Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n
rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
|
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Chwefror
2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019. Cywirdeb: Tudalen 15 –
dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch, nad oedd y cais yn cynnwys unrhyw
dai un ystafell wely, ac y dylai’r frawddeg ddweud “Bod yr amrywiaeth o
anheddau arfaethedig yn cynnwys tai 2, 3 a 4 ystafell wely...” Materion yn Codi: Tudalen 14 –
soniodd y Cynghorydd Mark Young am y pryderon ynghylch y gymysgedd o dai a
gynigiwyd mewn ceisiadau. Cadarnhawyd y cyfarfu swyddogion ac
Aelodau Arweiniol yn y cyfamser, a gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf yn sgil
hynny. Cadarnhaodd y
Prif Swyddog Cynllunio fod y Polisïau Cynllunio presennol yn rhoi cyfle i
swyddogion ac aelodau geisio amrywiaeth resymol o dai o wahanol faint a
daliadaeth er mwyn bodloni’r anghenion a’r galw lleol, ac adlewyrchu
canlyniadau’r asesiad o’r farchnad dai leol. Yn y cyfarfodydd
pwysleisiwyd fod sawl maes lle gellid cyfleu gwybodaeth yn well cyn cyflwyno
ceisiadau. Felly, pan fyddai swyddogion yn rhoi cyngor i
ddatblygwyr byddent yn tynnu sylw at y ffaith y dylid ceisio darparu cymysgedd
o wahanol fathau o anheddau. Os na ddarperid cymysgedd, yna dylid annog
datblygwyr i roi datganiad neu esboniad o’r gymysgedd arfaethedig. Wrth dderbyn
ceisiadau yn y dyfodol byddai swyddogion yn ymgynghori â’r Rheolwr Tai
Strategol i geisio sylwadau ynglŷn â’r gymysgedd arfaethedig, gan ystyried
yr asesiad o’r angen lleol am dai.
Drwy ymgynghori ag adain y
Cynllun Datblygu, gallai swyddogion gynnwys gwybodaeth yn eu hadroddiadau ar
geisiadau, a sylwadau ynglŷn â’r gymysgedd o dai. Hyderid
y byddai hynny’n hwyluso’r penderfyniadau. Mynegodd y
Cynghorydd Tony Thomas amheuon ynglŷn â’r wybodaeth ddiweddaraf, gan na
chredai ei bod yn briodol i bennu gofynion mawr ar ddatblygwyr; yn ei farn ef
gallai hyn gymell datblygwyr i beidio â bwrw ymlaen â cheisiadau. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 13 Mawrth 2019 fel rhai cywir. |
|
CAIS RHIF 41/2019/0089/PF FFERM NANT GWILYM, TREMEIRCHION LL17 0UG PDF 6 KB Ystyried cais i
drawsnewid adeiladau allanol i ffurfio 4 o unedau llety gwyliau i’w gosod, codi
llofft ystlumod, gosod tanc septig, addasiadau i drefniadau presennol y fynedfa
i gerbydau a gwaith cysylltiedig yn yr adeiladau allanol yn Fferm Nant Gwilym,
Tremeirchion, LL17 0UG (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
drosi tai allan i greu pedair uned llety gwyliau, codi llofft ystlumod, gosod
tanc septig, newid trefn bresennol y fynedfa i gerbydau a gwaith cysylltiedig
ar fferm Nant Gwilym, Tremeirchion. Siaradwr Cyhoeddus – Jamie Bradshaw (o blaid) – dywedodd y byddai’r cynllun
arfaethedig o ansawdd uchel, ar sail dyluniad da i drosi tai allan yn bedair o
unedau llety gwyliau. Derbyniwyd nad oedd y lefelau gwelededd yn
bodloni safonau NCT18 ar gyfer y terfyn cyflymder ar y ffordd i’r safle, ond
byddai’r datblygiad yn gwella mynediad ac yn rhoi gwelededd digonol o’r
briffordd. Byddai’r cynllun hefyd yn cynnwys digon o leoedd i
barcio, gyda mwy o le ar y buarth pe byddai angen. Roedd
y Cyngor Cymuned wedi mynegi pryderon ynglŷn â llygredd golau, ond roedd
Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyd-bwyllgor Ymgynghorol yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol a swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn fodlon y gellid cynnwys amod
cynllunio a fyddai’n gofyn am gyflwyno manylion unrhyw olau allanol er
cymeradwyaeth cyn gosod unrhyw olau o’r fath y tu allan. Dadl Gyffredinol – cynhaliwyd ymweliad safle am 9.00 a.m. ddydd
Gwener 12 Ebrill 2019. Cadarnhaodd Aelod
y Ward, y Cynghorydd Christine Marston, y bu’n bresennol yn ystod yr ymweliad,
lle canolbwyntiwyd ar y problemau gwelededd ac addasrwydd y fynedfa. Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol: ·
Mynegodd
y Cynghorydd Merfyn Parry bryderon ynghylch y datblygiad oherwydd y briffordd. Nid
oedd mynedfa’r datblygiad yn bodloni safonau NCT18, a gofynnwyd a fyddai’r ail
fynedfa (yn nes at Fodfari) yn cau.
Holodd y Cynghorydd Parry
hefyd a wnaethpwyd arolwg o gyflymder symudiadau traffig, neu a oedd angen
cynnal un. Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd fod y cynnig yn cynnwys adleoli rhan o’r
wal derfyn bresennol wrth y fynedfa er mwyn gwella gwelededd. Roedd
mynedfa’r safle eisoes yn fynedfa, ac roedd y swyddogion wedi ystyried hynny. Yn
ôl NCT18, pan gyflwynid ceisiadau ar gyfer safle oedd eisoes wedi’i datblygu
lle’r oedd y fynedfa bresennol islaw’r safon, dylai fod lle ar gyfer rhywfaint
o ailddatblygu os oedd hynny’n cynnwys gwella’r fynedfa, hyd yn oed pe byddai’r
fynedfa honno’n dal islaw’r safon.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Parry ynglŷn â chyflymder traffig,
cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd na fyddai symudiadau a chyflymder y traffig ar
y ffordd yn newid gan fod mynedfa i’r datblygiad eisoes. Byddai’r
safonau’n berthnasol i unrhyw fynedfa newydd yn yr ardal, ond nid yr un
bresennol. Cadarnhaodd, wedi ystyried popeth, nad oedd modd
cyfiawnhau gwrthod y cais am resymau priffyrdd. ·
Soniwyd
am fynediad i lwybr cyhoeddus 28 a oedd yn ffinio ag ardal y cais, a holwyd a
fyddai’r datblygiad yn effeithio ar y llwybr hwnnw. Cadarnhawyd
na fyddai’r datblygiad yn effeithio ar y llwybr cyhoeddus. ·
Soniwyd
am y pant yn y ffordd a fedrai achosi problemau gan na fyddai modd gweld
cerbydau o bell pe byddent yn y pant.
·
Roedd
Aelod y Ward, y Cynghorydd Christine Marston, yn cytuno â’r pryderon a fynegwyd
gan Gyngor Cymuned Bodfari a’r Cynghorydd Merfyn Parry. Pe
caniateid y cais, fodd bynnag, gofynnodd am gynnwys amod ychwanegol i gau’r ail
fynedfa (yn nes at Fodfari) yn barhaol er diogelwch. Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne dderbyn argymhellion y swyddogion i
gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. Cynnig – cyflwynodd y Cynghorydd Merfyn Parry gynnig, wedi’i eilio gan y Cynghorydd
Mark Young, i wrthod y cais gan nad oedd yn cydymffurfio â NCT18. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 15 YMATAL – 0 GWRTHOD – 3 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 43/2019/0112/PF - 83 FFORDD GRONANT, PRESTATYN PDF 168 KB Ystyried cais i
godi annedd newydd yn lle’r un presennol a gwaith cysylltiedig yn 83 Ffordd
Gronant, Prestatyn LL19 9NA (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer godi annedd newydd a gwaith cysylltiedig yn 83 Ffordd Gronant,
Prestatyn. Dywedodd Aelod y
Ward, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y codwyd pryderon ynglŷn ag
edrych drosodd a cholli preifatrwydd oherwydd perthynas y datblygiad
arfaethedig ag eiddo y tu ôl iddo ar Kirby Avenue. Er y derbyniwyd fod y
cynigion yn bodloni’r canllawiau sylfaenol ynglŷn â phellter rhwng
ffenestri ac ati, holwyd a oedd lle i liniaru ar yr effeithiau. Awgrymodd y Prif
Swyddog Cynllunio nad oedd gan y Cyngor lawer o allu i fynnu diwygio’r
cynigion, gan eu bod yn ôl pob golwg yn cydymffurfio â’r Canllawiau Atodol
cymeradwy. Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ddilyn argymhelliad y
swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 18 YMATAL – 0 GWRTHOD – 0 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 22/2019/0275/PF - TIRIONFA, HENDRERWYDD PDF 5 KB Ystyried cais i
godi estyniadau a gwneud addasiadau i annedd yn Tirionfa, Hendrerwydd,, Dinbych
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniadau ac addasu annedd yn Nhirionfa, Hendrerwydd, Dinbych. Mynegodd Aelod y
Ward, y Cynghorydd Huw Williams, ei gefnogaeth i’r cais. Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry ddilyn argymhelliad y swyddogion i
ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 18 YMATAL – 0 GWRTHOD – 0 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD AR YR YMGYNGHORIAD A MABWYSIADU NEWIDIADAU I ARDAL GADWRAETH Y RHYL PDF 205 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a’r Prif Swyddog Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd, i gytuno i newidiadau i faint Ardal Gadwraeth y Rhyl (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai adroddiad ynglŷn ag ymgynghori ynghylch
newidiadau yn Ardal Gadwraeth y Rhyl a mabwysiadu’r newidiadau hynny (roedd yr
adroddiad wedi’i ddosbarthu eisoes). Roedd yr
adroddiad yn rhoi braslun o’r sylwadau a ddaeth i law yn dilyn yr ymgynghoriad
ar Werthusiad Ardal Gadwraeth y Rhyl a newidiadau arfaethedig yn yr Ardal
Gadwraeth. Cytunwyd y byddai
Ardal Gadwraeth y Rhyl yn elwa ar adolygiad, oherwydd teimlid bod rhai
ardaloedd wedi colli eu cymeriad a bod yr ardal yn un fawr i’w rheoli. Penodwyd
Penseiri Purcell, ymgynghorwyr profiadol mewn cadwraeth, i gynnal yr adolygiad. Nid oedd unrhyw
ofyniad statudol i ymgynghori cyn adolygu’r ardal gadwraeth, ond bernid y
byddai’n arfer da i ymgynghori â pherchnogion eiddo lleol, preswylwyr, busnesau
a rhai eraill oedd â diddordeb megis cyrff amwynderau. Ar 18 Gorffennaf
2018 rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio gymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad. Dechreuodd
y cyfnod ymgynghori ar 3 Medi 2018 a bu’n weithredol am wyth wythnos. Danfonwyd
taflenni esboniadol a llythyrau â llaw i’r holl eiddo a oedd yn cael eu heffeithio. Darparwyd
copïau caled o'r dogfennau hyn ar gael yn Llyfrgell y Rhyl a’r siop un stop yn
ogystal ag ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.
Hefyd, darparwyd gwybodaeth
mewn digwyddiad galw heibio mewn “siop sydyn” yng Nghanolfan y Rhosyn Gwyn. Defnyddiwyd
Porth Ymgynghori newydd y Cyngor hefyd, ac fe ymatebodd nifer i’r arolwg
ar-lein. Derbyniwyd
cyfanswm o saith o ymatebion drwy Borth Ymgynghori’r Cyngor, a derbyniwyd pump
o ymatebion ysgrifenedig. Pe byddai’r
Pwyllgor Cynllunio’n cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig yn ffiniau’r Ardal
Gadwraeth, byddai’n rhaid i’r Cyngor roi hysbysiad yn y London Gazette a phapur newydd lleol, a chofnodi manylion am yr
Ardal Gadwraeth yn y cofnod amgylchedd hanesyddol. Byddai’n
rhaid hysbysu Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys a oedd yn cynnal y Cofnod
Amgylchedd Hanesyddol. Hysbysid hefyd Cadw, Adrannau Pridiannau
Tir a Chyfreithiol y Cyngor, a phreswylwyr yr Ardal Gadwraeth. PLEIDLAIS: (ARGYMHELLIAD 3.1) CYMERADWYO – 18 YMATAL – 0 PEIDIO Â
CHYMERADWYO – 0 (ARGYMHELLIAD 3.2) CYMERADWYO – 17 YMATAL – 0 PEIDIO Â
CHYMERADWYO – 0 PENDERFYNWYD: (i)
Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r newidiadau
arfaethedig yn Ardal Gadwraeth y Rhyl (yn unol â’r cynllun a atodwyd yn Atodiad
2). (ii)
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen
yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3), ei ddeall a’i ystyried wrth bwyso a
mesur y mater. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10.50 a.m. |