Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Huw Jones. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n
rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caniataodd y Cadeirydd
Merfyn Parry i ofyn am ddiweddariad
ar gais Bwlch
Du a drafodwyd yn flaenorol yn y pwyllgor cynllunio. Darllenodd y swyddogion
yr wybodaeth ddiweddaraf fel y’i cyflwynwyd gan Bennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd - “Y sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r mater hwn oedd
yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan Bwyllgor Cynllunio’r
Cyngor ym mis Medi eleni,
cyfarwyddwyd y Cyngor gan Lywodraeth Cymru i beidio â chymryd unrhyw gamau i gyflwyno penderfyniad mewn perthynas â’r cais
gan eu bod yn ystyried a ddylid
galw’r mater i’w benderfynu ganddyn nhw a’i peidio. Roedd Llywodraeth
Cymru ers hynny wedi cadarnhau
na fyddent
yn galw'r mater i wneud penderfyniad arno, ond fod
y cyfarwyddyd wedi cyfrannu at yr amser a gymerwyd i ddelio â'r mater hwn. Yn ogystal,
derbyniodd y Cyngor ohebiaeth gan gyfreithwyr
a oedd yn
gweithredu ar ran y fferm wynt yn
nodi bwriad eu cleientiaid i wynebu her gyfreithiol i benderfyniad y Pwyllgor a barn eu bargyfreithiwr yn cynnwys eu
rhesymau dros wneud hynny. Mae'r Cyngor
wedi ceisio cyngor cyfreithiol allanol annibynnol mewn perthynas â'r her gyfreithiol bosibl a ddaw yn
sgil cyfreithwyr y fferm wynt. Y cyngor
a gafwyd gan Gwnsler allanol yw bod angen i’r
Pwyllgor fynd i’r afael â rhai
o’r materion cyfreithiol a godwyd gan fargyfreithiwr y fferm wynt. Os
yw'r Pwyllgor yn bwriadu gwneud
yr un penderfyniad
eto, ar ôl
ystyried y materion hyn, bydd cyfle
iddynt egluro'r rhesymeg dros y penderfyniad. Nid oedd
hyn yn amharchu
penderfyniad y Pwyllgor. Mae’n ceisio sicrhau
bod pa bynnag benderfyniad
y mae'r Pwyllgor yn ei wneud
yn cydymffurfio'n gyfreithiol ac yn amddiffynadwy. Mae cynrychiolwyr cyfreithiol yr ymgeiswyr a chyfreithwyr y fferm wynt wedi cael eu hysbysu’n ffurfiol am y cynnig i fynd â’r mater yn ôl i’r Pwyllgor.” |
|
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019. Materion yn Codi – Gofynnwyd i'r pwyllgor gael gwybod
am eiriad y rhesymau dros wrthod eitem
9 ar y Rhaglen, Cais Rhif 43/2018/0750 - tir i'r gogledd,
i'r gorllewin a'r dwyrain o fferm
Mindale, Ffordd Hendre, Gallt Melyd,
a 10 Cais Rhif 43/2018/0751
- Tir i'r De-orllewin o Ffordd Ty Newydd, oddi ar
Ffordd Talargoch (A547). Hysbysodd y swyddog Cynllunio y pwyllgor fod cais 43/2018/0750 wedi'i wrthod am y rhesymau a ganlyn – Rheswm 1 Barn yr
Awdurdod Cynllunio Lleol yw y byddai
graddfa'r datblygiad yn cael effaith
annerbyniol ar gymeriad y pentref a'i seilwaith, yn enwedig mewn
perthynas â'r rhwydwaith priffyrdd, gan y byddai mewn
cyfuniad â datblygiadau ymroddedig ac arfaethedig eraill ar safleoedd
a ddyrannwyd, byddai'n ychwanegu at lefelau annerbyniol o dagfeydd amser brig a pheryglon i bob defnyddiwr ffordd. Byddai hyn yn
cael effaith negyddol ar les ac ansawdd bywyd preswylwyr
presennol ac arfaethedig sy'n defnyddio'r seilwaith priffyrdd. Ystyrir bod y datblygiad yn gwrthdaro ag ystyriaethau i'w cymhwyso i'r datblygiad
yn y Briff Datblygu Safle mabwysiedig 'Datblygiad Preswyl yn Ffordd
Hendre a Maes Meurig, Gallt Melyd,
Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych Polisi RD 1 ‘Datblygu cynaliadwy a dyluniad safonol da' meini prawf vii), viii) a ix), Nodyn Cyngor Technegol 18 'Trafnidiaeth', a Pholisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10. Rheswm 2 Barn yr
Awdurdod Cynllunio Lleol yw nad
yw'r cynigion yn dangos yn
ddigonol y gellir rheoli dŵr ffo wyneb o'r
safle a'r tir uwch ei
ben heb gynyddu'r risg o ollyngiadau ychwanegol i gyrsiau dŵr sy'n arwain
at y Gwter Prestatyn, ac felly'n cynyddu y potensial ar gyfer
llifogydd i lawr yr afon. Yn
unol â hynny, ystyrir bod y cynnig yn methu â chydymffurfio
ag ystyriaethau sydd i'w cymhwyso i'r
datblygiad yn y Briff Datblygu Safle mabwysiedig 'Datblygiad Preswyl yn Ffordd Hendre
a Maes Meurig, Gallt Melyd', Cynllun
Datblygu Lleol Sir Ddinbych Polisi RD1 'Datblygu cynaliadwy a dyluniad safonol da' meini prawf xi), Polisi VOE 6 ‘Rheoli Dŵr’, Nodyn Cyngor Technegol 15 ‘Datblygu a Risg Llifogydd’, a Pholisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10. Gwrthodwyd cais 43/2018/0751
am y rheswm a ganlyn –
Barn yr Awdurdod Cynllunio
Lleol yw y byddai adeiladu ffordd newydd yng
nghefn gwlad agored y tu allan
i ffin ddatblygu Gallt Melyd yn
fath annerbyniol o ddatblygiad sy'n cael effaith weledol
niweidiol, ac na ellir ei gyfiawnhau
yn absenoldeb caniatâd ar gyfer
unrhyw datblygiad preswyl cysylltiedig. Ystyrir bod y cynnig yn groes i brofion
i) a ii) o Bolisi ASA1 Cynllun
Datblygu Lleol Sir Ddinbych 'Seilwaith Trafnidiaeth Newydd', ystyriaethau i'w cymhwyso i effaith datblygiad newydd yn y llawlyfr rheoli
datblygu, paragraff 9.43 a Pholisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF 01/2019/0752 - 8 LÔN NANT, DINBYCH PDF 78 KB Ystyried cais i godi estyniad arfaethedig a gwneud addasiadau i annedd (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi estyniad ac addasiadau i annedd yn 8 Lôn Nant Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr Dyfrig Berry (Yn erbyn) - Yn deall pam fod y cymdogion wedi cyflwyno'r cais, ond yr unig
reswm iddo wrthwynebu'r cais yw oherwydd yr
effaith ormesol y byddai'r cais yn
ei chael ar breifatrwydd yng ngardd ei
eiddo. Roedd yr eiddo'n anarferol
gan fod ei
dŷ wedi'i
osod mewn triongl rhwng dau
eiddo arall, a oedd ymhellach yn ôl na'i
gartref, ac felly'r ardd gefn oedd
yr unig le â phreifatrwydd, ni fyddai gwrych yn
lliniaru unrhyw bryderon preifatrwydd. Dywedwyd bod yr ymgeisydd wedi honni bod ceisiadau tebyg wedi'u caniatáu
o'r blaen, ond ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau tebyg eraill. Roedd tri mater cynllunio yn peri
pryder, ond nododd swyddogion cynllunio mai'r unig sail dros wrthod oedd natur
ormesol y datblygiad arfaethedig. Dywedodd Mr Richard Jones (O blaid) - ei fod yn byw
yn 8 Lôn Nant gyda'i deulu, dau
o blant a fynychodd ysgolion lleol a bod ganddynt gysylltiad cryf â'r gymuned
leol. Nid oedd yr eiddo
wedi'i wella ers 30 mlynedd, a byddai'r datblygiad arfaethedig yn dod â'r tŷ i safonau modern. Atebwyd mwyafrif y gwrthwynebiadau yn yr adroddiad fel
rhai nad
oeddent yn berthnasol i'r cais. Yr unig
fater oedd heb ei ddatrys,
oedd y canfyddiad o fod yn ormesol
ar yr eiddo
cyfagos. Yn y nodiadau canllaw cynllunio atodol, nodwyd y dylid atal effaith ormesol
ar eiddo cyfagos yn enwedig
os oedd ffenestr
i'r drychiad ochr i'r eiddo
cyfagos y mae'r estyniad yn mynd
i’w gyfeiriad. Er nad oedd bob amser yn gyraeddadwy, dylid ystyried bwlch un metr rhwng
yr estyniad arfaethedig a'r ffin. Hysbyswyd yr aelodau nad oedd yr estyniad arfaethedig
yn cynyddu ôl troed yr
adeilad presennol, ac nad oedd ffenestri
i'r drychiad deheuol, a oedd yn mynd i gyfeiriad
10 Lôn Nant. Hysbyswyd yr aelodau bod 10 a 12 Lôn Nant wedi cael
caniatâd cynllunio blaenorol wedi'i gymeradwyo a oedd yn lleihau maint
cefn yr ardd
a oedd yn ychwanegu at y canfyddiad o gael ei gau i mewn. Dywedwyd
y byddai'n annheg pe bai'r cais
yn cael ei
wrthod pan fo
ceisiadau eraill wedi cael eu
caniatáu o'r blaen, ac yn dymuno
i'r cais gael ei ganiatáu
fel y gallai ei deulu barhau
i fod yn rhan o'r gymuned
leol. Trafodaeth Gyffredinol – Amlygodd y Cynghorydd
Christine Marston a fynychodd yr
ymweliad safle natur gymhleth cynllun y safle a oedd yn
fwy amlwg na'r manylion yn
yr adroddiad, ond roedd y ceisiadau
a roddwyd yn flaenorol wedi gwneud yr ardd
y tu ôl i 10 Lôn Nant yn llai.
Nodwyd hefyd bod y ffenestri y tu ôl i rif
10 yn wydr tywyll, a nodwyd gan ei bod yn
amlwg bod tros-edrych yn broblem. Canmolodd y Cynghorydd Mark
Young (aelod lleol) y siaradwyr cyhoeddus am siarad ar gais
mor anodd, a gofynnodd am eglurder ynghylch a oedd dyfarniad ar fater
gormesol yn fater o bolisi neu farn, ac a ellid cynnwys unrhyw
amodau ar unrhyw ffenestri ar yr estyniad
pe bai'r cais yn cael
ei gymeradwyo, a fyddai'n cynorthwyo i leddfu unrhyw bryderon. Dywedodd yr aelodau y dylai'r adroddiad nodi cyngor tref ac nid cyngor cymunedol. Gofynnwyd hefyd a fu asesiad ar yr effaith ar olau ar gyfer eiddo cyfagos. Codwyd ceisiadau hanesyddol ag effaith ormesol na thrafodwyd yn y Pwyllgor Cynllunio a sut ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 01/2019/0757 - CHWAREL GRAIG, FFORDD Y GRAIG, DINBYCH PDF 79 KB Ystyried cais i amrywio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio 01/2009/1424/PS i ganiatáu parhad y gwaith o echdynnu adnoddau a ganiateir (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amod 1 caniatâd cynllunio
01/2009/1424/PS i ganiatáu parhau
i gloddio cronfeydd a ganiateir yn Chwarel
Graig, Ffordd Graig, Dinbych, LL16 5US (a elwir hefyd yn
Chwarel Dinbych). Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid gohirio'r cais i ystyried pryderon lleol gan gynnwys
amlder y ffrwydro, ac i egluro’r mater o gronfa budd cymunedol. Awgrymwyd y gellid trafod y materion hyn yn ystod
ymweliad safle â'r chwarel. Eiliwyd
gan y Cynghorydd Melvyn
Mile. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO – 17 YN ERBYN GOHIRIO – 0 YMATAL – 1 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO’R cais i ganiatáu ymweld â'r safle. |
|
CAIS RHIF 11/2019/0472 - TYN Y CELYN, CLOCAENOG, RHUTHUN PDF 95 KB Ystyried cais i adeiladu adeilad storio gwrtaith i’w ddefnyddio mewn
perthynas â’r uned ddofednod
bresennol, ffurfio mynedfa gerbydau newydd i wasanaethu’r adeilad a gwaith
cysylltiedig (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi adeilad storio
tail i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r uned ddofednod
bresennol, ffurfio mynediad cerbydol newydd i wasanaethu'r adeilad a gwaith cysylltiedig yn Tyn Y Celyn, Clocaenog, Rhuthun. Siaradwyr Cyhoeddus – Bill Seymour (Yn erbyn) - Hysbysodd yr aelodau
fod sawl gwrthwynebiad yn weddill i'r datblygiad
arfaethedig. Roedd yna sied dail a oedd eisoes yn cael
ei defnyddio, dywedwyd nad oedd
asesiad effaith cronnus wedi'i gynnal. Roedd y prawf aroglau wedi’i
gynnal mewn swyddfa ac ni
sylweddolodd effaith lawn yr aroglau, oherwydd
ar adegau roedd yr arogl
yn annioddefol i'r preswylwyr cyfagos. Amlygwyd nad oedd
y ffordd a ddefnyddiwyd i gludo'r tail yn addas at y diben, hysbyswyd y pwyllgor hefyd fod mynedfa
arall yn cael ei defnyddio
ar gyfer y safle nad oedd
wedi'i chymeradwyo. Catrin Jones (O Blaid) - gwnaeth y pwyllgor yn ymwybodol fod
y datblygiad arfaethedig er mwyn cydymffurfio
â rheoliadau Llywodraeth Cymru a fyddai'n dod i rym.
Byddai'r sied newydd yn caniatáu
i'r tail gael
ei storio o dan do ac mewn awyrgylch sych, byddai'r sied wedi'i
lleoli'n agosach at y fferm a fyddai o fudd i'r fferm
fel busnes lleol. Roedd y sied bresennol yn cael ei
rhentu, byddai'r storfa arfaethedig newydd yn caniatáu
rheolaeth bellach i'r fferm dros
storio tail. Byddai'r sied storio arfaethedig
hefyd wedi'i lleoli ymhellach oddi wrth breswylwyr
na'r sied a oedd yn
cael ei defnyddio
ar hyn o bryd. Trafodaeth Gyffredinol – Codwyd pryderon yn dilyn yr
ymweliad safle, o ran y ffordd a ddefnyddiwyd gan HGVs i gludo'r tail, gan ei bod yn
lôn wledig gul ac i'r cerbydau
achosi difrod i'r ffordd. Amlygwyd
hefyd nad
oedd unrhyw goed wedi'u plannu
ar waelod y lôn y cytunwyd arnynt fel amod
mewn cais blaenorol. Hysbysodd y Cynghorydd Eryl
Williams (Aelod Lleol) y pwyllgor fod y mater yn un cynhennus
yn y gymuned leol. Gofynnwyd am gadarnhad o'r storfa,
ynghyd â'r hyn a gynhyrchwyd y fferm. Cytunwyd nad oedd
y ffordd a oedd yn cael ei
defnyddio ar hyn o bryd yn
ddelfrydol. Ailadroddwyd
bod y sied wedi'i chynnig i gydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a oedd yn
cael ei gweithredu,
a oedd yn ei gwneud yn
ofynnol i dail
gael ei storio
mewn sied dan do. Ymatebodd swyddogion i bryderon aelodau. Eglurwyd bod y swm a oedd yn mynd
i gael ei
storio yn 5 mis o dail. Nid
oedd yr union gapasiti yn hysbys.
Roedd yr adeilad arfaethedig wedi'i symud ymhellach
o drigolion i leihau'r effaith. Ni fyddai'r llwch o'r gweithgareddau
yn cael fawr
ddim effaith ar y preswylwyr cyfagos. Aseswyd hefyd nad
oedd yr arogl
yn cael unrhyw
effaith andwyol ar breswylwyr. Sicrhawyd yr aelodau
y byddai cydymffurfiad â'r amodau a
osodwyd ar geisiadau blaenorol yn cael eu
hymchwilio.
Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Ann Davies y dylid gwrthod y cais oherwydd yr effaith
andwyol ar amwynderau lleol, ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Andrew Thomas. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Alan James y dylid caniatáu'r cais yn unol ag
argymhellion swyddogion a eiliwyd gan y Cynghorydd
Merfyn Parry. Awgrymodd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS RHIF 46/2019/0748 - APRIL COTTAGE, FFORDD GLASCOED, LLANELWY PDF 98 KB Ystyried cais i adeiladu sgrin 1.75m o uchder o goed
cyll, wedi’i gwehyddu â llaw, a gyda phostyn concrid wedi’i orchuddio â phren
gyda chapiau pren sgwâr (rhannol ôl-weithredol) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi sgrin pren
cyll wedi'i wehyddu â llaw 1.75m gyda chefnogaeth goncrit wedi'i orchuddio â phren gyda chapiau pren
sgwâr (yn rhannol ôl-weithredol) yn April Cottage, Ffordd Glascoed, Llanelwy. Siaradwyr Cyhoeddus – Tim Donovan (Yn erbyn) - nododd sut yr
oedd yn gwrthwynebu'r
cais gan ei fod ar
ffin ei eiddo.
Dywedodd nad
ffens oedd y ffin ond gwrych,
ac y dylai fod ag ardal hawddfraint. Roedd y gwrych wedi'i gynnal a'i
gadw'n dda ac mewn cyflwr da. Roedd adeilad ôl-weithredol
eisoes wedi’i godi a oedd
yn effeithio ar amwynderau a hawddfraint y gwrych ac nid oedd yn
caniatáu ar gyfer gwneud gwaith
cynnal a chadw ar y gwrych. Dywedwyd
bod y gwrych wedi marw gan fod
gwaith adeiladu'r ymgeisydd wedi ei ladd. Roedd
angen gofal a chynnal a chadw ar y gwrych fel
y ffin rhwng y ddau eiddo. Byddai
gwrych a ffens bren newydd
yn eu lle
ym mis Ionawr,
a byddai hysbysiadau cyfreithiol perthnasol yn cael eu
cyhoeddi. Roedd materion cyfreithiol yn parhau mewn
perthynas â'r ffin. Ystyriwyd bod y cais yn ddi-rym
gan nad
oedd yr hen goetsdy yn y cais.
Dywedwyd hefyd bod dyletswydd ar y pwyllgor i amddiffyn adnoddau naturiol yn yr ardal. Tim McSweeney (O Blaid) - amlygodd y rhesymau pam y codwyd y ffens, sef ar
gyfer diogeledd, preifatrwydd a diogelwch. Roedd gan y ffens
bresennol giât ynddo y gallai'r cymydog ei defnyddio
ar unrhyw adeg, a fyddai'n effeithio ar breifatrwydd
a diogelwch perchnogion
April Cottage gan y gallai unrhyw un ddefnyddio'r
giât a chael mynediad i'r gerddi
yno. Roedd y giât hefyd yn
peri pryder diogelwch gan fod
gan berchnogion April
Cottage wyrion ac roedd y giât agored yn
gyfle i adael yr eiddo. Roedd
perchnogion April Cottage yn
geidwaid i'r eiddo oherwydd ei oedran. Roedd
swyddogion wedi argymell y dylid caniatáu ffens gyda ffens cyll
wedi’i wehyddu gyda chladin a chapio’r pyst concrit.
Roedd y perchnogion wedi cydymffurfio â'r awgrymiadau. Ni chadarnhawyd y rhesymau dros ladd y gwrych
ar adeg y cyfarfod. Gofynnwyd felly i'r pwyllgor ganiatáu'r
cais yn ddarostyngedig
i'r amodau a gynhwysir yn argymhelliad
y swyddog. Trafodaeth Gyffredinol - Tynnodd swyddogion
cynllunio sylw'r pwyllgor at y math o ffens a fyddai'n cael ei
hadeiladu. Roedd y cais yn cael
ei drafod gan fod y ffens
o fewn cwrtil adeilad rhestredig a dim ond am y rheswm hwn yr oedd
angen caniatâd cynllunio arno.
Y cynnig oedd disodli'r ffens bresennol â ffens cyll wedi’i wehyddu.
Roedd swyddogion wedi asesu'r cais,
ac roedd y swyddog cadwraeth hefyd wedi adolygu'r cais. Argymhellodd swyddogion y dylid caniatáu’r cais. Dywedodd y Cynghorydd
Peter Scott (Aelod Lleol) fod gan gyngor
y ddinas amheuon gyda'r cais yn
wreiddiol, ond yn dilyn y diwygiadau
nid oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiadau i'r cais. Trefnwyd ymweliad safle ond cafodd ei
ganslo, a gofynnwyd pam fod hyn wedi
digwydd. Hysbysodd swyddogion y pwyllgor fod mynediad wedi'i
wrthod i’r tir, ond serch
hynny, teimlwyd y gellid asesu'r cais yn ôl
ei deilyngdod gyda'r wybodaeth a'r delweddau a ddarparwyd. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid caniatáu’r cais yn unol ag
argymhellion swyddogion, ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. PLEIDLAIS: CANIATAU – 18 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R
cais yn unol
ag argymhellion swyddogion fel y manylir yn yr
adroddiad a'r papurau atodol. |
|
CAIS RHIF. 28/2019/0808 - THE RIGGERY, HENLLAN, DINBYCH PDF 168 KB Ystyried cais i adeiladu garej ar wahân (manylion diwygiedig i’r rhai a
gymeradwywyd yn flaenorol) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi garej ar
wahân (manylion diwygiedig i'r rhai a gymeradwywyd yn flaenorol) yn
The Riggery, Henllan,
Dinbych. Hysbysodd swyddogion cynllunio y pwyllgor fod y cais yn
ymwneud â manylion garej a oedd
wedi'u cymeradwyo o'r blaen, gyda'r
cais i gynyddu maint y garej, gan ei bod yn
cael ei lleoli
wrth ymyl wal ffrynt y plot. Roedd y pryderon a godwyd gan y cyngor
cymuned ynghylch y diwygiadau i'r garej gan achosi
problemau gwelededd. Credai swyddogion na fyddai'r
garej yn achosi problemau gyda gwelededd. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y dylid
caniatáu’r cais yn unol ag
argymhellion swyddogion, ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Emrys Wynne. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R
cais yn unol
ag argymhellion swyddogion fel y manylir yn yr
adroddiad a'r papurau atodol. |
|
CAIS RHIF 45/2019/0537 - 9 STRYD BODFOR, Y RHYL PDF 79 KB Ystyried cais i drawsnewid y llawr cyntaf a’r ail lawr i greu 3 fflat
hunangynhwysol a mynedfa ar wahân ar flaen yr uned fanwerthu bresennol (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i drosi lloriau cyntaf
ac ail lawr i ffurfio 3 fflat hunangynhwysol a ffurfio mynediad ar wahân o flaen
yr uned fanwerthu
bresennol yn 9 Stryd Bodfor, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Ellie Chard y dylid gwrthod y cais ac ailgyflwyno'r cais gyda dau fflat
o faint priodol. Eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray. Gofynnodd yr aelodau am eglurder yr arwynebedd llawr
mewnol a'r canllawiau perthnasol, gan fod y mater wedi'i drafod mewn
perthynas â nifer o geisiadau cynllunio yn ddiweddar. Holodd
yr aelodau hefyd pa ddarpariaethau oedd ar waith
ar gyfer biniau ac amwynderau ar gyfer sychu
dillad. Codwyd pryderon ynghylch un o'r
fflatiau a fyddai'n is na'r maint a argymhellir
ar gyfer fflat, gan nad
oedd fflatiau tebyg yn hanesyddol
wedi cael eu cydsynio yn
yr ardal oherwydd gor-ddwysáu llety o ansawdd isel. Pryder arall
oedd, pe bai'r cais yn
cael ei gymeradwyo
y gallai sefyllfa debyg ail-gydio. Cefnogodd aelodau eraill y pwyllgor y cais gan y byddai'n
ailddatblygu eiddo nas defnyddiwyd ac yn dod â
hwy yn ôl
i ddefnydd fel llety o ansawdd da, a allai fod yn
gatalydd ar gyfer datblygiadau pellach yn ardal
y Rhyl. Tynnodd yr aelodau sylw hefyd
at y ffaith bod maint tai Sir Ddinbych yn uwch na
chyfartaledd Cymru. Dywedodd swyddogion fod arwynebedd llawr fflatiau yn y canllawiau cynllunio ac chyfeiriwyd at isafswm arwynebedd llawr o 50m2. Awgrymwyd
y dylid asesu'r cais ar sail gytbwys,
gan y byddai dau o'r fflatiau'n
fwy na
50m2, a bod y fflat dwy
ystafell wely dros 70 metr sgwâr.
Byddai'r trydydd fflat 3m2 yn llai na'r hyn
a argymhellir yn y canllawiau. Roedd y cais yn
gofyn am asesiad o'r mân ddiffyg
mewn arwynebedd llawr islaw'r canllawiau,
yn erbyn buddion y cais wrth ddod â gofod
nas defnyddiwyd yn ôl i ddefnydd.
Eglurodd y swyddogion fod lle y tu
ôl i'r uned
ar gyfer storio biniau ac amwynderau ar gyfer
sychu dillad. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid caniatáu'r cais yn unol ag
argymhellion swyddogion, ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Tony Thomas. Roedd yr aelodau'n cwestiynu a fyddai cydsynio i'r cais yn
gosod cynsail sy'n ei gwneud
yn ofynnol cymeradwyo fflatiau yn y dyfodol o dan 50m2. Ymatebodd swyddogion bod yn rhaid asesu'r cais
o flaen yr aelodau yn ei
gyfanrwydd a bod buddion amlwg i'w cael
o roi caniatâd. Pe bai ceisiadau
yn y dyfodol yn cael eu
cyflwyno i'r pwyllgor gyda nifer
o fflatiau o dan y canllaw 50m2, mae'n debygol y byddai swyddogion yn argymell
gwrthod. Gofynnodd y cadeirydd am eglurhad gyda'r rhesymau dros wrthod
cyn bwrw ymlaen i'r bleidlais. Eglurodd y Cynghorydd Bob
Murray mai'r rheswm dros wrthod oedd
gor-ddwysáu yn yr ardal, ac y byddai cynsail yn cael ei
osod i fflatiau bach gael
eu hadeiladu yn yr ardal. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 12 GWRTHOD – 5 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R
cais yn unol
ag argymhellion swyddogion fel y manylir yn yr
adroddiad a'r papurau atodol. |