Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan y Cynghorwyr Ellie Chard, Raj Metri ac Elfed Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Andrea Tomlin gysylltiad personol
yn eitem 6 (30 Stryd Bedford, Y Rhyl) gan fod y Cynghorydd Tomlin yn adnabod yr
ymgeisydd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 24 Mai 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 24 Mai 2023. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, y byddai cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2023 yn cael eu
cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF 09/2022/1080/PF - TIR GYFERBYN Â PHORTH Y WAEN, ABERCHWILER, DINBYCH PDF 78 KB Ystyried cais i newid defnydd tir amaethyddol i lunio tir amwynder cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau a maes parcio, ynghyd â gwaith cysylltiedig, ar y Tir gyferbyn â Phorth y Waen, Aberchwiler, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir amaethyddol i lunio
tir amwynder cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau a maes parcio, ynghyd â
gwaith cysylltiedig (rhannwyd eisoes).
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Mai 2023, penderfynwyd rhoi’r
caniatâd cynllunio. Gan fod hynny’n mynd yn groes i
argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais, gofynnodd yr aelodau i’r Swyddogion
ddrafftio cyfres o amodau cynllunio a chaniatáu i’r Pwyllgor Cynllunio gytuno
arnyn nhw cyn cyhoeddi unrhyw benderfyniad.
Gofynnwyd am gymeradwyaeth yr Aelodau i osod yr amodau ar y caniatâd
cynllunio. Trafodaeth Gyffredinol – Diolchodd y Cynghorydd Merfyn Parry (aelod lleol) i'r
swyddogion am y cyfathrebu, a wnaethpwyd wrth lunio'r amodau yn dilyn y
drafodaeth yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio. Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo'r
amodau a restrir yn yr adroddiad, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott. PLEIDLAIS – O blaid – 17 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD CANIATÁU’R cais cynllunio yn unol â’r
amodau a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2022/0644/PF - 30 STRYD BEDFORD, Y RHYL PDF 155 KB Ystyried cais i newid defnydd o swyddfeydd i ffurfio annedd yn 30 Stryd Bedford, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd swyddfeydd i ffurfio
annedd a chytuno ar amod arfaethedig yn 30 Stryd Bedford,
Y Rhyl (rhannwyd eisoes). Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Mai 2023,
penderfynwyd rhoi caniatâd cynllunio. Gan fod hynny’n
mynd yn groes i argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais, gofynnodd yr Aelodau
i’r Swyddogion ddrafftio cyfres o amodau cynllunio a chaniatáu i’r Pwyllgor
Cynllunio gytuno arnyn nhw cyn cyhoeddi unrhyw benderfyniad. Gofynnwyd am gymeradwyaeth yr Aelodau i osod
yr amodau ar y caniatâd cynllunio. Trafodaeth Gyffredinol – Diolchodd y Cynghorydd Alan James (aelod lleol) i’r holl
swyddogion am eu cymorth gyda’r amodau a gyflwynwyd i aelodau i’w hystyried yn
y cyfarfod heddiw. Diolchodd y swyddogion i’r aelod lleol am y cyflwyniad ac
arweiniodd aelodau tuag at y daflen sylwadau hwyr, a rannwyd cyn y cyfarfod a
thynnwyd sylw at newid i amod 3. Byddai’r amod yn cyfyngu’r newid defnydd i
ddefnydd annedd C3(a) yn unig ac nid at unrhyw ddiben arall (gan gynnwys unrhyw
ddiben arall yn nosbarth C o’r atodlen i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) 1987(diwygiedig) (neu mewn unrhyw ddarpariaeth sy'n
cyfateb i'r dosbarth hwnnw mewn unrhyw offeryn statudol sy'n dirymu ac yn
ailddeddfu'r gorchymyn hwnnw gyda neu heb addasiad). Eglurodd y swyddogion
mai'r bwriad oedd sicrhau bod y cynnig yn darparu annedd i'r gymuned. Cynigiodd y Cynghorydd Alan James y dylid cytuno â’r amodau ac eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen James. PLEIDLAIS – O blaid – 17 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD CANIATÁU’R cais cynllunio yn unol â’r
amodau a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
FFERM WYNT MONA - PROSIECT ISADEILEDD SYLWEDDOL CENEDLAETHOL PDF 282 KB Derbyn
adroddiad (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth
Aelodau i gyflwyno ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar ran y
Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Rheoli Datblygu adroddiad prosiect
isadeiledd sylweddol cenedlaethol fferm wynt alltraeth Mona (a rannwyd eisoes),
yn gofyn am gymeradwyaeth yr aelodau i gyflwyno ymateb ffurfiol i’r
ymgynghoriad cyn ymgeisio ar ran y Cyngor. Arweiniodd y swyddogion yr aelodau at Atodiad 1 yn yr
adroddiad, gan nodi'r holl bryderon a godwyd yn ystod y cyfnod cyn-ymgynghori.
Sicrhaodd y swyddog yr aelodau y byddai llawer o gyfleoedd i godi pryderon yn
ystod proses y cais; fodd bynnag, roeddent yn hapus i dderbyn unrhyw sylwadau
neu ychwanegiadau a oedd gan yr aelodau i’w cynnwys yn yr ymateb i'r
ymgynghoriad cyn ymgeisio. Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y Cynghorydd James
Elson bryderon ynghylch y prosiect, yn enwedig natur gynyddol y cynigion yng
Nghefn Meiriadog. Roedd yn derbyn bod angen ynni adnewyddadwy; fodd bynnag,
awgrymodd y dylid defnyddio dull holistaidd i leihau'r effaith ar y gymuned
wledig. Awgrymodd y Cynghorydd Elson y posibilrwydd o gael is-orsaf o’r lan i
ddod â'r holl brosiectau ynghyd, yna un llinell i
mewn i'r tir, a fyddai'n ddelfrydol ar safle tir llwyd. Awgrymodd y Cynghorydd Merfyn
Parry y dylid cynhyrchu adroddiad effaith ar iechyd i ganfod effeithiau tymor
byr a hirdymor dod i gysylltiad â meysydd electromagnetig (EMF) a'r
cysylltiadau posibl â lewcemia ymhlith plant; Eiliwyd
y pryderon hyn gan y Cynghorydd Chris Evans. Adleisiodd y Cynghorydd Peter
Scott y pryderon yr oedd y Cynghorydd Elson wedi’u codi; yr effaith gynyddol
oedd y prif fater, a fyddai'n effeithio'n sylweddol ar ardal fach. Diolchodd y Rheolwr Rheoli
Datblygu i’r aelodau am y sylwadau cyn ymgynghori ar y prosiect, a rhoddodd
grynodeb o’r hyn a fyddai’n cael ei gynnwys yn yr ymateb fel sylwadau gan y
Pwyllgor Cynllunio – ·
pwysleisio’r angen am
ddull gweithredu holistaidd; ·
codi effeithiau
hirdymor ar iechyd ac; ·
effaith hirdymor
materion EMF, effeithiau ar Lanelwy (llwybrau traffig
ac ati). Cynigiodd y Cynghorydd James
Elson y dylid rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno’r sylwadau a nodir yn ATODIAD 1 fel
ymateb ffurfiol y Cyngor i ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol y datblygwr ar
fferm wynt alltraeth arfaethedig Mona, gan ychwanegu’r sylwadau a nodir uchod
gan y Pwyllgor Cynllunio, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott. PLEIDLAIS – O blaid – 17 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R ymateb cyn-ymgynghori yn ogystal â'r
sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio Dywedodd y
Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y pwyllgor, unwaith y byddai'r newidiadau wedi'u
gwneud, y byddai'r aelodau lleol yn cael gweld yr ymateb cyn iddo gael ei
anfon. Daeth y cyfarfod i ben am
11:00am |