Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Ellie Chard, Gwyneth Kensler a Julian Thompson-Hill. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiadau personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr canlynol gysylltiad yn yr eitemau canlynol - ·
Mae’r
Cynghorydd Mark Young - eitem agenda 5 –
wedi datgan diddordeb personol fel aelod cabinet ac roedd y mater o fewn ei
gylch gwaith. ·
Y
Cynghorydd Emrys Wynne – agenda eitem 5 – datgan diddordeb rhagfarnllyd gan fod
ei ferch yng nghyfraith wedi helpu gyda datblygu’r cais arfaethedig. ·
Y
Cynghorydd Merfyn Parry – agenda eitem 5 – datgan diddordeb personol gan ei fod
yn adnabod y perchnogion tir yn yr ardal amgylchynol. ·
Y
Cynghorydd Tony Thomas - agenda eitem 5 - datgan diddordeb personol gan ei fod
ymysg yr aelodau arweiniol blaenorol ar gyfer y cais. ·
Y
Cynghorydd Brian Jones – eitem agenda 6,7,8,9 a 10 – datgan diddordeb
rhagfarnllyd fel aelod arweiniol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Chwefror (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf
2020. Cywiriad – tudalen 13: eitem 6 aelodau yn tynnu sylw mai'r ffordd oedd yr A547
ac nid yr A541, ac fe gafodd hynny ei nodi. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried cais ar gyfer yr newid defnydd y tir i
safle preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr gan gynnwys 3 bloc amwynder pâr gyda
thirlunio a ffordd fynediad llawr caled cysylltiedig (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd y tir yn safle Sipsiwn a Theithwyr i gynnwys 3 adeilad bloc pâr
gydag amwynderau a thirlunio a ffordd mynediad â lloriau caled. Cyn i’r cais gael
ei drafod fe eglurodd y Cynghorydd Emrys Wynne nad oedd wedi mynychu'r ymweliad
safle, a gadawodd y siambr am weddill y drafodaeth gan ei fod wedi datgan
diddordeb personol a rhagfarnllyd yn yr eitem. Siaradwyr Cyhoeddus - Leanne Groves (yn erbyn) – diolchodd i’r gymuned am y
cyfle i siarad ar ran ei theulu a'r gymuned amgylchynol. Nodwyd fod pob rhiant
eisiau’r gorau i’w plant, a dychmygwch pe bai popeth yn cael ei gymryd ganddyn
nhw, dyma'r sefyllfa i blentyn y siaradwraig
gyhoeddus, Izzy oedd yn dioddef o Syndrom Pitt
Hopkins. Oherwydd y syndrom mae’r teulu wedi dewis tŷ wedi'i leoli i
ffwrdd o’r dref a llygredd sŵn. Wrth brynu'r eiddo y cyngor cyfreithiol a
gafwyd oedd bod dim bwriad datblygu o fewn y CDLl gan
fod y safle yn dir cefn gwlad agored gyda rhagdybiaeth gadarn yn erbyn unrhyw
ddatblygiad. Gyda’r sicrwydd hynny fe brynodd y teulu’r eiddo. Ar hyn o bryd
mae 7 o bobl yn byw ar Lôn Cwttir. Byddai datblygiad
yn effeithio cymeriad gwledig y gymuned gan nad oedd y datblygiad yn
cydymffurfio â chymeriad yr adeiladau presennol. Byddai hefyd yn cael effaith
andwyol ar natur, byddai’r datblygiad yn effeithio lles y preswylwyr presennol.
Byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar Izzy
gan y byddai’r synau yn ei chynhyrfu yn ôl barn gweithwyr meddygol
proffesiynol. Byddai’r cais yn golygu bod yn rhaid i Izzy
fyw yn rhywle arall. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi llwybr sydd
eisoes yn beryglus i fod yn fwy peryglus gyda'r cynnydd mewn traffig. Marc Sorrentino (yn erbyn)
– mae’r cais ar gyfer datblygiad preswyl y tu allan i ffin y setliad a byddai
angen trafod y cais a’r polisïau cynllunio. Dydi’r cais ddim yn cydymffurfio â
pholisïau cenedlaethol Cymru a
pholisïau cynllunio lleol RD-1 a BSC-10. Dydi’r cais ddim yn cwrdd â pholisi
RD-1, a ddim yn cydymffurfio â BSC-10 gan nad oes diffiniad am y cyrion, nid
yw’r pellter cerdded trwy’r fferm yn fynediad
digonol. Dydi’r cais ddim ar y cyrion. Mae’r ffaith bod y cais ddim yn
cydymffurfio â’r polisïau yn rheswm digon cadarn i
wrthod y cais. Mae llawer o sylw wedi bod i ddarpariaeth Sipsiwn a Theithwyr
a'r safleoedd. Mae arweiniad Llywodraeth Cymru wedi amlygu y dylai'r amwynderau
gael eu datblygu mewn lleoliad addas, fodd bynnag cafodd y cyhoedd eu gwneud yn
ymwybodol fod safleoedd eraill mwy addas ar sail polisi ac o fewn setliadau
wedi eu trafod cyn y broses o ddyrannu safle. Trudy Aspinwall (O blaid) – reolwr tîm y prosiect ‘Teithio Ymlaen’ sy’n gweithio gyda theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Diolchodd i’r pwyllgor am y cyfle i siarad ar ran y teulu a fyddai’n byw yn y datblygiad arfaethedig yn Lôn Cwttir. Fel cefnogwyr o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr roedd hi’n newyddion da bod Sir Ddinbych yn cynnig datblygiad, roedd pawb yn gwerthfawrogi’r newyddion, yn enwedig a hithau wedi bod yn amser anodd i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr gan fod lleihad wedi bod yn y nifer o safleoedd stopio traddodiadol. Tydi Cynghorau heb frysio i ddatblygu safleoedd newydd. Mae hynny’n achosi’r Sipsiwn, Roma a Theithiwr i gael eu symud, troi allan a’u symud eto neu symud i dai brics a morter a fyddai’n golygu colli eu cysylltiadau teuluol a’u diwylliant, dyma effeithiau negyddol ar y teuluoedd. Yn 2014 dyma Lywodraeth Cymru yn cydnabod yn gyfreithiol anghenion a hawliau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF. 01/2019/1011 - PLOT 1, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH PDF 169 KB I ystyried cais
i adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Awdurdod Lleol i
gyflawni gwaith trefnu a bwndelu gwastraff wedi’i ailgylchu a’i gasglu ar wahân; gan gynnwys adeiladu prif adeilad ailgylchu,
un adeilad depo a baeau storio; gosod man golchi cerbydau a phont bwyso, gosod
generadur, creu mynedfa newydd a gwaith lledu ffordd cysylltiedig, adeiladu
ffordd fewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio, parcio, draenio ac
is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Awdurdod Lleol i
sortio a bwndelu gwastraff ailgylchu wedi’i gasglu ar
wahân; i gynnwys codi prif adeilad ailgylchu, un adeilad depo a baeau storio,
gosod cyfleuster golchi cerbydau a phont bwyso, lleoliad i osod generadur, creu
mynediad newydd a lledu’r ffordd berthnasol, adeiladu ffordd fewnol, iard
gwasanaethau, ardaloedd storio, parcio, system draenio as
is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir
cyfagos i Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus - Georgia Crawley (o blaid) – diolchodd y pwyllgor am y cyfle i siarad, eglurodd y
byddai'n trafod manylion y cynigion yn drylwyr, y datblygiad arfaethedig o 5
plot a fyddai'n lledaenu dros 13,500m2 o ofod llawr diwydiannol a
busnes newydd o wahanol feintiau, ynghyd â chyfleuster trosglwyddo gwastraff
awdurdod lleol ar y tir cyflogaeth 8.5 hectar i'r gogledd o stad ddiwydiannol
Colomendy. Mae’r ceisiadau wedi'u cyflwyno ar wahân ond yn rhannu nifer o agweddau.
Mae’r safle wedi’i ddyrannu ar gyfer cyflogaeth am 20 mlynedd ond dydi’r safle
heb gael ei ddatblygu oherwydd y costau o brynu a gwasanaethu’r safle.
Sefydlwyd consortiwm rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Yard Space Wales, Henllan Bakery,
Lock Stock ac Emyr Evans.
Mae pob parti perthnasol wedi cynllunio’r datblygiad a’r estyniadau sydd eu
hangen arnyn nhw. Mae’r cydweithio wedi dod â datblygiad dinesig a phreifat
ynghyd ac wedi creu ffordd arloesol ac effeithiol o gydlynu datblygiad. Dylid
cyflawni’r prif waith fel y gwaith tir, ffordd a systemau draenio gyntaf. Ni
fyddai’r cyfleuster trosglwyddo gwastraff yn prosesu gwastraff ond yn ei gasglu a'i fwndelu. Byddai’r cais arfaethedig yn caniatáu i
Sir Ddinbych i gydymffurfio â glasbrint Llywodraeth
Cymru gyda chasgliadau ochr ffordd, a chasgliadau gwastraff wedi’i ailgylchu yn
wythnosol. Byddai’r effaith yn economaidd o gael 5 plot yn sylweddol. O fewn 5
mlynedd amcangyfrifir bod 525 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cael
eu creu. Yr amcangyfrif o gyfanswm y buddsoddiad cyfalaf fyddai £20.3 miliwn
i’r economi gydag amcangyfrif o £2.9 miliwn yn cael ei gyfrannu i economi
Dinbych bob blwyddyn gan gynyddu i £9 miliwn erbyn 2024. Ystyriwyd y cynllun i
fod yn unol â pholisi PSE2 y Cyngor. Mae’r datblygwyr wedi gweithio’n agos gyda
chymdogion yn ystod y broses cyn gwneud cais i fynd i'r afael ag unrhyw
bryderon ac nid oes unrhyw wrthwynebiadau wedi bod i'r datblygiad. Trafodaeth Gyffredinol
– Hysbyswyd y pwyllgor y byddan nhw angen penderfynu ar bob un o’r ceisiadau
o ran teilyngdod eu hunain. Fodd bynnag byddai’r gwaith tirlunio a phriffyrdd
yn cael effaith ar yr holl geisiadau. Mae’r ardal wedi’i gynnig i’w ddatblygu
wedi cael ei ddyrannu fel tir cyflogaeth yn y CDLl.
Mae pob plot gyda defnyddiau arfaethedig ar wahân. Byddai Plot un yn Orsaf
Trosglwyddo Gwastraff i ymgymryd â'r gwaith sortio a
bwndelu gwastraff wedi'i gasglu ar wahân i'w
ailgylchu, a byddai angen cydymffurfio â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Byddai Plot 2 ar gyfer Yard Space
Wales fel cais hybrid ar gyfer y 31 uned (ar gyfer defnyddiau B1 B2 a B8).
Byddai Plot 3 yn estyniad i Fara Henllan a fyddai’n eu galluogi nhw i gynyddu
cynhyrchiant. Mae Plot 4 ar gyfer
Lock Stock i gynyddu
cyfanswm y cynwysyddion storio. Ac yn olaf, mae Plot 5 ar gyfer Emyr Evans oedd
yn gais hybrid i godi 22 unedau ac i gynyddu cyfanswm y gofod llawr. Dim gwrthwynebiad gan breswylwyr lleol, dim gwrthwynebiad chwaith gan gyrff
proffesiynol. Fodd bynnag mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gofyn i fesurau
lliniaru a rheoli digonol fod yn eu lle ar y safle ar gyfer y fadfall ddŵr
cribog. Holodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) am ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAIS RHIF. 01/2019/1013 - PLOT 3, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH PDF 171 KB I ystyried cais am adeiladu estyniad i uned ddiwydiannol bresennol (ar
gyfer defnydd B1, B2 a B8), cysylltiad i’r fynedfa bresennol, adeiladu ffordd
fynediad mewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio a pharcio, draenio ac is-orsafoedd
(i wasanaethau potiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i
atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi estyniad i uned ddiwydiannol bresennol (ar gyfer
defnyddiau B1, B2 a B8), cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd mynediad
mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac
is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig. CYNNIG – Cynigodd y
Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 14 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF. 01/2019/1012 - PLOT 2, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH PDF 171 KB I ystyried cais
Cynllunio Hybrid ar gyfer: i)
Caniatâd
cynllunio llawn ar gyfer codi 6 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8), cysylltiad
i’r fynedfa bresennol, adeiladu ffordd fynediad fewnol, iard gwasanaeth,
ardaloedd storio a pharcio, draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau potiau 1 i
5), tirlunio a gwaith cysylltiedig ii) Caniatâd
cynllunio amlinellol gan gynnwys mynediad, cynllun a thirlunio i ddatblygu tir
ar gyfer 25 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8) (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais hybrid ar gyfer: (i)
Caniatâd cynllunio llawn i godi 6 unedau (ar gyfer
defnyddiau B1, B2 a B8), cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd mynediad
mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac
is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig. (ii) Amlinellu
caniatâd cynllunio yn cynnwys mynediad, gosodiad a thirlunio ar gyfer datblygu
tir ar gyfer 25 unedau (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8). CYNNIG – Cynigodd y
Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 15 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF. 01/2019/1014 - PLOT 4, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH PDF 171 KB I ystyried
cais i Adeiladu 11 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8),
newid defnydd tir ar gyfer gosod cynwysyddion storio, cysylltiad i’r fynedfa
bresennol, adeiladu ffordd fynediad fewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio a
pharcio, draenio, is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1 i 5), tirlunio a gwaith
cysylltiedig (copi wedi’i
atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 11 unedau (ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8), newid defnydd o dir ar gyfer
gosod cynwysyddion storio, cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd
mynediad mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac
is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig. CYNNIG – Cynigodd y
Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 15 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF. 01/2019/1015 - PLOT 5, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH PDF 170 KB I ystyried cais cynllunio hybrid: i) Caniatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 1
uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8), cysylltiad i’r fynedfa bresennol, adeiladu
ffordd fynediad mewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio a pharcio, draenio ac
is-orsafoedd (i wasanaethau potiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig ii) Caniatâd cynllunio amlinellol gan
gynnwys mynediad, cynllun a thirlunio i ddatblygu tir ar gyfer 21 uned (ar
gyfer defnydd B1, B2 a B8) (copi
wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais cynllunio hybrid ar gyfer (i)
Caniatâd cynllunio llawn i godi 1 uned (ar gyfer
defnyddiau B1, B2 a B8), cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd mynediad
mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac
is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig. (ii) Amlinellu
caniatâd cynllunio yn cynnwys mynediad, gosodiad a thirlunio ar gyfer datblygu
tir ar gyfer 21 unedau (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8). CYNNIG – Cynigodd y
Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 15 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
ADRODDIAD GWYBODAETH - DIWEDDARIAD APELAU CYNLLUNIO PDF 99 KB Adroddiad gwybodaeth ar benderfyniadau apêl cynllunio ddiweddar a dderbyniwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar achosion yn y Sir. Mae'n ymdrin â'r cyfnod o 6 mis o fis Medi 2019 hyd yma (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD bod
y pwyllgor cynllunio yn nodi cynnwys yr adroddiad |
|
CAIS RHIF. 05/2019/1016 - TIR AR SAFLE GWERSYLLA STATION, CARROG PDF 5 KB I ystyried cais ar gyfer newid defnydd y tir i ddarparu 14 llain i bebyll (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd y tir i ddarparu 14 lleiniau pebyll. Cafwyd ychydig o
gefndir y cais gan y swyddogion, a hysbyswyd y pwyllgor nad oedd unrhyw
wybodaeth ychwanegol yn y daflen las. Mae’r safle sy’n gwneud y cais eisoes yn gweithredu
fel safle gwersylla ac roedd y cais yn gofyn am ganiatâd i ymestyn y safle. Amlinellodd yr
aelodau bod yr ardal arfaethedig mewn ardal llifogydd a gofynnwyd a oedd yna
ragofalon diogelwch pe bai llifogydd ar y safle gwersylla. Dywedodd swyddogion
yn ymateb wrth y pwyllgor fod y perchnogion wedi cofrestru gyda chynllun
rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag os oedd aelodau yn
dymuno byddai'r swyddogion yn codi'r achosion llifogydd gyda'r ymgeisydd. CYNNIG – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i gymeradwyo’r
cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd
gan y Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 14 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd
yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF. 01/2019/0959 - TIR RHWNG HEN FFORDD RHUTHUN A FFORDD NEWYDD RHUTHUN, DINBYCH PDF 169 KB I ystyried cais i godi 64 annedd,
adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, a’r gwaith cysylltiedig (copi wedi’i
atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 64 o dai, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig rhwng
Hen Ffordd a Ffordd Newydd Rhuthun, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Stuart Andrew (o blaid) yn siarad ar ran yr ymgeisydd,
McBride Homes. Diolchodd i’r pwyllgor am y cyfle i
siarad am y datblygiad i godi 64 o dai ar Ffordd Rhuthun, Dinbych. Mae gan y
safle ganiatâd cynllunio amlinellol ac mae briff datblygu safle wedi'i
ddatblygu yn y gorffennol gan y Cyngor ar gyfer datblygiad preswyl. Byddai gan
y safle ddarpariaeth tai fforddiadwy a mannau agored gwyrdd yn unol â
pholisïau’r Cyngor. Gyda’r 64 o dai arfaethedig byddai 10% yn dai fforddiadwy,
ynghyd â chyfraniad ariannol o 0.4 annedd i gyflawni’r dyraniad o 10%. Byddai
hanner erw o fan agored gwyrdd i’r cyhoedd ei ddefnyddio, a rhaglen cynnal a
chadw ar gyfer y man agored yn cael ei gytuno arno gan y Cyngor. Byddai hefyd
taliad tuag at ysgolion lleol o £75,000. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan ymgyngoreion proffesiynol, ac nid oedd effaith andwyol ar
amwynderau’r adeiladau presennol. Trafodaeth Gyffredinol – Gofynnodd y
Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) pam bod y cyllid o’r mannau cyhoeddus yn y
cais wedi cael ei leihau a’r cyfraniad addysg wedi’i gynyddu. Tynnwyd sylw
hefyd bod ceisiadau ar gyfer yr ardal yn y gorffennol wedi tynnu sylw at yr
effaith y byddai’n ei gael ar fywyd gwyllt yn arbennig i ddraenogod a
gwrychoedd. Ymatebodd y
swyddogion i’r ymholiad drwy fynegi bod y swm gwreiddiol ar gyfer mannau
cyhoeddus wedi’i leihau gan mai dim y Cyngor a fyddai'n cynnal y mannau agored
gwyrdd ac felly cafodd y cyfanswm ei leihau. Y rheswm dros gynyddu’r cyfraniad
addysg oedd bod yr asesiad o anghenion gwreiddiol mewn ysgolion wedi’i
ail-asesu ym mis Ionawr a bod y cyfanswm wedi cynyddu gan fod angen wedi’i
nodi. Mae asesiad ecolegol o’r safle yn dynodi na fyddai yna effaith andwyol ar
ecoleg yn yr ardal. Wrth ymateb fe
ofynnodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) os oedd gan Gyngor Sir Ddinbych bolisi ar gynnal mannau agored. Dywedodd y
swyddogion bod hynny’n dibynnu ar y safle ond ar
gyfer y rhan fwyaf o achosion ni fyddai'r Cyngor yn cynnal y mannau agored.
Roedd yna lawer o ddewisiadau eraill ar gael i gynnal mannau gwyrdd. Byddai’r
cyfraniad addysg yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’r tîm addysg. Yn cyfeirio
nôl i'r cynllun cynnal ar gyfer y datblygiad arfaethedig roedd y pwyllgor yn
bryderus fel gyda cheisiadau blaenorol bod cynllun cynnal ddim wedi'i gadarnhau
a oedd yn achosi dryswch i breswylwyr. Gofynnodd aelodau ar gyfer unrhyw
geisiadau yn y dyfodol y dylid cytuno ar waith cynnal a chadw o fewn y broses
gynllunio. Ymateb swyddogion oedd bod cynlluniau cynnal a chadw ar gyfer mannau
agored gwyrdd mewn ceisiadau yn gallu cael eu trafod mewn cyfarfod Pwyllgor
Craffu yn y dyfodol. Gofynnodd aelodau
a oedd asesiad effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gyflawni ar gyfer y cais.
Dywedodd y swyddogion wrth y pwyllgor bod y datblygiad arfaethedig o fewn y CDLl a bod asesiad iaith Gymraeg wedi cael ei wneud yn
ystod y broses CDLl. Mynegodd aelodau
eu pryderon gyda llifogydd yn yr ardal gyda’r datblygiad arfaethedig, dywedwyd
wrth yr aelodau nad oedd yna wrthwynebiadau wedi bod gan gyrff proffesiynol i’r
datblygiad. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i gymeradwyo’r
cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd
gan y Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 10 GWRTHOD – 0 YMATAL - 2 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF. 02/2019/0895 - TIR YNG NGLASDIR, RHUTHUN PDF 168 KB I ysteriad cais i codi 77 annedd fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 77 o dai fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith cysylltiedig
ar dir yn Glasdir, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Peter Lloyd (O blaid) – y cysyniad o Glasdir yw estyniad trefol cynaliadwy, gyda thai a
chyflogaeth yn dod ynghyd gyda ffordd gyswllt oedd wedi’i gynllunio am 20
mlynedd ac yn y cynllun lleol mabwysiedig.
Ni fyddai’n dod fel newyddion i’r pwyllgor y byddai’r datblygiad
arfaethedig ar y safle yn ddatblygiad tai fforddiadwy sydd mawr ei angen. Mae
polisïau cynllunio yn cefnogi datblygu tai ar dir addas heb ei ddatblygu o fewn
setliadau, byddai’r datblygiad hwn yn cwblhau jig-so Glasdir.
Byddai dyluniad y tai yn rai carbon isel a defnydd ynni isel; dyma ddyfodol
datblygiadau. Gyda pherygl llifogydd mae ymgyngoreion
Clwyd Alyn wedi gweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol
Cymru a swyddogion amddiffyn rhag llifogydd gyda’r data a modelu mwyaf diweddar
i arddangos y peryglon sy’n berthnasol â'r safle a'r
canlyniadau. Mae’n cynnwys caniatáu ar gyfer newid hinsawdd ar, ac oddi ar y safle a’r gallu i’w liniaru'n
dderbyniol yn unol â pholisi cynllunio TAN-15. Mae’r ymateb gan ymgyngoreion statudol a mewnol yno heb wrthwynebiad. Byddai
buddion o’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a Chlwyd Alyn wrth
ddatblygu tir y mae’r cyhoedd yn berchen arno ar gyfer tai fforddiadwy i bobl
leol. Byddai cyfraniadau ariannol sylweddol i fannau agored, systemau draenio
cynaliadwy ac mae’r rhaglen SAB wedi’i gyflwyno’n barod. Mae diogelu’r iaith
Gymraeg wedi cael ei asesu yn y cais. Byddai’r cais yn cynnwys tai a byngalos
carbon isel o safon uchel, llwybrau troed, llwybrau beic a mannau agored gwyrdd
a fyddai'n dangos hyder a buddsoddiad yn Rhuthun. Byddai hyn yn gynllun tai
arloesol a fyddai’n sicrhau £9.1million o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a
gofynnwyd i’r pwyllgor i gymeradwyo’r cais i ddatgloi'r buddsoddiad posib. Trafodaeth Gyffredinol – Y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) yn falch
bod yr eitem yn cael ei drafod yn y pwyllgor. Roedd llawer o bryder gan bobl
leol i’r datblygiad arfaethedig ac roedd hi’n tawelu
meddwl rhywun clywed llawer o'r pryderon hynny'n cael
eu hateb yn yr adroddiad gan y swyddogion. Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne
gysylltiad personol ar ôl deall bod ei frawd yn gwrthwynebu’r datblygiad. Y Cynghorydd
Bobby Feeley (Aelod Lleol) – yn bryderus bod y cynnydd mewn nifer o dai a phobl
yn rhoi straen ar isadeiledd presennol yr ardal. Pryderon wedi’u codi am yr
ardal datblygu arfaethedig gan y byddai'n cael effaith ar lif traffig i'r ardal
sydd yn ddigon drwg yn barod yn ystod adegau prysur. Roedd pryderon ynglŷn
â’r effaith posib ar ecoleg yr ardal, a’r perygl uwch
o lifogydd gan fod y tir mewn ardal perygl o lifogydd. Amlygwyd hefyd bod
Llywodraeth Cymru yn y broses o gryfhau polisïau yn berthnasol i lifogydd, a
bod oes polisi cynllunio TAN 15 ar gyfer y datblygiad wedi dyddio. Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) – eglurodd ei fod yn deall bod yna angen
corfforaethol am dai ac yn cydymdeimlo gyda swyddogion wrth lunio'r adroddiad a
bod angen dull o gydbwysedd. Fodd bynnag mae’r cais yn bwriadu adeiladu tai dwy
a tair llofft. Dydi'r dyluniadau ddim yn cyd-fynd â chymeriad y dref. Byddai angen gwneud
llawer iawn o waith hefyd o ran rheoli llifogydd. Byddai traffig yn yr ardal yn
cael ei effeithio'n negyddol gan y datblygiad, ac awgrymwyd bod angen gofyn am
wybodaeth yn lleol a'i ystyried yn arbennig gyda thraffig a'r effaith ar yr
ardal leol. Ymatebodd y swyddogion i'r pwyntiau a godwyd gan aelodau lleol. Roedd swyddogion yn deall pryderon yr aelodau o ran llifogydd a steil y ... view the full Cofnodion text for item 14. |