Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022. Materion cywirdeb – Dim Materion yn Codi – Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod ef a’r
Swyddog Cyfreithiol newydd yn ymdrin â’r mater yn ymwneud
â’r cyfryngau cymdeithasol. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF 01/2022/0982/PS - TIR WRTH YMYL YSGOL PENDREF, FFORDD GWAENYNOG, DINBYCH PDF 79 KB Ystyried cais am
amrywiad i amodau 2, 6 a 8 o ganiatâd
cynllunio 01/2022/0690 i newid gosodiad, cynllun rheoli tirlunio a mesurau
lliniaru ecolegol, iawndal a gwelliant ar dir yn ymyl Ysgol Pendref, Ffordd
Gwaenynog, Dinbych (copi yn amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am amrywiad i amodau 2, 6 a 8 o ganiatâd
cynllunio 01/2022/0690 i newid gosodiad, cynllun rheoli tirlunio a mesurau
lliniaru ecolegol, iawndal a gwelliant ar dir yn ymyl Ysgol Pendref, Ffordd Gwaenynog, Dinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw). Siaradwyr Cyhoeddus – Heidi Ridder-Jones (yn
erbyn) – dywedodd fod y Swyddog
Cyfreithiol wedi datgan yn y Cyfarfod Cynllunio ym mis Tachwedd 2022 bod yr
ugain y cant o dai fforddiadwy a nodwyd ar gyfer datblygiad y safle wedi ei
rwymo mewn cyfraith. Aeth y siaradwr cyhoeddus yn ei blaen drwy ddweud wrth y
Pwyllgor bod y pwynt wedi ei amlygu ar sawl achlysur yn ystod cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd, a theimlai fod y mater wedi dylanwadu ar
benderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo. Fodd bynnag, dywedodd y siaradwr
cyhoeddus fod y cais newydd yn nodi y bydd deg y cant o dai fforddiadwy, yn
unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; nodwyd na ellid newid y deg y cant; os
mai dyma’r achos, pam na ddywedwyd
hynny cyn cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2022? Gofynnodd Mrs Ridder-Jones am arweiniad ar y mater gan syrfëwr
siartredig, a theimlai fod gan y rhai a oedd yn erbyn y cais berffaith hawl i
bryderu am y newid yn y ganran o dai fforddiadwy. Byddai’r cais newydd yn dylanwadu ar y cytundeb
gwreiddiol i leihau’r ganran o dai fforddiadwy o 20% i 10%. I ddechrau, ni
ddylai gweithred amrywio Adran 106 newid y ganran o dai fforddiadwy a oedd wrth
wraidd y penderfyniad a wnaed yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio.
Dylai gweithred amrywio A106 fod wedi ei chyflwyno ar yr un pryd â chais Adran
73, ynghyd â’r contract gydag Adra ac asesiad tai fforddiadwy
diwygiedig yn dangos sut fyddai’r newid yn cyd-fynd ag ystadegau Sir Ddinbych parthed yr angen am dai. Byddai’r Pwyllgor angen
cadarnhad y byddai’r anheddau’n parhau i fod yn fforddiadwy am byth. Teimlai’r siaradwr cyhoeddus fod y cyfarfod ym mis
Tachwedd wedi bod yn unochrog wrth gymeradwyo’r cais. Dylai strategaeth
ecolegol Sir Ddinbych fod wrth wraidd pob
penderfyniad; fodd bynnag, cafwyd addewidion gwag, diystyrwyd sylwadau’r
swyddog ecolegol, a dylid cadw’r coed lle mae’n bosibl yn unig. Byddai hyn yn
galluogi’r ymgeiswyr i gael gwared â’r coed lle
dymunent. Yr oedd ecoleg gyfoethog yn perthyn i’r coed ar y safle, ac wrth
ganiatáu’r cais byddai Cynghorwyr yn mynd yn erbyn Adran 6.4 Polisi Cynllunio
Cymru sy’n datgan na ddylai datblygiad gael effaith ar gynefinoedd na
bioamrywiaeth. Mr Stuart Andrews (o blaid) – diolchodd i’r Pwyllgor am gael siarad, ac
atgoffodd y Pwyllgor mai ef oedd Rheolwr Dylunio a Chynllunio Castle Green
Homes. Siaradodd â’r Pwyllgor ynglŷn â
diwygiadau i ddisodli’r caniatâd cynllunio gydag un â chynnydd yn nifer y tai
fforddiadwy. Amlygodd Mr Andrews fod y safle, a brynwyd yn 2022, wedi ei ddyrannu ar gyfer tai; ym mis Tachwedd, sicrhawyd caniatâd cynllunio i adeiladu 110 o gartrefi gydag ugain y cant yn ddarpariaeth tai fforddiadwy, ac yr oedd yr holl amodau cynllunio cyn cychwyn wedi eu cyflawni parthed y cynllun hwnnw, a gellid bod wedi dechrau arno eisoes. Dywedodd Mr Andrews yn ystod y cyfarfod diwethaf ei fod wedi siarad â swyddogion y Cyngor ynglŷn â chynnydd ar y contract, a fyddai wedi darparu’r holl safle drwy ADRA. Trafodwyd y cais hwn heddiw. Byddai’r cais newydd yn dal i adeiladu 110 o dai ar y safle. Fodd bynnag, byddai saith deg tri y cant o’r tai yn rhai fforddiadwy, a byddai’r gweddill ar gael ar rent y farchnad. Ni fyddai’r cais newydd a gynigiwyd yn cael effaith ar y cyfraniadau ariannol o dros £63,000 ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 23/2022/0344/PF – TIR YN LLWYN AFON, LLANRHAEADR, DINBYCH PDF 79 KB Ystyried cais i
godi 3 tŷ yn cynnwys gosod offer trin carthffosiaeth, creu mynediadau i
gerbydau a gwaith cysylltiol ar dir yn Llwyn Afon, Llanrhaeadr, Dinbych (copi
yn amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 3 annedd yn cynnwys gosod
offer trin carthffosiaeth, creu mynediadau i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar
dir yn Llwyn Afon, Llanrhaeadr, Dinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw). Trafodaeth Gyffredinol – Diolchodd y Cynghorydd Elfed Williams (aelod
lleol) i’r Cadeirydd am y cyfle i siarad. Yr oedd yn anghytuno â datganiad y
swyddog bod y safle yng nghefn gwlad agored gan fod tai o boptu i’r ardal a gynigiwyd, ac yr oedd y safle’n safle tir llwyd. Wrth gloi,
dywedodd y Cynghorydd Williams fod angen y datblygiad ar gyfer yr ardal leol, a
byddai o fudd i bentref Llanrhaeadr. Cynigodd y Cynghorydd Melvyn Parry y dylid
cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y swyddogion. Eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Elfed Williams. Eglurodd y swyddogion y nodwyd bod y datblygiad
yng nghefn gwlad agored gan ei fod y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref.
Felly, ystyrid ei fod yng nghefn gwlad agored. Arweiniwyd y swyddogion yn eu
hargymhelliad gan Bolisi CCC 9 y CDLl (tai
fforddiadwy ar gyfer cysylltiadau lleol mewn grwpiau neu glystyrau bychain); yr
oedd y cais yn nodi mai un o’r tair annedd fyddai’n fforddiadwy. Dywedodd y
swyddog fod caniatâd amlinellol yn bodoli lle mae angen cytuno ar faterion a
gadwyd yn ôl erbyn mis Mawrth 2023. Eglurodd y swyddogion hefyd y byddai’n
rhaid cael Cytundeb Adran 106 yn ymwneud â’r annedd
fforddiadwy pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, a swm gohiriedig posibl ar
gyfer man agored. Holodd y Pwyllgor a fyddai ffynonellau ynni
adnewyddadwy’n rhan o ddatblygiad y safle, megis gwres o’r ddaear a phaneli
solar. Atebodd y swyddogion y byddai raid i’r safle gydymffurfio â chanllawiau
cynllunio ond ni fyddai angen cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru,
gan mai datblygiad preifat ydoedd. Cyfeiriodd y Pwyllgor at deimlad y cyhoedd
yn lleol am y cais; cadarnhaodd yr aelod lleol fod y Cyngor Cymuned yn
cefnogi’r cais. PLEIDLAIS: O BLAID – 16 YN ERBYN – 1 YMATAL – 1 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhellion y swyddogion a
nodir yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2022/0730/PF - 188 COAST ROAD, Y RHYL PDF 157 KB Ystyried cais i
godi estyniad a chreu to newydd i ddarparu llety ychwanegol ar lefel llawr
cyntaf (ail gyflwyno cais) yn 188 Coast Road, Y Rhyl (copi yn amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi estyniad a chreu to newydd
i ddarparu llety ychwanegol ar lefel llawr cyntaf (ail gyflwyno) yn 188 Ffordd
yr Arfordir, y Rhyl (dosbarthwyd ymlaen llaw). Trafodaeth Gyffredinol – Galwodd y Cadeirydd ar y rheiny a oedd wedi bod
ar ymweliad safle i rannu eu barn am y cais. Y consensws ymhlith pawb a
ymwelodd â’r safle oedd bod lleoliad yr adeilad yn ôl
o’r ffordd. Yr oedd amrywiad o adeiladau mwy o gwmpas yr ardal, a fyddai’n
lliniaru unrhyw bryderon a godwyd gan swyddogion ynglŷn â’r estyniad yn edrych dros eiddo eraill. Dywedodd yr
aelodau hefyd y byddai’r Clwb Golff yn cael ei ailadeiladu i fod yn adeilad
deulawr pan fydd y gwaith amddiffyn rhag llifogydd wedi ei gwblhau. Cynigiodd y Cynghorydd Alan James y dylid
cymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott, am y rhesymau
a nodwyd uchod, yn groes i argymhellion y swyddogion. Atgoffwyd yr aelodau gan swyddogion cynllunio bod
yr ymgeiswyr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais
cynllunio, a bod Arolygydd Cynllunio wedi gwrthod y penderfyniad. Fodd bynnag,
yr oedd y cais newydd ar raddfa lai na’r hyn yr ymgeisiwyd amdano’n
flaenorol, a dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau y dylent ystyried yn unigol
a oedd y lleihad ym maint yr estyniad yn ddigonol ar gyfer goresgyn y
penderfyniad blaenorol i wrthod. Ailddywedodd y
swyddogion nad oedd yn ddigonol yn eu tyb hwy, ond derbyniasant ei fod yn
benderfyniad wedi ei gydbwyso. PLEIDLAIS: O BLAID – 18 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhellion y swyddogion a
nodir yn yr adroddiad. |