Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau
am absenoldeb gan y Cynghorwyr Peter Evans, Meirick Lloyd Davies a Brian Jones. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol – Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill – Eitem 8 ar y Rhaglen – gan mai fo yw Aelod Arweiniol Eiddo a bod y tir yn eiddo i'r Cyngor Y Cynghorydd Tina Jones – Eitem 8 ar y Rhaglen – gan oherwydd bod ganddi berthynas fusnes â Macbrydydd Homes Ltd. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Chwefror
2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod,
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) - Cyflwynwyd ceisiadau
a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.
Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr
(taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud
â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu
ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 01/2018/0705 PARC GLYN LLEWENI, FFORDD YR WYDDGRUG, DINBYCH PDF 78 KB Ystyried cais i ddatblygu 1.3 hectar o dir drwy godi
24 cabanau llety a gwaith cysylltiol ar dir The Glyn Lleweni Parc, Yr Wyddgrug,
Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddatblygu 1.3 hectar o dir drwy godi 24 llety aros a gwaith cysylltiedig ym Mharc Glyn Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Nerys Edwards (YN ERBYN) - Datganodd bod y cais yn gwrth-ddweud polisi cynllun datblygu lleol PSE12 a’r CDLl presennol, na fyddai’n caniatáu cymeradwyo unrhyw ddatblygiad o’r fath. Mae’r diffyg manylion yn y cynllun busnes yn golygu nad all y pwyllgor wneud penderfyniad gwybodus o ran yr effaith ar yr economi lleol. Mae hygyrchedd y safle i gludiant cyhoeddus yn parhau i fod yn broblem, a bydd trigolion lleol yn cael eu heffeithio gan y datblygiad a’r cynnydd mewn traffig ar y ffordd fynediad. Nid oes unrhyw ddarpariaeth wedi’i wneud i les a diogelwch ymwelwyr i’r safle. Mae’r diffyg manylion o ran darpariaeth gwasanaethau cyfleustodau yn golygu nad all y Pwyllgor Cynllunio wneud penderfyniad gwybodus ar effaith yr isadeiledd a’r dyfrhawn. Mae pryderon hefyd o ran Iechyd a Diogelwch y safle oherwydd bod y mynediad yn mynd drwy faes glanio gweithredol. Bydd angen i’r Cyngor gynyddu'r monitro er mwyn sicrhau na fydd unrhyw un yn preswylio'n barhaol ar y safle arfaethedig. Rodney Witter (O BLAID) – Datganodd bod gan y pwyllgor a’r fenter nod gyffredin o ran datblygiadau sy'n cyd-fynd â natur a thai cynaliadwy. Mae’r parc wedi ei drawsnewid yn dilyn caniatâd i sawl cais cynllunio yn y gorffennol. Yn 1990 caniatâd ar gyfer gleiderau gwynt a achosodd yr RAF i chwilio am safle arall. Bu cais arall i ganiatáu adfer yr hen lwyni Lleweni, i sefydlu parc bychan ar gyfer carafanau. Caniatawyd cais i adfer hen adeiladau i greu pentrefan gydag 17 annedd. Thema’r cais yw amrywiaeth yr economi lleol, sy’n unol â pholisi’r Sir. Bydd y datblygiad hwn yn caniatáu i’r economi gwledig dyfu, fel y rhai sydd wedi’u cyflawni yn y siroedd cyfagos. Derbyniwyd cefnogaeth gan 56 ymwelydd o blaid y cais. Gall y Cyngor weithredu cyfyngiad deiliadaeth 28 niwrnod i sicrhau nad oes neb yn preswylio’n barhaol ar y safle. Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd Aelod Lleol, y Cynghorydd Mark Young bryder gyda diffyg manylder o ran yr hyn fydd yn cael ei ddatblygu gan nad oes achos busnes, a chodwyd y mater nad yw'r cais yn glynu ar y polisi cynllun datblygu lleol PSE12. Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Thomas nad oedd yn gweld rheswm i fynd yn erbyn argymhelliad y swyddog i wrthod y cais. Eglurwyd bod y Polisi CDLl sydd wedi’i fabwysiadu yn ceisio gwrthwynebu parciau carafanau statig newydd yn y Sir, p’un ai’n ddatblygiadau gwledig neu arfordirol, ac mae’r lletyau aros arfaethedig yn disgyn o fewn diffiniad cyfreithiol o garafán. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddog i wrthod y cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 0 GWRTHOD - 16 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 44/2018/0855/ PR – TIR I’R DWYRAIN O TIRIONFA, RHUDDLAN, Y RHYL PDF 79 KB Ystyried cais ar
gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, gosodiad a maint 99 anheddau a
gyflwynir yn unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod 44/2015/1075
(cais materion a gadwyd yn ôl); ar dir i’r dwyrain o Dirionfa, Rhuddlan, y Rhyl
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cais mater a gadwyd yn ôl ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa’r 99 annedd a gyflwynir yn unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod 44/2015/1075, ar dir i’r dwyrain o Tirionfa, Rhuddlan. Cynigodd aelod lleol, y Cynghorydd Ann Davies i’r cais gael ei ohirio, ar y sail nad oedd digon o dystiolaeth gan Dŵr Cymru o ran carthffos gyhoeddus yn croesi’r safle. Cafodd y cynnig i ohirio ei eilio gan y Cynghorydd Bob Murray. Hysbysodd y swyddogion yr aelodau bod y safle yn safle a neilltuwyd, gyda chaniatâd cynllunio amlinellol. Roedd y cais i asesu’r Caniatâd Amlinellol, nid oes y swyddogion wedi derbyn unrhyw wrthwynebiadau gan Dŵr Cymru, corff arbenigol ar systemau draenio. Argymhellodd y swyddogion i beidio â gohirio’r cais. PLEIDLAIS: GOHIRIO - 5 PEIDIO Â GOHIRIO - 10 YMATAL - 0 Penderfynodd y pwyllgor i beidio â gohirio'r cais a pharhaodd y drafodaeth. SIARADWYR CYHOEDDUS -
Pauline Evans (YN ERBYN) – Datganodd nad all isadeiledd Rhuddlan ymdopi â datblygiad o’r maint hwn, yn arbennig y systemau draenio. Roedd diffyg eglurder ar y cynlluniau o ran mesuriadau o bellter yr anheddau arfaethedig o’r eiddo ar Pentre Lane. O dan y CDU a’r CDLl mae nifer sylweddol o dai a datblygiadau eraill wedi eu hadeiladu'n Rhuddlan, sy'n mynd yn erbyn anghenion y Sir. Mae Llywodraeth Cymru wedi goramcangyfrif mudo net yn y Sir ac nid oes angen datblygiad o’r graddfa hwn. Mae problem traffig difrifol yn Rhuddlan o’r holl drefi yn yr ardal, a byddai'r tai ychwanegol arfaethedig yn cael effaith negyddol ar y broblem traffig presennol. Mae lleoedd mewn ysgolion yn brin. Stuart Andrew (O BLAID) – Eglurodd bod y cais yn gais mater a gadwyd yn ôl, a bod y safle wedi derbyn caniatâd cynllunio yn y gorffennol, a gwerthwyd y tir gan y Cyngor er mwyn datblygu tai. O’r 99 annedd arfaethedig, bydd 10 annedd yn fforddiadwy; bydd chwe tŷ dwy ystafell wely; a phedwar eiddo pedair ystafell wely. Bydd ardal chwarae, ynghyd â hanner erw o fan agored wedi’i dirlunio ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio, a gaiff ei gytuno gan y Cyngor. Byddai cyfraniad ariannol tuag at ysgolion lleol o £384,000, a £77,000 ychwanegol i wella mannau gwyrdd agored presennol. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad gan gyrff arbenigol. Trafodaeth Gyffredinol – Canmolodd y Cynghorydd Christine Marston yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, eglurwyd bod unrhyw bryderon o ran y bibell carthffosiaeth wedi'u cywiro yn dilyn yr ymweliad. Siaradodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) yn erbyn y cais mater a gadwyd yn ôl gan ddatgan bod gan y trigolion lleol broblemau hir dymor yn erbyn y datblygiad. Mae’r ysgolion lleol ar hyn o bryd yn llawn ac yn methu â derbyn mwy o blant, ac ni ellir datblygu'r ysgol gan ei fod ar dir CADW. Roedd gan y Cyng. Davies bryderon hefyd o ran y traffig ychwanegol y byddai'r datblygiad yn ei achosi, gan fod problem fawr yn barod o ran traffig yn Rhuddlan. Byddai’r system garthffosiaeth presennol angen ei uwchraddio i reoli’r tai ychwanegol yn Rhuddlan. Amlygwyd maint y tai arfaethedig, gan nad oedd y rhestr dai ar gyfer trigolion yn Rhuddlan yn dangos yr angen am 58 tŷ 4 ystafell wely. Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) yn erbyn y cais hefyd. Byddai’r datblygiad yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAIS RHIF 15/2018/1130/ AD - PARC CARAFANNAU PARC FARM, LLANARMON-YN-IÂL, YR WYDDGRUG PDF 6 KB Ystyried cais i
godi wal gerrig gydag arwydd hysbysu wedi’i fewnosod fel estyniad i wal gerrig
presennol ym Mharc Carafannau Parc Farm, Llanarmon Yn Iâl, Yr Wyddgrug (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi wal gerrig gydag arwydd hysbysu wedi’i fewnosod, fel estyniad i wal gerrig presennol. Trafodaeth Gyffredinol – Holodd y Cynghorydd Huw Jones a oes angen i’r arwydd fod yn ddwyieithog. Mewn ymateb, dywedodd swyddogion bod y Canllaw Cynllunio Atodol yn rhoi canllawiau clir y dylai arwyddion fod yn ddwyieithog lle bynnag bosib’, ond yn yr achos hwn, mae’r enw’n ddwyieithog yn barod. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Jones dderbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 15 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 18/2019/0124/ TP – 11 PARC TYN LLAN, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
wneud gwaith ar goeden llwyfen a choed masarn yn ddarostyngedig i Orchymyn
Diogelu Coed yn 11 Parc Tyn Llan, Llandyrnog, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer gwaith i goeden lwyfen a choed sycamorwydden yn ôl Gorchymyn Diogelu Coed yn 11 Parc Tyn Llan, Llandyrnog, Dinbych. Trafodaeth Gyffredinol - Hysbysodd aelod lleol, y Cynghorydd Merfyn Parry'r pwyllgor nad oedd gan y Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i'r gwaith. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry dderbyn argymhellion y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 16 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais
yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
ADRODDIAD GWYBODAETH – DIWEDDARIAD AR APELIADAU CYNLLUNIO PDF 100 KB Derbyn adroddiad
gwybodaeth am benderfyniadau apeliadau cynllunio diweddar a gafwyd gan yr
Arolygiaeth Gynllunio ar achosion yn y Sir. Mae’n cwmpasu cyfnod o 6 mis o fis
Medi 2018 hyd yma. (Copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylai'r aelodau nodi'r wybodaeth yn yr
adroddiad. |
|
ADRODDIAD GWYBODAETH – PROSIECT CYSYLLTIAD GOGLEDD CYMRU PDF 180 KB Derbyn adroddiad
gwybodaeth i ddiweddaru Aelodau ar wybodaeth a dderbyniwyd gan yr Arolygiaeth
Gynllunio mewn perthynas â chynigion y Grid Genedlaethol i redeg cysylltiad
grid o’r orsaf bŵer niwclear Wylfa arfaethedig i is-orsaf ym Mhentir ger
Bangor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylai'r aelodau nodi'r wybodaeth yn yr
adroddiad. |