wedi’i gyflwyno i’r pwyllgor yn unol â’r cynllun dirprwyo.

Roedd y cais yn cydymffurfio â'r holl bolisïau a chanllawiau cynllunio.

 

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y Cadeirydd neu aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Alan James.

 

Pleidlais –

O blaid – 13

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

10.

RHIF Y CAIS: 47/2024/1385/HH - 8 DYFFRYN TEG, RHUALLT, LLANELWY, SIR DDINBYCH, LL17 0TA pdf eicon PDF 175 KB

Ystyried cais i godi ffenestri dormer yn y blaen a'r cefn i ddarparu llety byw ychwanegol o fewn gofod y to (ailgyflwyniad) (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar adeg y cyfarfod, gadawodd y Cynghorydd Chris Evans yr ystafell gyfarfod gan ei fod wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem ar y rhaglen.

 

 

Cyflwynwyd cais i godi ffenestri dormer yn y blaen a'r cefn i ddarparu lle byw ychwanegol o fewn y gofod to yn 8 Dyffryn Teg, Rhuallt, Llanelwy.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cais wedi'i gyflwyno i'r pwyllgor oherwydd yr Aelod Lleol Chris Evans yw’r ymgeisydd, felly yn unol â'r cynllun dirprwyo fe'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio i'w drafod.  Ailgyflwyniad oedd y cais yn dilyn gwelliannau i'r cynllun mawr a wrthodwyd, roedd yr ymgeisydd wedi adolygu'r cynlluniau ac wedi cydymffurfio â chynlluniau a pholisïau a gymeradwywyd gan yr awdurdod.

 

 

Roedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn falch o weld bod yr ymgeisydd wedi ailystyried y cynlluniau ac wedi diwygio'r cynlluniau gwreiddiol;

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Karen Edwards.

 

Pleidlais –

O blaid – 12

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y Swyddog.

 

11.

TAN 15 NEWYDD - DATBLYGU, LLIFOGYDD AC ERYDU ARFORDIROL pdf eicon PDF 215 KB

Cael adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth am fersiwn newydd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol, a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2025 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio yr adroddiad gwybodaeth am y TAN 15 newydd (dosbarthwyd ymlaen llaw).

Fe eglurodd bod y Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) - Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol yn cynnwys eglurhad manwl am y polisi Cenedlaethol. Cyhoeddwyd TAN15 gan Lywodraeth Cymru ac felly mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol ei ddilyn. Roedd yn ganllaw ar gyfer datblygiadau arfordirol a risg o lifogydd. Cyhoeddwyd y TAN15 newydd ar 31 Mawrth 2025.  Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybod i Aelodau am y newidiadau i’r Polisi Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar risgiau arfordirol a llifogydd.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio rhagor o fanylion gan ddweud bod y TAN15 newydd yn berthnasol i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ac unrhyw geisiadau cynllunio a dderbyniwyd ar ôl 31 Mawrth 2025. Roedd TAN 15 newydd yn mynd i’r afael â pherygl llifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain.  Roedd yn disodli Nodyn Cyngor Technegol 14 ar gynllunio arfordirol.

Roedd y TAN 15 newydd yn cynnwys mapiau llifogydd wedi’u diweddaru ar gyfer Cymru oedd yn cynnwys data ar newid hinsawdd. Clywodd yr Aelodau fod yna 4 parth llifogydd ar gyfer y risgiau llifogydd. Parth 1 oedd y risg isaf o lifogydd a oedd yn caniatáu pob datblygiad, a pharth 3 oedd y risg mwyaf sylweddol o lifogydd a dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn yr oedd datblygiad yn cael ei ganiatáu ac roedd angen cyfiawnhad sylweddol. Roedd yna ofyniad i adrodd unrhyw ddatblygiadau bregus iawn i Lywodraeth Cymru wedi’i gynnwys.  

Parth newydd – parth a amddiffynnir TAN15, dosbarthiad newydd, mae’n ystyried ardaloedd sydd ag amddiffynfeydd a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae’n caniatáu rhywfaint o ddatblygu yn y parth gyda rhai cyfyngiadau, ond mae dal angen cyfiawnhad. Fe bwysleisiwyd y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r amddiffynfeydd o dro i dro er mwyn sicrhau bod yr amddiffyniad yn cyrraedd y safonau gofynnol. 

Roedd gofynion ychwanegol yn y TAN15 newydd hefyd yn ymwneud â dŵr wyneb a risgiau llifogydd cyrsiau dŵr bach yr oedd yn rhaid eu hystyried ar bob math o ddatblygiad. Byddai unrhyw effaith ar ddŵr wyneb parthau llifogydd 2 a 3 bellach angen asesiad canlyniadau llifogydd.

Clywodd yr Aelodau bod TAN15 newydd yn nodi pan oedd cais cynllunio yn cael ei dderbyn heb wneud cais am gymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy ar yr un pryd, yna byddai angen Datganiad Draenio ar gyfer y cais.  Felly bydd yn rhaid i swyddogion cynllunio ymgynghori gyda thîm Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy ynglŷn â datganiadau draenio. 

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Datblygu pa mor bwysig oedd hi fod Aelodau yn cael gwybod am unrhyw newidiadau neu bolisïau newydd. Teimlwyd ei fod yn synhwyrol ei gynnwys ar yr agenda i Aelodau fod yn ymwybodol o TAN 15 newydd. Cynigiodd swyddogion bod cyfnod o amser yn cael ei roi i alluogi swyddogion i arsylwi’r newidiadau a’r gofynion a dod yn ôl gerbron y Pwyllgor gyda deunydd hyfforddiant. 

 

Gwnaed yr Aelodau yn ymwybodol bod yna gyfeiriad at dermau peirianneg yn y ddogfen allai fod yn berthnasol i adeiladu. Bydd swyddogion Cynllunio yn cael eu harwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn rhoi sylw ar bob cais cynllunio ynghyd ag unrhyw weithiwr proffesiynol arall oedd angen rhoi sylw ar geisiadau.  Gan ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio wrth yr aelodau bod y term ‘bwrdd rhydd’ yn ymwneud â gofod neu lwfans ychwanegol a adawir uwchben arwyneb y dŵr neu lefel llifogydd a ddisgwylir. Mae’n nodwedd diogelwch sy’n cael ei gynnwys mewn cyfrifiadau dylunio ac yn TAN15 mae’n ofyniad ar gyfer pob strwythur amddiffynfeydd llifogydd sy’n cael eu hystyried yn rhan  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

Daeth y cyfarfod i ben am 11.00am.

Dogfennau ychwanegol: