Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gwyneth Ellis a
Chris Evans. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Members to declare any personal or prejudicial interests in any business identified to be considered at this meeting. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Karen Edwards (Eitem 5 ar y
Rhaglen) gysylltiad personol gan fod ei phartner yn perthyn i berchennog y
siop. Datganodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod nad yw ar y
Pwyllgor) (Eitem 7 ar y Rhaglen) gysylltiad personol gan fod ganddo arwyddion
ar gyfer ei fusnes ar safle’r felin lifio a oedd yn eiddo i deulu’r ymgeisydd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2023. Ni chodwyd unrhyw faterion neu bwyntiau i’w cywiro. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr
uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2023
fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF. 21/2022/0980 - THE PADDOCK, LLANFERRES PDF 158 KB Ystyried cais i newid defnydd tir a rhan o adeilad i ffurfio busnes merlota asynnod a gwaith cysylltiedig (yn rhannol ôl-weithredol) yn The Paddock, Llanferres, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid
defnydd tir a rhan o’r adeilad i ffurfio busnes merlota mulod a gwaith
cysylltiedig (rhannol ôl-weithredol) yn The Paddock,
Llanferres, yr Wyddgrug (dosbarthwyd ymlaen llaw) Siaradwyr Cyhoeddus – Ian Hemming (Yn Erbyn)–
Roedd y siaradwr cyhoeddus yn breswylydd a oedd yn byw wrth ymyl y safle
merlota mulod a bu iddo siarad ar ran eraill sy’n byw yn lleol. Roedd llawer o bryderon, yn cynnwys goleuadau
ychwanegol, mwy o draffig a cholli amwynder drwy sŵn ac aflonyddu. Tynnwyd sylw at golli preifatrwydd gan fod
rhai pobl a oedd yn merlota yn gallu gweld i mewn i’w gerddi; cafodd y pryder
hwn ei ddwysau ymhellach gan y byddai’r safle ar agor tan 9:00 pm. Cafwyd rhai
awgrymiadau gan Gynllunwyr a’r ymgeisydd i liniaru rhai o’r pryderon. Fodd bynnag, roedd y siaradwr cyhoeddus
eisiau i’r rhain gael eu cadarnhau cyn eu cymeradwyo. Wrth gloi, tynnodd y siaradwr cyhoeddus sylw
at y ffaith fod gan y Cyngor ddyletswydd gofal i’r holl breswylwyr. Matthew Davies (O Blaid) –
bwriad y cais oedd cael pobl i gerdded gyda chwe mul
achub bach o fewn yr AHNE, i gyd o fewn ffin tir yr ymgeisydd. Roedd y pwyslais ar y manteision lles o fod
allan yng nghefn gwlad a meithrin perthynas gydag anifail. Cynhaliwyd treial o ferlota ar y safle o dan
hawliau datblygu a ganiateir ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst 2022. Roedd yr ymgeisydd wedi cael
ei synnu gan yr ymateb i’r treial; roedd wedi denu pobl o’r tu allan i’r sir,
gan eu harwain i fynd i drefi a phentrefi cyfagos. Mae’r safle wedi cael canmoliaeth uchel mewn
sioeau gwobrwyo a gan Senedd Cymru. Y
neges oedd y dylid dathlu mentrau fel hyn oherwydd eu manteision i’r economi
wledig; roedd sawl corff wedi cysylltu â’r ymgeisydd
i rannu’r manteision. Roedd yr ymgeiswyr
yn bartneriaid gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac, yn y gwanwyn, bu
iddynt ddechrau cadwraeth yr ardal drwy blannu coed a phlannu dolydd blodau
gwyllt. Nod strategaeth Cyngor Sir Ddinbych yw hyrwyddo a thyfu amrywiaeth o fewn y sector
twristiaeth; mae gan y fferm hanes o arallgyfeirio. Wrth gloi, dyfynnodd yr
ymgeisydd wefan AHNE Bryniau Clwyd – Dylai Cymunedau wneud yr ardal yn lleoliad
dymunol a chroesawgar sy’n llawn bywyd, antur a phersonoliaeth ac mae cymunedau
sy’n ffynnu a busnesau llwyddiannus angen y rhyddid i ddatblygu; roedd yr
ymgeisydd yn teimlo bod y cais yn glynu’n gryf at
hyn. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Huw
Williams (Aelod Lleol) yn cefnogi argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r
cais. Dywedodd bod y swyddogion a’r
ymgeisydd wedi trafod y manylion o ran y cais.
Roedd yn teimlo bod mesurau lliniaru wedi’u cynnal ac roedd yr amodau
wedi’u hanelu i leddfu’r pryderon a godwyd.
Dywedodd bod y cais o fudd i’r ardal, gan ei fod yn arallgyfeirio busnes
a byddai’n cadw cenedlaethau pellach y teulu yn yr ardal. Ceisiodd y Pwyllgor eglurder
ar oriau agor y busnes os byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo. Mewn ymateb, tynnodd yr aelodau sylw at amod
pedwar yn yr adroddiad, a oedd yn nodi “Ni ddylai’r safle fod ar agor
i ymwelwyr y busnes merlota mulod tu allan i oriau: ·
dydd Llun i ddydd Gwener
- 5 pm tan 8 pm. ·
dydd Sadwrn - 10 am tan
3 pm a 5 pm tan 8 pm. ·
dydd Sul a Gwyliau Banc
- 10 am tan 5 pm. Bydd y safle hwn ond yn
gweithredu rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr.” Eglurwyd hefyd na allai’r busnes weithredu yn y tywyllwch a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor os byddai’r ymgeisydd eisiau ychwanegu goleuadau i’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF. 20/2022/0983 - TIR YN GRAIG COTTAGE, GRAIGADWYWYNT, RHUTHUN PDF 157 KB Ystyried cais ar gyfer
codi 1 annedd fforddiadwy, gosod tanc septig newydd
a gwaith cysylltiedig yn Nhir yn
Graig Cottage, Graigadwywynt,
Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
Godi 1 annedd fforddiadwy, gosod tanc septig newydd a gwaith cysylltiedig ar y
Tir yn Graig Cottage, Graigadwywynt,
Rhuthun (dosbarthwyd ymlaen llaw) Siaradwr Cyhoeddus
– Diolchodd Tanya
Reaich (O Blaid) i’r pwyllgor am y cyfle i siarad. Bu i’r siaradwr dynnu sylw
at y ffaith y byddai’r tŷ arfaethedig yn aros o dan y statws tai
fforddiadwy am byth ac y byddai’n darparu cartref am oes i deulu arall yn y
dyfodol. Trafodaeth
Gyffredinol – Gofynnodd y
Cadeirydd i’r Cynghorwyr a oedd wedi bod ar yr ymweliad safle os oedd ganddyn
nhw unrhyw sylwadau cyn dechrau’r ddadl. Dywedodd y
Cynghorydd Peter Scott, a oedd wedi bod ar yr ymweliad safle, bod ei bryderon o
ran dŵr wyneb a draenio wedi’u lliniaru, ac roedd yn teimlo y byddai’r
cais yn adeilad da. Diolchodd y
Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) i’r siaradwr cyhoeddus am ei haraith ac i’r
swyddogion am y gwaith a wnaed. Fodd
bynnag, tynnodd y Cynghorydd Evans sylw at bryderon o ran y deunyddiau a
ddefnyddir ar gyfer yr adeilad ac a fyddant yn cyd-fynd â’r
ardal. Bu i’r swyddogion
ymateb, gan awgrymu er y byddai’r deunyddiau a ddefnyddir yn wahanol i’r eiddo
presennol, ni fyddant yn achosi unrhyw niwed i harddwch yr ardal. Holodd y pwyllgor
os ellir rhoi amod ar waith lle mae angen edrych ar sampl o ddeunyddiau cyn
iddynt gael eu hymgorffori i’r adeilad; dywedodd y swyddogion y byddai modd
gosod amod ar y mater hwn. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Peter Scott y dylid CYMERADWYO’R
cais gydag amod ychwanegol y dylid asesu lliwiau’r deunyddiau cyn gwneud unrhyw
waith ar y safle, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd
Alan James. PLEIDLAIS: O BLAID – 17 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF. 03/2022/0862 42 HEOL Y FARCHNAD, LLANGOLLEN PDF 79 KB Ystyried cais
ar gyfer newid
defnydd o siop (Dosbarth Defnydd A1) i siop (Dosbarth Defnydd A1) gyda siop
goffi ategol (Dosbarth Defnydd A3) yn 42 Heol y Farchnad, Llangollen (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
Newid defnydd o siop (Dosbarth Defnydd A1) i siop (Dosbarth Defnydd A1) gyda
siop goffi atodol (Dosbarth Defnydd A3) yn 42 Heol y Farchnad, Llangollen
(dosbarthwyd ymlaen llaw) Trafodaeth
Gyffredinol – Bu i’r Cadeirydd
alw ar y rhai a oedd wedi bod ar yr ymweliad safle i rannu eu barn am y cais;
tynnodd y Cynghorydd Peter Scott, a oedd wedi bod ar yr ymweliad safle, sylw at
y ffaith fod y safle yn fach; fodd bynnag, y bwriad oedd cael dau fwrdd yn unig ar gyfer y siop goffi. Felly o safbwynt cynllunio, nid oedd gan y
Cynghorydd Scott unrhyw bryderon. Ni chododd y
Cynghorydd Paul Keddie (Aelod Lleol) unrhyw bryderon gyda’r cais
cynllunio fel y manylwyd yn yr adroddiad. Cododd y
Cynghorydd Karen Edwards (Aelod Lleol) bryderon o ran defnydd yr adeilad
gan nad yw, hyd y gwyddai hi, caniatâd wedi’i roi i’r adeilad gael ei
ddefnyddio ar gyfer defnydd manwerthu.
Gofynnodd am eglurder ar ddefnydd yr adeilad. Amlinellwyd pryderon hefyd am y diffyg
gwybodaeth yn ymwneud â niferoedd cwsmeriaid posibl i’r safle os byddai’r cais
yn cael ei gymeradwyo a’r effaith y gallai hyn ei gael ar barcio; wrth gloi,
nodwyd hefyd bod y cyngor tref yn gwrthwynebu’r cais. Ymatebodd
swyddogion, o’u safbwynt nhw, fod y safle wedi bod yn uned fanwerthu yn y
gorffennol, a bod y newid defnydd blaenorol wedi’i ganiatáu ac yn gyfreithlon.
Roedd y cais hwn ar gyfer defnydd atodol A3 bach; roedd y raddfa arfaethedig yn
golygu y byddai’r effaith ar breswylwyr yn isel, ac roedd yr ardal yn safle
cymysg gyda eiddo preswyl a busnesau.
Cynigiwyd amodau ar gyfer rheoli’r oriau ar y safle, a fyddai’n
lleihau’r effaith ar breswylwyr. Gofynnodd aelodau
a oedd unrhyw asesiadau risg tân wedi’u cynnal ar gyfer y safle. Eglurodd yr aelodau bod y rheoliadau adeiladu
yn rheoli asesiadau tân os bo angen. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Peter Scott y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog a’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andrea Tomlin. PLEIDLAIS: O BLAID – 16 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |