Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Jon Harland ac
Elfed Williams. Nododd y Cadeirydd yr aelodau
a oedd yn mynychu dros y we drwy Zoom a'r rhai a oedd yn bresennol yn y Siambr,
Neuadd y Sir, Rhuthun. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Cheryl
Williams gysylltiad personol ag Eitem Frys - Cais Rhif 45/2021/0516 – Kynsal
House, Vale Road, Y Rhyl – dywedodd y Cynghorydd Williams wrth y pwyllgor fod
aelod o'r teulu yn byw ar bwys y safle.
|
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel
materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, nododd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu
cynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo - Cais Rhif 45/2021/0516 Kynsal House, Vale Road, y Rhyl Cytunwyd ystyried y mater yn
dilyn y prif eitemau busnes. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Chwefror
2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023. Materion cywirdeb - Tudalen 10 - Cais Rhif 03/2022/0862 42 Stryd y Farchnad,
Llangollen – dywedodd y Cynghorydd Karen Edwards ei bod wedi ymatal ei
phleidlais. Dywedodd y Cynghorydd Win
Mullen-James ei bod wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod ond nad oedd wedi'i
chynnwys ar y rhestr o fynychwyr. Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei
fod yntau wedi bod yn bresennol. Pwysleisiodd yr aelodau
bwysigrwydd cofnodi presenoldeb aelodau yn y cyfarfod yn gywir. Cadarnhaodd y
Cadeirydd ei fod yn cadarnhau ar lafar ar ddechrau pob cyfarfod yr aelodau oedd
yn bresennol dros y we ac yn y Siambr, Neuadd y Sir. Yn bresennol yn y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023 oedd – Dros y we – Y Cynghorwyr Ellie
Chard, Jon Harland, Huw Hilditch-Roberts, Julie Matthews, Win Mullen-James,
Pete Prendergast, Gareth Sandilands ac Elfed Williams Yn bersonol – Y Cynghorwyr
Karen Edwards, Gwyneth Ellis, James Elson, Alan James, Delyth Jones, Terry
Mendies, Merfyn Parry, Peter Scott, Andrea Tomlin a Mark Young (Cadeirydd). Materion yn Codi – Dim PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEM 5) Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am
benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at
y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers i’r
rhaglen gael ei chyhoeddi ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn
ymwneud â’r ceisiadau hynny. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 43/2022/0537/ PF - STATION HOUSE, 1 BRIDGE ROAD, PRESTATYN PDF 156 KB Ystyried cais i
newid defnydd cyn amgueddfa ac ystafelloedd te i ffurfio un annedd yn Station
House, 1 Bridge Road, Prestatyn, LL19 7ER (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd hen amgueddfa ac
ystafelloedd te i ffurfio un annedd yn Station House, 1 Bridge Road Prestatyn
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Trafodaeth Gyffredinol – Cynhaliwyd cyfarfod safle ddydd Gwener 17 Mawrth 2023.
Roedd y Cynghorydd Andrea Tomlin wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle.
Dywedodd wrth yr aelodau ei bod wedi byw yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd
a'i bod yn adnabod y safle'n dda gan ddweud ei fod yn eiddo o gymeriad eiconig
wedi'i leoli o fewn ardal gadwraeth. Roedd yr eiddo wedi bod yn eiddo preswyl
cyn iddo gael ei ddefnyddio fel ystafell de. Roedd yr eiddo wedi'i leoli mewn
man uwch ar Bridge Road. Yn ei barn hi, er ei fod wedi ei gynnwys ym mapiau
llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai aelodau ystyried cymeriad yr eiddo, y
safle a hanes yr ardal fel rhan o'u penderfyniad. Pwysleisiodd i'r aelodau
bwysigrwydd yr ardal gadwraeth yr oedd yr eiddo wedi'i leoli ynddi. Roedd yr
aelodau i sicrhau bod cymeriad neu ymddangosiad yr ardal yn cael ei gynnal neu
ei wella. Yn ei barn hi nid oedd unrhyw reswm dros beidio â chaniatáu i'r eiddo
ddod yn eiddo preswyl fel y bu unwaith. Felly, cynigiodd y Cynghorydd
Tomlin ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog. Roedd y Cynghorydd Alan James hefyd wedi bod yn bresennol
ar yr ymweliad safle a diolchodd i'r swyddogion am eu hamser. Eiliodd y
Cynghorydd James y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Tomlin. Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cynrychioli ward
gyfagos ym Mhrestatyn, adleisiodd y sylwadau a nodwyd gan y Cynghorydd Tomlin
uchod. Diolchodd i'r swyddogion am y lluniau oedd wedi eu cynnwys yn y cais,
gan ddweud eu bod yn dangos cymeriad yr eiddo yn glir i'r aelodau. Dywedodd
wrth yr aelodau fod y ddau achos diweddaraf o lifogydd ym Mhrestatyn wedi
digwydd yn 2001 a 1978 pan dorrodd yr amddiffyniad môr ac ar y ddau achlysur ni
chyrhaeddodd dŵr y môr yr ardal lle safai'r eiddo. Cyfeiriodd y Cynghorydd Merfyn Parry at y mapiau
llifogydd a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd fod yn rhaid i'r
aelodau ystyried y canllaw. Cydnabu'r Aelodau'r risg i'r eiddo ond dywedodd ei
fod yn berthnasol i'r ardal gyfan, yn fusnesau ac yn eiddo preswyl. Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau ffisegol i'r eiddo yn
cael eu gwneud o fewn y cais. Cadarnhaodd y
Rheolwr Datblygu yr ymgynghorwyd â'r cyrff statudol. Ystyriodd y swyddogion cynllunio'r
sylwadau a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wrth benderfynu ar yr
argymhelliad. Daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad y gallai llifogydd yn
yr ardal olygu y gallai’r eiddo fod 0.6m o dan ddŵr. Nododd yr aelodau pe
byddai llifogydd, byddai'n rhaid i unigolion adael yr adeilad neu gael eu
hachub. Gofynnodd yr
aelodau a oedd swyddogion wedi ystyried hanes y safle, gan gynnwys a welwyd
unrhyw lifogydd ar y safle. Gan ymateb i bryderon yr aelodau cadarnhaodd y
Rheolwr Datblygu fod hanes y safle yn cael ei ystyried wrth edrych ar yr holl
ystyriaethau cynllunio perthnasol ar gyfer argymhelliad y swyddog. Cadarnhaodd
swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr eiddo wedi
wynebu llifogydd yn flaenorol. Nododd y Swyddogion Datblygu'r sylwadau gan
gynnwys yr angen am dai yn y Sir. Rhoddodd y Cynghorydd Tomlin ei rhesymau dros ganiatáu’r
cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol; ·
Roedd yr eiddo wedi'i
adeiladu ar gyfer annedd preswyl i feistr yr orsaf. Roedd yr eiddo wedi cael ei
ddefnyddio ar gyfer defnydd preswyl am ran fwyaf o fodolaeth yr adeilad. ·
Roedd yr eiddo o fewn
ardal gadwraeth. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol pe ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWYBODAETH YCHWANEGOL Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried
adroddiad ar y diwygiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15:
Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio adroddiad ar y diwygiadau
arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu, llifogydd ac erydu
arfordirol (dosbarthwyd ymlaen llaw). Dywedodd wrth yr aelodau fod TAN 15 yn
ganllaw cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y mae'n rhaid i'r
awdurdodau cynllunio lleol ei ddilyn. Darparodd ganllaw ar ddatblygu o ran
risgiau arfordirol a llifogydd. Roedd ymgynghoriad ar y TAN 15 newydd ar hyn o
bryd a oedd i fod i ddod i ben ar 17 Ebrill 2023. Roedd yr
adroddiad yn rhoi nodyn briffio i'r holl aelodau ar y TAN 15 Newydd a oedd i
fod ar waith yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gofynnwyd i'r aelodau am eu hymateb
ar yr ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru. Roedd llythyr drafft ar gyfer
Llywodraeth Cymru wedi'i atodi er mwyn i'r aelodau roi sylwadau arno. Mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne
bryderon am y Gymraeg. Awgrymodd y gallai'r nodyn diwygiedig o bosibl gael
effaith anuniongyrchol ar y Gymraeg. Gofynnodd i ddatganiad ar yr effeithiau
anuniongyrchol posibl ar y Gymraeg gael ei ychwanegu at adran 5 o'r llythyr
ymateb. Diolchodd y Swyddog Cynllunio i'r Cynghorydd am ei sylwadau,
cadarnhaodd y byddai'n trafod y geiriad gyda'r aelod y tu allan i'r pwyllgor. Cynigiodd y Cynghorydd Alan James
y dylid cefnogi cynnig y Cynghorydd Wynne. Eiliodd y Cynghorydd Peter Scott
gynnwys testun ar yr effaith anuniongyrchol ar y Gymraeg. Roedd yr aelodau'n
cytuno i'r Cynghorydd Wynne gyflwyno awgrym o ran geiriad. Gofynnodd y Cynghorydd Scott am sicrwydd fod Parth Amddiffynnol TAN 15
arfaethedig yn cynnwys afonydd ac amddiffynfeydd arfordirol yn y sir.
Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio fod parthau amddiffynnol TAN 15 yn y mapiau
llifogydd newydd ar gyfer cynllunio, yn edrych ar barthau amddiffynnol a
sefydlwyd i lefel benodol o amddiffyniad. Gallai hynny fod ar gyfer afonydd neu
fôr ac roedd yn rhaid eu cynnal. Pwysleisiwyd bod yn rhaid i Gyfoeth Naturiol
Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Lleol dderbyn yr amddiffynfeydd. Clywodd
yr aelodau fod map llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynllunio yn cael
ei ddiweddaru bob chwe mis. Roedd proses i aelodau herio mapiau llifogydd,
roedd unrhyw heriau i'w cyfeirio at Gyfoeth Naturiol Cymru. Clywodd yr aelodau
ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru dderbyn her arfaethedig, y gellid defnyddio’r
manylion hynny i asesu ceisiadau cynllunio ac mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.
Roedd y diwygiad hwn wedi’i gynnwys yn y fersiwn ddiwygiedig o TAN 15 ym mis
Ionawr 2023. Clywodd yr aelodau fod yr awdurdod yn cynnal
Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd Strategol yn rheolaidd. Adolygodd ymgynghorwyr
y risgiau llifogydd a rhoddwyd adborth i'w gynnwys yn yr asesiad. Cyflwynwyd yr
Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd Strategol i Lywodraeth Cymru ei ystyried wrth
adolygu mapiau llifogydd. Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y Tirlun Polisi
Cenedlaethol wedi newid. Wedi’i gynnwys yn Cymru’r Dyfodol 2040, roedd y
cynllun strategol ar gyfer Cymru yn bolisi a oedd yn mynd i’r afael â
llifogydd. O fewn y cynllun mae'n nodi bod y Rhyl a Phrestatyn wedi'u dyrannu
fel ardaloedd twf rhanbarthol. Yn ychwanegol i'r polisïau hynny roedd Polisi
Cynllunio Cymru a'r Nodiadau Cyngor Technegol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau
bod y Cynllun Datblygu Lleol yn cydymffurfio â'r dogfennau hynny. Roedd y mapiau llifogydd a oedd wedi’u cynnwys yn y
nodyn diwygiedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf wrth ystyried ceisiadau
cynllunio. Cafodd yr aelodau eu tywys drwy’r argymhellion i’r
adroddiad gan yr Aelod Arweiniol. PLEIDLAIS – O blaid - 17 Ymatal - 0 Gwrthod - 0 PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Cynllunio yn cymeradwyo'r llythyr yn ymateb i’r ymgynghoriad
TAN 15 sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. |
|
CAIS RHIF 45/2021/0516 - KYNSAL HOUSE, VALE ROAD, Y RHYL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn adroddiad brys yn gofyn am enwebiadau gan
Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio i gynrychioli’r Cyngor yn y Gwrandawiadau ar gyfer
cais cyf: 45/2021/0516 Kynsal House, Vale Road, Y Rhyl a oedd wedi’i alw i mewn
gan Lywodraeth Cymru i Weinidogion Cymru benderfynu arno. Ar ran ei hun a'r Cynghorydd Diane King, gofynnodd
y Cynghorydd Pete Prendergast i gael cynrychioli'r Pwyllgor Cynllunio yn yr
apêl. Cynigiodd y Cynghorydd Ellie
Chard benodi'r ddau aelod lleol i gynrychioli'r Cyngor yn y gwrandawiad apêl
ynghyd ag ymgynghorydd cynllunio ac ymgynghorydd priffyrdd. Eiliodd y
Cynghorydd Peter Scott y cynnig. Dywedodd y Rheolwr Datblygu wrth yr aelodau y byddai
dyddiad yn cael ei osod ar gyfer yr apêl ar ôl y dyddiad cau cychwynnol ar
gyfer cyflwyno cais, sef 31 Mawrth 2023. PLEIDLAIS – O blaid – 16 Ymatal - 1 Gwrthod - 0 PENDERFYNWYD bod y Cynghorwyr Pete Prendergast a Diane King yn
cynrychioli'r Cyngor yn y Gwrandawiadau ar gyfer cais cyf: 45/2021/0516 a oedd
wedi'i alw i mewn gan Lywodraeth Cymru i Weinidogion Cymru benderfynu arno. |
|
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod
i ben am 10.25am. |