Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Huw Jones a Tony Thomas Estynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ei ddymuniadau
gorau i’r Cynghorydd Huw Jones a chytunwyd y dylid anfon cerdyn ato i'r perwyl
hwnnw. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Mai 2019
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 22 Mai 2019. PENDERFYNWYD y dylid
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin, 2019 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 11) - Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y
Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.
Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni
glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau
penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan
aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y
ceisiadau ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 25/2018/1216/PF - BWLCH DU, NANTGLYN, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais am
addasiadau ac estyniad i gefn adeilad presennol, dymchwel strwythur y cwrtil,
codi adeilad atodol, cynnal a chadw caban pren (am gyfnod byr), ffens a gatiau
ar y ffin a darparu parcio ar y safle a man troi ym Mwlch Du, Nantglyn, Dinbych
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i gadeirio’r
eitem hon gan mai’r Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch, oedd yr Aelod
Lleol. Roedd y Swyddogion wedi argymell
gohirio’r ddwy eitem. Trafodaeth
Gyffredinol - cyfeiriodd y
Swyddogion at wybodaeth yn y papurau atodol hwyr (taflenni glas) a gohebiaeth a
anfonwyd gan gyfreithwyr yr ymgeisydd ar 5 Gorffennaf. Yng ngoleuni manylder y wybodaeth hwyr hon
a’i harwyddocâd o ran y cais a oedd gerbron y pwyllgor, argymhellodd y
swyddogion, er tegwch i bob parti,
mai priodol fyddai gohirio'r
drafodaeth ar yr eitemau yn ymwneud â Bwlch Du.
Byddai hyn yn rhoi cyfle rhesymol i swyddogion adolygu’r wybodaeth,
ceisio cyngor cyfreithiol yn ôl yr angen ar unrhyw faterion sy'n codi, ac os
bydd angen adolygu cynnwys adroddiadau perthnasol y swyddogion, a gyflwynir i'r pwyllgor yn ddiweddarach. Dywedodd Cynghorydd Welsh (Aelod Lleol)
bod ceisiadau i ohirio eitemau fel arfer yn digwydd o ganlyniad i
dderbyn swmp o wybodaeth newydd ond roedd y rhan fwyaf o’r wybodaeth a dderbyniwyd yn yr achos hwn wedi bod yn
hysbys ers peth amser felly nid oedd yn cefnogi gohirio. Mewn perthynas yn benodol â’r eitem ar yr adeilad rhestredig
roedd swyddogion wedi argymell y dylid caniatáu’r cais ac roedd yr ymgeisydd
wedi dweud nad oedd am i’r cais gael ei ohirio.
Mewn ymateb dywedodd y swyddogion bod gwybodaeth newydd gymhleth a
chyfraith achos wedi eu cyflwyno nad oeddent wedi cael cyfle i’w hasesu ac mewn
amgylchiadau o’r fath y drefn arferol oedd gofyn am ohiriad er mwyn sicrhau bod
aelodau yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad
gwybodus. O ran yr elfen adeilad
rhestredig roedd cyfeiriad yn yr ohebiaeth at sut yr oedd swyddogion wedi delio
â’r mater felly gwnaed yr
argymhelliad i ohirio’r ddau gais er tegwch i’r ddau barti er mwyn darparu
rhagor o wybodaeth. Cynnig - cytunodd
y Cynghorydd Mark Young bod llawer o wybodaeth newydd wedi ei chyflwyno nad
oedd yr aelodau wedi cael digon o amser i edrych yn iawn arni felly roedd yn
cynnig, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ellie Chard, y dylid gohirio'r ddau gais yn unol ag
argymhelliad y swyddog. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO - 11 YN ERBYN GOHIRIO - 1 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD y
dylid GOHIRIO'R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog. Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young hefyd am eglurder ynglŷn â'r
trafodaethau gyda’r ymgeisydd am y mater o ddefnydd anghyfreithlon yr adeilad
ar ôl gweld cyfeiriad at Dystysgrif
Defnydd Cyfreithiol yn yr adroddiadau. Cyfeiriodd swyddogion at wybodaeth a ddarparwyd yn
flaenorol a'r mater o ardystio a oes gan adeilad statws cyfreithiol fel annedd
ai peidio, sy’n digwydd ar ffurf cais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithiol. Cadarnhawyd bod trafodaeth wedi digwydd
gyda’r ymgeisydd am hyn ond roedd angen delio gyda'r cais a gyflwynwyd. |
|
CAIS RHIF 21/2019/0197/PF - TAN Y GRAIG, MAESHAFN, YR WYDDGRUG PDF 95 KB Ystyried cais i
godi annedd newydd, garej ar wahân a gwaith cysylltiedig yn Nhan y Graig,
Maeshafn, Yr Wyddgrug (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi annedd newydd, garej ar wahân a
gwaith cysylltiedig yn Nhan y Graig, Maeshafn, Yr Wyddgrug. Siaradwr Cyhoeddus – Ms. B. Smith (o blaid) –
eglurodd Ms Smith gysylltiadau ei theulu â'r ardal a'r rheswm y tu ôl i'r cais sef bodloni anghenion teuluol ac i aros yn yr ardal ar yr un
pryd a darparu annedd hunangynhaliol addas ar gyfer y dyfodol sydd yn
economaidd ymarferol. Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Martyn Holland
(Aelod Lleol) o blaid y cais a fyddai’n galluogi teulu ifanc i aros yn yr ardal
a gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gymuned ffyniannus. Byddai’r eiddo newydd yn cwrdd a’r holl
heriau amgylcheddol ac yn cyd-fynd â’r mathau o eiddo sydd yn y cyffiniau
agos. Wrth gyfeirio at y polisïau a’r arweiniad
perthnasol dadleuodd y Cynghorydd Holland bod y profion perthnasol i Bolisi RD4
y Cynllun Datblygu Lleol wedi eu pasio oherwydd: (i)
bod gan yr adeilad hawl defnydd cyfreithiol fel
annedd er nad oes unrhyw un wedi byw yno yn y blynyddoedd diweddar a bod yr
adeiladau allanol wedi dirywio. (ii)
nid yw’r adeilad yn rhestredig ac mae amryw o
ychwanegiadau wedi eu gwneud nad ydynt wedi ychwanegu fawr ddim at gymeriad yr
ardal – nid oedd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys unrhyw
wrthwynebiad i’r cais ar yr amod y
gwneir cofnod o’r adeilad cyn ei ddymchwel. (iii)
mae’n annedd yn simsan ac yn aneffeithlon a
soniwyd am annigonolrwydd yr adeilad presennol a’r gwaith sylweddol a fyddai’n
angenrheidiol yn ôl yr adroddiad ar yr
archwiliad strwythurol sy’n golygu nad yw’r prosiect yn ariannol hyfyw. Wrth gloi ychwanegodd y Cynghorydd Holland bod
Cyngor Cymuned Llanferres a Chynghorwyr Cymuned Maeshafn yn cefnogi’r cais ac
mai pryderon pennaf y cymdogion agosaf yw cynhaliaeth y llwybr troed cyhoeddus
ac mae’r ymgeiswyr wedi cytuno i roi sylw i hyn. [Nododd yr adroddiad y disgwylir ymateb i’r
ymgynghoriad gan Gyngor Cymuned Llanferres o hyd]. Yn ystod y drafodaeth ystyriodd yr aelodau
rinweddau’r cais a dehongliadau’r profion polisi a gyflwynwyd gan y swyddogion,
yr aelod lleol a’r siaradwr cyhoeddus. Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi’i berswadio y
gwnaed achos cryf dros ganiatáu’r cais, yn enwedig o ystyried y cyfle i adeiladu
eiddo addas i’r pwrpas newydd, wedi’i osod yn ôl oddi wrth y ffordd heb unrhyw
achos cryf wedi’i gyflwyno o ran pwysigrwydd hanesyddol yr adeilad presennol. Siaradodd y Cynghorwyr Merfyn Parry a
Julian Thompson-Hill hefyd o blaid y cais gan ystyried na fydd unrhyw golledion
gormodol i’r amgylchedd lleol gan y bydd yr adeilad yn cyd-fynd â natur gymysg
gweddill yr eiddo yn y cyffiniau. Cyfeiriodd swyddogion at y profion Polisi RD4 sy’n
berthnasol yn yr achos hwn a chadarnhaodd bod i’r adeilad hawliau defnydd
cyfreithiol fel annedd yn uned ag RD4(i). Wedi ystyried safbwyntiau Cyfoeth Naturiol Cymru a
Phwyllgor yr AHNE roedd y swyddogion yn teimlo bod yr annedd presennol yn
gwneud cyfraniad pwysig i gymeriad yr ardal leol ac nad oedd felly'n
cydymffurfio ag RD4(ii) ac yn
cydymffurfio dim ond yn rhannol ag RD4(iii) (mae’r adeilad yn strwythurol
gadarn er ei fod mewn cyflwr gwael ac mae potensial i’w atgyweirio). Er y parchu rhinweddau’r ddadl a gyflwynwyd,
yng ngoleuni ymrwymiad i Cyngor i ddiogelu adeiladau o gymeriad neu rinwedd yng
nghefn gwlad, roedd y swyddogion wedi argymell y dylid gwrthod y cais. Cynnig - Roedd Cynghorydd Emrys Wynne yn teimlo y diwallwyd y prawf polisi perthnasol i Bolisi RD4 a bod y cynigion yn dderbyniol yng ngoleuni'r holl bolisïau ac arweiniad perthnasol. Ar y sail hwnnw cynigiodd, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Merfyn Parry, y dylid caniatáu’r cais a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAIS RHIF 45/2019/0156/PF – 64 FFORDD BRIGHTON, Y RHYL PDF 78 KB Ystyried cais am
newid defnydd ac addasiadau i gyn swyddfeydd i ffurfio ysbyty pwrpasol 61
gwely, 6 ward yn 64 Ffordd Brighton, y Rhyl (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd a gwneud
addasiadau i gyn-swyddfeydd i ffurfio ysbyty pwrpasol 61 gwely, 6 ward yn 64
Ffordd Brighton, y Rhyl (copi ynghlwm). Siaradwr Cyhoeddus – Dadleuodd Mr. J. Horden (asiant) (O blaid) –
yn erbyn y sail dros wrthod oherwydd nad oes galw yn y Rhyl am adeiladau
swyddfa mawr, a fawr ddim gobaith o werthu neu osod y safle yn yr achos
hwn, a phe bai'r cais yn cael ei ganiatáu byddai'r defnydd da'n cael ei wneud o'r
adeilad a chyflogaeth yn cael ei greu. Trafodaeth Gyffredinol - siaradodd y Cynghorydd Barry Mellor (Aelod
Lleol) yn erbyn y cais gan ddadlau na fyddai’r fath gyfleuster yn briodol ar
gyfer y lleoliad arfaethedig ac amlygodd yr effaith ar breswylwyr cyfagos o ran
aflonyddwch ac ofn troseddau a chyfeiriodd at gyflwyniad deiseb sy’n dangos
cryfder gwrthwynebiadau’r cyhoedd i’r cais. Cyfeiriwyd at yr achos busnes a’r model gwasanaeth
arfaethedig a chodwyd pryderon am y galw am wasanaethau a hyfywedd y cynigion
ynghyd â’r effaith dilynol ar gyfleusterau’r bwrdd iechyd lleol a’r
gwasanaethau cysylltiedig, a’r ffaith bod Heddlu Gogledd Cymru wedi codi pryderon
am y trefniadau diogelwch. Yn olaf, codwyd pryderon am golled tir cyflogaeth pe bai’r cais yn cael ei
ganiatáu. Yn ystod y drafodaeth ystyriodd yr aelodau
rinweddau’r cais a'r meini prawf polisi, a chafwyd trafodaeth bellach yn
canolbwyntio ar y profion polisi perthnasol i Bolisi Datblygu Lleol PSE 3 ac
egwyddor y datblygiad yr oedd swyddogion wedi seilio eu hargymhelliad i wrthod
arno. Casgliad y Swyddogion oedd nad oedd y profion wedi eu diwallu gan nad oedd
unrhyw wir dystiolaeth bod safleoedd eraill wedi cael eu hystyried ar gyfer y
datblygiad na bod proses farchnata wedi ei dilyn i ddangos na allai’r safle
arfaethedig bellach ddarparu lle cyflogaeth, ac ni ddylid felly ei ildio’n
barhaol at ddefnydd arall. Ystyriwyd y byddai colli’r defnydd o’r swyddfeydd yn tarfu ar allu’r ardal
i ddiwallu amrywiaeth o anghenion cyflogaeth lleol. Cyfeiriwyd hefyd at Nodyn Cyngor Technegol
23 cysylltiedig â datblygiad economaidd ac roedd Swyddogion Datblygiad Economaidd
y Cyngor wedi cynghori ynghylch diffyg eiddo o’r maint hwnnw y gellid ei
ddefnyddio ar gyfer swyddfeydd – er nad oes defnydd dynodedig ar hyn o bryd nid
yw hynny’n golygu mai dyma fydd yr achos yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at yr
angen tebygol yn y dyfodol am dir cyflogaeth ac adeiladau cysylltiedig â phrosiectau’n deillio o Fargen Twf
Economaidd Gogledd Cymru. Trafododd yr aelodau hefyd ystyriaethau cynllunio eraill posibl
cysylltiedig ag ofn troseddau fel sail dros wrthod gan na chafwyd tystiolaeth glir gan yr heddlu
o ran y pryderon a godwyd ganddynt a phe bai caniatâd yn cael ei roi efallai y
byddai'n bosibl rheoli'r pryderon hynny drwy bennu amodau. Cadarnhaodd yr aelodau hefyd y diffyg
tystiolaeth a gafwyd ynglŷn ag unrhyw effaith arwyddocaol ar isadeiledd y
gymuned a gofynion polisi yn y cyswllt hwnnw felly nid ystyriwyd bod yr effaith
ar yr isadeiledd yn sail briodol dros wrthod yn yr achos hwn. Am y rhesymau hyn roedd y swyddogion wedi
gwneud argymhelliad clir i wrthod ar y sail nad oedd y cynnig yn cydymffurfio â
Pholisi PSE 3. Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at y diffyg capasiti yn y gwasanaeth iechyd gan ddweud fod y safle wedi bod ar werth ers dros ddwy flynedd. Roedd wedi ystyried y cyfle i greu nifer o swyddi a dod ag adeilad sy'n dirywio yn ȏl i ddefnydd yn erbyn y posibilrwydd y gallai'r safle barhau i ddirywio a pharau i fod yn ddiddefnydd am flynyddoedd i ddod os gwrthodir y cais. Gan gydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS RHIF 14/2019/0233/ PO – TIR YN LLYS HEULOG, CYFFYLLIOG, RHUTHUN PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer datblygu 0.48ha o dir at ddibenion preswyl (cais amlinellol yn cynnwys
mynediad) ar dir yn Llys Heulog, Cyffylliog, Rhuthun (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.48ha o dir at
ddibenion preswyl (cais amlinellol yn cynnwys mynediad) ar dir yn Llys Heulog,
Cyffylliog, Rhuthun (copi ynghlwm). Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y cais wedi dod gerbron y
pwyllgor o ganlyniad i wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Cyffylliog, ac
ymatebodd swyddogion i'r pum pwynt a godwyd fel a ganlyn - (1) cais oedd hwn am
ganiatâd cynllunio amlinellol a’r egwyddor o ddatblygu yn unig ar y cam
hwn – roedd amod 15 yn gofyn am fanylion ynglŷn â’r amrediad o feintiau a mathau o dai i’w
cymeradwyo cyn datblygu; (2) a (3): o dan y polisi presennol nid yw darpariaeth
tai fforddiadwy yn angenrheidiol ar gyfer datblygiadau gyda llai na 10 annedd,
yn hytrach mae cyfraniad ariannol yn angenrheidiol fel y nodir o dan amod 12;
(4) roedd y safle wedi ei glustnodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ac
nid oes gofyniad i brofi’r angen am anheddau ar safleoedd wedi'u clustnodi; (5)
roedd amod 13 yn ymwneud â threfniadau ar gyfer darpariaeth/cyfraniadau mannau
agored. Eglurodd swyddogion hefyd bod caniatâd ar gyfer y safle wedi ei wrthod y
llynedd ar sail gwelededd derbyniol ar briffyrdd yn unig a bod y mater hwn yn
awr wedi ei ddatrys hyd boddhad Swyddogion Priffyrdd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Merfyn Parry at amod 12
cysylltiedig â thai fforddiadwy a
gofynnodd am i hyn gael ei ymestyn i’r safle datblygu cyfan er mwyn sicrhau pe bai gweddill y safle a
glustnodwyd ar gyfer tai yn cael ei werthu, y byddai’r cyfrifoldeb dros
ddarparu tai fforddiadwy yn trosglwyddo i’r perchennog tir newydd/datblygwr. Cyfeiriodd hefyd at amod 9 a gofynnodd bod
gwaith ar fynedfa’r safle’n cael ei wneud ar ddechrau’r datblygiad. Cymeradwyodd yr Aelodau’r cais. Mewn ymateb i gwestiynau am ffordd yr
ystâd cadarnhaodd swyddogion, pe bai'r ffordd yn cael ei mabwysiadu gan yr
Awdurdod Priffyrdd ai peidio, byddai dal yn ofynnol ei hadeiladu i fanylebau
priffyrdd llawn ac i fodlonrwydd yr Awdurdod Priffyrdd a byddai amodau yn
rheoli ei hadeiladu. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry
dderbyn argymhellion y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Gwyneth Kensler. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 16 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 22/2014/0626/PO – TIR I’R DE ORLLEWIN O BENIARTH, GELLIFOR, RHUTHUN PDF 95 KB Ystyried cais ar
gyfer datblygu 0.55ha o dir at ddibenion preswyl a darparu ardal barcio ceir ar
gyfer ysgol (cais amlinellol gyda'r holl faterion a gadwyd yn ôl) ar dir i'r de
orllewin o Beniarth, Gellifor, Rhuthun (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 0.55ha o dir at ddibenion preswyl a darparu ardal barcio ceir
ar gyfer ysgol (cais amlinellol gyda'r holl faterion a gadwyd yn ôl) ar dir i'r
de orllewin o Beniarth, Gellifor, Rhuthun (copi ynghlwm). Trafodaeth Gyffredinol – dywedodd y swyddogion bod yr oedi o ran
dod â’r cais gerbron yr aelodau wedi digwydd oherwydd cais y Clerc Cymuned am i
beth tir gael ei roi o’r neilltu ar gyfer maes parcio bach i helpu gyda
phroblemau parcio yn yr ardal honno – rhywbeth y mae’r ymgeiswyr eisoes wedi ei
gynnig fel rhan o'r datblygiad. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mark Young ynglŷn a diogelu darpariaeth y maes
parcio yn y dyfodol cadarnhaodd swyddogion bod y caniatâd yn cynnwys maes
parcio ac roedd tir wedi ei neilltuo i'r diben hwnnw yn y cynllun a oedd hefyd
wedi ei ddiogelu gan amod cynllunio. Mater i’r Adran Addysg a’r perchennog tir oedd sut i symud ymlaen gyda'r
maes parcio a gellid cynnwys hyn mewn cytundeb trwydded. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Peter Evans. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 16 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2019/0415/OB – TIR YN FFORDD BROOKDALE, Y RHYL PDF 171 KB Ystyried cais am
Weithred Amrywio er mwyn tynnu Plot 5 o’r Rhwymedigaeth Adran 106 sy’n ymwneud
â darpariaeth tai fforddiadwy mewn perthynas â chaniatâd cynllunio
45/2006/0816/PF ar dir yn Ffordd Brookdale, y Rhyl (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am Weithred Amrywio er mwyn tynnu
Plot 5 o’r Rhwymedigaeth Adran 196 sy’n ymwneud â darpariaeth tai fforddiadwy
mewn perthynas â chaniatâd cynllunio 45/2006/0816/PF ar dir yn Ffordd
Brookdale, y Rhyl (copi ynghlwm). Fel mater o drefn holodd y Cynghorydd Mark Young
pam yr oedd cais blaenorol wedi ei ystyried o dan rhan 2 o’r rhaglen a dywedodd
swyddogion bod gwybodaeth fasnachol sensitif wedi cael ei hystyried fel rhan
o’r cais penodol hwnnw nad oedd yn berthnasol yn yr achos hwn. Trafodaeth Gyffredinol – gan gydnabod y rhesymu y tu ôl i’r cais
mynegodd y Cynghorydd Pete Prendergast (Aelod Lleol) ei siom ynghylch colled
posibl tai fforddiadwy yn yr achos hwn, yn arbennig o ystyried faint o amser yr
oedd wedi ei gymryd i gwblhau’r datblygiad - datblygiad yr honnir yn awr nad
yw’n ariannol hyfyw. Roedd yn teimlo y dylid cadw elfen tai
fforddiadwy’r datblygiad dan adolygiad agos er mwyn sicrhau y caiff y
rhwymedigaethau cynllunio eu diwallu, yn arbennig yng ngoleuni’r angen dybryd
am dai cost isel yn yr ardal. Yn ystod y drafodaeth ddilynol mynegodd yr aelodau
eu pryder ynghylch colled posibl tai fforddiadwy, yn enwedig gan fod yr achos
hyfywedd blaenorol wedi ei dderbyn ar gyfer y datblygiad, sydd wedi cwtogi nifer y tai fforddiadwy yn barod. Er gwaethaf y gwerthusiad hyfywedd
ariannol mae angen tai fforddiadwy o hyd ac roedd peth trafodaeth ynghylch a fyddai
o fudd profi'r wybodaeth ariannol ymhellach. Roedd yr aelodau’n awyddus i sicrhau bod
darpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei ddiogelu a bod datblygwyr yn cadw at eu
rhwymedigaethau yn y cyswllt hwnnw. Cadarnhaodd swyddogion bod hwn yn achos anffodus, gan dynnu sylw at y
broses ddatblygu hirfaith a'r rhesymau dros hynny, ond yng ngoleuni’r newid
mewn amgylchiadau ariannol ac asesiad o’r gwerthusiad hyfywedd ariannol gan
Reolwr Prisio ac Ystadau’r Cyngor, ystyriwyd y byddai'n afresymol mynnu cydymffurfiad
â'r rhwymedigaethau cynllunio yn yr achos hwn. Wrth ddod i’w penderfyniad roedd y swyddogion
hefyd wedi ystyried y rhagolygon o ran diwallu'r rhwymedigaeth gynllunio ac
unrhyw broses gyfreithiol y byddai angen ei gweithredu i fynd ar drywydd hynny
a/neu i ymateb pe bai apêl. Roedd swyddogion wedi ystyried bod yr asesiad ariannol yn ddigonol o
ystyried lefel yr arbeniged oedd yn angenrheidiol yn yr achos hyn a nodwyd y byddai unrhyw graffu annibynnol
pellach ar y wybodaeth ariannol yn debygol o achosi costau ychwanegol i’r Adran
Gynllunio. Ar ddiwedd y drafodaeth dywedodd y Cynghorydd Pete
Prendergast bod y datblygwr yn yr achos hwn yn cael ei ystyried yn adeiladwr
hirsefydlog a llwyddiannus, pa un a fydd colled yn digwydd gyda’r datblygiad
penodol hwn ai peidio. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar sail y ddarpariaeth tai fforddiadwy a gan
mai'r rhwymedigaeth gynllunio oedd darparu un annedd fforddiadwy, nid oedd yn
teimlo ei bod yn afresymol gofyn bod hyn yn cael ei gyflawni. Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry, a
chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Emrys Wynne, bod y cais yn cael ei wrthod ar
y sail bod y rhwymedigaeth gynllunio yn dal yn cyflawni pwrpas defnyddiol er
gwaethaf y gwerthusiad ariannol a gyflwynwyd. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 3 GWRTHOD - 13 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD caniatâd, yn groes i
argymhelliad y swyddogion, ar y sail bod y rhwymedigaeth gynllunio’n dal yn i
gyflawni pwrpas defnyddiol o ran darparu tai fforddiadwy er gwaethaf y
gwerthusiad ariannol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m. |