Agenda and draft minutes
Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Andrew Thomas, Tina Jones a
Christine Marston. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 116 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2019/20. Cynigodd
y Cynghorydd Huw Jones, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young y dylid penodi’r
Cynghorydd Joe Welch yn Gadeirydd. Roedd pawb yn
cytuno gyda’r cynnig. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Joe
Welch yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn
sydd i ddod |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau
ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2019/20. Cynigodd y Cynghorydd Pete Prendergast, ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Ellie Chard y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd. Roedd pawb
yn cytuno gyda’r cynnig. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Alan
James yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn
sydd i ddod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2019
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2019. PENDERFYNWYD
y dylid
derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2019 fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF 02/2019/0183/ PR - TIR YNG NGHEFN TY CEFN LLANFWROG RHUTHUN PDF 247 KB Ystyried cais
ar fanylion edrychiad, tirlunio, cynllun a graddfa 2 annedd wedi ei
gyflwyno yn unol ag amod rhif
1 caniatâd cynllunio amlinellol rhif cais 02/2018/0445 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am fanylion ymddangosiad, tirlunio, gosodiad a graddfa 2 annedd ar dir tu
ôl i Tŷ Cefn, Llanfwrog, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Toni Roberts (O Blaid) – nodwyd fod y cais
ar gyfer yr anheddau yn
cydymffurfio â’r holl reolau a rheoliadau
cynllunio, ac roedd ar gyfer datblygu
dwy annedd bach eu heffaith.
Byddai’r datblygwr yn defnyddio contractwyr
lleol i adeiladu’r tai. Byddai u o’r anheddau yn
llai na’r hyn a ddangoswyd yn y cais cynllunio
amlinellol. Trafodaeth
Gyffredinol – Nododd yr Aelod Ward, y Cynghorydd Emrys
Wynne nad oedd ganddo unrhyw
broblem gyda'r cais gan fod
yr ymgeiswyr wedi cydymffurfio â’r rheoliadau cynllunio. Nodwyd bod Cyngor Tref Rhuthun
wedi mynegi pryderon gan eu
bod yn credu bod yr ardal yn
cael ei gorddatblygu
ac roedd yr anheddau yn agos
at yr anheddau presennol ar y safle. Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry ddilyn argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan
y Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 15 YMATAL – 0 GWRTHOD – 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATAU’r
cais yn unol
ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd
yn yr adroddiad
a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 23/2019/0259/ PC - HEN SIED LLANRHAEADR DINBYCH LL16 4PW PDF 6 KB Ystyried cais ôl-weithredol am newid defnydd rhan o adeilad amaethyddol a llawr caled cysylltiedig i Weithdy Peiriannydd ar gyfer Busnes Chwaraeon Moduro/Ceir Clasurol Arbenigol (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd
rhan o adeilad amaethyddol a llawr caled cysylltiedig i weithdy mecanyddol ar gyfer busnes
chwaraeon modur / ceir clasurol arbenigol
yn Hen Shed, Llanrhaeadr,
Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Endaf Roberts (O blaid) - Canmolodd
y swyddogion cynllunio am yr adroddiad. Roedd
y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol. Byddai rhoi caniatâd
yn cefnogi datblygu busnes lleol ac annibynnol. Nid oedd unrhyw
wrthwynebiadau gan unrhyw ymgyngoreion statudol. Trafodaeth
Gyffredinol – Dywedodd Aelod y Ward, y Cynghorydd Joe Welch wrth y pwyllgor fod y cais yn cael
ei drafod oherwydd bod Cyngor Cymuned Llanrhaeadr Yng Nghinmeirch yn gwrthwynebu'r cais. Gofynnodd i'r swyddogion cynllunio am eu sylwadau ynghylch tri gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned – 1.
Roedd rhyngwyneb strwythurol yr eiddo o adeiladwaith adeilad fferm amaethyddol
ac nid Adeilad Masnachol ac nid yw'n cydymffurfio â rheoliadau adeiladu a oedd yn
fater tân a diogelwch ar gyfer
adeilad y safle. 2.
Roedd y cais y tu allan
i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer
yr ardal. 3. Nid oedd unrhyw angen
lleol wedi'i brofi. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd
y rheoliadau adeiladu o fewn y cylch gwaith
i'w trafod yn y pwyllgor cynllunio.
Roedd safle'r cais y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu yn y CDLl, ond
roedd polisïau ar waith a oedd
yn caniatáu datblygiadau derbyniol mewn ardaloedd gwledig. Nid oedd
unrhyw ofyniad polisi i ymgeisydd brofi 'angen' er
mwyn cyfiawnhau datblygiad o'r fath. Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol:
Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Mark Young ddilyn argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan
y Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 15 YMATAL – 0 GWRTHOD – 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATAU’r cais yn unol
ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd
yn yr adroddiad
a’r papurau ategol. Daeth y cyfarfod i ben
am 9:56am |