Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol – Y Cynghorydd
Gwyneth Kensler – Eitem 6 ar y Rhaglen – gan ei bod wedi gweithio’n agos gydag
un o berchnogion yr annedd sy’n destun y cais Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Eitem 7 ar y Rhaglen – gan ei fod yn ffrind i’r teulu sydd wedi
cyflwyno’r cais Y Cynghorydd Huw
Williams – Eitem 8 ar y Rhaglen – gan ei fod yn ffrind i’r tirfeddiannwr a gan
fod ei nai yn gweithio i’r datblygwr Y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill – Eitem 11 ar y Rhaglen – gan mai fo yw Aelod Arweiniol Eiddo a
bod y tir yn eiddo i'r Cyngor |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019. Cywirdeb – Nid oedd y
Cynghorydd Alan James wedi’i gynnwys o dan yr ‘aelodau a oedd yn bresennol’. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, gymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 11) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers
cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r
cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y
rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 04/2018/1146/PF - GLASCOED, MELIN Y WIG, CORWEN PDF 6 KB Ystyried cais i
ddymchwel estyniad i gefn yr adeilad ac adeiladau allanol, codi estyniad a
gwneud addasiadau i annedd yn Glascoed, Melin y Wig, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddymchwel estyniad wrth gefn
adeilad a chytiau allan, codi estyniad a gwneud addasiadau i annedd yn
Glascoed, Melin y Wig, Corwen. Siaradwr Cyhoeddus – Ms. C. Hibbert (o blaid) – eglurodd amgylchiadau ei
theulu a’r rhesymau dros y cais er mwyn moderneiddio mwy ar yr annedd i
ddiwallu anghenion y teulu ac aros yn yr ardal. Y bwriad oedd ailddefnyddio’r cerrig a’r llechi
presennol ar gyfer y darn newydd a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gwedd yr
adeilad yn wreiddiol. Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y
Cynghorydd Meirick Davies
bryder ynglŷn â cholli’r adeilad o ystyried ei werth hanesyddol a’i
bwysigrwydd i’r pentref. Nodwyd nad oedd ymateb i’r ymgynghoriad wedi’i dderbyn gan y Cyngor Cymuned
lleol. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Tony Thomas yr argymhelliad gan y swyddogion i ganiatáu'r cais, ac
fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ann Davies. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 17 GWRTHOD - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 16/2018/1137/PF – TIR GER YR HEN REITHORDY, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN PDF 95 KB Ystyried cais i
godi 38 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man agored a’r
gwaith cysylltiedig ar dir ger Yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd,
Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 38 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man agored a gwneud
gwaith cysylltiedig ar dir ger yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd,
Rhuthun. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. B. Barton (yn
erbyn) – cyflwynodd fod yr adroddiad yn gamarweiniol o ystyried bod yr
ardal a neilltuwyd fel man agored cyhoeddus y tu allan i ffin ddatblygu'r pentref;
dadleuodd nad oedd y swm gohiriedig, a oedd i'w dalu i ddarparu cyfarpar yn yr
ardal chwarae wrth gefn Eglwys Sant Pedr, a oedd heb fynedfa ar hyn o bryd, yn
ddigon, a gofynnodd am ohirio'r cais. Mr. P. Lloyd (o blaid) – tynnodd sylw at yr angen dirfawr
am dai fforddiadwy ac at rinweddau’r cais o ran darparu datblygiad cynaliadwy o
safon uchel. Roedd y cynllun wedi bod yn destun trafodaethau helaeth ac amryw
ddyluniadau cyn y cam hwn. Nid oedd yn gwrthdaro â’r Cynllun Datblygu Lleol, gan gynnwys darparu'r
elfen mannau agored cyhoeddus a oedd yn gysylltiedig â'r safle a chynnig am swm
gohiriedig. Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y
Swyddog Cynllunio bod yr elfen dai wedi’i chynnwys o fewn ffin yr ardal a oedd
wedi'i neilltuo ond bod safle'r man agored cyhoeddus y tu allan i'r ffin. Pe bai nifer yr anheddau’n cael ei leihau
i ganiatáu man agored ychwanegol ar y safle, roedd perygl na fyddai’r cynllun
yn cael ei gyflawni. Yn seiliedig ar hynny a gan nad oedd unrhyw ddatblygiad y tu hwnt i'r ffin
ddatblygu, daethpwyd i gytundeb o ran darparu man agored ac nid oedd unrhyw
wrthdaro â pholisïau mannau agored y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r swm gohiriedig sydd i’w dalu wedi’i
gyfrifo gan y Cyngor a byddai’n cael ei ddarparu tuag at gost ardal chwarae gyda
chyfarpar y gallai safleoedd eraill sydd wedi’u dyrannu yn y gymuned hefyd fod
yn cyfrannu ati er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chwblhau. Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol)
o blaid y datblygiad a fyddai’n helpu i sicrhau bod y pentref yn parhau i
ffynnu trwy ddiwallu anghenion lleol a rhoi hwb i’r ysgol a’r economi leol. Bu iddo hefyd gefnogi’r cynnig i ardal
chwarae gael ei lleoli wrth gefn Eglwys Sant Pedr, a fyddai'n darparu cyswllt â
chanol y pentref, ac roedd y mater ynglŷn â mynediad yn cael ei drin a'i
drafod ar hyn o bryd. Croesawodd yr Aelodau dai fforddiadwy i ddiwallu
anghenion lleol, a oedd yn flaenoriaeth gorfforaethol ac a fyddai hefyd yn
helpu i gyrraedd targedau cenedlaethol. Cydnabuwyd hefyd yr effaith gadarnhaol o ran
cynaliadwyedd yn y dyfodol a manteision i'r ardal. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Merfyn
Parry yn ymwneud ag amod rhif 5 a gwelededd ar y briffordd, dywedodd y
swyddogion y byddai’r elfen hon yn cael ei hystyried yn rhan o Ddatganiad y
Dull Adeiladu ac y byddent y sicrhau bod mynediad diogel i'r briffordd yn
gynnar yn y broses. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 19 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 42/2018/0923/PF – TIR GER FFORDD GALLT MELYD, DYSERTH PDF 97 KB Ystyried cais i
godi 61 annedd, garejis sengl a dwbl, newidiadau i’r fynedfa bresennol i
gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ffordd Gallt Melyd, Dyserth (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais i godi 61 annedd, garejis sengl a dwbl,
newidiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir ger
Ffordd Gallt Melyd, Dyserth. Siaradwr Cyhoeddus – Mr. S. Andrew (o
blaid) – eglurodd y bwriad i
ddatblygu rhan o’r safle a ddyrannwyd ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu
Lleol a oedd yn cynnwys 10% o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Nid oedd unrhyw effeithiau niweidiol
ynghlwm â'r datblygiad o ran amwynder gweledol a phreswyl ac roedd telerau
derbyniol o ran draenio a phriffyrdd. Roedd y datblygiad arfaethedig hefyd yn cyd-fynd â
Briff Datblygu’r Safle. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y
Cadeirydd wedi derbyn e-bost gan y Cynghorydd David Williams (Aelod Lleol) a
oedd wedi cyfarfod â’r Swyddog Priffyrdd i drafod materion priffyrdd. Roedd y Cynghorydd Williams hefyd wedi mynegi
pryder ynglŷn â’r Cynllun Rheoli Adeiladu, ac fe gadarnhaodd y swyddogion
y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn nes ymlaen yn y broses gyda'r Aelod Lleol. Cyfeiriodd y Swyddog Priffyrdd yr aelodau at yr
adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am faterion yn ymwneud â
phriffyrdd a mynediad i'r safle. Cynigiwyd y dylid ffurfio ffordd fynediad newydd ar yr A547 Ffordd Gallt
Melyd ac i’r llwybr cyswllt presennol i gerddwyr a beicwyr ffurfio rhan o'r
ffordd fynediad. Byddai’r terfyn cyflymder cyfredol o 40mya yn cael ei symud 40 metr i’r
gogledd-orllewin oddi wrth y fynedfa arfaethedig a byddai lleiniau gwelededd yn
cael eu darparu yn unol â TAN18. Roedd
Asesiad Cludiant Crynhöol wedi'i gynnal a oedd yn ystyried y datblygiad
arfaethedig ynghyd â cheisiadau cynllunio wedi'u hymrwymo, wedi'u dyrannu neu
rai cyfredol yn yr ardal, a dangosai hwnnw bod digon o le yn y rhwydwaith
priffyrdd lleol i ymdopi â'r datblygiad. O ganlyniad, nid oedd y swyddogion yn credu bod
rheswm digonol i wrthod y cais ar sail priffyrdd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Evans at nifer y
safleoedd o ddatblygiadau tai a oedd ar ddod i'r amlwg ger llaw a mynegodd ei
bryderon ynglŷn â faint o draffig a fyddai ar yr A547 o ganlyniad, yn
enwedig o ystyried y tagfeydd a oedd eisoes yng Ngallt Melyd ar yr adegau
prysuraf. Fel Aelod Arweiniol Priffyrdd, roedd y Cynghorydd Brian Jones yn rhannu’r
pryderon hynny at y dyfodol, a phwysleisiodd fod angen cadw golwg fanwl ar y
mater i sicrhau bod isadeiledd y priffyrdd yn ddigonol o ystyried y cynnydd
disgwyliedig mewn traffig a ddisgwylid o ddatblygiadau tai yn y dyfodol. Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau,
dywedodd y swyddogion – ·
bod y
cais yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol o ran darparu cyfuniad
o fathau o anheddau ar gynlluniau’r farchnad agored ·
bod
sylwadau Cydbwyllgor Ymgynghorol yr AHNE wedi’u hystyried yn rhan o’r broses
asesu ·
bod
terfyn cyflymder o 30mya ger mynedfa’r safle wedi’i ystyried ond roedd yr ardal
wedi’i hasesu fel parth 40mya gan ystyried y datblygiad – pe bai’r sefyllfa’n
newid, byddai’r terfyn cyflymder yn cael ei ailasesu ·
y
gallai fod angen newid amseriad y goleuadau traffig er mwyn cyfrif am y
datblygiad, a oedd wedi’i drafod gyda’r Aelod Lleol ·
ar ôl
ymgynghori â Dŵr Cymru, cadarnhawyd nad oedd drewdod a sŵn yn cael eu
hystyried yn broblem yn yr achos hwn. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i
heiliwyd gan y Cynghorydd Tina Jones. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd
yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 23/2016/0557/PO – TIR GER DOLWAR, LLANRHAEADR, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i ddatblygu 1.2 hectar o dir drwy godi
33 annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad a gosodiad) ar dir ger Dolwar,
Llanrhaeadr, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth yr
Is-gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i gadeirio’r eitem hon gan mai’r
Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch, oedd yr Aelod Lleol. Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 1.2 hectar o dir trwy godi 33 annedd (cais amlinellol yn cynnwys
mynedfa a chynllun) ar dir ger Dolwar, Llanrhaeadr, Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus – Mr. E. Williams (yn erbyn) – gwrthwynebodd
y cais ar ran y Cyngor Cymuned ar sail pryderon ynglŷn â
draenio/llifogydd; diogelwch ar y priffyrdd; effaith negyddol ar y
Gymraeg; a diffyg lle yn yr ysgol leol. Cyflwynwyd y byddai’r cais yn cael effaith
negyddol ar y gymuned leol. Ms. S. Edwards (o blaid) – ymatebodd i faterion a godwyd, gan gynnwys mesurau i
fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â phriffyrdd a phryderon
draenio/llifogydd heb unrhyw wrthwynebiad gan ymgyngoreion statudol. Roedd y safle wedi’i glustnodi yn y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer tai ac aseswyd yr effaith ar y Gymraeg
ar y pryd, ac ystyriwyd ei bod yn dderbyniol – byddai’r datblygiad yn darparu
tai y mae angen mawr amdanynt ac yn helpu i dyfu'r gymuned. Trafodaeth Gyffredinol – Soniodd y
Cynghorydd Ann Davies am gyfarfod y Panel Archwilio Safleoedd ar 8 Chwefror
2019 a cheisiodd mwy o sicrwydd ynglŷn â diogelwch ar y priffyrdd a
phryderon lleol yn ymwneud â llifogydd/draenio. Rhoddodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol)
rywfaint o gefndir i’r cais a nodwyd bod y safle gyferbyn yn cael ei ddatblygu
ar hyn o bryd i gynnwys 15 tŷ. Y niferoedd dangosol o anheddau yn y CDLl ar gyfer y safle gyferbyn oedd 10
tŷ a 23 ar gyfer safle’r cais hwn, felly byddai caniatáu'r cais yn arwain
at 15 a 33 o dai ar y ddau safle, a oedd yn gynnydd o bron i 50% ar y dyraniad
dangosol. Ers mabwysiadu’r CDLl, roedd TAN20 wedi'i gyhoeddi a ddwedai nad oedd
bellach raid i ymgeiswyr ddangos yr effaith ar y Gymraeg gan y byddai wedi’i
hasesu ar y cam dyrannu. Roedd y Cynghorydd Welch yn dadlau y dylid ystyried hynny o gofio – (1)
bod
amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers mabwysiadu’r CDLl gyda bron i 50% yn
fwy o dai’n cael eu cynnig yn yr ardal (2)
bod y
cais wedi’i gyflwyno yn 2016 cyn cyflwyno TAN20, a (3)
bod yr
Asesiad Cymunedol ac Ieithyddol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn dangos y
byddai'r datblygiad yn arwain at ostyngiad yn nifer y siaradwr Cymraeg o 50.03%
i 49.1%, a fyddai’n golygu bod pentref â mwyafrif o siaradwyd Cymraeg yn dod yn
bentref lle'r oedd y siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif mewn ardal ieithyddol
sensitif. Cyfeiriwyd hefyd at ddilysrwydd y sylwadau
cadarnhaol ynglŷn â’r Gymraeg o ystyried natur y cwestiynau a ofynnwyd yn
rhan o’r broses asesu. Wrth gyflwyno ei ddadl dros wrthod, dywedodd y
Cynghorydd Welch y dylai Polisi RD5 yn y CDLl fod â dylanwad sylweddol mewn
perthynas â TAN20. Roedd Polisi RD5 yn
dweud y ‘gellid gwrthod datblygiad os bydd ei faint, graddfa neu leoliad yn
achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned'. Cytunodd y
Cynghorydd Welch hefyd gydag ystyriaethau eraill a godwyd, gan gynnwys diffyg
lle yn yr ysgol leol a'r pwysau mwy a fyddai’n debygol ar gludiant i ysgolion,
ynghyd â phryderon priffyrdd a llifogydd. Fodd bynnag, cynigiodd y dylid gwrthod y cais ar
sail niwed sylweddol i’r iaith Gymraeg, gan na chredai bod y niwed hwnnw wedi'i
liniaru'n addas a'i fod wedi gwaethygu ers cynnwys y safle yn y CDLl. Cytunodd y Cynghorydd Emrys Wynne y byddai effaith annerbyniol ar y Gymraeg gan bwysleisio bod angen gwarchod cymunedau, yn enwedig o ystyried y ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CAIS RHIF 01/2018/0992PF – HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH PDF 167 KB Ystyried cais i
newid defnydd tir i greu ardal hyfforddiant safle adeiladu, codi adeilad i’w
ddefnyddio fel gweithdy, trwsio a chadw peiriannau trwm; gwneud newidiadau i’r
fynedfa bresennol a'r gwaith cysylltiedig yn hen Ysbyty Gogledd Cymru,
Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir i greu ardal
hyfforddiant safle adeiladu, codi adeilad i’w ddefnyddio fel gweithdy, i drwsio
peiriannau trwm a storio; gwneud newidiadau i’r fynedfa bresennol a'r gwaith
cysylltiedig yn hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Trafodaeth Gyffredinol – Pwysleisiodd
y Cynghorydd Glenn Swingler (Aelod Lleol) fod y llwybr arfaethedig ar gyfer
cerbydau trwm yn gul iawn a’i fod yn lle poblogaidd i gerdded, felly byddai
cymeradwyo’r cais yn golygu bod angen rheolyddion priodol a monitro'n barhaus tra mae'n cael ei ddefnyddio dros
dro. Gofynnodd hefyd a ellid cyflwyno mesurau i fynd i’r afael â phryderon am
yrru’n gyflym ar hyd Ffordd y Ffair. Ystyriodd yr aelodau rinweddau cais gan nodi bod y
cais am ganiatâd dros dro. Roedd y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn awyddus i sicrhau cyn lleied o
effaith â phosib’ ar drigolion cyfagos o ystyried yr oriau gweithredu
bwriadedig ac roedd yn ystyried diogelwch priodol ar gyfer y safle’n fater ar
wahân. O ran y pryder ynglŷn â sŵn yn dod o’r safle, awgrymodd y Cynghorydd Merfyn
Parry na ellid ond rhoi’r cyfyngiad ar oriau gwaith ar y gweithgareddau hynny a
oedd yn debygol o achosi niwsans oherwydd sŵn. Cytunodd y Cynghorydd Mark Young a dywedodd fod llawer o waith wedi’i wneud
i liniaru pryderon y trigolion ac roedd y rhan fwyaf o bobl leol yn ffafrio’r
llwybr dan sylw ar gyfer cerbydau trwm yn fwy na’r dewisiadau eraill. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r
aelodau fel a ganlyn – ·
roedd
amod 3 yn cadarnhau y byddai’r cyfleuster hyfforddiant adeiladu’n rhoi'r gorau
i weithredu ar 31 Rhagfyr 2023 neu ynghynt oni bai fod estyniad wedi'i
gymeradwyo gan y Cyngor ·
roedd
amod 6 yn ceisio sicrhau cyn lleied o effaith â phosib’ ar drigolion oherwydd
sŵn ond byddai rhywun ar y safle hefyd yn helpu o ran ei ddiogelwch –
cytunwyd y gellid diwygio’r amod yn unol ag awgrym y Cynghorydd Parry i gyfyngu
ar gynnal gweithredoedd swnllyd ar y safle ·
roedd
amod 13 yn sicrhau na fyddai gwrychoedd, coed, llwyni na phlanhigion dringo’n
cael eu tynnu heb ganiatâd y Cyngor ·
roedd
y llwybr arfaethedig wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ar gyfer Prosiect
Cysylltiadau a Phrosiect Trawsnewidyddion Gogledd Cymru ac felly roedd yn cael
ei gyfrif yn dderbyniol yn yr achos hwn gydag amodau ar ddarparu lleiniau
gwelededd ac adleoli’r terfyn cyflymder o 30mya; byddai’r ffordd yn parhau i
gael ei monitro. Cynnig – Cynigiodd y
Cynghorydd Merfyn Parry, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young, y dylid
caniatáu'r cais, yn amodol ar newid y geiriad yn amod rhif 6 i'w gytuno gydag
Aelodau Dinbych ynglŷn â gosod cyfyngiad ar oriau gweithredu
gweithgareddau sy'n debygol o achosi niwsans sŵn i drigolion cyfagos. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 19 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol, yn amodol ar newid i eiriad amod
rhif 6 i’w gytuno gydag Aelodau Dinbych ynghylch gosod cyfyngiad ar oriau
gweithredu gweithgareddau sy’n debygol o achosi niwsans sŵn i drigolion
cyfagos. |
|
CAIS RHIF 15/2018/0968/PC – FFERM NORTH HILLS, GRAIANRHYD, YR WYDDGRUG PDF 95 KB Ystyried cais am
weithredoedd peirianyddol i hwyluso gwaith codi adeilad amaethyddol a’r gwaith
cysylltiedig ar Fferm North Hills, Graianrhyd, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am waith cloddio ac i godi adeilad
amaethyddol a gwaith cysylltiedig (rhannol ôl-weithredol) ar Fferm North Hills,
Graianrhyd, yr Wyddgrug. Trafodaeth Gyffredinol – Cefnogodd y
Cynghorydd Martyn Holland (Aelod Lleol) y cais, ond roedd yn petruso rhywfaint
ynglŷn â faint o waith a oedd eisoes wedi'i wneud. O ran cefndir y cais, roedd caniatâd cynllunio
wedi’i roi’n flaenorol i godi adeilad arall yn lle adeilad amaethyddol
presennol i ddarparu llety gwyliau – roedd yr ymgeisydd yn bwriadu codi adeilad
amaethyddol arall yn lle’r un y byddai’n ei golli. Dywedodd y Cynghorydd Holland bod llawer yn digwydd ar
y safle, lle'r oedd nifer o geisiadau wedi bod, ac roedd yn teimlo y byddai'n
ddefnyddiol i swyddogion gyfarfod â'r ymgeisydd i ddeall a thrafod ei
gynlluniau at y dyfodol ar gyfer y safle, a allai leihau ofnau'r trigolion
lleol ynghlwm â hynny. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac
fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Thomas. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF 30/2018/0969/PF – TIR GER TREFNANT INN, TREFNANT PDF 79 KB Ystyried cais i
godi 13 o anheddau fforddiadwy gan gynnwys mynediad, parcio a gwaith
cysylltiedig ar dir ger The Trefnant Inn, Trefnant (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 13 o anheddau fforddiadwy
gan gynnwys ffordd fynediad, lle parcio a gwaith cysylltiedig ar dir ger y
Trefnant Inn, Trefnant, Dinbych. Trafodaeth Gyffredinol – Soniodd y
Cynghorydd Ann Davies am gyfarfod y Panel Archwilio Safleoedd ar 8 Chwefror
2019 lle rhoddwyd sicrwydd mewn ymateb i bryder ynghylch diogelwch ar y priffyrdd. Roedd hi hefyd yn awyddus i sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o'r
datblygiad a'i bod yn cael blaenoriaeth ar gyfer tai fforddiadwy. Tynnodd y Cynghorydd Meirick Davies (Aelod Lleol)
sylw at bryderon y Cyngor Cymuned, ond bu iddo hefyd gydnabod bod angen tai
fforddiadwy. Gofynnodd i’r Gymdeithas Dai drafod ymhellach gyda’r Cyngor Cymuned
ynglŷn â'r datblygiad. Wrth gydnabod y pryderon am y priffyrdd a’r mesurau lliniaru, teimlai y
gallai fod o fudd newid amseriad y goleuadau traffig er mwyn darparu ar gyfer y
datblygiad. Nododd yr aelodau hanes cynllunio’r safle yn y
gorffennol a’r sefyllfa bresennol, a nodwyd hefyd y weithdrefn i gael y tai
fforddiadwy o ran proses yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) a oedd yn rhoi
pwyslais ychwanegol ar gysylltiadau lleol. Er eu bod yn croesawu tai fforddiadwy, roedd yr
aelodau’n awyddus i sicrhau bod blaenoriaeth i anghenion lleol a bu iddynt
drafod awgrym y Cynghorydd Merfyn Parry y gellid defnyddio cytundeb Adran 106 i
ddiogelu’r ddarpariaeth honno. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori nad oedd angen cytundeb
Adran 106 dan amgylchiadau o'r fath ac y gallai'r cyfnod y byddai ei angen i
lunio'r cytundeb, o bosib', roi'r datblygiad mewn perygl, awgrymodd y
swyddogion aralleirio amod rhif 15 ynghylch tai fforddiadwy er mwyn rhoi mwy o
sicrwydd o ran diwallu anghenion y gymuned leol. Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young eglurhad
ynglŷn â’r cyfraniad addysg o ystyried bod yr ysgol gynradd leol wedi’i
ffedereiddio a chadarnhaodd y swyddogion y byddai’r swm gohiriedig a oedd yn
gysylltiedig â’r datblygiad yn cael ei neilltuo ar gyfer yr ysgol agosaf. Cynnig – Cynigiodd y
Cynghorydd Merfyn Parry, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, y dylid caniatáu’r cais yn
amodol ar newid geiriad amod 15, i gael ei gytuno gyda’r Aelod Lleol, ynghylch
cydymffurfio â threfniadau tai fforddiadwy ac anghenion lleol. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 19 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol yn amodol ar newid geiriad amod rhif
15, i’w gytuno gyda’r Aelod Lleol, ynghylch cydymffurfio â threfniadau tai
fforddiadwy ac anghenion lleol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm |