Agenda and draft minutes
Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau
am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Emrys Wynne,
Julian Thompson-Hill, Huw Jones a Pete Prendegast. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - datganodd fuddiant
personol yn eitem 5, 6 a 7 ar yr agenda wrth i'r ymgeiswyr fynd i'r un clwb
rygbi. Y Cynghorydd Brian Jones - datganodd fuddiant personol yn
eitem rhif 16 ar yr agenda gan ei fod yn byw yn agos at y cais arfaethedig |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf
2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2019. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 16) - Cyflwynwyd ceisiadau
a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.
Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr
(taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud
â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu
ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 43/2019/0555 – 15 PENDRE AVENUE, PRESTATYN PDF 79 KB Ystyried cais i
godi estyniad unllawr i gefn annedd (cais
ôl-weithredol) yn 15 Pendre Avenue, Prestatyn (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi
estyniad unllawr ar y cefn (cais
ôl-weithredol) yn 15 Pendre Avenue Prestatyn. Darllenodd y Cynghorydd Tina
Jones ddatganiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn
ei absenoldeb. Gwnaed cais i drefnu
ymweliad â’r safle er mwyn
canfod effaith y cais ar yr
eiddo gerllaw. Oherwydd yr egwyl
dros fis Awst, ni
wnaed y cais am ymweliad safle mewn amser. Felly gofynnwyd i’r cais
gael ei
ohirio tan fis Hydref er mwyn
gallu cynnal ymweliad safle. Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Tina
Jones i’r cais gael ei ohirio tan fis Hydref, ac fe eiliwyd
y cynnig gan y Cynghorydd Christine Marston. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 13 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD GOHIRIO’r cais. |
|
CAIS RHIF 02/2019/0159 – TIR YN FRON HAUL, LLANFWROG PDF 168 KB Ystyried cais am
amnewid adeilad presennol i gaban gwyliau, codi 3 caban gwyliau newydd, gyda
ffyrdd cysylltiedig newydd, creu pwll dŵr gosod systemau draenio a
thirlunio ar dir yn Fron Haul, Llanfwrog, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer adnewyddu adeilad presennol i chalet, codi 3 chalet
newydd, gyda gwaith adeiladu ffyrdd, creu pwll,
gosod gwaith draenio a gwaith tirlunio cysylltiedig ar y tir yn
Fron Haul, Llanfwrog, Rhuthun. Awgrymodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid
gohirio’r cais gan fod angen
mwy o wybodaeth am y cais cyn gwneud
penderfyniad. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Peter Evans ohirio’r
cais, ac fe
eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 12 GWRTHOD – 0 YMATAL – 1 PENDERFYNWYD GOHIRIO’r cais. |
|
Ystyried
ceisiadau – (i) Cais am ganiatâd cynllunio llawn i adeiladu archfarchnad, uned
gyflogi (dosbarth defnydd B1/B2/B8) a maes parcio cysylltiedig, tirlunio,
gwasanaethau a mynediad, a (ii) Cais am ganiatâd
cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu unedau cyflogi (dosbarth defnydd
B1/B2/B8) gyda phob mater yn cael eu cadw ar dir oddi ar A525 Marchnad
Arwerthiant Rhuthun a Brickfield Lane, Rhuthun (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
am ganiatâd cynllunio llawn i adeiladu archfarchnad, uned gyflogi (dosbarth
defnydd B1/B2/B8) a maes parcio cysylltiedig, tirlunio, gwasanaethau a
mynediad, a chais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu unedau
cyflogi (dosbarth defnydd B1/B2/B8) gyda phob mater yn cael eu cadw ar dir oddi
ar A525 Marchnad Arwerthiant Rhuthun a Brickfield
Lane, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Mr Bryn Richards (O blaid) - Hysbysodd yr aelodau y byddai’r
archfarchnad arfaethedig y 5ed archfarchnad newydd yng Ngogledd Cymru ac yn
fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i Ruthun. Eglurwyd bod y cais yn cynnwys yr
archfarchnad, ond hefyd yn datblygu mynediad ac unedau cyflogi ar y safle. Mae’r
tir cyflogaeth dynodedig wedi bod yn segur am ddwy flynedd ar bymtheg. Mae
trafodaeth wedi bod yn digwydd dros y dair mlynedd ddiwethaf gydag aelodau
lleol a swyddogion. Roedd preswylwyr lleol yn gefnogol iawn o’r datblygiad
arfaethedig gan nad oedd archfarchnad disgownt yn y dref. Bydd safle bws wedi’i
leoli ar yr A525 yn dilyn pryderon preswylwyr. Bydd y cynnig yn agor y safle ar
gyfer cyflogaeth pellach a defnydd diwydiannol. Roedd y cynnig yn cydymffurfio â'r cynllun datblygu ac yn bodloni holl ofynion
amgylcheddol. Trafodaeth
Gyffredinol - Nododd yr aelodau fod rhan o’r
datblygiad mewn parth llifogydd, a gofynnwyd pwy fyddai’n
gyfrifol am y draenio.
Amlygwyd y palmant a’r llwybr feicio
sydd wedi’u lleoli ar yr
A525 fel pryder gan fod cymaint
o ddisgyblion yn eu defnyddio i fynd i’r ysgol,
a gofynnwyd a oedd rhagofalon diogelwch digonol mewn lle. Ymatebodd
swyddogion drwy ddatgan y bydd y groesfan ar gyfer mynedfa ALDI yn addas i
gerddwyr. O ran y parth llifogydd, parth llifogydd categori C ydoedd, ac ni
fydd yn cael ei ddatblygu, bydd y system ddraenio angen cydymffurfio â Systemau
Draenio Cynaliadwy a phe byddai’r peirianwyr draenio yn cytuno, bydd y Cyngor
yn mabwysiadu'r System Ddraenio Cynaliadwy. Nid yw’r broses Draenio Cynaliadwy
yn un ar gyfer ei ystyried yn ystod y cam cais cynllunio. Bydd cost y system
ddraenio a’r broses cymeradwyo system ddraenio cynaliadwy yn cael ei ysgwyddo
gan yr ymgeisydd. Pwysleisiodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (aelod lleol) y gwaith sydd wedi’i gyflawni gan
aelodau lleol o ran datblygiad ALDI, a chytunodd gyda’r pryderon a godwyd gan
yr aelodau o ran y llwybr troed. Roedd y fynedfa â Chae Brics yn bryder
oherwydd fe'i defnyddir yn aml ar gyfer cerbydau
nwyddau trwm, fodd bynnag, cafwyd trafodaeth gadarnhaol gyda'r ymgeiswyr ac
mae'r mater wedi'i ddatrys bellach. Cafodd y pwyllgor sicrwydd mai ychydig iawn
o bryderon oedd gan breswylwyr lleol, ac roedd y diwydrwydd dyladwy a
gyflawnwyd o safon uchel. Bydd yr effaith gadarnhaol ar gyflogaeth yn y dref yn
gorbwyso'r effeithiau amgylcheddol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tony
Thomas argymhelliad y swyddog
i gymeradwyo’r cais, ac fel eiliwyd hyn
gan y Cynghorydd Peter
Evans. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 12 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO caniatâd yn unol ag argymhellion y swyddog fel y manylir
o fewn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 25/2018/1216 - BWLCH DU, NANTGLYN, DINBYCH PDF 5 KB Ystyried cais am
addasiadau ac estyniad i gefn adeilad presennol, dymchwel strwythur y cwrtil,
codi adeilad atodol, cynnal a chadw caban pren (am gyfnod byr), ffens a gatiau
ar y ffin a darparu parcio ar y safle a man troi ym Mwlch Du, Nantglyn, Dinbych
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am addasiadau ac estyniad i gefn yr adeilad presennol,
dymchwel strwythur cwrtil, codi adeilad atodol, cadw caban pren (dros dro),
ffensys a gatiau ffiniol a darparu man parcio a man troi ar y safle ym Mwlch
Du, Nantglyn, Dinbych. Daeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i gadeirio eitemau rhif 11
a 12 ar y rhaglen sy’n ymwneud â Bwlch Du, Nantglyn, gan mai’r Cadeirydd, sef y Cynghorydd Joe
Welch, oedd yr Aelod Lleol. Siaradwr Cyhoeddus – Mr Mark Davies (O blaid) –
atgoffodd yr aelodau y cyflwynwyd y cais gan ddau o drigolion y ward oedd wedi
prynu’r eiddo er defnydd preswyl, ac oedd eisiau defnyddio Bwlch Du fel annedd
breswyl. Er iddo gydnabod nad oedd hon yn ystyriaeth gynllunio berthnasol,
gofynnodd i’r Pwyllgor gadw hyn mewn cof. Tynnodd Mr Davies sylw at baragraff 2.7 Adroddiad Atodol y Swyddog i’r
Pwyllgor, lle’r oedd yr adroddiad yn gwrth-ddweud cyngor Cwnsler yr ymgeisydd y
byddai angen cymryd ‘camau cadarnhaol’ i ddangos bod yr eiddo wedi’i adael yn
wag. Dadleuodd Mr Davies ei bod yn bosib cymryd camau cadarnhaol i adael
rhywbeth yn wag. Ychwanegodd bod angen i’r Cyngor ddangos tystiolaeth na fu
defnydd preswyl i’r eiddo yn ôl pwysau tebygolrwydd, ac nid dyma’r
achos yma. Gan gyfeirio at gyfraith achosion a amlinellwyd yn nogfennau’r
Pwyllgor, amlygodd Mr Davies benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol oedd yn nodi,
lle’r oedd dyluniad y strwythur wedi’i bennu mor agos gan y defnydd, a lle’r
oedd llawer o’r strwythur yn dal i fod yn sefyll, y byddai’n rhaid dibynnu ar
dystiolaeth o gamau mwy cadarnhaol i benderfynu a adawyd yr eiddo’n wag ai
peidio. Gan fod posib adnabod Bwlch Du yn amlwg fel annedd, roedd rhaid i’r Cyngor
edrych ar dystiolaeth mwy cadarnhaol i ddangos y gadawyd yr eiddo’n wag. Wrth droi at argymhellion y swyddog i wrthod y cais, tynnodd Mr Davies sylw
at y defnydd o Bolisi PSE4 Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych
i gefnogi gwrthod y cais. Roedd PSE4 yn ymwneud ag ailddefnyddio ac addasu
adeilad gwledig yng nghefn gwlad agored i’w ddefnyddio fel annedd. Dywedodd Mr
Davies wrth y Pwyllgor nad oedd Polisi PSE4 yn gymwys gan fod Bwlch Du yn dal i
fod yn annedd breswyl, ac wedi bod erioed. Nododd Mr Davies hefyd nad oedd
rhesymau 2 a 3 dros wrthod yn ddilys. Tynnodd sylw’n arbennig at reswm 4 fel
mater amherthnasol – diogelu safleoedd ffermydd gwynt rhag datblygiadau eraill allai arwain at fethu eu defnyddio – gan ei fod, unwaith yn
rhagor, yn seiliedig ar adeilad heb statws defnydd preswyl eisoes. Trafodaeth Gyffredinol – Bu i’r
Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd, gyfeirio’r Pwyllgor at wybodaeth arwyddocaol a ddosbarthwyd yn yr
atodiad i brif adroddiad y rhaglen, ynghyd â gwybodaeth atodol a gyflwynwyd gan
gyfreithwyr yr ymgeisydd. Cyfeiriodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Joseph Welch, at y pwyntiau
canlynol: ·
Roedd sylwadau Natural Power
nad oedd trigolion lleol wedi codi Bwlch Du fel annedd preswyl yn ystod y
broses wneud cais am y fferm wynt, yn amherthnasol. Mae penderfynu a adawyd yr
adeilad yn wag ai peidio yn dibynnu ar y 4 prawf gadael eiddo’n wag, nid ar farn trigolion lleol amdano. ·
Amlinellodd yr adroddiad y 4 ffactor perthnasol i’w
hystyried wrth bennu a gefnwyd ar ddefnydd annedd ai peidio, a gwnaeth y
Cynghorydd Welch y sylwadau canlynol: o
Cyflwr materol yr adeilad: roedd yr adeilad, sy’n sefyll 1,400 o
droedfeddi uwchlaw lefel y môr, yn uchel iawn am adeilad yng Nghymru. Er hynny,
roedd ganddo do, simnai, pedair wal mewn cyflwr da ac roedd mewn cyflwr eithaf
da ar y cyfan. o A ddefnyddiwyd yr adeilad er ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CAIS RHIF 25/2018/1217 - BWLCH DU, NANTGLYN, DINBYCH PDF 83 KB Ystyried cais am
addasiadau ac estyniad i gefn adeilad presennol, dymchwel strwythur y cwrtil
(cais Adeilad Rhestredig) ym Mwlch Du, Nantglyn, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer addasiadau ac estyniad i gefn adeilad presennol,
dymchwel strwythur y cwrtil (cais Adeilad
Rhestredig) ym Mwlch Du, Nantglyn, Dinbych. Trafodaeth
Gyffredinol – Mr Mark Davies (O blaid) – cymeradwyo argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Joe
Welch argymhelliad y swyddog
i ganiatáu'r cais, ac eiliwyd y Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 13 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn unol ag argymhellion
swyddogion fel y manylir yn yr
adroddiad |
|
CAIS RHIF 43/2018/0750 – TIR YN MINDALE FARM, GALLT MELYD, PRESTATYN PDF 98 KB Ystyried cais ar
gyfer dymchwel annedd bresennol a’r tai allan, adeiladu 133 o anheddau,
adeiladu ffyrdd mewnol y stad, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy
a mannau agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol yn Mindale Farm, oddi ar Ffordd Hendre a Ffordd Gwilym, Gallt
Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer dymchwel annedd bresennol a’r tai allanol, adeiladu 133 o anheddau,
adeiladu ffyrdd mewnol y stad, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy
a mannau agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol
gyda chais 43/2018/0751 ar gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd Talargoch (A547) ar dir i ogledd, dwyrain a gorllewin i Mindale Farm, Ffordd Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus – Mr Bob Paterson (Yn erbyn) –
Eglurodd wrth y pwyllgor nad oedd mwyafrif o breswylwyr lleol yng Ngallt Melyd
eisiau i’r datblygiad ddigwydd, gyda 150 o sylwadau yn erbyn y cais. Fe
bleidleisiodd y cyngor tref yn unfrydol yn erbyn y datblygiad hefyd. Awgrymwyd,
er bod angen tai yn ardal Gallt Melyd, mae’r angen ar gyfer tai fforddiadwy ac
eiddo lle mae rhentu yn opsiwn. Roedd y datblygiad ar waelod bryn mewn ardal
sy’n adnabyddus am lifogydd, ac roedd hyn yn achosi pryderon mawr i breswylwyr
yn yr ardal. Roedd y datblygwyr wedi cynhyrchu adroddiad a oedd yn amlygu’r
pryderon llifogydd, ac roedd Waterco wedi cael eu
galw mewn gan Sir Ddinbych i adolygu hyn, ac roeddent
wedi amlygu nifer o agweddau, gan ddod i'r canlyniad y gallai'r
materion gael eu datrys fel y manylir yng ngham cynllunio'r cais - ond ni
liniarodd hyn bryderon preswylwyr. Ni ystyriwyd y cais yn hygyrch ar gyfer rhai
gydag anableddau ychwaith. Mr David Manley (O blaid) –
hysbysodd y pwyllgor y byddai’n ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan Mr Paterson. Roedd pryderon preswylwyr wedi’u clywed a’u
deall, fodd bynnag roedd y safle wedi cael ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) ac yn 2017 cefnogodd yr Arolygydd Sheffield ddatblygiad y safle er gwaethaf y teimladau cryf a fynegwyd yn erbyn y cais. Roedd y cyflenwad o dir ar
gael ar gyfer tai yn yr awdurdod yn 1.55 mlynedd yn erbyn isafswm gofyniad o 5
mlynedd, ac felly’n amlygu'r angen am dai. Cyflawnwyd
asesiad perygl o lifogydd a cynigwyd mesurau lliniaru. Nid oedd gan Waterco nac y Swyddog Arweiniol Perygl Llifogydd y Cyngor
unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion a gallai’r materion
gael eu datrys drwy roi amodau. Wrth nodi’r sylwadau ar hygyrchedd, cefnogodd
yr Arolygydd Sheffield y cais blaenorol gan nad oedd
y safonau o ran graddiannau wedi eu gosod. Atgoffodd y
Swyddog Cynllunio aelodau o'r cyd-destun a osodwyd gan y cais gwreiddiol, a gafodd ei wrthod gan y Pwyllgor yn 2007 am ddau reswm
(priffordd a llifogydd), a bod y penderfyniad hwn wedi bod yn destun apêl, a gafodd ei wrthod. Roedd y cais presennol yn ailgyflwyno yr un nifer
o anheddau (133), fodd bynnag roedd dau gais wedi'u cyflwyno i aelodau, un ar
gyfer yr elfen dai a'r llall ar gyfer ffordd gyswllt newydd ar y safle. Roedd y
cynnig tai yn cynnwys 12 math o anheddau gwahanol, 2/3 ystafell wely yn bennaf,
ac roedd 13 o unedau fforddiadwy yn cael eu darparu. Roedd yr ymgeisydd wedi
cadarnhau ei barodrwydd i gyfrannu tuag at anghenion Addysg a Thai Fforddiadwy.
Argymhelliad y swyddog
oedd cymeradwyo’r cais. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Peter Evans (aelod lleol) yn erbyn y cais a mynegodd
bryderon am effeithiau'r datblygiad o ystyried annigonolrwydd isadeiledd lleol
- yn arbennig y rhwydwaith priffyrdd, a goblygiadau draenio, gan fod pryderon o
ran materion llifogydd yn yr ardal. Codwyd cwestiynau dros safle Llywodraeth Cymru o ran cyfrifo ffigyrau tir
ar gael ar gyfer tai a’r dull o benderfynu cyfraniad addysg, gan gynnwys y
fecanwaith o sicrhau estyniadau / addasiadau i Ysgol Melyd. Mewn trafodaeth, cyfeiriodd aelodau at ffordd y B5119, a oedd ar ymyl y datblygiad ac ystyriwyd yn beryglus, a holwyd ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Ystyried cais ar
gyfer dymchwel annedd bresennol a’r tai allan, adeiladu 133 o anheddau,
adeiladu ffyrdd mewnol y stad, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy
a mannau agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol gyda
chais 43/2018/0751 ar gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd Talargoch
(A547) ar dir i ogledd, dwyrain a gorllewin i Mindale
Farm, Ffordd Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd Talargoch
(A547) ar dir i’r gogledd, gorllewin a dwyrain Mindale
Farm, Ffordd Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr Bob Paterson (Yn erbyn) - Awgrymwyd mai dyma’r lleoliad
anghywir i leoli’r ffordd, gan y byddai’n cael ei adeiladu dros hen
geuffordd/draen mwynglawdd Prestatyn, lle mae dŵr ffo'r mynyddoedd gerllaw
yn disgyn. Pe byddai’r ffordd
yn cael ei adeiladu gan achosi difrod i’r geuffordd, gallai hyn gynyddu’r
perygl o lifogydd. Byddai’r datblygiad yn effeithio ar rai o’r 43 o dai, ac yn
effeithio ar werth yr eiddo. Rhagwelir gostyngiad o tua 30%. Roedd y pwynt
mynediad arfaethedig yn agos at gyffordd Ffordd Tŷ Newydd ar yr A547.
Byddai graddiant y ffordd yn codi materion hygyrchedd ar gyfer unigolion gyda
symudedd cyfyngedig. Mr David Manley (O blaid)
– Ymatebodd i’r pwyntiau a godwyd gan Mr Paterson.
Nid oedd gwerth eiddo yn fater
cynllunio materol. Aethpwyd i’r afael â materion hygyrchedd drwy’r
arolygydd cynllunio blaenorol ac fe’i ystyriwyd yn
dderbyniol. Roedd y peryglon i’r geuffordd a’r hen fwynglawdd wedi cael eu nodi
yn yr Asesiadau Geoffisegol ac wedi eu llywio drwy graffu ar hen fapiau. Fe
ganfu’r asesiad dair siafft yng nghyffiniau'r ffordd arfaethedig. Nid oedd y
siafftiau a ganfu yn peri peryglon sylweddol. Awgrymwyd gosod amodau ar y
caniatâd ac y byddai gwaith tir yn cael ei gynnal cyn adeiladu unrhyw ffordd. Trafodaeth Gyffredinol – Hysbysodd y
Cynghorydd Peter Evans (aelod lleol) y pwyllgor bod preswylwyr yn erbyn y
datblygiad ffordd arfaethedig. Ceisiwyd eglurhad os oedd unrhyw waith drilio
wedi cael ei gyflawni ar y safle, ac oes oedd yr ymgeiswyr yn berchen y tir.
Gofynnwyd oes oedd unrhyw bwynt delio â'r cais gan
fod y cais safle tai wedi cael ei wrthod, gan olygu na fyddai'n 'ffordd i
unman'. Holodd yr aelodau
os oedd y tir o fewn y ffin Cynllun Datblygu Lleol. Codwyd cwestiynau pellach dros berchnogaeth y
tir, y goblygiadau pe byddai'r perchennog tir yn gwrthod gwerthu'r tir, a'r
dryswch a oedd yn codi o gyflwyno dau gais, yn hytrach na chyflwyno un cais. Ymatebodd y
swyddogion, gan gadarnhau nad oedd y tir o fewn ffin Datblygu ar gyfer
Prestatyn a Gallt Melyd, ond nid oedd hyn yn golygu nad oedd y datblygiad yn
annerbyniol o ganlyniad i hynny. Cadarnhawyd hefyd nad oedd yr ymgeisydd yn
berchen y tir, ond nid oedd hyn yn fater a ddylai ddylanwadu ar unrhyw
benderfyniad yn ymwneud â’r cynigion. Mewn perthynas â’r
sylwadau o ran gwrthod caniatâd ar gyfer y safle tai, eglurwyd y gallai’r penderfyniad hwn fod yn destun apêl ac y dylai’r
cais ffordd gael ystyried ar ei rinwedd cynllunio. Nodwyd yr aethpwyd i’r afael
â phryderon bod y ffordd yn cael ei ddatblygu fel cynllun ar ei ben ei hun,
drwy awgrymu amod a chytundeb cyfreithiol, a fyddai’n atal unrhyw waith nes bod
caniatâd cynllunio mewn lle ar gyfer y datblygiad tai. Nid oedd posib dweud os
oedd gwaith drilio wedi cael ei gyflawni, ond byddai angen cyflawni ymchwiliad
tir i benderfynu presenoldeb tir halogedig a’r angen i fynd i’r afael ag
ansadrwydd tir, cyn dechrau unrhyw waith adeiladu. Roedd yr ymgeiswyr yn
gweithredu o fewn eu hawliau drwy gyflwyno dau gais, ac roedd yn fater i’r
Awdurdod ddelio â hwy ar eu nodweddion cynllunio eu hunain. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry wrthod y cais ar sail bod y ffordd yn cael ei ddatblygu tu allan i’r Cynllun Datblygu Lleol ac yng nghefn gwlad agored, ac ni fyddai’r ffordd yn arwain at unrhyw ddatblygiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peter ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
CAIS RHIF 02/2018/1108 - TIR YN (GARDD RANNOL) Y FRON, STRYD MWROG, RHUTHUN PDF 167 KB Ystyried cais i
godi annedd ar wahân ac addasiadau i fynedfa i gerbydau presennol yn Nhir
(gardd rannol) Y Fron, Stryd Mwrog, Rhuthun (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi
annedd sengl ac addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ar y tir
yn (gardd rannol) Y Fron, Stryd Mwrog, Rhuthun. Trafodaeth
Gyffredinol - Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Huw Hildtich-Roberts wrth y pwyllgor nad oedd
gwrthwynebiad gan y rhai a ymgynghorwyd â hwy dros y cais,
er bod llythyrau wedi cael eu
derbyn gan breswylwyr lleol gyda phryderon, byddent yn gwrando
arnynt drwy gydol y broses datblygu. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd
Gwyneth Kensler argymhelliad y swyddog
i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan
y Cynghorydd Ellie Chard. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 12 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO caniatâd yn unol ag argymhelliad
y swyddog fel y manylir yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 02/2019/0095 - CAPEL BRYN SEION, GALLTEGFA, RHUTHUN PDF 79 KB Ystyried cais am
newid defnydd Capel gwag/ segur i annedd, dymchwel storfa penty a chodi
estyniad penty newydd a darparu offer trin newydd yng Nghapel Bryn Seion,
Galltegfa, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
i newid defnydd Capel gwag i annedd, dymchwel y storfa ategol a chodi estyniad ategol newydd a darparu safle triniaeth newydd yng Nghapel
Bryn Seion, Galltegfa, Rhuthun. Trafodaeth
Gyffredinol - Gofynnodd yr aelodau am eglurhad pam nad allai’r
eiddo gael ei ailddatblygu mewn i gartref i rywun, yn hytrach
na’i adael i ddirywio. Nododd y swyddogion nad oedd y polisi yn caniatáu
trawsnewid adeiladau. Fodd bynnag, roedd polisi PSE4 yn cynnwys profion yn
gofyn am ymarfer marchnata rhesymol i ddangos nad oedd unrhyw ddefnydd
cyflogaeth yn hyfyw, a bod yr annedd yn fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol.
Roedd yr ymarfer marchnata dros gyfnod o 6 wythnos, ond y cyfnod argymelledig yn y Canllaw Atodol oedd 12 mis. Nid oedd y
swyddogion yn teimlo bod cyfnod o 6 wythnos yn ddigonol mewn perthynas â’r polisi. Ymatebodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
(aelod lleol) gan awgrymu y gallai polisïau gael eu dehongli i weddu’r hyn oedd
y pwyllgor yn teimlo oedd o fudd i'r Sir. Roedd yr eiddo dan sylw yn
dirgaeedig, ac roedd y tir amgylchynol yn eiddo i'r ymgeisydd, cafodd y broses
farchnata ei chyflawni gan fusnes a’i werthu am £33,000, ond pe byddai
preswylwyr lleol wedi gweld y potensial, byddai wedi cael ei werthu am llawer
mwy. Roedd yr ymgeisydd eisiau dod a’r eiddo yn ôl
i ddefnydd, a byddai hynny’n galluogi ei deulu i symud
yn ôl i’r
ardal, byddai hyn hefyd yn
galluogi tŷ yng ngogledd y sir i gael ei werthu,
gan gydymffurfio â’r flaenoriaeth gorfforaethol tai ar gyfer Sir Ddinbych. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry gymeradwyo’r
cais yn erbyn
argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd hyn gan
y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ar
y sail bod yr amgylchiadau yn gorbwyso’r polisi,
ac ni fyddai
cyfle gwaith ar gael oherwydd
diffyg gofod parcio. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 12 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO caniatâd yn erbyn argymhelliad y swyddog, ar sail bod yr amgylchiadau yn gorbwyso goblygiadau
polisi, ac ni
fyddai cyfle gwaith ar gael
oherwydd y diffyg gofod parcio. Bydd
yr amodau’n cael eu trefnu
gydag aelodau lleol. |
|
CAIS RHIF 12/2019/0235 - TIR SY’N TARO AR BRYN BANC, CLAWDDNEWYDD, RHUTHUN PDF 95 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.1 hectar o dir drwy godi 2 annedd ar wahân (cais amlinellol gan
gynnwys mynedfa) ar dir sy’n taro ar Fryn Banc, Clawddnewydd, Rhuthun (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer datblygu
0.1 hectar o dir drwy godi 2 annedd
sengl (cais amlinellol yn cynnwys
mynediad) ar gyfer tir ger
Bryn Banc, Clawddnewydd. Trafodaeth
Gyffredinol – Holodd y Cynghorydd Eryl Williams (aelod lleol) os oedd
yr holl dir
yn y cais yn ffin y Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl). Ymatebodd y swyddogion drwy gadarnhau bod y datblygiad arfaethedig o fewn ffin y CDLl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard argymhelliad
y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Peter Evans. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 12 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’r caniatâd yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y manylir yn
yr adroddiad. |
|
Ystyried cais
gyda manylion am gynllun tirlunio caled a meddal a gyflwynwyd yn unol ag Amod 5
caniatâd cynllunio Rhif y Cais 20/2016/1137
– ar dir i’r gorllewin o Ffordd Wrecsam,
Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
gyda manylion am gynllun tirlunio caled a meddal a gyflwynwyd yn unol ag Amod 5
caniatâd cynllunio Cais Rhif 20/2016/1137
– ar dir i’r gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun Trafodaeth
Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) yn erbyn
y cais. Eglurodd ei fod yn
cefnogi datblygiad yn Llanfair, fodd bynnag mae
angen cynnal ymddangosiad y pentref oherwydd yr ardal
gadwraeth, ac roedd pryderon gan breswylwyr
a fyddai’n cael eu heffeithio gan
y datblygiad a’r gwaith tirlunio fyddai’n cael ei
gynnal. Cafodd yr aelodau wybod
bod is-orsaf arfaethedig yn agos i’r anheddau presennol, ac fe’i
ystyriwyd yn briodol codi wal gerrig ar hyd y ffin â’r
is-orsaf yn hytrach na ffens bren, fel y cynigwyd. Ymatebodd y swyddogion gan awgrymu mai’r mater allweddol oedd os oedd y
ffens sgrin yn briodol ai pheidio.
Roedd y ffiniau presennol gyda’r safle datblygu yn dangos cymysgedd o
ddeunyddiau. Dywedodd y swyddogion ei bod yn anodd mynnu codi wal gan na
fyddai’r sgrin mor weledol â hynny, gan gynnwys o'r ffordd ac o fewn y safle.
Gan mai’r unig fater a godwyd oedd addasrwydd y deunydd ar gyfer rhan o'r
sgrin, awgrymwyd y dylai aelodau ystyried delio â hyn drwy osod amod, fel bod y
tirlunio yn cael ei gymeradwyo a’i gyflawni. Roedd y Cynghorwyr yn siomedig bod is-orsaf yn
cael ei adeiladu mor agos at anheddau presennol. Ymatebodd y swyddogion drwy
hysbysu’r pwyllgor bod lleoliad yr is-orsaf wedi cael ei gymeradwyo fel rhan
o’r cais gwreiddiol ar gyfer datblygu. Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Merfyn argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r caniatâd ac ychwanegu amod bod wal gerrig
yn cael ei
adeiladu yn hytrach na
ffens sgrin (amod 1 yn yr
adroddiad). Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Alan James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 12 GWRTHOD – 2 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO caniatâd yn unol
ag argymhelliad y swyddog fel y manylir
yn yr adroddiad,
gydag addasiadau i eiriad amod rhif
1 yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2019/0337 - 22 AVONDALE DRIVE, Y RHYL PDF 172 KB Ystyried cais i
ddymchwel annedd bresennol, codi 2 annedd arwahân,
addasiadau i fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith cysylltiedig yn 22 Avondale Drive, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer dymchwel annedd bresennol, codi 2 annedd sengl, addasiadau
i’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith cysylltiedig yn 22 Avondale Drive, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol
– Cefnogodd y Cynghorydd
Brian Blakeley (Aelod Lleol)
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais. Cododd y Cynghorydd
Tony Thomas bryderon o ran yr
allanfa o Avondale Drive i’r
briffordd, gan fod gwelededd wrth
adael am y briffordd yn cael ei
ystyried yn beryglus. Gofynwyd i’r adran
priffyrdd asesu’r perygl a amlygwyd. Eglurodd y swyddog priffyrdd wrth yr aelodau, o ran cofnodion damweiniau yn yr ardal,
ni chofnodwyd
damwain yn y pum mlynedd ddiwethaf.
Wrth ychwanegu annedd arall, ni fyddai hyn yn cael
llawer o effaith ar y traffig. Eglurwyd
hefyd nad oedd posib’ cyflawni
gwelliannau ar hyd y ffordd gan
nad oedd
yr ymgeiswyr yn eiddo unrhyw
ochr o’r fynedfa i Avondale Drive. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Tony Thomas wrthod
argymhelliad y swyddog, oherwydd diogelwch y ffordd fawr gyda’r
traffig ychwanegol a fyddai’n bodoli wrth godi 2 annedd
sengl, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Christine Marston. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Merfyn Parry gymeradwyo’r
cais yn unol
ag argymhellion y swyddog, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Ellie Chard. PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 9 GWRTHOD – 2 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO caniatâd yn unol ag argymhellion
y swyddog fel y manylir yn yr
adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben
am 1:40pm. |